Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Swyddog Craffu 01792 636292
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol Cofnodion: Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: |
|
Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran Graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan aelodau'r cyhoedd. |
|
Manwerthu yng Nghanol y Ddinas PDF 498 KB Gwahoddwyd: Y
Cynghorydd Rob Stewart – Aelod y Cabinet dros Economi, Cyllid a Strategaeth
(Arweinydd) Y
Cynghorydd Robert Francis-Davies – Aelod y Cabinet
dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth Paul
Relf – Rheolwr Datblygu Economaidd a Chyllid Allanol Russell
Greenslade – Prif Weithredwr, Swansea BID Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd Rob Stewart, Aelod y Cabinet dros yr Economi,
Cyllid a Strategaeth, Paul Relf, Rheolwr Datblygu Economaidd a Chyllid Allanol
a Russell Greenslade, Prif Weithredwr BID Abertawe'n
bresennol i drafod manwerthu yng nghanol y ddinas a chodwyd y pwyntiau
canlynol: · Yn
gyffredinol, mae canol y ddinas yn gorberfformio er
gwaethaf yr heriau dros y blynyddoedd diwethaf. · Mae nifer
yr ymwelwyr yn cynyddu ond nid yw wedi dychwelyd i'r lefelau a welwyd yn 2019. · Bydd
dadansoddiad data pellach o nifer yr ymwelwyr yn ddefnyddiol er mwyn ystyried y
rhesymau pam a'r arian a wariwyd gan ymwelwyr â chanol y ddinas. · Ystyrir
cyfleoedd ar gyfer cyllid lle bo modd, fodd bynnag mae llai o arian ar gael heb
gyllid yr UE. ·
Mae lleoliadau siopa y tu allan i'r dref ac ar-lein
yn cyflwyno her ar gyfer canol y ddinas felly mae'n bwysig creu cymysgedd o
siopa, bwytai, adloniant a llety (myfyrwyr a phreifat) o ansawdd uchel. ·
Mae cynlluniau ar gyfer canol y ddinas yn cynnwys
cynlluniau isadeiledd gwyrdd fel ffasâd Gwesty'r Dragon.
· Mae Arena
Abertawe wedi cyfrannu at gynnydd yn nifer yr ymwelwyr ac mae arwyddion cynnar
y bydd yn perfformio'n dda. Rhoddir ystyriaeth fanylach i’r Arena i’r Panel pan
fydd y flwyddyn gyntaf o fasnachu wedi dod i ben. · Ceir
ffocws lle bo hynny'n bosib ar ailddatblygu'n hytrach na dymchwel rhai
adeiladau hanesyddol, er enghraifft Theatr y Palace a
Sefydliad Townhill. · Mae
Marchnad Abertawe'n llwyddiannus o hyd yn dilyn peth
gwaith adnewyddu ac mae bron wedi'i llenwi. · Mae 70 o
fusnesau newydd wedi agor yn y 18 mis diwethaf. · Mae
gwariant yng nghanol y ddinas yn gadarnhaol ac ni chafwyd unrhyw adroddiadau
negyddol o'r 814 o fusnesau sydd yno. CYTUNWYD ar y
canlynol: 1)
Caiff manwerthu yng nghanol y ddinas ei drafod
gyda'r Panel unwaith eto ymhen 6 mis. 2)
Rhoddir ffocws i’r Arena ar ôl mis Mawrth 2023, pan
fydd 12 mis o fasnachu wedi dod i ben. |
|
Adroddiad Monitro Rhaglenni/Prosiectau Adfywio PDF 204 KB Gwahoddwyd: Y
Cynghorydd Robert Francis-Davies – Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a
Thwristiaeth Huw
Mowbray – Rheolwr Strategol Datblygu ac Adfywio Ffisegol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd yr adroddiad monitro
rheolaidd diweddaraf ar y rhaglen/prosiectau adfywio i'r Panel, ar gyfer unrhyw
sylwadau/safbwyntiau ar gynnydd a chyflawniadau. Rhoddodd Huw Mowbray, Rheolwr
Strategol Datblygu ac Adfywio Ffisegol, ddiweddariadau perthnasol am y
canlynol: Bae Copr: ·
Mae'r
Arena ar agor ac yn masnachu’n dda. ·
Mae
rhai rhwystrau bach yn bodoli o hyd ond bwriedir ymdrin â'r rhain erbyn diwedd
y flwyddyn. Adfywio Abertawe, gan gynnwys Gogledd Abertawe Ganolog: · Mae
Gogledd Abertawe Ganolog a safle'r Ganolfan Ddinesig wedi cwblhau cam un ac
maent yn symud ymlaen at gam dau, sef y dyluniad manwl. · Bydd
manylion pellach ar gyllid yn dilyn. · Mae
gwaith yn mynd rhagddo ar y Ganolfan Sector Cyhoeddus wrth i ddyluniadau manwl
gael eu datblygu. · Bydd
swyddfeydd ychwanegol yn cyfrannu at ragor o ymwelwyr. 71/72 Ffordd y Brenin: · Gwneir
cynnydd gyda hwn wrth i'r adeilad godi yn uwch na lefel y ddaear yn y flwyddyn
newydd. · Mae'r
rhagolygon ar gyfer gosodiadau'n datblygu ac mae'r strategaeth rheoli
adeiladau’n cael ei datblygu. · Mae'r
gwaith datblygu ar adeilad Barclays wedi’i ohirio
oherwydd bod y prisiau tendro a ddychwelwyd yn uwch na'r disgwyl. Datblygu a Pherygl o Lifogydd TAN15: ·
Mae'r drafodaeth â
Llywodraeth Cymru ynghylch y risg ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol a achosir
gan y geiriad yn TAN15 yn parhau. ·
Rhoddwyd
caniatâd cynllunio i lenwi tanffordd Oystermouth
Road. Wind Street: ·
Mae rhai rhwystrau bach
yn bodoli o hyd. Sgwâr y Castell: ·
Mae penderfyniad
cynllunio ar fin cael ei wneud. ·
Gwahoddir cynigion am
dendro'n fuan. ·
Bydd cyllid gan Raglen Trawsnewid
Trefi Llywodraeth Cymru'n cyfrannu tuag at y gost. Hwb Cymunedol (hen adeilad BHS): ·
Gwahoddir tendrau ac mae
cynlluniau cam 4 wedi'u cwblhau. Adleoli’r Ganolfan Ddinesig: ·
Bloc swyddfeydd newydd yn
ardal Dewi Sant (Canolfan Sector Cyhoeddus) i’w gwblhau yn 2025. Prosiect Skyline: ·
Mae hwn yn gwneud cynnydd
da ac mae’r gwaith o gydosod y tir bron wedi'i orffen ac mae'r cofrestriadau
tir wedi'u cyflwyno. Pontŵn yn y
Gwaith Copr: · Mae'r
caniatâd adeilad rhestredig wedi'i gadarnhau. · Mae
trafodaethau â'r ystad Badminton yn parhau. · Mae'r broses gwerthuso tendrau yn mynd
rhagddo ar gyfer y gwaith cyflenwi a gosod. Cronfa Datblygu
Rhanbarthol Ewrop Ffordd y Brenin: · Mae angen dod i gytundeb â WEFO (Swyddfa
Cyllid Ewropeaidd Cymru) yn dilyn hepgoriad
ailddatblygiad hen eiddo Barclays. Ailddatblygu
Pwerdy Gwaith Copr yr Hafod: · Disgwylir
i'r gwaith adeiledd a chraidd gael ei gwblhau ym mis Tachwedd 2022. · Fe'i
trosglwyddir i gwmni Penderyn yn fuan. · Mae'r adran
Priffyrdd yn cynnal astudiaeth dichonoldeb ar gyfer symud y safle parcio a
theithio. Theatr y Palace: · Disgwylir
i’r gwaith gael ei gwblhau ym mis Gorffennaf/Awst 2023. CYTUNWYD ar y canlynol: 1)
Cysylltir â'r swyddogion Priffyrdd perthnasol i gael
gwybodaeth bellach am symud safle parcio a theithio'r Hafod. 2) Cynhelir sesiwn gaeedig ar ddiwedd y cyfarfod nesaf i
drafod yr eitemau canlynol - - Bae Copr, y maes parcio ger yr Arena - Skyline, manylion pryniannau
tir - y Pontŵn, manylion pryniannau tir |
|
Cofnodion: Ni wnaed unrhyw sylwadau ynghylch
llythyr y cyfarfod diwethaf. |
|
Cynllun Gwaith 2022/23 PDF 231 KB Cofnodion: Ni wnaed unrhyw sylwadau ynghylch y cynllun gwaith. |
|