Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Swyddog Craffu  01792 636292

Media

Eitemau
Rhif Eitem

36.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau.

 

 

37.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Dim.

 

38.

Cofnodion pdf eicon PDF 325 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Cofnodion:

Cytunodd y Panel ar y cofnodion o gyfarfodydd blaenorol.

 

 

39.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran Graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan aelodau'r cyhoedd.

 

40.

Adroddiad Archwilio Cymru - Adfywio Canol Trefi pdf eicon PDF 176 KB

Gwahoddwyd:

Y Cynghorydd Robert Francis-Davies – Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth

Paul Relf – Rheolwr Datblygu Economaidd a Chyllid Allanol

 

Cofnodion:

Roedd Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth a Paul Relf, Rheolwr Datblygu Economaidd a Chyllid Allanol yn bresennol i drafod yr eitem hon.  Gwnaed y pwyntiau canlynol –

 

·       Mae adroddiad Archwilio Cymru yn myfyrio ar nifer o ddegawdau ac yn nodi anghenion a defnyddiau newidiol canol dinasoedd ar draws Cymru. Nid yw'r adroddiad yn ymdrin ag unrhyw beth oedd yn anhysbys neu'n anghyfarwydd i Aelodau a swyddogion y cyngor.

·       Mae'r cynnydd yng nghanol dinas Abertawe yn gadarnhaol o'i gymharu â dinasoedd eraill, ac mae uchelgais i Abertawe barhau i dyfu a datblygu.

·       Mae mwy a mwy o gynlluniau yn y sector preifat gyda chyllid ychwanegol i lenwi'r bwlch dichonoldeb a all fod yn gymysgedd o fenthyciadau a grantiau. Mae hyn yn helpu i leihau risg a galluogi buddsoddiadau yn y sector preifat.

·       Mae 95% o'r busnesau yn Abertawe'n microfusnesau, sy'n cael eu diffinio fel y busnesau hynny sy'n cyflogi llai na 250 o staff.

·       Mae angen newid canol y ddinas dros amser ac mae cael y cydbwysedd iawn yn allweddol. Wrth symud ymlaen bydd canol y ddinas yn darparu cymysgedd o ddefnyddiau gyda mannau hyblyg y gellir eu newid wrth i anghenion newid. Mae unedau llai wedi bod yn boblogaidd. Ychwanegwyd tai uwchben siopau gan ffurfio cymunedau newydd a chynyddu masnach.

·       Mae sianeli cyfathrebu gyda chyrff cyhoeddus yn bwysig gyda deialog ar draws pob sector yn rhoi ystyriaeth i fframweithiau caffael, yn enwedig pan fo adnoddau'n brin. Mae hyn yn caniatáu i benderfyniadau gael eu gwneud yn gyflym pan fo angen.

·       Mae canol y ddinas a'r canolfannau ardal yn gymwys am gymorth gan y grant creu lleoedd ac i greu Cynllun Cynefin. Mae gan Gynlluniau Cynefin dempled y cytunwyd arno ar gyfer llunio sy'n cymryd ymagwedd sy'n seiliedig ar weithredu.

·       Abertawe yw'r defnyddiwr mwyaf o'r Gronfa Benthyciadau Canol Trefi yng Nghymru 

·       Caiff Cynlluniau Camau Gorfodi eu creu gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, sy'n cefnogi penderfyniad cyn gorfodi.

·       Mae'r Gronfa Adferiad Economaidd hefyd wedi bod yn ffynhonnell cyllid defnyddiol ac mae'n cefnogi microfusnesau ar draws y sir.

·       Mae'r adroddiad archwilio'n tynnu sylw at y ffaith nad yw'r Polisi Canol Trefi yn Gyntaf wedi'i wreiddio'n llawn eto. Mae'r cyngor yn defnyddio Cynlluniau Cynefin i dynnu holl wahanol linynnau'r polisi hwn at ei gilydd. Mae hon yn daith barhaus i gadw'r holl bethau hyn yn gytbwys, i wrando ar yr hyn y mae pobl am ei gael a symud pethau ymlaen i'r cyfeiriad cywir.

·       Archwiliad Cymru Gyfan yw hwn, yr un cyntaf a gynhaliwyd ers tro yn y sector hwn. Byddai cymariaethau yn erbyn Awdurdodau Lleol eraill mewn perthynas â'r archwiliad yn ddefnyddiol ond nid ydynt ar gael.

·       Byddai canllawiau a strategaeth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Awdurdodau Lleol yn ddefnyddiol i liniaru'r ymagwedd anghyson ar draws Cymru, y sonnir amdano yn yr Adroddiad Archwilio.

·       Mae'r buddsoddiad sylweddol yn Abertawe yn unigryw ac mae angen ei drin felly, mae angen newid mawr ac mae angen gwario llawer o arian i gyflawni hyn.

 

41.

Adroddiad Monitro Rhaglenni/Prosiectau Adfywio pdf eicon PDF 203 KB

Gwahoddwyd:

Y Cynghorydd Robert Francis-Davies – Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth

     Phillip Holmes - Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas

Huw Mowbray – Rheolwr Strategol Datblygu ac Adfywio Ffisego

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad monitro rheolaidd diweddaraf ar y rhaglen / prosiectau adfywio i'r Panel, ar gyfer unrhyw sylwadau / safbwyntiau ar gynnydd a chyflawniadau. Rhoddodd Huw Mowbray, Rheolwr Strategol Datblygu ac Adfywio Ffisegol, ddiweddariadau perthnasol am y canlynol:

Bae Copr:

·       Mae gwaith i nodi mân broblemau’n cael ei gwblhau ar hyn o bryd gyda chostau'n cael eu talu gan y contractwr.

·       Mae gwerthiant tocynnau yn yr Arena wedi cynyddu i dros 200,000. Mae gwerthiannau’n gadarnhaol ac mae cynlluniau i ddod yn rhan o'r farchnad gynadleddau.

·       Mae penderfyniadau'n parhau ar Floc y Gogledd, mewn perthynas â'r paent ar y gwaith dur.

·       Mae’r lle a ddelir gan y lleoliad yn amrywio gan ddibynnu ar nifer y bobl sy'n eistedd neu'n sefyll.

·       Cafwyd problemau ariannol gyda'r gwesty fodd bynnag mae ganddo ddatblygwr yn awr. Mae benthyciad canol trefi wedi'i sicrhau i helpu i gyflwyno'r gwesty, a chaiff adroddiad ei gyflwyno i'r Cabinet maes o law.

·       Bydd gwestai eraill yn y ddinas yn helpu gwerthiannau tocynnau yn yr Arena yn y dyfodol. Adnewyddwyd y Marriott yn ddiweddar hefyd.

·       Mae'r bont newydd gyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr gynllunio.

·       Nodwyd gwaith cynnal a chadw ar gyfer y parc chwarae ac rydym yn aros am adnoddau.

 

Adfywio Abertawe:

·       Gan y bu’r cais i Gronfa Codi'r Gwastad yn aflwyddiannus, mae trafodaeth yn parhau â Llywodraeth Cymru ynghylch ffynonellau ariannu eraill. Bydd rownd arall o ymgeisio ar gyfer Cronfa Codi'r Gwastad.

 

Gogledd Abertawe Ganolog

·       Mae sgyrsiau'n mynd rhagddynt gydag Urban Splash ynglŷn â'r rhaglen gyflawni a'r strategaeth ar gyfer cam cyntaf y datblygiad.

·       Mae trafodaethau'n mynd rhagddynt â Llywodraeth Cymru ynglŷn ag elfen fach o gyllid llenwi bwlch lle byddai mwyafrif y cyllid yn cael ei ddarparu gan y sector preifat drwy gwmni Urban Splash.

·       Mae ceisiadau i'r Gronfa Ffyniant Gyffredin a'r gronfa Trawsnewid Trefi hefyd yn cael eu datblygu.

 

 71-72 Ffordd y Brenin:

·       Mae'r gwaith adeiladu'n datblygu'n dda. Mae'r gwaith adeiladu bellach wedi cyrraedd lefel y llawr cyntaf.

·       Mae 25,000 troedfedd sgwâr wedi’i osod ar hyn o bryd, ac mae gwaith yn mynd rhagddo i gaffael asiantiaid gosod a brandio i farchnata'r gweddill.

·       Cafwyd rhai problemau yn y gadwyn gyflenwi ond mae gan y cyngor gontract pris sefydlog, a gwneir cyfaddawdau gyda'r datblygwr pan fo'n briodol.

 

Ailddatblygiad y Ganolfan Ddinesig.

·       Mae cyfarfodydd yn cael eu cynnal gyda Cadw ynghylch y posibilrwydd o wneud y Ganolfan Ddinesig yn adeilad rhestredig.

·       Mae Urban Splash yn gweithio ar ddyluniadau.

 

TAN 15 Datblygu a Pherygl o Lifogydd:

·       Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal ymgynghoriad eto ac mae'r drafft gwreiddiol wedi’i atal.

·       Bu rhai newidiadau sylweddol yn ymagwedd Llywodraeth Cymru ac mae ymdeimlad cadarnhaol y bydd y drafft newydd yn sicrhau cydbwysedd gwell rhwng perygl llifogydd a datblygiad.

·       Bydd TAN 15 yn effeithio ar y trefi a’r dinasoedd arfordirol niferus yng Nghymru ac nid Abertawe yn unig.

·       Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a swyddogion cynllunio wedi gwneud nifer o argymhellion.

 

Skyline

·       Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus cychwynnol wedi'i gwblhau gyda nifer mawr o bobl yn pleidleisio gydag ymateb cadarnhaol ar y cyfan. Bydd adroddiadau ymgynghori'n cael eu cyflwyno fel rhan o'r cais cynllunio gyda nod o gyflwyno'r cais ym mis Gorffennaf 2023.

·       Yn ogystal â grant o £3 miliwn gan Lywodraeth Cymru, mae trafodaeth am gyllid yn parhau gyda Skyline. Mae Skyline yn cyfrannu tua £36m, fodd bynnag er mwyn bodloni eu cyfradd enillion fewnol, efallai y bydd angen buddsoddiad pellach.

·       Bydd pàs blynyddol i breswylwyr Abertawe ar gael am £40.

·       Mae disgwyl i'r gwaith adeiladu ddechrau tua Rhagfyr 2023/Ionawr 2024.

·       Mae'r adran Briffyrdd yn parhau i edrych ar opsiynau ar gyfer y safle parcio a theithio ac yn parhau i gael trafodaethau parhaus â'r stadiwm.

 

Ailddatblygu Pwerdy Gwaith Copr yr Hafod:

·       Mae Penderyn wedi meddiannu'r safle'n rhannol. Dechreuodd y gwaith gosod unedau ym mis Chwefror.

·       Disgwylir penderfyniad ynghylch cyllid pellach i dalu costau ychwanegol cyn bo hir.

 

Adeilad y labordy:

·       Mae hyn yn barod i'w adnewyddu. Gan fod y cais i Gronfa Codi'r Gwastad wedi'i gadarnhau, mae trafodaethau'n cael eu cynnal i symud y datblygiad hwn yn ei flaen.

 

Cwm Tawe Isaf

·       Mae timau'n dechrau cael eu sefydlu ar gyfer y datblygiad hwn a chanddo ddyddiad cwblhau amcangyfrifedig o fis Mawrth 2023.

·       Bydd rhagor o fanylion am y datblygiad hwn yn cael eu darparu maes o law.

 

Theatr y Palace.

·       Y dyddiad cwblhau amcangyfrifedig yw diwedd 2023.

·       Mae'r rhaglen yn dal i gael ei datblygu fodd bynnag y targed ar gyfer ei chwblhau yw Rhagfyr 23/Ionawr 24.

·       Mae'r datblygiad hwn wedi cael adborth cadarnhaol gan yr Ymddiriedolaeth Theatrau.

·       Mae Tramshed wedi cytuno i brydlesu'r adeilad.

 

Mewnfuddsoddi

·       Cynhaliodd y cyngor ddiwrnod gyda Thîm Buddsoddi Llywodraeth Cymru er mwyn tynnu sylw at gynnig Abertawe.

 

Pontŵn y Gwaith Copr:

·       Mae canllawiau ochr yn cael eu gosod ar hyn o bryd. Bydd y gwaith o osod goleuadau ar hyd rhan o'r llwybr troed yn cael ei gwblhau cyn bo hir.

·       Mae’r brydles ar Ystâd Dug Beaufort wedi’i chwblhau.

·       Mae ymchwiliadau safle'n cael eu cynnal.

·       Mae gwaith arolygu wedi cychwyn ar y rhodfa tuag at ardal Yr Hafod.

·       Mae tri phontŵn arall hefyd yn cael eu datblygu. Mae Urban Splash yn datblygu un ar ochr St Thomas o'r afon, a bydd dau bontŵn arall ar y Stryd Fawr a ger y Stadiwm. Nid oes unrhyw amserlen ar gyfer y rhain ar hyn o bryd a byddant yn rhan o gam datblygu hwyrach.

·       Mae gwaith atgyweirio ar y Bont Wrthbwys gerllaw yn mynd yn ei flaen.

 

42.

Cynllun Gwaith 2022/23 pdf eicon PDF 234 KB

Cofnodion:

Nododd y panel y Cynllun Gwaith.

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.31am

 

Llythyr at Aelod y Cabinet - Buddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth pdf eicon PDF 228 KB