Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Scrutiny 636292 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

·         Dim

2.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

·         Rhaid i gwestiynau ymwneud â materion yn rhan agored agenda'r cyfarfod ac ymdrinnir â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

·         Gofynnodd Mr Colin Jones am fforddadwyedd a chwestiynodd hygyrchedd y broses ariannol

·         Esboniodd y Cynghorydd Rob Stewart fod adroddiadau am gyllid yn cael eu cyhoeddi a gellir cael mynediad at yr wybodaeth ar unrhyw adeg ar-lein a thrwy fynd i gyfarfodydd cyhoeddus

 

3.

Diweddariad ar Gam 1 Cynllun Abertawe Ganolog a'r FPR7 pdf eicon PDF 106 KB

·         Rob Stewart – Aelod y Cabinet - Economi a Strategaeth (Arweinydd)

·         Ben Smith - Pennaeth Gwasanaethau Ariannol a’r Ganolfan Wasanaeth

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

  • Nid oedd yr achos busnes wedi cael ei gymeradwyo er gwaethaf addewidion y byddai'n cael ei gymeradwyo ym mis Mehefin a mis Hydref. Nododd y pwyllgor y byddai'n cael ei gymeradwyo'n gynnar ym mis Rhagfyr.
  • Mae'r adroddiad yn egluro rhai o'r goblygiadau ariannol
  • Yn ôl yr adroddiad roedd yn fforddiadwy ond byddai aelodau'n wynebu penderfyniadau anodd ar gyllidebau'r dyfodol ynghylch yr effaith bosib ar wasanaethau eraill.
  • Angen elfen o gymhorthdal gan y sector cyhoeddus
  • Mae risgiau'n hysbys ac yn bosib eu rheoli
  • Bydd cyfle i graffu fel bydd y broses yn mynd rhagddi
  • Gobeithio bydd achos busnes y Fargen Ddinesig yn cael ei gymeradwyo'n gynnar ym mis Rhagfyr gydag arian yn llifo wedyn
  • Bydd yr arian yn mynd i'r swyddfa ranbarthol (Sir Gâr) ac yna i'r prosiectau a gymeradwywyd
  • Gweithdrefnau llym ar waith i gynnal safon ac amserlenni gan gynnwys fframwaith Y Tu Hwnt i Frics a Morter
  • Mae rhai cymariaethau â dinasoedd mwy yn annheg gan fod meintiau poblogaeth a gwerth ychwanegol crynswth yn wahanol iawn
  • Mae'r Fargen Ddinesig yn gatalydd - gyda'r nod o greu prosiectau a chyfleoedd yn y dyfodol.
  • Mae mwy o fyfyrwyr yng nghanol y ddinas yn rhyddhau ardaloedd cyfagos o dai amlfeddiannaeth.
  • Cynlluniwyd peth llety preifat er mwyn helpu i ysgogi bwytai a siopau
  • Mae bioamrywiaeth ac isadeiledd gwyrdd yn agweddau pwysig iawn ar y datblygiad
  • Pont newydd fwy addas sy'n cydymffurfio â'r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd
  • Y bwriad yw cau'r bwlch rhwng perfformiad ariannol rhanbarthol
  • Anhawster os nad yw'r arena yn gwneud elw - risg ariannol fawr. Pryderon am gystadleuaeth a dichonoldeb yr arena
  • Bydd costau ariannu cyfalaf yn cynyddu ond y gobaith yw cyfyngu'r effaith ar wasanaethau rheng flaen
  • Cwestiynau ynghylch fforddadwyedd
  • Eglurdeb o ran union leoliad yr arena.

·         Mae'r Fargen Ddinesig yn cyfrannu £22.5 miliwn dros 15 mlynedd ac felly mae'n gyfrannwr ariannol bach at y prosiect adeiladu gwerth £130 miliwn i'w gwblhau yn 21/22

4.

Gwahardd y cyhoedd pdf eicon PDF 112 KB

5.

Diweddariad ar Gam 1 Cynllun Abertawe Ganolog a'r FPR7

  • Rob Stewart – Aelod y Cabinet - Economi a Strategaeth (Arweinydd)
  • Ben Smith - Pennaeth Gwasanaethau Ariannol a’r Ganolfan Wasanaeth

 

Cofnodion:

·         Trafodwyd yr eitemau eithriedig

 

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 98 KB

Ymateb gan Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 308 KB