Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 6 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Scrutiny 637732 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Dim

2.

Cylch gorchwyl. pdf eicon PDF 52 KB

Cofnodion:

Trafododd y Cynullydd rôl y panel a nodwyd y Cylch Gorchwyl, fel y'i pennwyd gan y Pwyllgor Craffu.

3.

Briffio Swyddogion pdf eicon PDF 2 MB

Phil Holmes - Pennaeth Cynllunio ac Adfywio’r Ddinas

Cofnodion:

Rhoddodd Phil Holmes, Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas, drosolwg o'r gwasanaeth. Rhododd wybodaeth i’r panel am strwythur, cyllid a pherfformiad y gwasanaeth a phrosiectau sydd ar y gweill. Amlinellodd hefyd ei rôl yn y gwasanaeth a sut mae ei staff a'r timau yn cysylltu â meysydd gwaith penodol.

 

Cyfeiriodd at nifer o brosiectau datblygu ac adfywio.

 

·         Bargen Ddinesig Bae Abertawe

·         Abertawe Ganolog (Cynllun Ailddatblygu Canol y Ddinas)

·         Ardal Ddigidol Ffordd y Brenin

·         Gwaith Copr yr Hafod-Morfa

 

Cyfeiriodd hefyd at welliannau o ran:

 

·         Tîm Rheolaeth Canol y Ddinas

·         Prosiectau Cronfa Gymdeithasol Ewrop

·         Cynllun Ynni a Menter Gymunedol Abertawe

·         Rhaglen Partneriaeth Tirwedd Gŵyr

·         Rhaglen Fuddsoddi Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid

·         Cynlluniau Datblygu Gwledig

 

Pwyntiau allweddol a godwyd:

 

·         Mae'r prosiectau y cyfeiriwyd atynt yn rhai blaenllaw ac yn effeithio'n uniongyrchol ar fywydau pobl

·         Mae cyllideb cyfalaf yr adran yn amrywio bob blwyddyn gan ddibynnu ar grantiau a'r incwm allanol a gyflawnwyd ar gyfer y flwyddyn honno

·         Nod y prosiectau datblygu ac adfywio yw dod â busnesau i Abertawe a'u cynnal.

 

Roedd y Pennaeth Gwasanaeth yn falch iawn fod craffu'n edrych ar agenda mor fawr a diddorol.

 

Roedd cwestiynau aelodau'n canolbwyntio ar:

 

·         Effeithiau ariannol Brexit

·         Mae dadansoddiad o gyllid Cyngor Abertawe'n cyfrannu at y prosiectau, gan gynnwys y rhai cydweithredol

·         Marchnata a hyrwyddo'r prosiectau sy'n cael eu cyflawni

·         Gwybodaeth am yr achosion busnes sy'n cael eu datblygu ar gyfer prosiectau unigol

 

4.

Cynllun Gwaith 2017/2018 pdf eicon PDF 55 KB

Cofnodion:

Trafodwyd cynllun gwaith ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

 

I gefnogi ei rôl fonitro, cytunwyd y byddai'r panel yn canolbwyntio'n syth ar sefydlu gwybodaeth am yr holl brosiectau mawr presennol i greu trosolwg o ddatblygiad ac adfywio.

 

Nodwyd y materion canlynol:

 

·         Byddai'r achosion busnes yn rhan fawr o'r gwaith

·         Byddai cyfarfodydd y dyfodol yn cynnwys tai

·         Bydd y cynllun gwaith yn datblygu dros amser

·         Bydd agendâu'n datblygu fel y bydd gwybodaeth ar gael.