Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Swyddog Craffu  01792 636292

Media

Eitemau
Rhif Eitem

8.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau.

 

9.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

10.

Cofnodion pdf eicon PDF 147 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol.

11.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran Graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan aelodau'r cyhoedd.

 

12.

Manwerthu yng Nghanol y Ddinas pdf eicon PDF 498 KB

Gwahoddwyd:

Y Cynghorydd Rob Stewart – Aelod y Cabinet dros Economi, Cyllid a Strategaeth (Arweinydd)

Y Cynghorydd Robert Francis-Davies Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth

Paul Relf – Rheolwr Datblygu Economaidd a Chyllid Allanol

Russell Greenslade – Prif Weithredwr, Swansea BID

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Rob Stewart, Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth, Paul Relf, Rheolwr Datblygu Economaidd a Chyllid Allanol a Russell Greenslade, Prif Weithredwr BID Abertawe'n bresennol i drafod manwerthu yng nghanol y ddinas a chodwyd y pwyntiau canlynol:

·       Yn gyffredinol, mae canol y ddinas yn gorberfformio er gwaethaf yr heriau dros y blynyddoedd diwethaf.

·       Mae nifer yr ymwelwyr yn cynyddu ond nid yw wedi dychwelyd i'r lefelau a welwyd yn 2019.

·       Bydd dadansoddiad data pellach o nifer yr ymwelwyr yn ddefnyddiol er mwyn ystyried y rhesymau pam a'r arian a wariwyd gan ymwelwyr â chanol y ddinas.

·       Ystyrir cyfleoedd ar gyfer cyllid lle bo modd, fodd bynnag mae llai o arian ar gael heb gyllid yr UE.

·       Mae lleoliadau siopa y tu allan i'r dref ac ar-lein yn cyflwyno her ar gyfer canol y ddinas felly mae'n bwysig creu cymysgedd o siopa, bwytai, adloniant a llety (myfyrwyr a phreifat) o ansawdd uchel.

·       Mae cynlluniau ar gyfer canol y ddinas yn cynnwys cynlluniau isadeiledd gwyrdd fel ffasâd Gwesty'r Dragon.

·       Mae Arena Abertawe wedi cyfrannu at gynnydd yn nifer yr ymwelwyr ac mae arwyddion cynnar y bydd yn perfformio'n dda. Rhoddir ystyriaeth fanylach i’r Arena i’r Panel pan fydd y flwyddyn gyntaf o fasnachu wedi dod i ben.

·       Ceir ffocws lle bo hynny'n bosib ar ailddatblygu'n hytrach na dymchwel rhai adeiladau hanesyddol, er enghraifft Theatr y Palace a Sefydliad Townhill.

·       Mae Marchnad Abertawe'n llwyddiannus o hyd yn dilyn peth gwaith adnewyddu ac mae bron wedi'i llenwi.

·       Mae 70 o fusnesau newydd wedi agor yn y 18 mis diwethaf.

·       Mae gwariant yng nghanol y ddinas yn gadarnhaol ac ni chafwyd unrhyw adroddiadau negyddol o'r 814 o fusnesau sydd yno.

 

CYTUNWYD ar y canlynol:

 

1)    Caiff manwerthu yng nghanol y ddinas ei drafod gyda'r Panel unwaith eto ymhen 6 mis.

2)    Rhoddir ffocws i’r Arena ar ôl mis Mawrth 2023, pan fydd 12 mis o fasnachu wedi dod i ben.

 

13.

Adroddiad Monitro Rhaglenni/Prosiectau Adfywio pdf eicon PDF 204 KB

Gwahoddwyd:

Y Cynghorydd Robert Francis-Davies – Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth

Huw Mowbray – Rheolwr Strategol Datblygu ac Adfywio Ffisegol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad monitro rheolaidd diweddaraf ar y rhaglen/prosiectau adfywio i'r Panel, ar gyfer unrhyw sylwadau/safbwyntiau ar gynnydd a chyflawniadau. Rhoddodd Huw Mowbray, Rheolwr Strategol Datblygu ac Adfywio Ffisegol, ddiweddariadau perthnasol am y canlynol:

 

Bae Copr:

·       Mae'r Arena ar agor ac yn masnachu’n dda.

·       Mae rhai rhwystrau bach yn bodoli o hyd ond bwriedir ymdrin â'r rhain erbyn diwedd y flwyddyn.

 

Adfywio Abertawe, gan gynnwys Gogledd Abertawe Ganolog:

·       Mae Gogledd Abertawe Ganolog a safle'r Ganolfan Ddinesig wedi cwblhau cam un ac maent yn symud ymlaen at gam dau, sef y dyluniad manwl.

·       Bydd manylion pellach ar gyllid yn dilyn.

·       Mae gwaith yn mynd rhagddo ar y Ganolfan Sector Cyhoeddus wrth i ddyluniadau manwl gael eu datblygu.

·       Bydd swyddfeydd ychwanegol yn cyfrannu at ragor o ymwelwyr.

 

71/72 Ffordd y Brenin:

·       Gwneir cynnydd gyda hwn wrth i'r adeilad godi yn uwch na lefel y ddaear yn y flwyddyn newydd.

·       Mae'r rhagolygon ar gyfer gosodiadau'n datblygu ac mae'r strategaeth rheoli adeiladau’n cael ei datblygu.

·       Mae'r gwaith datblygu ar adeilad Barclays wedi’i ohirio oherwydd bod y prisiau tendro a ddychwelwyd yn uwch na'r disgwyl.

 

Datblygu a Pherygl o Lifogydd TAN15:

·       Mae'r drafodaeth â Llywodraeth Cymru ynghylch y risg ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol a achosir gan y geiriad yn TAN15 yn parhau.

·       Rhoddwyd caniatâd cynllunio i lenwi tanffordd Oystermouth Road.

 

Wind Street:

·       Mae rhai rhwystrau bach yn bodoli o hyd.

 

Sgwâr y Castell:

·       Mae penderfyniad cynllunio ar fin cael ei wneud.

·       Gwahoddir cynigion am dendro'n fuan.

·       Bydd cyllid gan Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru'n cyfrannu tuag at y gost.

 

Hwb Cymunedol (hen adeilad BHS):

·       Gwahoddir tendrau ac mae cynlluniau cam 4 wedi'u cwblhau.

 

Adleoli’r Ganolfan Ddinesig:

·       Bloc swyddfeydd newydd yn ardal Dewi Sant (Canolfan Sector Cyhoeddus) i’w gwblhau yn 2025.

 

Prosiect Skyline:

·       Mae hwn yn gwneud cynnydd da ac mae’r gwaith o gydosod y tir bron wedi'i orffen ac mae'r cofrestriadau tir wedi'u cyflwyno.

 

Pontŵn yn y Gwaith Copr:

·       Mae'r caniatâd adeilad rhestredig wedi'i gadarnhau.

·       Mae trafodaethau â'r ystad Badminton yn parhau.

·       Mae'r broses gwerthuso tendrau yn mynd rhagddo ar gyfer y gwaith cyflenwi a gosod.

 

Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop Ffordd y Brenin:

·       Mae angen dod i gytundeb â WEFO (Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru) yn dilyn hepgoriad ailddatblygiad hen eiddo Barclays.

 

Ailddatblygu Pwerdy Gwaith Copr yr Hafod:

·       Disgwylir i'r gwaith adeiledd a chraidd gael ei gwblhau ym mis Tachwedd 2022.

·       Fe'i trosglwyddir i gwmni Penderyn yn fuan.

·       Mae'r adran Priffyrdd yn cynnal astudiaeth dichonoldeb ar gyfer symud y safle parcio a theithio.

 

Theatr y Palace:

·       Disgwylir i’r gwaith gael ei gwblhau ym mis Gorffennaf/Awst 2023.

CYTUNWYD ar y canlynol:

 

1)    Cysylltir â'r swyddogion Priffyrdd perthnasol i gael gwybodaeth bellach am symud safle parcio a theithio'r Hafod.

2) Cynhelir sesiwn gaeedig ar ddiwedd y cyfarfod nesaf i drafod yr eitemau canlynol -

- Bae Copr, y maes parcio ger yr Arena

- Skyline, manylion pryniannau tir

- y Pontŵn, manylion pryniannau tir

 

 

14.

Llythyrau pdf eicon PDF 217 KB

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw sylwadau ynghylch llythyr y cyfarfod diwethaf.

 

15.

Cynllun Gwaith 2022/23 pdf eicon PDF 231 KB

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw sylwadau ynghylch y cynllun gwaith.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 198 KB