Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Scrutiny 637314 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau.

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.

3.

Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol pdf eicon PDF 400 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunodd y panel fod nodiadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd 2019 yn gofnod cywir o'r cyfarfod.

4.

Cwestiynau'r Cyhoedd

Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i faterion ar yr agenda ac ymdrinnirâ nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o'r cyhoedd yn bresennol yn y cyfarfod.

5.

Adroddiad Diweddaraf am y Prosiect pdf eicon PDF 209 KB

·         Phil Homes – Pennaeth Cynllunio ac Adfywio’r Ddinas

 

·         Huw Mowbray -  Gwasanaeth Adfywio Economaidd A Chynllunio

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Huw Mowbray, y Rheolwr Datblygu Eiddo, y diweddaraf i'r panel ynghylch y prosiectau adfywio yn Abertawe.

 

Abertawe Ganolog - Cam 1

           Prif gontract - mae 10% o'r seiliau wedi'u cwblhau.  Mae'r prif gontractwr yn cael trafferth dod o hyd i gyflenwyr lleol. Mae cynifer o brosiectau adeiladu'n digwydd yn lleol, nid yw'r contractwyr lleol yn gallu ymdopi. Prif becynnau'n unig sydd wedi cael eu tendro ar hyn o bryd. Caiff pecynnau bach eu tendro yn y 6 i 7 mis nesaf. Hoffai'r panel weld y ffigurau sy'n dangos faint o gyflenwyr lleol a ddefnyddir.

           Mae'r panel wedi gyfer am gopi o'r contract ar gyfer yr arena. Cytunwyd i'w ddarparu ond mae'n gyfrinachol gan fod gan y cyngor Gytundeb Peidio â Datgelu â'r contractwr.

           Wal werdd - Mae'r cais am grant isadeiledd gwyrdd yn symud yn ei flaen. £5 miliwn ar gael i Gymru. Os bydd yn llwyddiannus, bydd yn golygu y gellid defnyddio mwy o blanhigion aeddfed nag a fwriadwyd wrth blannu'r wal werdd.

           Digidol - Dechreuwyd ar ymarfer caffael ar gyfer darparwr band eang newydd. Teimlai'r Panel y dylid fod wedi dechrau ar yr ymarfer hwn yn gynt. Mae'r ceblau sy'n cael eu gosod yn eiddo i'r cyngor felly bydd yn cadw'r gystadleuaeth i fynd ac yn caniatáu i'r cyngor ddewis partner.

           Gwesty - Cyflwynwyd prydles ddrafft i'r darparwr a ffefrir. Mae'r cyngor yn hyderus bod digon o gyllid ar gael am westy, ond maent yn aros iddo gael ei orffen.

 

Abertawe Ganolog - Canolfan Sector Cyhoeddus

           Canolfan Sector Cyhoeddus - Mae'r panel yn poeni y caiff pobl o ardaloedd eraill yn Abertawe eu symud i'r ganolfan hon. Fe'i hysbyswyd y byddai rhai yn symud, ond y disgwylir deiliaid newydd posib hefyd.

           Trafnidiaeth yng Nghanol y Ddinas - Gofynnodd y panel pryd y byddai'r uwch gynllun yn cael ei gwblhau. Dywedwyd nad oedd yn hyn yn hysbys. Nodwyd dan y risgiau efallai na fyddai digon o leoedd parcio ar gael. Dyma risg allweddol ar gyfer yr arena a'r ganolfan. Polisi cyffredinol y cyngor yw lleihau lleoedd parcio a chreu cynllun trafnidiaeth cadarn. Bydd hwn yn brawf go iawn. Bydd angen cynllun teithio cadarn cyn y rhoddir caniatâd cynllunio ar gyfer adeiladu. Hoffai'r panel i Stuart Davies ddod i gyfarfod o'r panel er mwyn iddynt gael dealltwriaeth o'r hyn a fwriedir mewn perthynas â thrafnidiaeth.

 

Isadeiledd Ffordd y Brenin

           Tirlunio gwyrdd - Rydym yn gwneud cymaint â phosib er mwyn atal pobl rhag mynd i mewn i'r ardaloedd gwyrdd eto. 

           Mae pobl yn parcio ar y palmant newydd gan nad oes unrhyw gyrbau. Dylai cyflwyno mannau cyhoeddus helpu i atal parcio.

           Mae pryderon ynghylch traffig yn cronni pan fydd gan Ffordd y Brenin un lôn i bob cyfeiriad.

           Mae nifer o leoedd wedi cael eu hadeiladu ar hyd Ffordd y Brenin rhag ofn y bydd cerbyd yn torri i lawr etc.

           Cyfanswm cost y prosiect £12.7m. Mae'n bosib y bydd hyn yn cynyddu gan nad oedd Dawnus wedi cywiro'r diffygion cyn mynd i'r wal. Gobeithir y bydd bond o £500 mil yn talu am y rhan fwyaf o'r gwaith i atgyweirio'r diffygion. Ar hyn o bryd, mae'r prosiect o fewn y gyllideb ond mae'r arian wrth gefn yn debygol o gael ei ddefnyddio. Byddai'r panel yn gwerthfawrogi gweld manylion y gost derfynol.

 

Ffordd y Brenin - Strategaeth a Phentref Digidol

           Teimla'r panel ei bod yn bwysig bod gennym gysylltiadau â Phrifysgol Abertawe. Nid yw'r adran yn gweld unrhyw gystadleuaeth â'r Hwb Technoleg gan ei fod ar raddfa wahanol.

           Hoffai'r panel weld Banc Datblygu Cymru'n ymwneud yn fwy â'r ardal. Fodd bynnag, nid yw'n rhad yn nhermau'r cynigion y mae'n ei ddarparu.

           Mae angen cyflwyno'r holl agweddau hyn fel rhan o arolwg cyffredinol o'r ganolfan.

 

Y Fargen Ddinesig

           Cytunwyd i'r amodau a thelerau.

           Rhyddhawyd £18m i Gyngor Sir Gâr fel yr arweinydd. Bydd Cyngor Abertawe'n derbyn ei gyfran o hyn maes o law. Mae'r panel yn deall y bydd yr arian yn cael ei ryddhau'n raddol dros 15 mlynedd ac nid mewn cyfandaliadau ymlaen llaw. Hyd yma, ni ryddhawyd unrhyw arian gan Abertawe.

           Mae trafodaethau rhanbarthol yn parhau ar sut y caiff y £36m ei dderbyn dros y 10 mlynedd nesaf.

 

Sgwâr y Castell

           Penodwyd Rheolwr Datblygu.

           Mae trafodaethau'n parhau â CADW i sicrhau nad ydynt yn gwrthwynebu sut y mae'r cyngor yn symud ymlaen.

 

Felindre

           Adolygu'r strategaeth marchnata.

 

Adfywio Bae Abertawe

           Nod y prosiect hwn yw atgyfnerthu'r morglawdd.

           Caiff yr orsaf fysus ei hystyried fel rhan o brosiect arfaethedig y morglawdd, oherwydd mae'n debygol na chawn unrhyw gyllid ar gyfer gorsaf os na wneir gwaith i atgyfnerthu'r morglawdd.

 

Cyllid Allanol

           Blaenoriaeth 4 y Gronfa Datblygu Rhanbarthol - Pryder ynghylch ariannu yn y dyfodol. Bydd ymgynghoriad yn dod o Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru - "Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru yn y Dyfodol", yn ystod mis Mawrth 2020 yn ôl pob tebyg. Defnyddir hyn i ddyrannu cyfran y cyngor o'r gronfa. Awgrymwyd y dylai'r panel ystyried y canlynol.

 

Camau Gweithredu:

           Rheolwr Datblygu'r Prosiect i ddarparu'r ffigurau (%) ar gyfer y darparwyr lleol a ddefnyddir wrth i brosiect Cam 1 Abertawe ddatblygu.

           Darparu manylion y gost derfynol ar gyfer Isadeiledd Ffordd y Brenin i'r panel.

           Rheolwr Datblygu Eiddo i ddarparu'r contract ar gyfer yr arena i'r panel.

           Ychwanegu Cynllun Trafnidiaeth Canol y Ddinas at y Rhaglen Waith - cyfarfod 18 Mai 2020. 

           Dosbarthu ymgynghoriad Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru - "Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru yn y Dyfodol" i aelodau'r panel er gwybodaeth, pan fydd ar gael.

6.

Cyflwyniad: Rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio - Unedau Preswyl Uwchben Siopau pdf eicon PDF 100 KB

·         Y Cyng. Robert Francis-Davies – Aelod y Cabinet dros Fuddsoddiad, Adfywio a Thwristiaeth

·         Phil Holmes – Pennaeth Cynllunio ac Adfywio’r Ddinas

Cofnodion:

 Roedd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Datblygu a Phennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas yn bresennol i gyflwyno trosolwg o'r Cynllun Grant Byw Cynaliadwy, a ariennir trwy Raglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio Llywodraeth Cymru, ac i ddarparu enghreifftiau o brosiectau sydd wedi'u cwblhau.

 

Pwyntiau i'w trafod:

           Arian grant gwerth cyfanswm o £1.175m yn Abertawe dros 3 blynedd, rhwng mis Ebrill 2018 a mis Mawrth 2021

           Arian y grant yw'r isafswm y mae ei angen er mwyn i'r prosiect fynd rhagddo, hyd at uchafswm o 40% o gostau cymwys y prosiect. Nid yw hyn yn effeithio ar y gyfradd rhent a chaiff eiddo eu rhentu ar gyfraddau'r farchnad. Os caiff yr eiddo ei werthu, mae'n rhaid talu'r grant yn ôl yn seiliedig ar amserlenni.

           Bydd y cyngor yn ceisio cynorthwyo mewn unrhyw ffordd y gall. Yn ogystal â grant, bydd yn ystyried benthyciad ar yr eiddo.

           Yn ogystal ag yng nghanol y ddinas, mae cynllun peilot ar waith ar Stryd Woodfield, Treforys.

           Mae'r cyngor yn cynnal trafodaethau â'r Gweinidog ynghylch Cronfa Trefi ar gyfer ardaloedd pellennig ar gyfer siopau sydd wedi cau etc.

           Mae ambell un o'r 6 chynllun sydd i ddod ar raddfa fwy.

           Mae'r cyngor yn hyrwyddo'r cynlluniau. Mae Partneriaeth Adfywio Abertawe yn cytuno â'r cynlluniau.

           Mae'r panel yn hapus iawn â'r cynllun hwn. Mae llawer o eiddo cymdeithasau tai yng nghanol y ddinas a bydd yr eiddo rhentu preifat hyn yn cydbwyso'r sefyllfa felly bydd cymysgedd da yng nghanol y ddinas.

7.

Cyflwyniad: Pentref Digidol - Dyluniadau a Chynlluniau pdf eicon PDF 266 KB

·         Y Cyng. Rob Stewart - Aelod y Cabinet dros yr Economi a Strategaeth (Arweinydd)

·         Phil Holmes – Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas

·         Gareth Hughes - Prif Reolwr Adfywio Ffisegol

Cofnodion:

Roedd Aelod y Cabinet dros yr Economi a Strategaeth (Arweinydd) a'r Prif Reolwr Adfywio Ffisegol yn bresennol i gyflwyno trosolwg o Ailddatblygu 71 a 72 Ffordd y Brenin, sy'n brosiect Bargen Ddinesig Ranbarthol Abertawe.

 

Pwyntiau i'w trafod:

           Mae'r panel yn teimlo bod angen i Iard Picton for yn rhan o'r cynllun teithio a dylid cyfyngu'r mynediad ar gyfer dosbarthu nwyddau i amserau penodol er diogelwch.

           Hoffai'r panel weld blaenau siopau ar yr Iard ac ar y llwybr trwy Stryd Rhydychen.

           Bydd gan yr adeilad mewnol mannau gwaith ac ardaloedd cyfarfod addasadwy fel ei fod yn addas ar gyfer cymysgedd o fusnesau o feintiau gwahanol.

           Bydd cawodydd a chyfleusterau storio yn yr adeilad ar gyfer beicwyr.

           Mae gan y panel bryderon gan fod llawer o swyddfeydd o safon yn cael eu hadeiladu yn Abertawe. Bydd angen arian i'w cynnal ac mae'n annhebygol y bydd digon o rent i dalu am y costau cynnal yn ystod y blynyddoedd cyntaf. Mae Aelod y Cabinet yn hyderus y bydd digon o bobl yn barod i'w rhentu er mwyn bwrw ymlaen â'r prosiect hwn.

           Nid yw lefel bresennol y rhent yng nghanol y ddinas yn fasnachol ddichonadwy. Rydym yn ceisio codi hynny. Ar hyn o bryd, caiff y bwlch ei lenwi gan arian y Fargen Ddinesig.

           Dylid dyfarnu'r contract erbyn diwedd y flwyddyn hon. Amcangyfrifir cost o £30m ar gyfer y prosiect hwn.

8.

Cynllun Gwaith 2019/20 pdf eicon PDF 259 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd y rhaglen waith gan y panel.

 

Camau Gweithredu:

 

           Ychwanegu sesiwn friffio ar y Cynllun Teithio at gyfarfod 18 Mai 2020.

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 155 KB

Letter to Cabinet Member - Economy & Strategy pdf eicon PDF 274 KB