Lleoliad: Remotely via MS Teams
Cyswllt: Scrutiny Officer - 07980 757686
Media
Eitemau
Rhif |
Eitem |
17. |
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.
www.abertawe.gov.uk/DatgeluCysylltiadau
Cofnodion:
Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau
|
18. |
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau
Cofnodion:
Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau
|
19. |
Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol PDF 318 KB
Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir
Cofnodion:
Ystyriodd y Panel gofnodion o gyfarfodydd blaenorol a chytunwyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Gorffennaf 2021 yn gofnod cywir o'r cyfarfod.
|
20. |
Cwestiynau gan y Cyhoedd
Rhaid cyflwyno
cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd
ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod
fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar
yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau
o fewn cyfnod 10 munud.
Cofnodion:
Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau gan aelodau'r cyhoedd
|
21. |
Prif Ysgol Abertawe PDF 17 KB
Yr Athro Steve Wilks – Profost Prifysgol Abertawe
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Daeth yr Athro Keith Lloyd a'r Athro Steve Wilks
i'r cyfarfod i gyflwyno'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Panel am ddatblygiadau'r
Brifysgol ochr yn ochr â'r Fargen Ddinesig. Roedd y trafodaethau'n canolbwyntio
ar:
- Brosiect y
Fargen Ddinesig, sy'n ymwneud â'r bartneriaeth rhwng Cyngor Abertawe, y
Bwrdd Iechyd Lleol a Phrifysgol Abertawe
- Galluoedd
unigryw'r rhanbarth, dyheadau i dyfu clwstwr sylweddol o ddiwydiannau Technoleg
Feddygol a Thechnoleg Chwaraeon.
- Sefydliad
Gwyddor Bywyd – dros y blynyddoedd mae wedi creu cyfuniad unigryw o
ddiwydiant a'r GIG.
- Buddsoddi
mewn Technoleg Feddygol – dyfeisiau meddygol a thriniaethau newydd. Mae'r
galw wedi cynyddu am le i ddarparu ar gyfer gwaith newydd/rhagor o waith.
- Mae
cwmnïau'n gwerthfawrogi cael eu lleoli o fewn y Brifysgol a chael
cyfleoedd i gydweithio.
- Cyfle i
gynyddu presenoldeb rhanbarthol mewn chwaraeon, gan ganolbwyntio ar Dechnoleg Chwaraeon.
- Disgwylir
iddo dyfu clwstwr o oddeutu 300 o gwmnïau, a thua 1000 o swyddi o
ganlyniad.
- Mae
partneriaid masnachol yn eu lle, i'w cadarnhau, gan gynnwys Chwaraeon
Cymru.
- Safle
Treforys – creu lle i gwmnïau weithio ochr yn ochr â chlinigwyr i weithio
ar ddyfeisiau meddygol, gan hyrwyddo triniaethau a thechnoleg newydd.
- Bydd
Prifysgol Abertawe hefyd yn gweithio gyda'r Bwrdd Iechyd Lleol a Chyngor
Abertawe i wella mynediad ffyrdd ac isadeiledd o amgylch safle Treforys.
- Ailddatblygu
safle Sketty Lane - uchelgeisiau i ddatblygu cyfleusterau chwaraeon
eraill, ar gyfer y gymuned ac sy'n cynnig cyfleoedd ar gyfer chwaraeon
elît.
- Amlinelliad
o'r cynnydd hyd yma, gan gynnwys y statws cymeradwyo cyfredol.
- Cododd yr
Aelodau gwestiynau cyffredinol ynghylch yr wybodaeth a'r cynlluniau a
rannwyd a diolchwyd i'r Brifysgol am y cyflwyniad diddorol a chyffrous.
|
22. |
Adroddiad Diweddaraf am y Prosiect PDF 1 MB
Robert Francis-Davies - Aelod y Cabinet - Buddsoddi, Adfywio
a Thwristiaeth
Phil Homes – Pennaeth Cynllunio ac Adfywio’r Ddinas
Huw Mowbray - Gwasanaeth Adfywio Economaidd A Chynllunio
Cofnodion:
Rhoddodd Huw Mowbray, Rheolwr Strategol Datblygu
ac Adfywio Ffisegol yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Panel am y prosiectau adfywio
yn Abertawe. Roedd Phil Holmes, Pennaeth
Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas, hefyd yn bresennol ar gyfer yr eitem hon. Roedd y trafodaethau'n canolbwyntio ar y canlynol:
Cam 1 Bae Copr
- Mae'r
paneli LED bron â bod yn barod ac mae profion yn dechau ar y ffasâd.
- Mae gwaith
ar y parcdir/gwaith tirlunio'n parhau.
- Bydd unedau
dros dro yn cael eu hychwanegu at y safle ar gyfer bwyd/diod yn ardal y
parc.
- Mae
Hysbysiad Cwblhau wedi'i gyflwyno i ATG, a disgwylir cyhoeddiadau am
ddigwyddiadau yn yr wythnosau i ddod.
- Holodd yr
Aelodau am y cynnydd o ran datblygu'r Gwesty. Esboniodd swyddogion fod
trafodaethau cyllid ac ariannu'n parhau, ac maent yn ystyried opsiynau
wrth gefn os oes angen.
- Mae
pwyntiau gwefru trydan wedi'u cynyddu yng nghyffiniau'r Arena.
Gogledd Abertawe Ganolog
- Asiantaeth
Eiddo Llywodraeth y DU yn ystyried cynigion.
- Bydd
safle'r Hwb yn cael ei laswelltu a chaiff
(unedau masnachol) dros dro eu gosod yno wrth i'r cynllun terfynol gael ei
gadarnhau.
Ffordd y Brenin
- Mae'r gwaith
bron â'i gwblhau.
- Mae
triniaeth croesfan i gerddwyr yn yr arfaeth.
- Costau
terfynol i'w clymu, gan gynnwys bondiau.
71-72 Ffordd y Brenin
- Dewiswyd y
contractwr ac mae trafodaethau contract yn parhau.
- Ceir
diddordeb da yn y safle, mae swyddogion yn gobeithio cael newyddion
cadarnhaol am hyn maes o law.
- Mae
cyflenwi deunyddiau adeiladu'n agwedd barhaus ac arwyddocaol ar y rhan
fwyaf o brosiectau adeiladu cyfredol.
- Holodd yr
Aelodau am yr effeithiau ar gostau'r materion hyn. Esboniodd swyddogion nad
effeithir ar gontractau prisiau sefydlog.
Wind St
- Mae cynnydd
da'n cael ei wneud gyda'r 'fideo o'r awyr' o'r prosiect gorffenedig.
- Bwriedir
cwblhau'r gwaith erbyn canol mis Tachwedd o hyd, yn barod ar gyfer cyfnod
y Nadolig.
- Mae'r
gwaith i lanhau ac ailosod cerrig yn symud yn ei flaen.
- Croesfannau
Enfys – cynnig i'r Cabinet ar gyfer 3 o'r croesfannau hyn i gerddwyr, sy'n
cwmpasu croesfan i gerddwyr gyda lliwiau'r enfys.
- Holodd yr
Aelodau a oes gwelliannau wedi'u gwneud i du blaenau adeiladau a chynllun
celfi stryd. Esboniodd swyddogion y gallai grantiau fod ar gael i
ddeiliaid drwy gynlluniau eraill, er mwyn gwella'r tu blaenau. Cadarnhaodd
swyddogion fod ymgynghoriad yn mynd rhagddo ynghylch cynllun celfi stryd,
nid i rwystro busnes ond i sicrhau llif da o bobl ar hyd y stryd.
- Holodd y
Panel a fyddai presenoldeb diogelwch gweladwy ar Wind
Street. Cadarnhaodd swyddogion fod y cyngor yn
ystyried y posibilrwydd o gyflogi rhagor o Geidwaid Canol y Ddinas.
Sgwâr y Castell
- Mae cynigion
tirlunio ar droed; bydd angen i'r Cabinet gymeradwyo'r dyluniad cyn symud
ymlaen i'r cam caniatâd cynllunio.
- Mae
cynigion i newid adeiledd y ffynhonnau fel nodweddion parhaol, ond i allu
defnyddio'r lle drwy droi nodweddion dŵr i ffwrdd.
- Nid yw'r
sefyllfa gostau wedi'i chytuno eto.
- Cododd yr
Aelodau ymholiadau ynghylch diddordeb archeolegol posib yn safle Sgwâr y
Castell. Esboniodd swyddogion fod y rhan fwyaf o archaeoleg wedi'i symud
yn ystod oes Fictoria.
Adfywio Abertawe
- Prosiect
graddfa hirdymor, sy'n cynnwys 7 prif safle cychwynnol.
- Bydd
datblygwr o'r sector preifat yn gweithio gyda'r cyngor i symud pethau
ymlaen. Mae swyddogion yn rhagweld y caiff cynnydd sylweddol ei wneud o
fewn 12 mis.
Y Fargen Ddinesig
- Holodd
Aelodau'r Panel ynghylch y swm o £15m ar gyfer prosiect Iechyd Prifysgol
Abertawe, a'r ffaith ei fod wedi'i gynnwys yn nyraniad gwreiddiol y Fargen
Ddinesig. Esboniodd swyddogion y neilltuwyd ffigur i'r prosiect Iechyd
oedd yn debyg, ond ar wahân i'r un a gafodd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi
Sant. Cytunodd y Panel i ofyn am ragor o wybodaeth am y pwynt hwn.
- Mae'r
Drindod Dewi Sant (DDS) wedi gwneud cais am newid i'r Matrics Arloesi
(SA1). Bwriedir i'r ail brosiect, yr Ardal Arloesedd,
symud i ganol y ddinas.
- Holodd yr
Aelodau ym mhle yng nghanol y ddinas y bydd yr ardal hon. Esboniodd
swyddogion nad yw hyn wedi'i gadarnhau eto. Mae achos busnes yn cael ei
ddiweddaru i'w ailgyflwyno.
Y Pwerdy a'r Tŷ
Allan
- Mae
contractwyr yn rhannu timau i liniaru'r risg o gael COVID-19.
- Derbyniwyd
ceisiadau am fwy o amser gan y Contractwr ar y safle llai hwn.
- Mae'r tîm
yn symud ymlaen mor gyflym â phosib.
Safleoedd Strategol
- Ymgynghoriad
CNC: bwriedir plannu coed yn lle'r hen rai ger safle Skyline,
gan ganolbwyntio ar rywogaethau lleol.
- Mae
trafodaethau cadarnhaol yn mynd rhagddynt gyda Skyline,
ar ôl neilltuo'u harian i gyflwyno achos busnes i Lywodraeth Cymru.
- Mae
swyddogion wedi'u boddi gan ddiddordeb yn safle Felindre, ac yn gobeithio
am newyddion am hyn dros y misoedd nesaf.
- Perygl o
Lifogydd: Cynhyrchwyd dogfen Nodyn Cyngor Technegol (TAN 15) newydd gan
Lywodraeth Cymru, sy'n ystyried newid yn yr hinsawdd. Mae gwaith i'w wneud
ar safleoedd y mae TAN 15 yn effeithio arnynt.
|
23. |
Cynllun Gwaith PDF 277 KB
Cofnodion:
Derbyniwyd y rhaglen
waith
|
24. |
Llythyrau PDF 388 KB
|
|
Llythyr at Aelod y Cabinet PDF 202 KB
|