Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jordan 637314
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau. |
|
Cynigion Drafft Cyllideb y Datblygu ac Adfywio Dolen i Bapurau’r Cabinet ar gyfer 20 Chwefror 2020, sy’n cynnwys y cynigion cyllidebol (dylai’r papurau fod ar gael o 13 Chwefror 2020.) Cofnodion: Aeth y Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, Jeff Dong, Dirprwy Brif Swyddog Ariannol a Huw Mowbray, Rheolwr Datblygu Eiddo drwy'r cynigion cyllidebol arfaethedig mewn perthynas â Datblygu ac Adfywio, gan amlygu'r prif faterion ac ateb cwestiynau. |
|
Crynhoi Barn a Chyflwyno Argymhellion Gofynnir i’r panel drafod ei farn a’i argymhellion ar gyfer cynigion y gyllideb a chytuno arnynt o ran y Datblygu ac Adfywio er mwyn eu cyflwyno i’r Cabinet.
Bydd cynullwyr pob panel perfformiad yn bwydo barn y panel i’r Panel Gwella Gwasanaethau a Pherfformiad Cyllid ar 19 Chwefror sydd wedi’i drefnu’n benodol i edrych ar y gyllideb ddrafft. Yna bydd Chris Holley, Cynullydd y Panel Gwella Gwasanaethau a Pherfformiad Cyllid, yn mynd i gyfarfod y Cabinet ar 20 Chwefror i gyflwyno barn gyfunol y paneli perfformiad craffu. Cofnodion: Cytunodd y panel â'r farn a'r
argymhellion canlynol am y cynigion cyllidebol mewn perthynas â Datblygu ac Adfywio yr hoffai eu
cyflwyno i'r Cabinet: •
Roedd gan y panel bryderon am y gofyniad benthyca cyffredinol, ac nid oedd yn glir
faint y byddwn yn ei fenthyca. Mae angen eglurhad ar y panel ar (i) faint y byddwn yn ei
fenthyca, (ii) beth fydd costau'r benthyca
hwn a (iii) sut byddwn yn ariannu
cost ychwanegol y benthyciad. •
Teimlai'r panel nad oedd
sicrwydd ynghylch faint o arian y bydd y cyngor yn ei
dderbyn na faint y bydd yn rhaid
iddo dalu. •
Mynegodd y panel bryder ynghylch yr arian
a ddefnyddir dros 15 mlynedd oddi wrth
y Fargen Ddinesig. Bydd swm yr arian y byddwn yn ei dderbyn
o hyn yn fach iawn ac nid
yw hyd yn
oed yn talu
am y taliadau llog. •
Hoffai'r panel gael eglurhad
ynghylch y costau £200,000 ar gyfer ein
cyfraniad at drefniadau rhanbarthol y Fargen Ddinesig. Ar gyfer beth
y mae'r arian
hwn a thros ba gyfnod o amser
caiff ei dalu? •
Mynegodd y panel bryder am bwysau ariannol o ganlyniad i daliadau cyllid
cyfalaf a hefyd y defnydd o DLlR a'r gronfa cyfartalu
cyfalaf i dalu am y taliadau hyn. •
Hoffai'r panel gael rhagor
o eglurhad ynghylch yr hyn a adroddir
i'r panel o ran sut pennir costau cynlluniau
Datblygu ac Adfywio a'r hyn sydd
ynghlwm wrthynt. Yn dilyn
y cyfarfod hwn: Bydd y cynullydd yn cyflwyno barn y panel, ar y cyd â chynullyddion paneli eraill, i'r Panel Gwella Gwasanaethau a Chyllid, sy'n cwrdd ar 19 Chwefror. Yna bydd cynullydd y Panel Gwella Gwasanaethau a Chyllid mynd i gyfarfod y Cabinet ar 20 Chwefror i gyflwyno barn gyfunol paneli perfformiad craffu ac ysgrifennu llythyr at Aelod y Cabinet. |