Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Swyddog Craffu  01792 636292

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau

 

 

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 356 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y panel gofnodion o gyfarfodydd blaenorol a chytunwyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Mawrth 2022 yn gofnod cywir o'r cyfarfod. 

 

Nodwyd yr ymatebion i'r ymholiadau a godwyd ar 8 Mawrth 2022 hefyd.

 

 

4.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran Graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan aelodau'r cyhoedd.

 

 

5.

Rôl y Panel Perfformiad pdf eicon PDF 159 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Panel Rôl y Panel Perfformiad fel un o'r chwe Phanel Perfformiad a sefydlwyd gan Bwyllgor y Rhaglen Graffu yn benodol i edrych ar waith Datblygu ac Adfywio'r cyngor. Dywedodd y Cadeirydd y gallai hyn fod yn arbennig o ddefnyddiol i aelodau newydd o'r Panel i ddeall sut mae'r Panel yn gweithio. 

 

 

6.

Adroddiad Monitro Rhaglenni/Prosiectau Adfywio pdf eicon PDF 106 KB

Robert Francis-Davies – Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth

Phil Holmes – Pennaeth Cynllunio ac Adfywio’r Ddinas

Huw Mowbray – Rheolwr Strategol Datblygu ac Adfywio Ffisegol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad monitro rheolaidd diweddaraf ar y rhaglen / prosiectau adfywio i'r Panel, ar gyfer unrhyw sylwadau / safbwyntiau ar gynnydd a chyflawniadau. Rhoddodd Huw Mowbray, Rheolwr Strategol Datblygu ac Adfywio Ffisegol, ddiweddariadau perthnasol am y canlynol:

 

Bae Copr:

·         Mae'r rhan breswyl o Fae Copr bellach wedi'i chwblhau ac mae preswylwyr bellach yn byw yno.

·         Mae presenoldeb Ceidwaid Canol y Ddinas yno wedi cynyddu ac maent hefyd yn gallu defnyddio teledu cylch cyfyng. Bydd heddlu hefyd yn trefnu adnoddau ychwanegol ar gyfer canol y ddinas o fis Hydref.

 

Adfywio Abertawe:

·         Cyflwynwyd cais Codi'r Gwastad ar gyfer canol y ddinas y bwriedir iddo gael ei gymeradwyo ym mis Hydref.

·         Caiff Cam 1 (dichonoldeb) ei gwblhau ar gyfer 3 safle ym mis Medi/Hydref 2022. Mae'r 3 safle hwn yng ngogledd Abertawe Ganolog (ail gam yr arena), y Ganolfan Ddinesig a St Thomas. Byddwn hefyd yn edrych ar yr Hafod unwaith y bydd cais canol y ddinas wedi symud ymlaen i gam 2 (dylunio a chyfreithiol).

 

71/72 Ffordd y Brenin:

·         Mae'r prosiect yn symud ymlaen ac ar y trywydd iawn i’w gwblhau ym mis Hydref 2023.

·         Caiff y prif denant cyntaf (25,000 troedfedd sgwâr) ei gyhoeddi yn ystod y misoedd nesaf.

 

Wind Street:

·         Mae Wind Street wedi’i chwblhau i raddau helaeth heblaw am ambell rwystr bach. Mae Tîm Rheoli Canol y Ddinas yn trafod â thenantiaid Wind Street ynghylch eu celfi stryd. 

 

Datblygu a Pherygl o Lifogydd TAN15:

·         Mae'r cyngor wedi bod yn cyflawni Asesiadau Canlyniadau Llifogydd i edrych ar yr hyn y mae angen ei newid. Mae Cyngor Abertawe wedi cyfrannu gyda chynghorau eraill i awgrymu rhai newidiadau i'r ddogfen TAN15 maes o law.

 

Sgwâr y Castell:

·         Cyflwynwyd cais cynllunio ar 2 Awst 2022. Mae'r cyngor bellach yn edrych ar y broses dendro. O'r tendr, caiff contractwr ei gyflogi i gwblhau gwaith tirlunio sylweddol gyda pheth gwaith i'r adeiladau. Ariennir y cynllun hwn gan y cyngor gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru.

 

Strategaeth Ddigidol a Datblygu'r Cynllun:

·         Mae oedi gyda'r ganolfan ddata newydd o ganlyniad i broblemau adnoddau a llwyth gwaith.

 

Hwb Cymunedol:

·         Cwblhawyd y broses dendro ar gyfer y datblygiad hwn a rhoddwyd y contract i Keir. Byddwn bellach yn canolbwyntio ar ddarpariaeth.

 

Symud y Ganolfan Ddinesig

·         Gobeithir cwblhau’r datblygiad yn ystod gwanwyn 2025.

·         Oherwydd y cynnydd yn nifer y staff dros y 2 flynedd ddiwethaf bydd angen 2 fetr sgwâr o le ychwanegol yn adeilad newydd Gogledd Abertawe Ganolog.

·         Rhagwelwyd y byddai ystafell gyfrifiaduron Neuadd y Ddinas yn cael ei chwblhau  ym mis Mawrth 2023 ond mae amheuaeth ynghylch hyn yn awr. Bydd effaith yr oedi hefyd yn effeithio ar ddatgomisiynu'r Ganolfan Ddinesig.

·         Ni chaiff y Ganolfan Ddinesig ei dymchwel a bydd yn seiliedig ar ddatblygiad presennol yn Plymouth o'r enw Royal William Yard. Bydd y safle'n un defnydd cymysg a fydd yn cynnwys gwestai, manwerthu, preswyl a hamdden.

 

Prosiect Skyline:

·         Mae'r prosiect hwn yn symud ymlaen yn gyflym ac mae 2 o’r 3 gofyniad crynhoi tir wedi'u cwblhau.

·         Mae Skyline wedi sicrhau caniatâd y bwrdd i ddweud wrth dîm technegol i symud y prosiect yn ei flaen.

 

Y Fargen Ddinesig:

·         Caiff adolygiad sicrwydd Gateway Llywodraeth Cymru ei gynnal ym mis Tachwedd.

·         Diweddarwyd achos busnes y Fargen Ddinesig i adlewyrchu'r cynnydd a wnaed. Cyflwynir hyn i Lywodraeth Cymru dros yr wythnosau nesaf.

 

Pier y Gorllewin/Bae Abertawe:

·         Ceisiwyd cyngor ymgynghoriaeth arbenigol i archwilio’r difrod a wnaed i'r cynefin ac i wneud argymhellion priodol ar opsiynau lliniaru a gorfodi.

 

Benthyciad Trawsnewid Trefi:

·         Mae cais am gytundeb mewn egwyddor i ddefnyddio benthyciad ariannol ar gyfer gwesty ar safle'r arena yn cael ei ystyried gyda Llywodraeth Cymru.

 

Pontŵn yn y Gwaith Copr:

·         Paratowyd dogfennau tendro ar gyfer caffael cyflenwi a gosod y pontŵn a ddisgwylir erbyn 31 Awst. Rhaid bod caniatâd cynllunio’n cael ei roi cyn penodi cyflenwr.  

·         Rhagwelir y bydd y pwyllgor cynllunio'n penderfynu ar gynllunio ym mis Hydref 2022.

 

Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop Ffordd y Brenin:

·         Mae cynllun busnes diweddaredig yn cael ei baratoi ar gyfer Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru ar gyfer mis Mawrth 2023.

 

Ailddatblygu Pwerdy Gwaith Copr yr Hafod:

·         Mae'r gwaith yn y Pwerdy yn dod i ben a bydd y broses o drosglwyddo i Penderyn Whisky yn digwydd yn syth gyda'r costau cynhyrchiu’n uwch o lawr na’r hyn a gynlluniwyd yn wreiddiol.

 

Cytunwyd ar y canlynol:

 

1)    Trefnir trafodaeth a fydd yn canolbwyntio ar fanylion datblygiad Sgwâr y Castell ar gyfer cyfarfod y Panel yn y dyfodol.

2)    Gofynnir i swyddog(ion) arweiniol perthnasol am wybodaeth ynghylch yr oedi i symud y Ganolfan Ddata i Neuadd y Ddinas a'r goblygiadau ar gyfer gwasanaethau digidol y cyngor.

 

7.

Cynllun Gwaith Drafft 2022/23 pdf eicon PDF 128 KB

Cofnodion:

Nododd y Panel ddyddiadau/amseroedd cyfarfodydd y dyfodol, a fyddai'n cael eu cynnal bob deufis, ac ystyriwyd cynllun drafft ar gyfer y cyfarfodydd hyn.  Byddai adroddiad y Rhaglen Adfywio/Monitro Prosiectau yn eitem sefydlog ar bob agenda gan adael lle ar gyfer trafodaeth sy'n canolbwyntio ar bynciau o ddiddordeb a phryder penodol. 

 

Cytunwyd ar y canlynol:

 

1)    Caiff y cynllun gwaith drafft ar gyfer 2022/23 ei dderbyn;

2)    Byddai'r cyfarfod nesaf yn canolbwyntio ar Fanwerthu/Datblygiad yng nghanol y ddinas;

3)    Trefnir trafodaeth ar gynnydd go ran Datblygiadau’r Blaendraeth/Strategaeth Bae Abertawe a Chynllun Rheoli Cyrchfannau, mewn perthynas â Thwristiaeth a Hamdden ar gyfer cyfarfod y Panel ym mis Ionawr; a

4)    Bydd y Panel yn ailedrych ar brosiectau, 12 mis ar ôl eu cwblhau, i ystyried eu heffeithlonrwydd a'u llwyddiant, efallai gyda sesiwn gychwynnol ym mis Gorffennaf 2023 a ddylai gynnwys myfyrio ar Arena Abertawe.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.18am

 

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 217 KB