Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Scrutiny 636292 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

·         Dim

2.

Cofnodion. pdf eicon PDF 121 KB

To approve & sign the Notes of the previous meeting(s) as a correct record.

Cofnodion:

·         Cymeradwywyd

3.

Adroddiad Diweddaraf am y Prosiect pdf eicon PDF 214 KB

·         Huw Mowbray - Gwasanaeth Adfywio Economaidd A Chynllunio

Cofnodion:

·         Ychydig o fanylion technegol yn cael eu hystyried ar gyfer dyluniadau cynlluniau yn Abertawe Ganolog - Cam 1

·         Datrys materion 'hawl i oleuo' ar gyfer preswylwyr y Marina

·         Gwella mynediad i'r Marina wrth symud ymlaen

·         Mae dau berson wedi gadael y tîm ac mae hyn yn effeithio ar adnoddau

·         Mae cynigion tai yn rhai Cymdeithas Tai

·         13 o bartïon â diddordeb yn y gwesty - rhaid bod yn 4 seren

·         Bydd gan y bont newydd lethr graddol a bydd yn hygyrch iawn ac yn ganolbwynt yn y dylunio

·         Mae materion cyllidebol yn cael eu datrys ond bydd hon yn broses barhaus

·         Cynllun mawr sy'n cynnwys Y Tu Hwnt i Frics a Morter

·         Ffordd y Brenin yn symud ymlaen yn ôl y cynllun

·         Paratoi ar gyfer y dyfodol drwy ganiatáu gosod ceblau ffeibr optig

·         Ffordd y Brenin o fewn y gyllideb - ychydig o gyllid gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru

·         Awgrymu erthygl yn amlinellu ystyr 'arena ddigidol' er lles y cyhoedd

·         Awgrymu edrych ar Safonau Gwydnwch y Ddinas

·         Bydd Isadeiledd Gwyrdd yn ffurfio rhan o'r cynllun - mae creu awyrgylch ac amrywiaeth yn hanfodol

·         CNC yn arwain ar bolisi Isadeiledd Gwyrdd

·         Un o fanteision Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

·         Creu cysylltiad newydd â Stryd Rhydychen ger hen safle Oceana

·         Dylid edrych ar strategaeth gosod yr adeilad yn ei chyfanrwydd

·         Angen strategaeth cylch oes ar gyfer busnesau yn Abertawe

·         Aros am ymateb ar achos busnes gan y llywodraeth

·         Mae'r cyngor yn benthyca arian ymlaen llaw er mwyn i'r prosiectau gael eu rhoi ar waith

·         Mae'r Fargen Ddinesig yn fecanwaith er mwyn darparu blaenoriaethau

·         Yr amserlen ar gyfer cyflawni'r gwaith yw 2020 a'r arena yn 2021

·         Cysylltiad posib trwy'r arcêd sydd eisoes yn bodoli i'r pentref digidol - risg posib i'r siopau presennol

·         Prosiect Skyline yn symud ymlaen

·         Mae Cyngor Abertawe'n darparu gwasanaethau i ffiniau'r prosiect

·         Dim trafodaeth eto gyda Dug Beaufort dros ffïoedd ar gyfer mynediad

·         Rhai materion o ran perygl llifogydd sydd bellach yn cael eu hystyried gan CNC

·         Bydd yr ystlumod yn yr adeilad Gwaith Copr presennol yn cael eu hailgartrefu'n briodol mewn tai ystlumod cyn bydd unrhyw waith yn cael ei wneud - hefyd yn ystyried materion goleuo yma

·         Datrys materion carthffosiaeth ar gyfer Penderyn - bydd datblygiad mwy ar y safle yn gofyn am waith carthffosiaeth pellach

·         Mae gan Skyline gynrychiolwyr amgylcheddol da

·         Disgwyl Ch1 2019 ar gyfer apwyntiad Sgwâr y Castell

·         Wedi trafod prydlesi ar gyfer Felindre a ddylai annog datblygu pellach

·         Creu swyddi a bydd dyluniad yr adeilad o safon

·         Bydd meysydd parcio tymor hir yn aros i ddechrau ond yn cael eu symud os bydd y safle yn datblygu yn y dyfodol

·         Wedi derbyn cais cynllunio Felindre

 

4.

Datblygiad Penderyn - Trosolwg pdf eicon PDF 138 KB

·         Paul Relf - Rheolwr Datblygiad Economaidd a Chyllid Allanol

Cofnodion:

·         Roedd copr yn rhan bwysig o ddatblygiad Abertawe

·         Nifer o adeiladau rhestredig Gradd 2 ar y safle

·         Mae waliau adeilad y Tŷ Pŵer mewn cyflwr da ac yn gallu cael eu hadfer

·         Mae'r Cynllun Menter Treftadaeth yn ariannu'r diffyg cadwraeth ar yr adeilad a disgwylir i breswylydd preifat fod ar y safle

·         Catalydd i ddatblygu adeiladau eraill

·         Aros am gadarnhad ynghylch cyllid

·         Dylai greu swyddi - 19.5 o swyddi

·         Distyllfa weithredol, siop, ardal arddangos, storfa casgenni a dosbarthiadau meistr ar gael

·         Arian cyfatebol gan y cyngor ar waith

·         Ar y safle ddechrau Hydref 2019

·         Bu perchnogion Penderyn yn ymwybodol o'r safle ers cryn amser

·         Bydd angen elfen fasnachol er mwyn cynnal y prosiect

·         Cyfrannodd y cyngor £1.7m i'r cynllun a chodir tâl ar ymwelwyr sy'n ymweld â'r cyfleuster. Cytunir ar amrywiaeth y taliadau rhwng Penderyn a'r awdurdod lleol

 

 

5.

Cynllun Gwaith 2017 - 2018. pdf eicon PDF 57 KB

Cofnodion:

·         Eitemau archwilio i'w cynnwys ar ôl i'r adroddiad fynd at Bwyllgor y Rhaglen Graffu

 

6.

Gwahardd y cyhoedd pdf eicon PDF 113 KB

7.

Datblygiad Penderyn - Trosolwg

·         Paul Relf - Rheolwr Datblygiad Economaidd a Chyllid Allanol

Cofnodion:

·         Trafodwyd yr eitemau eithriedig

 

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 121 KB

Ymateb gan Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 139 KB