Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Swyddog Craffu - 01792 636292 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cadarnhau Cynullydd

Cofnodion:

Cadarnhawyd y Cynghorydd Chris Holley fel Cynullydd y Panel Datblygu ac Adfywio ar gyfer 2023-24.

2.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

3.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Dim.

4.

Cofnodion pdf eicon PDF 332 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol.

5.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd y cwestiynau canlynol gan aelodau'r cyhoedd ac ymatebodd Lee Richards.

Cwestiwn 1 - Yng nghyfarfod y Panel Craffu Perfformiad Datblygu ac Adfywio ar 20 Mawrth roedd cyfeiriad at 'ymateb cadarnhaol' yn y cyfarfodydd ymgynghori. Nid yw hyn yn sôn am wrthwynebiad sylweddol mewn cyfarfodydd. A all yr agwedd hon gael ei chrybwyll?

 

YMATEB - "Mae cefnogaeth eithaf sylweddol i'r cynllun ac i'r holl gynlluniau, bydd rhywfaint o wrthwynebiad. Ond ymholiadau yn bennaf oedd y sylwadau gwrthwynebol a ddarparwyd. Darparwyd yr wybodaeth hon i ni gan Skyline gan nad y cyngor yw'r datblygwr yn yr achos hwn. Dim ond i atgoffa pawb mai'r cyfan rydym ni'n ei wneud yw galluogi a rhentu'r tir i Skyline. Felly, mae'r wybodaeth y maent wedi'i darparu a'r wybodaeth hon yn rhan o'u pecyn sef yr ymgynghoriad cyn cyflwyno cais. Mae'n cefnogi eu cais cynllunio, sy'n rhestru'r holl gwestiynau a godwyd yn ystod y cyfarfod a'r atebion fel rhan o'r digwyddiad ymgynghori. Roedd nifer o'r cwestiynau yn ymwneud â phethau fel beth yw'r prisiau a fydd yn berthnasol i'r cynllun, a chwestiynau ar fynediad ac ecoleg. Felly, dyna oedd y prif gwestiynau a ofynnwyd gan y gwahanol bartïon a oedd yn bresennol yn y digwyddiad."

 

Cwestiwn 2 - Dywedwyd wrthym yn yr ymgynghoriad bod y tocyn blynyddol a grybwyllwyd ar gyfer preswylwyr Abertawe yn berthnasol i daith gondola yn unig (a dyma’r hyn rwyf wedi ei weld yn cael ei hysbysebu). Nid oedd y prisiau ar gyfer 'atyniadau' eraill wedi'u pennu eto. A ellir gwneud hyn yn glir ar lefel graffu?

 

YMATEB - "Mae datganiad a ddarperir gan Skyline yn darllen - mae cynllun prisio yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd gyda'r bwriad o sicrhau y bydd pawb yn gallu mwynhau gwahanol agweddau ar yr atyniad. Er eu bod yn gweithio ar hwn ar hyn o bryd, maen nhw'n gobeithio gallu ei gyhoeddi a'i rannu â phawb yn fuan."

 

Cwestiwn 3 - Mae datganiadau i'r wasg yn dangos bod Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu £4 miliwn yn hytrach na £3 miliwn i'r cynllun.

 

YMATEB - "£4 miliwn ydyw mewn gwirionedd ac mae hynny wedi'i gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru - o'r £4 miliwn, mae £3 miliwn ohono yn arian grant ac mae £1 miliwn ohono’n fenthyciad".

 

6.

Y diweddaraf am Arena Abertawe pdf eicon PDF 237 KB

 

Y Cynghorydd Robert Francis-Davies – Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth

Lee Richards – Arweinydd Tîm Canol y Ddinas

Lisa Mart – Cyfarwyddwr Lleoliad Arena Abertawe

 

 

Cofnodion:

Roedd Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth, swyddogion a Lisa Mart o Arena Abertawe yn bresennol i drafod yr eitem. Gwnaed y pwyntiau canlynol -

·       Mae'r Arena wedi perfformio'n well na'r disgwyl ac wedi cyflawni lefel ddeiliadaeth o 78.9%, sy'n fwy na'r amcanestyniad o 65% yn y flwyddyn gyntaf.

·       Gwerthwyd 241,000 o docynnau ar gyfer digwyddiadau a chafwyd 74 o berfformiadau ym mlwyddyn un sy'n gyson neu'n uwch na lleoliadau mwy sefydledig eraill o faint tebyg. Er bod hyn yn llai na'r hyn a nodwyd yn y cynllun busnes, mae ffigurau deiliadaeth wedi bod yn uwch felly mae refeniw wedi cyfartaleddu.

·       Mae hyblygrwydd y lleoliad a chyflymder y newid drosodd rhwng perfformiadau wedi bod yn ased.

·       Cafwyd adborth cadarnhaol yn benodol ynghylch digwyddiadau cerddoriaeth, sain a chyfleusterau cefn y tŷ.

·       Mae'r heriau yn ystod y flwyddyn gyntaf wedi cynnwys costau cyfleustodau, rhwystrau bach, ymgyfarwyddo â thechnoleg/gweithrediad y lleoliad.

·       Mae'r gwasanaeth bar a threfniadau gadael y maes parcio wedi'u gwella ar ôl derbyn adborth, ond, yn gyffredinol, mae nifer y cwynion wedi bod yn isel.

·       Mae'r Arena yn gweithio mewn cydlyniant â lleoliadau lleol eraill ac mae ganddi berthynas gref gyda hwy, gan gynnwys Neuadd Albert, sy'n agor cyn bo hir.

·       Mae perfformwyr wedi rhoi adborth cadarnhaol gyda rhai perfformwyr yn dychwelyd.

·       Telir rhent i'r cyngor a thâl gwasanaeth ar gyfer Bae Copr yn ogystal â chyfran o werthiant y tocynnau ac elw o lolfeydd VIP. Mae hyn cyn rhannu'r elw maes o law.

·       Mae'r Arena wedi chwarae rôl allweddol wrth ddenu datblygwyr eraill i Abertawe.

 

7.

Adroddiad Monitro Rhaglenni/Prosiectau Adfywio pdf eicon PDF 203 KB

 

Y Cynghorydd Robert Francis-Davies – Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth

Phillip Holmes - Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas

Huw Mowbray – Rheolwr Strategol Datblygu ac Adfywio Ffisego

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad diweddaraf ar raglen/prosiectau adfywio i'r Panel. Rhoddodd swyddogion yr wybodaeth ddiweddaraf am y canlynol:

 

Bae Copr:

·       Mae cynnydd yn cael ei wneud i gwblhau'r gwaith.

·       Bydd y gwaith o baentio'r gwaith dur wedi'i gwblhau erbyn diwedd 2023.

·       Mae unedau masnachol yn agos at eu cwblhau. Mae diddordeb mawr wedi bod mewn gosod y rhain.

 

Adfywio Abertawe

·       Mae Urban Splash yn datblygu'r uwchgynllun yn St Thomas.

·       Yn yr Hafod mae Urban Splash wedi penodi penseiri i edrych ar yr uwchgynllun mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe.

·       Mae ceisiadau ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn aros am ganlyniadau yn fuan ac mae Comisiwn Dylunio Cymru wedi bod yn ymgysylltu â nhw.

 

Gogledd Abertawe Ganolog

·       Cafwyd ymgysylltu cadarnhaol â thenantiaid ar gyfer y swyddfeydd 350,000 troedfedd a cham 1 y dyluniadau sydd wedi'u cwblhau.

·       Mae cynnydd yn cael ei wneud gan gynnwys cynnal cyfarfodydd gyda chyllidwyr.

 

71-72 Ffordd y Brenin

·       Mae'r adeilad wedi cyrraedd lefel y 4ydd llawr a disgwylir iddo gael ei gwblhau'n brydlon.

·       Mae diddordeb gan ddarpar breswylwyr.

·       Mae adeilad Barclays cyfagos yn debygol o gael ei farchnata i'r sector preifat.

·       Bydd hyn yn ategu'r datblygiad bioffilig Hacer cyfagos.

·       Mae cyfleusterau parcio beiciau a gwefru beiciau trydan wedi'u cynnwys yn y gwaith adeiladu.

·       Mae trafodaethau'n cael eu cynnal ynglŷn â mynedfa ochr i mewn i Arcêd Picton.

 

Sgwâr y Castell

·       Mae tendrau contract yn cael eu dadansoddi a disgwylir i'r gwaith ddechrau ar y safle yn gynnar yn 2024.

·       Cafwyd arian gan Gyngor Abertawe ynghyd â Grant Llywodraeth Cymru drwy Drawsnewid Trefi.

 

Skyline

·       Mae'r cyngor yn aros am ganlyniad cofrestru tir ac mae Skyline yn paratoi ar gyfer y cais cynllunio.

 

Ailddatblygu Pwerdy Gwaith Copr yr Hafod

·       Mae hyn wedi'i gyflawni ac mae'r agoriad swyddogol ar fin digwydd.

 

Theatr y Palace

·       Mae'r datblygiad sector preifat hwn yn mynd rhagddo.

 

Cronfa Codi'r Gwastad – Cwm Tawe Isaf

·       Mae adroddiad diweddar Colliers yn dangos bod gan Abertawe botensial ar gyfer dros 300 o ystafelloedd gwestai. Mae diddordeb gan weithredwyr gwestai hefyd.

·       Amcangyfrifir y bydd y gwaith ar adeilad y labordy yn dechrau yr haf hwn.

 

8.

Adolygiad Blynyddol pdf eicon PDF 251 KB

Adolygiad o eitemau o fewn Cynllun Gwaith 2022-23.

Cofnodion:

Nododd y Panel y dogfennau adolygu blynyddol.

 

9.

Llythyrau pdf eicon PDF 228 KB

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd wrth y Panel am uno posib y Panel Craffu Perfformiad Gwella Gwasanaethau a Chyllid a'r Panel Craffu Perfformiad Datblygu ac Adfywio. Caiff hwn ei gynnig yng nghyfarfod nesaf Pwyllgor y Rhaglen Graffu ar 18 Gorffennaf ac os cytunir arno dyma fydd cyfarfod olaf y Panel Craffu Perfformiad Datblygu ac Adfywio.

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 3.36pm

 

Llythyr at Aelod y Cabinet - Buddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth pdf eicon PDF 191 KB