Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3 - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Scrutiny 636292 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

·         Mae'r Cynghorydd Paxton Hood-Williams yn aelod o Grŵp Gweithredu Lleol (GGLl) Abertawe

 

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

·         Dim

3.

Ethol Cynullydd Panel

·         Bethan Hopkins – Swyddog Craffu

Cofnodion:

·         Penodwyd y Cynghorydd Jeff Jones yn Gynullydd Panel ar gyfer 2019-20

 

4.

Cylch gorchwyl pdf eicon PDF 52 KB

Cofnodion:

·         Mae'r panel am ychwanegu 'cyfarfodydd i'w hychwanegu yn ôl y gofyn' at y Cylch Gorchwyl

 

5.

Cofnodion pdf eicon PDF 111 KB

·         Cymeradwyo a llofnodifel cofnod cywirgofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·         Ychwanegu bod y Panel Ymchwilio yn y sesiwn diwethaf wedi ystyried y ffigurau ar Atodiad E o'r Cynllun Busnes.

 

6.

Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru - Gwasanaethau Cymunedau Gwledig pdf eicon PDF 191 KB

·         Y Cynghorydd Robert Francis-Davies - Buddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth

·         Paul Relf – Rheolwr Cyllid Allanol a Datblygiad Economaidd

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

  • Mae syniadau am yr hyn y gellid ei gyflwyno o ran darpariaeth i gymunedau gwledig ond mae cyfyngiadau ar swm yr arian sydd ar gael - mae cyfyngiadau ar yr hyn y gellid defnyddio'r arian ar ei gyfer
  • Mae cyfyngiadau o ran y ddarpariaeth band-eang i gymunedau gwledig ac isadeiledd mawr
  • Mae angen cysylltu â'r Bartneriaeth Datblygu Gwledig (PDG) gydag ymagweddau i'w defnyddio ar draws Abertawe a sut mae'r gwaith yn cysylltu â gwaith y PDG
  • Mae 60% o Abertawe'n wledig, ond mae'r boblogaeth yn yr ardaloedd gwledig yn brin a cheir poblogaeth niferus yn yr ardaloedd trefol - gall fod yn anodd cydbwyso dyraniadau cyllid
  • Mae awydd i weld mwy o werth mewn ardaloedd gwledig e.e. bwyd lleol
  • Mae angen cysylltu ardaloedd trefol a gwledig
  • Mae adroddiad SAC yn pennu safonau uchel ond bydd y cyngor yn ymdrechu i'w bodloni
  • Bydd canlyniad Brexit yn effeithio ar y rhaglen grantiau gwledig
  • Mae cyfle ar gael a data i sefydlu arfer gorau o ardaloedd eraill yng Nghymru.
  • Mae cludiant mewn ardaloedd gwledig yn parhau'n bryder
  • Mae diffyg band eang mewn ardaloedd gwledig yn rhwystro llawer o bobl rhag cael mynediad at fargeinion, gweithgarwch cymunedol a gwasanaethau ar-lein - mae Llywodraeth Cymru'n edrych ar hyn ond ychydig iawn y gellir ei wneud yn lleol
  • Mae'r Rhaglen Datblygu Gwledig yn dod i ben yn 2020, ac nid oes cais ar waith ar hyn o bryd i ddatblygu un newydd
  • Mae angen cynlluniau ar gyfer pethau annisgwyl, beth bynnag yw canlyniad Brexit - efallai byddwn yn gwneud cais i edrych ar hyn ar ôl mis hydref er mwyn bwydo i'r materion cyllido
  • Mae'r tîm yn ymgysylltu â phobl yn y rhestr aelodaeth a phobl nad ydynt ar y rhestr. Maen nhw'n gweithio gyda phob un sy'n berthnasol
  • Mae angen i ni ymgysylltu'n fwy â LlC a bod yn rhagweithiol wrth fynd ar drywydd gwasanaethau band eang
  • Mae AoHNE Gŵyr yn edrych ar y mater hwn hefyd
  • Mae peth anhawster o gofio faint o broblemau sydd gennym ac o ran adnoddau i'w dyrannu
  • Ceir rhai problemau amddifadedd a thlodi mewn ardaloedd gwledig - mae'r rhain wedi'u cuddio'n aml mewn data cyffredinol, sy'n cuddio pocedi o amddifadedd mewn ardaloedd cyfoethog
  • Mae'n hanfodol cael cydbwysedd rhwng twristiaeth effeithiol a chynnal yr amgylchedd naturiol - mae isadeiledd gwyrdd yn bwysig iawn mewn penderfyniadau polisi
  • Mae daearyddiaeth, anheddiad a phrinder oll yn cael effaith ar sut y caiff ardal ei diffinio'n wledig - bydd yr adran yn anfon fformiwla/data i'r panel
  • Mae'n bosib y caiff Adolygiad y Comisiwn Ffiniau effaith ar sut y dosberthir wardiau
  • Gallai dosbarthiadau newid yn y dyfodol a bydd effaith felly ar gyllid
  • Bydd trafodaethau am wardiau nad oes ganddynt lefelau uchel o dlodi neu ardaloedd gwledig - nid yw ffrydiau ariannu ar gael yn hawdd
  • Bydd y tîm yn helpu i nodi cyfleodd cyllido os oes digon o staff ar gael i wneud hynny
  • Cyfrifoldeb LlC yw rhai o'r materion a nodwyd yn hytrach na chynghorau lleol
  • Mae'n gadarnhaol cael cymunedau i gynnal gwasanaethau ond gall hyn fod yn broblem a rhoi pwysau ar bobl - mae'n ddadl sy'n parhau
  • Gellir tynnu sylw'r Grŵp Gweithredu Lleol at rai pwyntiau e.e. pren yn cael ei gludo o benrhyn Gŵyr i ganolfannau ailgylchu gan nad oes gwasanaeth casglu o ymyl y ffordd
  • Caiff llythyr ei ddrafftio gan y panel at LlC a fydd yn mynnu ei bod yn datrys y mater o ariannu a gosod band eang mewn ardaloedd gwledig

 

7.

Adolygiad Diwedd Blwyddyn pdf eicon PDF 138 KB

Cofnodion:

·         Nid yw manylion rhai prosiectau'n glir o hyd - byddwn yn parhau i'w harchwilio'n fwy trylwyr yn ystod y flwyddyn i ddod

·         Rydym yn falch o'r ystod o brosiectau y mae'r panel wedi'u hystyried

·         Caiff cyfarfodydd eu cynnal 'yn ôl yr angen' drwy gydol y flwyddyn

 

8.

Cynllun Gwaith 2018/19 pdf eicon PDF 48 KB

Cofnodion:

·         Rydym am gael mwy o ffocws ar iechyd canol y ddinas -  o ran siopau ac unedau gwag a chynlluniau ar gyfer y dyfodol

 

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 166 KB

Ymateb Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 296 KB

Llythyr at Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig pdf eicon PDF 256 KB

Llythyr at Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth pdf eicon PDF 155 KB