Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Scrutiny 637732 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Dim

 

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 107 KB

Cymeradwyo a llofnodifel cofnod cywirgofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

Cofnodion:

Cymeradwywyd gan

 

 

3.

Cwestiynau'r Cynullydd gydag Ymatebion pdf eicon PDF 66 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Trafododd y panel yr ymatebion i'r cwestiynau a ofynnwyd

4.

Trosolwg o Ddatblygu ac Adfywio

Ben Smith – Pennaeth Gwasanaethau Ariannol a’r Ganolfan Wasanaeth

Martin Nicholls – Cyfarwyddwr – Lleoedd

Huw Mowbray - Rheolwr Strategol Datblygu ac Adfywio Ffisegol

Cofnodion:

·         Rhoddwyd trosolwg i'r panel gan Martin Nicholls a Ben Smith.

·         Nododd y panel y dylai craffu allu gwneud sylwadau ar ddata sensitif mewn sesiwn gaeëdig os bydd angen, gan ei fod yn rhan o'r broses dendro, er bod peth o'r data yn sensitif yn fasnachol.

·         Gofynnodd y panel am yr achosion busnes ac ar ba gam datblygu y maen nhw.

·         Dylai'r achosion busnes y mae Abertawe'n arwain arnynt fod ar gael erbyn diwedd mis Rhagfyr 2018.

·         Mae'r achos sgiliau ac arloesedd ymhellach ymlaen oherwydd ei fod yn gysylltiedig â'r Fforwm Dysgu Rhanbarthol.

·         Mae'n debyg bod dryswch o hyd ynglŷn â'r hyn y mae'r Fargen Ddinesig yn ei gynnwys oherwydd bod cymaint o ddatblygu ar waith.

·         Datblygir llywodraethu ynglŷn â'r Fargen Ddinesig o hyd.

·         Bydd y diweddaraf am y cytundeb gweithio ar y cyd ar gyfer y Fargen Ddinesig yn dod gerbron Cabinet ym mis Ionawr (gobeithio) a dylai egluro unrhyw gwestiynau ynghylch y maes hwn.

·         Mae'r pwyllgor ar y cyd yn cynnwys 4 o'r awdurdodau lleol yn unig - Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gâr a Sir Benfro.

·         Ceir trafodaeth o hyd am sut bydd craffu'n gweithio.

·         Mae dealltwriaeth o'r diffyg gwelededd ynghylch cynnydd. Mae nifer o brosiectau bach o fewn datblygiad canol dinas Abertawe ac mae angen rhestr weledol o'r holl brosiectau fel y gellir eu hystyried gyda'i gilydd.

·         Awgrymodd Martin Nicholls y dylai hyn fod ar gael ar gyfer cyfarfod y cyngor ar 22 Chwefror, felly dylai'r panel gael dealltwriaeth well erbyn hynny.

·         Ceir trafodaethau o hyd am amodau a thelerau grantiau a bydd Ben Smith yn rhoi'r diweddaraf i'r panel mewn cyfarfod yn y dyfodol.

·         Bu datblygu ac adfywio yng nghanol y ddinas cyn y Fargen Ddinesig ac mae cyfuno'r datblygiad presennol â'r Fargen Ddinesig fwy newydd wedi arwain at ddryswch ynghylch prosiectau.

·         Mae gan bob awdurdod lleol ei risgiau perthnasol ei hun.

·         Gall ceisio cael cytundebau rhwng yr holl awdurdodau lleol sy'n bodloni pob un ohonynt fod yn anodd iawn.

·         Trafododd y panel y cyllid ar gyfer y Fargen Ddinesig a sut caiff yr arian ei ryddhau dros gyfnod o 15 mlynedd.

·         Trafododd Martin Nicholls rai o'r pwyntiau ynglŷn â chynlluniau Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer.

 

Camau gweithredu

 

1.    Gofyn i'r achosion busnes gael eu trefnu ar gyfer Craffu pan fyddant yn barod.

2.    Ben Smith a/neu Martin Nicholls i gadarnhau'r amserlenni ar gyfer adroddiadau dadansoddi ariannol fel eu bod yn gallu dod i'r panel.

 

 

5.

Cynllun Gwaith 2017 - 2018. pdf eicon PDF 59 KB

Cofnodion:

·         Bydd y panel yn adolygu cyllideb y cyngor ar 5 Chwefror yn barod i'w bwydo i'r Panel Gwella Gwasanaethau a Chyllid ar 7 Chwefror.

·         Efallai y bydd y cyfarfod nesaf a drefnir ar gyfer 8 Chwefror yn cael ei symud er mwyn hwyluso adroddiad y Cabinet am gynnydd a chyllid datblygu ac adfywio. Caiff y panel yr wybodaeth ddiweddaraf.

 

6.

Eitem Er Gwybodaeth pdf eicon PDF 264 KB

·         Adroddiad Cynnydd y Fargen Ddinesig – Cyngor Castell-nedd Port Talbot

·         Bargen Ddinesig Dinas-ranbarth Bae Abertawe

·         Strwythur Llywodraethu Dinas-ranbarth Bae Abertawe

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd y panel at yr eitemau "er gwybodaeth" drwy gydol y cyfarfod.