Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Scrutiny 636292 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

·         Dim

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 108 KB

Cymeradwyo a llofnodifel cofnod cywirgofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·         Cymeradwywyd gan

3.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

·         Rhaid i gwestiynau ymwneud â materion yn rhan agored agenda'r cyfarfod ac ymdrinnir â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

·         Dim

4.

Adroddiad Diweddaraf am y Prosiect

·         Huw Mowbray - Gwasanaeth Adfywio Economaidd A Chynllunio

 

Cyfle i’r panel dderbyn diweddariad am amrywiaeth o brosiectau adfywio

Cofnodion:

  • Aed â'r panel drwy'r adroddiad dangosfwrdd
  • Mae'r adroddiad hwn ar gyfer y Grŵp Llywio a Bwrdd y Rhaglen at ddiben cynorthwyo wrth fonitro prosiectau
  • Nid yw llif yr wybodaeth ar y pwynt hwn wedi bod yn hawdd
  • Bydd angen mewnbwn ariannol gan y swyddog perthnasol
  • Mae Cam 1 yn mynd rhagddo -  nid yw pob rhan o Gam 1 yn rhan o'r Fargen Ddinesig
  • Mae manylion yr arena ddigidol yn cael eu datblygu
  • Mae angen i'r gwesty fod yn un 3* i ddenu arian grant
  • Mae arolygon yn cael eu cynnal i edrych ar faterion 'hawl i oleuo' a allai god.
  • Nid yw'r holl brosiectau'n rhai'r Fargen Ddinesig
  • Mae rhai prosiectau'n gymysgedd o arian y Fargen Ddinesig ac arian arall - teimlwyd y gallai hyn fod yn ariannol gymhleth

 

Cwestiynau

  1. Beth yw'r cynllun wrth gefn os na lwyddir i gael gwesty 4*?
  • Mae'n debygol na chaiff gwesty ei adeiladu
  • Mae trafodaeth barhaus ynghylch amodau grant
  • Mae rhai problemau amseru posib, ac yn ddelfrydol mae angen adeiladu'r arena a'r gwesty ar yr un pryd.
  1. Beth yw'r gyllideb gyfalaf ymrwymedig?
  • £124m gan gynnwys adeiladu, arian wrth gefn a ffïoedd ond nid yw'r ffigur terfynol wedi'i bennu eto
  • Mae Cyngor Abertawe'n benthyca swm mawr
  • Llunnir adroddiad â'r holl gostau terfynol fel y gellir penderfynu ar fenthyca
  • Daw'r gyllideb o'r gronfa refeniw a hon fydd yr ased cyfalaf yn y pen draw
  • Mae hyn yn rhoi pwysau ar y gyllideb refeniw
  • Mae peth o'r arian yn fenthyciad gwerth £6.8m gan Lywodraeth Cymru sy'n daladwy dros 20 mlynedd ar ôl i'r arena gael ei hadeiladu. Mae’n ddi-log a chaiff y taliadau cyntaf eu gohirio nes agoriad yr arena
  • Yr unig swm cyfalaf yw £1.5m ar gyfer gwaith cynnar
  • Daw'r prif gyfalaf unwaith y ceir y ffigurau terfynol o ran costau
  1. I adeiladu gwesty 4*, a ydym yn prydlesu i gwmni gwestai
  • Bydd datblygwr yn contractio i Gyngor Abertawe ac yna’n rhoi ei ryddfraint i'r cwmni perthnasol
  • Bydd Croeso Cymru'n rhoi'r grant i'r datblygwr, nid y cyngor
  1. O gofio bod gwaith yn mynd rhagddo yn yr ardal, sut beth fydd y siâp mewnol?
  • Mae'r siâp mewnol yn hyblyg a gall fod fformatiau gwahanol iddo
  • Mae lle i uchafswm o 3,500 o bobl
  • Gellir sicrhau lle hefyd ar gyfer cynadleddau ac ystafelloedd cyfarfod gydag ardaloedd VIP
  1. Os cynhelir ymgynghoriad parhaus â phobl leol, pa mor aml fyddwn ni'n cwrdd â phobl a busnesau?
  • Dyma un o'r prosiectau cyntaf yng Nghymru i fynd drwy'r broses gynllunio newydd y mae angen ymgynghori'n fwy helaeth yn ei chylch.
  • Cynhelir cyfarfodydd rheolaidd a pharhaus, weithiau'n fisol, â'r busnesau y mae hyn yn effeithio arnynt
  1. Mae lle i 3,500 o bobl yn ymddangos yn gymedrol ar gyfer cyngerdd bop.
  • Dywedwyd bod y diwydiant arenâu'n newid ac mae pobl am fynd i gyngherddau llai
  • Mae’r grym bargeinio yn nwylo ATG, gweithredwyr yr arena
  • Gwnaed llawer o ymchwil i'r farchnad ymlaen llaw
  • Mae ATG yn ymrwymo i brydles 30 mlynedd
  • Mae'r brifysgol yn awyddus i ddenu cynadleddau addysgol ynghyd â'r diwydiant technoleg
  • Mae'n faes cystadleuol
  1. A yw'r cynllun busnes wedi'i gymeradwyo - roedd hyn fod i ddigwydd ym mis Mehefin?
  • Dim eto
  • Cyngor Abertawe sy'n talu am isadeiledd Ffordd y Brenin a grant gan WEFO
  • Cafwyd peth problemau gyda chontractwyr ond mae'r rhain wedi'u datrys a chynhelir cyfarfodydd misol ac ymgynghoriadau â phreswylwyr
  1. Mae'r gwaith ar Ffordd y Brenin wedi'i rannu'n gamau - a yw'r holl brosiectau hyn yn gweithio gyda'i gilydd?
  • Mae'r gwaith yn cael ei fonitro'n ddyddiol i liniaru unrhyw broblemau
  • Bydd tarfu gan ei fod yn waith sylweddol
  • Mae rheoli'r lleoedd caeedig yn bwysig
  1. A oes diddordeb mewn llenwi lleoedd ar Ffordd y Brenin?
  • Os na fyddwn yn ei datblygu, bydd yn aros yn wag
  • Mae datblygwyr yn prynu llawer o eiddo
  • Ni fydd byth yn ardal fanwerthu eto
  • Ystyrir manteisio ar ddatblygwyr preifat a siopau annibynnol
  1. Mae gan Abertawe lefelau GVA isel
  • Rydym yn gobeithio creu incwm, gyda swyddi uwch-dechnoleg
  1. Cyhyd ân bod ar darged, dylem barhau â'r cynllun, ac mae angen i ni sicrhau bod yr awdurdod yn cefnogi siopau bach
  • Nid oes digon o bobl yn gweithio ac yn byw yng nghanol y ddinas, a'r gobaith yw y bydd hyn yn newid
  • Mae gormod o fyfyrwyr yng nghanol y ddinas
  1. Beth yw'r 'strategaeth chwarae' ac ym mhle y bydd hi?
  • Mabwysiadodd y cyngor y polisi chwarae a'r cymeriad yw Dilly'r Ddraig
  • Bydd llwybrau chwarae ledled canol y ddinas
  1. Mae'r prosiect CUIDAR yn edrych ar sut mae angen cynnwys plant a phobl ifanc pan fydd pethau'n mynd o'i le e.e. lleoliadau risg uchel. Dylai'r math hwn o gynllunio mewn argyfwng gael ei ystyried
  • Bydd y tîm yn dilyn trywydd hyn (anfonwyd dolenni)
  1. Beth yn union yw sgwâr digidol?
  • Y sgwâr digidol yw’r arena a'r ardal gyhoeddus o'i chwmpas
  • Y Pentref Digidol yw lle swyddfa Ffordd y Brenin
  • Mae gan Abertawe hanes cryf o greu busnesau ond hanes gwael o'u cadw
  1. Beth yw'r cynlluniau ar gyfer yr arcêd yn y dref?
  • Hoffai'r cyngor weld mwy o ymwelwyr a newidiadau i fynediad i mewn ac allan o'r arcêd i greu gwell cysylltiadau
  1. Beth yw effaith colli'r prosiect 5?
  • Collwyd i ardaloedd mwy datblygedig ond roedd y cais yn dda
  • Rydym eisoes yn edrych ar gynigion eraill ond llwyddodd i godi proffil Abertawe
  1. Beth yw lefel deiliadaeth yr adeiladau ar Ffordd y Brenin?
  • Mae angen gosod 50% cyn i ni symud ymlaen
  • Mae deiliaid posib
  1. Beth yw'r broses ar gyfer y cytundeb busnes wedi iddo gael ei gymeradwyo?
  • Disgwylir adborth gan y Llywodraeth ym mis Hydref
  • Mae grŵp sector cyhoeddus a grŵp sector preifat
  • Bydd y grŵp sector preifat yn dadansoddi'r prosiectau yna'r grŵp sector cyhoeddus
  1. Ymddengys fod arian y Fargen Ddinesig yn eilradd
  • Mae'r cyngor wedi gorfod benthyca ymlaen llaw a thelir yr arian yn ôl wrth iddo ddod i mewn dros y 15 mlynedd nesaf
  • Arian cam cyntaf sydd ar gyfer Prosiect Abertawe
  • Bydd y Llywodraeth yn rhoi gwerth tua £36m o gyllid ar gyfer y Fargen Ddinesig dros y 15 mlynedd nesaf a'r awdurdod lleol yn rhoi tua £76m. Bydd prosiectau eraill yn ogystal â hyn, a bydd angen eglurhad ynghylch hyn.

 

Gwybodaeth arall

 

  • Mae peth problemau llifogydd a draenio ar afon Tawe ar hyn o bryd - mae hyn yn cael ei adolygu
  • Yr unig arian sydd wedi'i awdurdodi ar gyfer Sgwâr y Castell yw £50 mil ar gyfer astudiaethau dichonoldeb, yna aiff unrhyw gynnig gerbron y Cabinet
  • Bwriedir edrych ar y mannau lle ceir tagfeydd o gwmpas y ddinas - Dyfaty a Ffordd Fabian
  • Nid yw timau'r prosiectau sy'n ymdrin â'r gwaith hwn yn ddigon mawr ac maent yn gweithio'n hynod galed

 

 

 

5.

Cynllun Gwaith 2017 - 2018. pdf eicon PDF 57 KB

Cofnodion:

·         Cadw'r cynllun gwaith fel y mae

·         Gwahodd aelodau perthnasol o'r Cabinet i bob sesiwn

·         Y potensial ar gyfer y cynllun gwaith i fod yn hyblyg wrth symud ymlaen