Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams
Cyswllt: Scrutiny Officer - 07980757686
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: Y Cynghorydd
Paxton Hood-Williams – Cofnod Rhif48 – Datganodd y Cynghorydd Paxton
Hood-Williams gysylltiad personol fel Aelod o Grŵp
Gweithredu Lleol Rhaglen Datblygu Gwledig Abertawe. |
|
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Ni wnaed unrhyw ddatganiadau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol PDF 317 KB Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir. Cofnodion: Ystyriodd y panel gofnodion o gyfarfodydd
blaenorol a chytunwyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Ionawr 2022
yn gofnod cywir o'r cyfarfod. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan aelodau'r cyhoedd. |
|
Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol De-orllewin Cymru PDF 254 KB Rob Stewart - Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid
a Strategaeth (yr Arweinydd) Cllr Robert Francis-Davies – Aelod y
Cabinet - Buddsoddi, Adfywio
a Thwristiaeth Phil Homes – Pennaeth
Cynllunio ac Adfywio’r Ddinas Clare James - Rheolwr Datblygu Economaidd Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriodd y Panel adroddiad ar Gynllun Cyflawni
Economaidd Rhanbarthol De-orllewin Cymru, a
gymeradwywyd yn ddiweddar gan y Cabinet (20 Ionawr). Roedd Aelodau'r Cabinet / Swyddogion yn bresennol
i friffio'r Panel a chymryd cwestiynau ar y Cynllun Cyflawni Economaidd
Rhanbarthol newydd a fydd yn disodli Strategaeth Adfywio Economaidd
Dinas-ranbarth Bae Abertawe 2013 fel dogfen polisi adfywio economaidd
gyffredinol y cyngor. Nodwyd y bydd y Cynllun Cyflawni newydd yn cael ei
fabwysiadu / berchenogi a'i oruchwylio gan Gyd-bwyllgor Corfforaethol newydd
De-orllewin Cymru. Bydd Cyfarwyddwyr Adfywio yn cadw golwg ar gynnydd a byddant
yn gyfrifol am ddatblygu achosion busnes, sicrhau buddsoddiad a sicrhau
darpariaeth ar ran y Cyd-bwyllgor. Trafododd Phil Holmes, Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r
Ddinas, yr adroddiad yn fanwl gyda'r aelodau i sicrhau ymwybyddiaeth a
dealltwriaeth, a gwahodd sylwadau. Amlygodd y canlynol: · Mae'r cyd-destun
economaidd a pholisi wedi newid yn sylweddol yng Nghymru a'r DU ers 2013, yn
enwedig yng ngoleuni Brexit ac effaith
pandemig COVID-19 yn ogystal â'r ffocws datblygol ar fynd i'r afael â newid yn
yr hinsawdd, a bod y dirwedd ranbarthol hefyd wedi newid gyda dechreuad
Cyd-bwyllgorau Corfforaethol a pharatoi Fframweithiau Economaidd Rhanbarthol
newydd gan Lywodraeth Cymru, sy'n nodi gweledigaethau a blaenoriaethau lefel
uchel ar gyfer pob rhanbarth yng Nghymru. ·
Mae Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol newydd
De-orllewin Cymru, a ddatblygwyd ar y cyd rhwng y pedwar cyngor yn y rhanbarth
ac mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, yn ymateb i'r amgylchiadau newidiol
hynny gyda Chynllun sy'n addas ar gyfer y dyfodol. ·
Gyda chymorth ymgynghorwyr arbenigol, mae'r Cynllun yn
seiliedig ar ymchwil helaeth ac ymgynghori ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, ac
ystyried y cyd-destun polisi strategol ar lefel leol, ranbarthol a
chenedlaethol. ·
Mae'r Cynllun yn cyd-fynd â Fframwaith Economaidd
Rhanbarthol (FfERh) newydd Llywodraeth Cymru ac mae'n
darparu haen pellach o fanylion islaw'r FfERh, gan
amlinellu'r amcanion a'r camau gweithredu a fydd yn cyflawni yn erbyn
gweledigaeth lefel uchel y FfERh. ·
Mae'r Cynllun yn nodi 'map llwybr' uchelgeisiol ar gyfer
datblygu economi'r rhanbarth dros y deng mlynedd nesaf, gan nodi blaenoriaethau
ar gyfer ymyrryd a disgrifio sut y gall busnesau, llywodraeth, addysg, mudiadau
gwirfoddol / cymunedol, mentrau cymdeithasol a phartneriaid eraill gydweithio
i'w cyflwyno. ·
Bu cynnydd da ers 2013 gydag 20,000 o swyddi ychwanegol
wedi'u creu yn y rhanbarth, gwella sgiliau, twf mewn busnes a gwell
gweithgarwch economaidd sydd wedi helpu i gau'r bwlch cynhyrchiant gyda'r DU.
Ond er gwaethaf enillion, mae heriau o hyd gyda chrynoadau o anfantais yn y
rhanbarth, a phroblemau sy'n effeithio ar fuddsoddi i'r ardal, sy'n golygu bod
y bwlch yn dal i fod yn sylweddol. ·
Fodd bynnag, mae'r Cynllun newydd yn canolbwyntio ar
gryfderau ac asedau'r rhanbarth, a manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd gan
ddefnyddio'r cryfder hwnnw, e.e., potensial ynni'r rhanbarth, cysylltiadau
prifysgol-ddiwydiannol, hunaniaeth ddiwylliannol gref, asedau amgylcheddol a
chynnig ansawdd bywyd. Nod y Cynllun yw adeiladu ar y cryfderau a'r cyfleoedd
rhanbarthol unigryw hyn i ddatblygu economi de-orllewin Cymru sy'n fwy
llewyrchus a chadarn. ·
Mae gan y Cynllun dri 'uchelgais' allweddol, wedi'u
hategu gan dair Cenhadaeth ategol, a fydd yn llywio gweithgarwch dros y deng
mlynedd nesaf: Uchelgeisiau: -
Cadarn a chynaliadwy -
Mentrus ac uchelgeisiol -
Cytbwys a chynhwysol Cenadaethau: -
Cenhadaeth 1: Sefydlu De-orllewin Cymru fel arweinydd y
DU ym maes ynni adnewyddadwy a datblygu economi sero-net: Bwrw ymlaen â
phrosiectau mawr y rhanbarth sy'n gysylltiedig ag ynni a gyrru'r manteision
drwy'r rhanbarth (drwy ddatgarboneiddio diwydiannol, cyfleoedd cadwyn gyflenwi,
arloesi sy'n gysylltiedig â phrifysgolion, etc). -
Cenhadaeth 2: Adeiladu sylfaen fusnes gref, gadarn ac
wedi'i gwreiddio: Deall a thyfu'r stoc fusnes, cefnogi entrepreneuriaeth
gymdeithasol a masnachol eang, creu cadwyn gyflenwi gryfach a rhwydweithiau
arloesi, gan wneud cymorth y sector cyhoeddus yn gynaliadwy; hybu mabwysiadu a
lledaenu technoleg. -
Cenhadaeth 3: Tyfu a chynnal y cynnig 'profiad': Cysylltu
ansawdd amgylcheddol, ansawdd bywyd a chymeriad cymunedol i greu rhanbarth sy'n
cadw ac yn denu talent a buddsoddiad, a hyrwyddo hyn yn gyson ac yn gadarn i'r
byd y tu allan. ·
Mae'r Cynllun yn nodi rhai meysydd gweithredu allweddol
cychwynnol i'w cyflawni yn erbyn yr uchelgeisiau a'r cenadaethau. Bydd y camau
gweithredu hyn yn sail i ddogfen cynllun gweithredu 'byw' a fydd yn cael ei
hadolygu'n rheolaidd gan bartneriaid rhanbarthol, a bydd yn esblygu i gynnwys
cynigion buddsoddi newydd wrth iddynt ddod i'r amlwg. O fewn hyn, rhagwelir
nifer o brosiectau lleol a rhanbarthol y bydd rhai ohonynt yn ymwneud â gwella
isadeiledd strategol a rhai'n ymwneud â buddsoddiad
mawr. ·
Disgwylid y byddai Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin
Cymru yn cyfarfod ym mis Mawrth i gymeradwyo'r Cynllun Cyflawni Economaidd
Rhanbarthol. Roedd y cwestiynau a'r drafodaeth yn canolbwyntio
ar y canlynol: · Graddau'r
ymgynghori a gynhaliwyd ac ymchwil i'r farchnad – nodwyd y rôl a chwaraeir gan
ymgynghorwyr datblygu economaidd blaenllaw a'r defnydd o ddulliau ar-lein a
oedd yn effeithiol ac yn hygyrch, gan ddefnyddio modelau gwybodaeth a rhagweld,
setiau data etc. · Pwysigrwydd
cysylltiadau trafnidiaeth rhanbarthol a gwaith sy'n mynd rhagddo i ddatblygu
hyn – nodwyd y cynnydd a wnaed ar Brosiect Metro Bae Abertawe, a'r ystyriaeth
barhaus a roddir i orsaf reilffordd Parcffordd
Abertawe a'r manteision y gallai hyn eu cael i'r ardal. Clywodd Aelodau'r Panel
y byddai Cam 1 y prosiect Metro yn cynnwys y rhwydwaith / llinellau presennol,
gwaith uwchraddio etc., a byddai Cam 2 yn canolbwyntio ar linellau newydd,
e.e., rheilffordd ysgafn. · Croesawodd
aelodau'r panel y genhadaeth i ganolbwyntio ar ynni adnewyddadwy a datblygu
economi sero-net. Nodwyd yr ystod eang o brosiectau ac asedau ynni presennol a
rhai sy'n datblygu. Codwyd pwysigrwydd denu ymwelwyr i'r ardal, fel
eco-dwristiaeth, hefyd a theimlwyd nad oedd hyn efallai’n
cael ei bwysleisio digon mewn cynlluniau. Nodwyd bod Cenhadaeth 3 yn cydnabod
pwysigrwydd natur a bioamrywiaeth yng nghynnig a phrofiad Abertawe ac yn
cydnabod atyniad amgylchedd naturiol Abertawe i ymwelwyr, ar ffaith ei fod yn
darparu cyfle ar gyfer prosiectau perthnasol i gefnogi hyn. · Dibyniaeth
economi De-orllewin Cymru ar dwristiaeth, a'i chynaliadwyedd a'i chadernid.
Roedd hefyd yr her o gydbwyso'r amgylchedd naturiol a datblygiad yn y
rhanbarth, a all yn aml fod yn densiynau sy'n cystadlu â'i gilydd yn yr awydd
am gynnydd economaidd. · Nododd y
perfformiad o ran creu swyddi newydd yn y rhanbarth fod 322,000 o swyddi yn y
rhanbarth erbyn 2019, sef cynnydd o 20,000 ar ffigur 2013. Cydnabuwyd bod hyn
yn drawiadol a gofynnodd aelodau'r Panel am ddadansoddiad ystyrlon o'r 20,000 o
swyddi hyn er mwyn deall o ble y daeth y twf, e.e., sectorau penodol. Cytunodd
Pennaeth y Gwasanaeth i ddarparu ymateb ysgrifenedig. · Cysylltiadau
rhwng y cynlluniau rhanbarthol a chenedlaethol, a sut mae'r Cynllun Cyflawni
Economaidd Rhanbarthol yn cystadlu â Chaerdydd / rhanbarthau cyfagos. Tynnwyd
sylw'r Panel at y ffaith bod amseriad y cynllun rhanbarthol yn golygu ei fod yn
gallu cyd-fynd â FfERh Llywodraeth Cymru. · A oes gan y
rhanbarth fynediad at ffrydiau ariannu codi'r gwastad / adferiad y DU, e.e.,
arian yn benodol ar gyfer adfer ardaloedd arfordirol / glan môr, neu a oedd
cyllid ar wahân ar gyfer Cymru. Nodwyd nad oedd y cynllun rhanbarthol yn cael
ei arwain gan y cyllid sydd ar gael, sydd yn ei dro’n llunio prosiectau, ond yn
hytrach yn cadarnhau’r hyn sydd ei angen yn yr ardal a sut y gall cyllid wedyn
gyflawni hynny. Addawodd swyddogion y byddant yn egluro'r sefyllfa o ran
mynediad at ffrydiau ariannu, a nodwyd bod y cyngor yn gweithio'n galed i
sicrhau bod Abertawe a'r rhanbarth yn gallu cael gafael ar bob ceiniog sydd ar
gael wrth i ni ddod allan o COVID a dechrau’r adferiad. · Rôl Cyd-bwyllgor
Corfforaethol De-orllewin Cymru wrth gyflawni'r cynllun, a monitro'r Cynllun
Cyflawni Economaidd Rhanbarthol. Nodwyd y bydd gwaith Dinas-ranbarth Bae
Abertawe yn cael ei gynnwys yng ngwaith y Cydbwyllgor Corfforaethol fel un o'r
meysydd gweithgarwch allweddol. Diolchodd y Cynullydd i bawb am eu cyfraniad i'r
drafodaeth. |
|
Adroddiad Diweddaraf am y Prosiect PDF 201 KB Cllr Robert
Francis-Davies – Aelod y Cabinet - Buddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth Phil Homes – Pennaeth Cynllunio ac Adfywio’r Ddinas Huw Mowbray - Rheolwr Strategol Datblygu ac Adfywio Ffisegol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd yr adroddiad monitro rheolaidd
diweddaraf ar y rhaglen / prosiectau adfywio i'r Panel, ar gyfer unrhyw
sylwadau / safbwyntiau ar gynnydd a chyflawniadau. Rhoddodd Huw Mowbray,
Rheolwr Strategol Datblygu ac Adfywio Ffisegol, ddiweddariadau perthnasol. Bae Copr: Nododd y Panel fod yr Arena wedi'i throsglwyddo'n
llwyddiannus i ATG a bod y digwyddiadau cyntaf / prawf wedi'u cyflwyno ar 25 a
26 Chwefror. Aeth y cyfan yn dda a chafwyd adborth cadarnhaol. Mae rhai
anawsterau o hyd o ran argaeledd a deunyddiau llafur ond maent yn cael eu
datrys gyda'r contractwr i fynd i'r afael â materion adeiladu sy'n weddill. Er
bod Brexit wedi cael effaith, nodwyd nad dyma'r unig
reswm gan fod galwadau cystadleuol am lafur medrus gan brosiectau yn y
rhanbarth ehangach e.e., gorsaf bŵer niwclear newydd ger Bryste. Clywodd
aelodau'r panel nad oedd dyddiad penodol i'r adeiladwr fod oddi ar y safle gan
ei bod yn bwysig bod yr holl waith yn cael ei gwblhau’n foddhaol. Holodd aelodau'r panel a oedd y cyngor yn
archwilio opsiynau o ran enwi'r Arena. Cadarnhawyd, yn unol â'r cytundeb
prydlesu, fod gan ATG hawliau enwi, a bod hyn yn waith ar y gweill, ac y
byddent yn trafod unrhyw gynigion â'r cyngor.
Holodd y Panel am enwi rhai ystafelloedd cyfarfod
yn yr Arena ar ôl cynghorwyr. Dywedodd yr Arweinydd ei fod yn croesawu
awgrymiadau ynghylch enwi cyfleusterau ac asedau newydd. Clywodd y Panel hefyd am y cynnydd gyda'r
datblygiad gwesty disgwyliedig gerllaw'r Arena, gyda chyhoeddiadau posib i ddod
yn ystod yr wythnosau nesaf. Pwysleisiwyd y byddai hwn yn ddatblygiad sector
preifat na fyddai’n cael ei arwain gan y cyngor, ond roedd y cyngor yn monitro
pethau'n agos ac yn gwneud popeth o fewn ei allu i hwyluso cynnydd. Dywedwyd
wrth aelodau'r Panel ei fod yn debygol o fod yn ddatblygiad 6-8 llawr / 120 o
welyau ynghyd ag ardaloedd masnachol, a byddai'r cyngor yn chwilio am adeilad
'trawiadol' sy'n gweddu i'r ardal gyfagos. Gogledd Abertawe Ganolog: Mae trafodaethau'n mynd rhagddynt, ar y cyd â'r
partner datblygu Urban Splash,
a chyda darpar denantiaid canolfannau swyddfa / elfennau masnachol. Disgwylir i'r cynigion gael eu cyflwyno cyn
bo hir, gyda dyluniad y cysyniad yn anelu at ddyddiad targed o fis Hydref 2022. 71 a 72 Ffordd y Brenin: Mae adeiladwyr bellach
ar y safle i ddatblygu'r swyddfa, gyda gwaith gosod seilbyst
yn mynd rhagddo, ac mae'r prosiect ar y trywydd iawn i'w gwblhau ym mis Awst
2023. Gwnaed cytundeb gyda'r tenant cyntaf a fydd yn cael ei gyhoeddi maes o
law. Rhagwelwyd y byddai'r swyddfa hyblyg yn cyflawni tua 600 o swyddi. O ran
elfen Banc Barclays, mae angen opsiwn caffael arall i
fodloni gofynion rhaglen ariannu ERDF, gan fod y cyngor yn awyddus i wneud
cynnydd yn gyflym, nid yw'n rhywbeth ar gyfer yn ddiweddarach yn y prosiect. Wind Street:
Mae'r gwaith wedi'i
gwblhau yn ei hanfod, ac eithrio'r is-gontractwr bolardiau awto
a fydd yn dychwelyd i'r safle ym mis Mawrth.
Mae trafodaeth yn parhau â masnachwyr ynglŷn â gweithredu’r mannau
a’r seddau allanol. Holodd aelodau'r Panel
am y cynnydd o ran y Byrddau Dehongli arfaethedig sy’n seiliedig ar hanes Wind Street, a chytunwyd darparu
ymateb ysgrifenedig ar y bwriad ei hun. Datblygu a Pherygl o Lifogydd TAN15: Nodwyd bod hwn yn fater
i Gymru gyfan, ac mae'r cyngor wedi ymateb i Lywodraeth Cymru ar fwriadau o ran
paratoi Asesiad Strategol o Ganlyniadau Llifogydd Strategol Cam 1 rhanbarthol,
fel sy'n ofynnol gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn dwyn ynghyd y gwahanol
bolisïau, cynlluniau a strategaethau sy'n berthnasol i drosolwg lefel uchel o
berygl llifogydd, er mwyn dangos dull cydgysylltiedig
sy'n cyd-fynd â gofynion Llywodraeth Cymru ac ymagwedd De-ddwyrain Cymru. Mae'r
ffordd rydym yn mynd i'r afael â materion allweddol TAN15 yn destun trafodaeth
barhaus, a'r prif faes ffocws yw rheoli perygl llifogydd i safleoedd datblygu
strategol ar hyd afon Tawe (Canol y Ddinas, SA1, Glan yr Afon Tawe a Bro
Abertawe). Roedd gan y Panel ddiddordeb mewn goblygiadau ariannol posib mynd
i'r afael â TAN15. Sgwâr y Castell: Clywodd y Panel fod y
prosiect hwn yn symud ymlaen yn dda, gyda gwaith dylunio wedi'i gwblhau a chais
cynllunio i ddilyn. Cafwyd cadarnhad y byddai'r prosiect yn elwa o rywfaint o
gyllid drwy Grant Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru. Bydd cerflunwaith y ddeilen
yn cael ei symud, ac mae opsiynau'n cael eu trafod gyda'r artist gwreiddiol ar
gyfer adleoli'r gwaith celf cyhoeddus hwn. Cynhaliwyd cyfarfodydd hefyd gyda
CADW i sicrhau bod y prosiect yn mynd i'r afael ag unrhyw effeithiau
treftadaeth a'i fod yn dderbyniol. Gofynnodd y Panel am
lanhau a chynnal a chadw'r Sgwâr yn y dyfodol, p'un a fyddai hyn yn gyfrifoldeb
i'r cyngor neu'n mynd i ddwylo preifat. Eglurwyd y bydd y Sgwâr yn parhau i fod
yn ased i'r cyngor ond gyda'r unedau masnachol sy'n gweithredu o fewn y Sgwâr,
byddai elfen o gyfrifoldeb a rennir am lanhau / cynnal a chadw a fydd yn cael
ei gwneud yn glir mewn cytundebau. Mae costau cynnal a chadw hefyd wedi'u
cynnwys yng nghyllideb y prosiect. Adfywio Abertawe: Cytunwyd ar Gytundeb
Partneriaeth Strategol gydag Urban Splash ac yn amodol ar gymeradwyaeth gyfreithiol, bydd yn
cael ei lofnodi. Ar ôl ei lofnodi, bydd yn galluogi Urban
Splash i fwrw ymlaen â'r cynlluniau, er bod pethau ar
gam cynnar. Nodwyd y bydd enw'r prosiect yn cael ei newid yn fuan. Byddai rhagor o wybodaeth am weithgarwch y
prosiect yn cael ei rhoi i’r aelodau craffu maes o law. Hwb Cymunedol: Gwaith galluogi mewn
argyfwng wedi'i gwblhau. Cam 2 ar fin dechrau. Mewn perthynas ag
adleoli ehangach o'r Ganolfan Ddinesig i ganolfannau canol y ddinas, mae rhai
problemau ynghylch anghenion storio papur, ond mae opsiynau'n cael eu hystyried
i leihau gofynion. Theatr y Palace: Disgwylir 80% o sicrwydd
cost yn fuan lle gellir cynnal adolygiad pellach ar sefyllfa fwy pendant. Yn y
cyfamser, mae opsiynau Peirianneg Gwerth yn cael eu hadolygu, heb beryglu
treftadaeth, ansawdd cynnyrch terfynol a'r gallu i'w gosod. Prosiect Skyline: Hysbyswyd y Panel fod
trafodaethau cadarnhaol yn parhau, gyda materion caffael tir i'w cwblhau.
Rhagwelwyd y byddai adroddiad i'r Cabinet ynghylch y prosiect yn dilyn
etholiadau'r cyngor. Nodwyd pe bai'r prosiect yn cael ei gymeradwyo, mai hwn
fyddai'r cynllun Skyline cyntaf yn Ewrop, y tu allan
i Seland Newydd, sy'n cynnwys gondola ceir cebl, a byddai'r prosiect cyfan yn
darparu cynnig hamdden newydd o bwys i Abertawe. Bro Tawe: Mae gwaith yn mynd
rhagddo. Nodwyd bod y safle arfaethedig cychwynnol ym Mro Tawe yn dal i fod yn
opsiwn ffafriol ar gyfer adleoli'r safle Parcio a Theithio. Ailbwrpasu; Darparwyd gwybodaeth am
y cynnydd o ran gwaith a chynlluniau gwella amrywiol. Diolchodd y Cynullydd
i'r Swyddog am ei adroddiad. |
|
Effaith Brexit ar y Rhaglen Datblygu Gwledig a'r Diweddaraf ar Gyllid (ar ôl 2023) PDF 233 KB Er gwybodaeth yn unig. Cofnodion: Darparwyd adroddiad i'r Panel er gwybodaeth, yn
dilyn cais gan y Panel am yr wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa
bresennol. Rhagwelir y bydd y pwnc hwn
yn cael ei drafod eto yn y dyfodol wrth aros am ragor o wybodaeth / eglurder
ynghylch cyllid yn y dyfodol. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Darparwyd gohebiaeth ag Aelodau'r Cabinet ar gyfer
unrhyw sylwadau / arsylwadau a oedd yn ymwneud â thrafodaeth y cyfarfod
diwethaf ar Ddatblygiadau Blaendraeth. Cyfeiriodd y Cynullydd at gais y Panel am
ddiweddariad ar farchnata safleoedd blaendraeth, ac yn arbennig unrhyw
ddiweddariad ynghylch y diddordeb a ddangosir yn safle'r Ganolfan Ddinesig.
Roedd rhywfaint o bryder ynghylch yr ymateb byr a ddarparwyd. Eir ar drywydd
hyn. Dywedodd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a
Thwristiaeth fod Strategaeth Bae Abertawe’n cael ei
diwygio i ddiweddaru dogfen bresennol 2008, y bydd y Panel yn gallu’i thrafod maes o law. |
|
Adolygiad o'r Cynllun Gwaith Blynyddol PDF 249 KB Cofnodion: Gan mai hwn oedd cyfarfod olaf y Panel o'r
flwyddyn ddinesig a thymor y cyngor, diolchodd y Cynullydd i holl aelodau'r
Panel am eu gwaith, ac i'r rheini sydd wedi cefnogi'r gwaith hwn. Gwahoddwyd
aelodau'r panel i fyfyrio ar y ffordd y mae'r Panel wedi gweithio dros y
flwyddyn ddiwethaf a'u profiad, ac unrhyw sylwadau a all lywio arfer yn y
dyfodol, gan ystyried, er enghraifft: · A yw pethau wedi
gweithio'n dda o fewn y Panel dros y flwyddyn ddiwethaf? · Ydy gwaith y
panel wedi canolbwyntio ar y pethau cywir? · Beth, os o gwbl,
y gellid ei wneud yn well? · Beth rydym
wedi'i ddysgu a fydd yn ein helpu i wella a datblygu gwaith craffu yn y
dyfodol? Codwyd y canlynol: · Pwysigrwydd
craffu’n benodol ar ddatblygu ac adfywio a ddylai barhau ar ôl etholiadau'r
cyngor · Mae hwn yn faes
enfawr i gadw golwg arno, ac nid yw'r Panel wedi gallu trafod popeth, e.e.,
prosiectau llai, ond amser ac adnoddau sy'n gyfrifol am hynny. Mae rhai pethau
wedi cymryd llawer o amser y Panel fel datblygiad Bae Copr / yr Arena. · Byddai'r Panel
yn croesawu'r gallu i gyfarfod yn amlach. · Mae'r Panel
wedi'i gadeirio'n dda iawn ac wedi gweithio'n dda o ran monitro a herio
perfformiad. · Mae llawer o
gynghorwyr wedi ymwneud â’r Panel ac mae pob un ohonynt wedi ymgysylltu'n dda,
gyda phob cyfle i ofyn cwestiynau a chyfrannu. · Mae'r Panel
wedi'i gefnogi'n dda gan swyddogion perthnasol, sydd wedi darparu'r wybodaeth
a'r cyngor angenrheidiol. · Rhaid i'r Panel
fod yn fodlon bob amser ei fod yn dylanwadu ar faterion ac yn gwneud gwahaniaeth drwy ei waith, gan ei fod
yn dwyn Aelodau'r Cabinet i gyfrif ac yn herio perfformiad. Dylai'r Panel gadw
llygad barcud ar ymateb y Cabinet / Aelodau'r Cabinet i'r broses graffu. · Mae'r Panel wedi
helpu i sefydlu trefniadau ar gyfer monitro prosiectau'r rhaglen adfywio’n
rheolaidd, nad oeddent yn bodoli o’r blaen ar gyfer craffu, sydd wedi datblygu
dros amser. Nodwyd bod rhai pynciau datblygu ac adfywio
penodol wedi'u nodi yn y cynllun gwaith na fu'n bosib eu hystyried yn yr amser
a oedd ar gael, ac y gall fod yn briodol bwrw ymlaen â nhw mewn cynllun gwaith
yn y dyfodol. Bydd parhau y Panel Craffu Perfformiad Datblygu ac Adfywio, neu
drefniant amgen fel arall, yn fater i Gynghorwyr ym mlwyddyn newydd y cyngor,
yn dilyn etholiadau'r cyngor ym mis Mai. |