Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Swyddog Craffu 01792 636292
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol Cofnodion: Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau |
|
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: |
|
Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y panel gofnodion o
gyfarfodydd blaenorol a chytunwyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8
Mawrth 2022 yn gofnod cywir o'r cyfarfod.
Nodwyd yr ymatebion i'r ymholiadau a
godwyd ar 8 Mawrth 2022 hefyd. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran Graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan aelodau'r cyhoedd. |
|
Rôl y Panel Perfformiad PDF 159 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Panel Rôl y Panel Perfformiad fel un o'r chwe
Phanel Perfformiad a sefydlwyd gan Bwyllgor y Rhaglen Graffu yn benodol i edrych
ar waith Datblygu ac Adfywio'r cyngor. Dywedodd y Cadeirydd y gallai hyn fod yn
arbennig o ddefnyddiol i aelodau newydd o'r Panel i ddeall sut mae'r Panel yn
gweithio. |
|
Adroddiad Monitro Rhaglenni/Prosiectau Adfywio PDF 106 KB Robert Francis-Davies – Aelod y
Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth Phil Holmes – Pennaeth Cynllunio ac Adfywio’r Ddinas Huw Mowbray – Rheolwr Strategol Datblygu ac Adfywio Ffisegol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd yr adroddiad monitro
rheolaidd diweddaraf ar y rhaglen / prosiectau adfywio i'r Panel, ar gyfer
unrhyw sylwadau / safbwyntiau ar gynnydd a chyflawniadau. Rhoddodd Huw Mowbray,
Rheolwr Strategol Datblygu ac Adfywio Ffisegol, ddiweddariadau perthnasol am y
canlynol: Bae Copr: ·
Mae'r rhan breswyl o Fae Copr bellach wedi'i
chwblhau ac mae preswylwyr bellach yn byw yno. ·
Mae presenoldeb Ceidwaid Canol y Ddinas yno wedi
cynyddu ac maent hefyd yn gallu defnyddio teledu cylch cyfyng. Bydd heddlu
hefyd yn trefnu adnoddau ychwanegol ar gyfer canol y ddinas o fis Hydref. Adfywio Abertawe: ·
Cyflwynwyd cais Codi'r Gwastad ar gyfer canol y
ddinas y bwriedir iddo gael ei gymeradwyo ym mis Hydref. ·
Caiff Cam 1 (dichonoldeb) ei gwblhau ar gyfer 3
safle ym mis Medi/Hydref 2022. Mae'r 3 safle hwn yng ngogledd Abertawe Ganolog
(ail gam yr arena), y Ganolfan Ddinesig a St Thomas. Byddwn hefyd yn edrych ar
yr Hafod unwaith y bydd cais canol y ddinas wedi symud ymlaen i gam 2 (dylunio
a chyfreithiol). 71/72 Ffordd y Brenin: ·
Mae'r prosiect yn symud ymlaen ac ar y trywydd iawn
i’w gwblhau ym mis Hydref 2023. ·
Caiff y prif denant cyntaf (25,000 troedfedd sgwâr)
ei gyhoeddi yn ystod y misoedd nesaf. Wind Street: ·
Mae Wind
Street wedi’i chwblhau i raddau helaeth heblaw am
ambell rwystr bach. Mae Tîm Rheoli Canol y Ddinas yn trafod â thenantiaid Wind Street ynghylch eu celfi
stryd. Datblygu a Pherygl o Lifogydd TAN15: ·
Mae'r cyngor wedi bod yn
cyflawni Asesiadau Canlyniadau Llifogydd i edrych ar yr hyn y mae angen ei
newid. Mae Cyngor Abertawe wedi cyfrannu gyda chynghorau eraill i awgrymu rhai
newidiadau i'r ddogfen TAN15 maes o law. Sgwâr y Castell: ·
Cyflwynwyd cais cynllunio
ar 2 Awst 2022. Mae'r cyngor bellach yn edrych ar y broses dendro. O'r tendr,
caiff contractwr ei gyflogi i gwblhau gwaith tirlunio sylweddol gyda pheth
gwaith i'r adeiladau. Ariennir y cynllun hwn gan y cyngor gyda chymorth gan
Lywodraeth Cymru. Strategaeth Ddigidol a Datblygu'r Cynllun: ·
Mae oedi gyda'r ganolfan ddata newydd o ganlyniad i
broblemau adnoddau a llwyth gwaith. Hwb Cymunedol: ·
Cwblhawyd y broses dendro
ar gyfer y datblygiad hwn a rhoddwyd y contract i Keir.
Byddwn bellach yn canolbwyntio ar ddarpariaeth. Symud y Ganolfan Ddinesig ·
Gobeithir cwblhau’r
datblygiad yn ystod gwanwyn 2025. ·
Oherwydd y cynnydd yn nifer y staff dros y 2
flynedd ddiwethaf bydd angen 2 fetr sgwâr o le ychwanegol yn adeilad newydd
Gogledd Abertawe Ganolog. ·
Rhagwelwyd y byddai
ystafell gyfrifiaduron Neuadd y Ddinas yn cael ei chwblhau ym mis Mawrth 2023 ond mae amheuaeth ynghylch
hyn yn awr. Bydd effaith yr oedi hefyd yn effeithio ar ddatgomisiynu'r
Ganolfan Ddinesig. ·
Ni chaiff y Ganolfan Ddinesig ei dymchwel a bydd yn
seiliedig ar ddatblygiad presennol yn Plymouth o'r
enw Royal William Yard. Bydd
y safle'n un defnydd cymysg a fydd yn cynnwys gwestai, manwerthu, preswyl a
hamdden. Prosiect Skyline: ·
Mae'r prosiect hwn yn
symud ymlaen yn gyflym ac mae 2 o’r 3 gofyniad crynhoi tir wedi'u cwblhau. ·
Mae Skyline wedi sicrhau
caniatâd y bwrdd i ddweud wrth dîm technegol i symud y prosiect yn ei flaen. Y Fargen Ddinesig: ·
Caiff adolygiad sicrwydd Gateway Llywodraeth Cymru ei gynnal ym mis Tachwedd. ·
Diweddarwyd achos busnes y Fargen Ddinesig i
adlewyrchu'r cynnydd a wnaed. Cyflwynir hyn i Lywodraeth Cymru dros yr
wythnosau nesaf. Pier y
Gorllewin/Bae Abertawe: ·
Ceisiwyd cyngor ymgynghoriaeth arbenigol i archwilio’r difrod a wnaed i'r
cynefin ac i wneud argymhellion priodol ar opsiynau lliniaru a gorfodi. Benthyciad
Trawsnewid Trefi: ·
Mae cais am gytundeb mewn egwyddor i ddefnyddio
benthyciad ariannol ar gyfer gwesty ar safle'r arena yn cael ei ystyried gyda
Llywodraeth Cymru. Pontŵn yn y Gwaith
Copr: ·
Paratowyd dogfennau tendro ar gyfer caffael
cyflenwi a gosod y pontŵn a ddisgwylir erbyn 31 Awst. Rhaid bod caniatâd
cynllunio’n cael ei roi cyn penodi cyflenwr.
·
Rhagwelir y bydd y pwyllgor cynllunio'n penderfynu
ar gynllunio ym mis Hydref 2022. Cronfa Datblygu
Rhanbarthol Ewrop Ffordd y Brenin: ·
Mae cynllun busnes diweddaredig
yn cael ei baratoi ar gyfer Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru ar gyfer mis Mawrth
2023. Ailddatblygu
Pwerdy Gwaith Copr yr Hafod: ·
Mae'r gwaith yn y Pwerdy yn dod i ben a bydd y
broses o drosglwyddo i Penderyn Whisky yn digwydd yn
syth gyda'r costau cynhyrchiu’n uwch o lawr na’r hyn
a gynlluniwyd yn wreiddiol. Cytunwyd ar y
canlynol: 1)
Trefnir trafodaeth a fydd yn canolbwyntio ar
fanylion datblygiad Sgwâr y Castell ar gyfer cyfarfod y Panel yn y dyfodol. 2)
Gofynnir i swyddog(ion)
arweiniol perthnasol am wybodaeth ynghylch yr oedi i symud y Ganolfan Ddata i
Neuadd y Ddinas a'r goblygiadau ar gyfer gwasanaethau digidol y cyngor. |
|
Cynllun Gwaith Drafft 2022/23 PDF 128 KB Cofnodion: Nododd y Panel ddyddiadau/amseroedd cyfarfodydd y
dyfodol, a fyddai'n cael eu cynnal bob deufis, ac ystyriwyd cynllun drafft ar
gyfer y cyfarfodydd hyn. Byddai
adroddiad y Rhaglen Adfywio/Monitro Prosiectau yn eitem sefydlog ar bob agenda
gan adael lle ar gyfer trafodaeth sy'n canolbwyntio ar bynciau o ddiddordeb a
phryder penodol. Cytunwyd ar y canlynol: 1)
Caiff y cynllun gwaith drafft ar gyfer 2022/23 ei
dderbyn; 2)
Byddai'r cyfarfod nesaf yn canolbwyntio ar
Fanwerthu/Datblygiad yng nghanol y ddinas; 3)
Trefnir trafodaeth ar gynnydd go ran Datblygiadau’r
Blaendraeth/Strategaeth Bae Abertawe a Chynllun Rheoli Cyrchfannau, mewn
perthynas â Thwristiaeth a Hamdden ar gyfer cyfarfod y Panel ym mis Ionawr; a 4)
Bydd y Panel yn ailedrych ar brosiectau, 12 mis ar
ôl eu cwblhau, i ystyried eu heffeithlonrwydd a'u llwyddiant, efallai gyda
sesiwn gychwynnol ym mis Gorffennaf 2023 a ddylai gynnwys myfyrio ar Arena
Abertawe. Daeth y cyfarfod i ben am 11.18am |
|