Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams

Cyswllt: Scrutiny Officer - 07980757686 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

42.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

Y Cynghorydd Paxton Hood-Williams – Cofnod Rhif48 – Datganodd y Cynghorydd Paxton Hood-Williams gysylltiad personol fel Aelod o Grŵp Gweithredu Lleol Rhaglen Datblygu Gwledig Abertawe.

 

43.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ddatganiadau.

44.

Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol pdf eicon PDF 317 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Cofnodion:

Ystyriodd y panel gofnodion o gyfarfodydd blaenorol a chytunwyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Ionawr 2022 yn gofnod cywir o'r cyfarfod.

45.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan aelodau'r cyhoedd.

46.

Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol De-orllewin Cymru pdf eicon PDF 254 KB

Rob Stewart - Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth (yr Arweinydd)

Cllr Robert Francis-Davies – Aelod y Cabinet - Buddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth

Phil Homes – Pennaeth Cynllunio ac Adfywio’r Ddinas

Clare James - Rheolwr Datblygu Economaidd

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Panel adroddiad ar Gynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol De-orllewin Cymru, a gymeradwywyd yn ddiweddar gan y Cabinet (20 Ionawr).

 

Roedd Aelodau'r Cabinet / Swyddogion yn bresennol i friffio'r Panel a chymryd cwestiynau ar y Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol newydd a fydd yn disodli Strategaeth Adfywio Economaidd Dinas-ranbarth Bae Abertawe 2013 fel dogfen polisi adfywio economaidd gyffredinol y cyngor.

 

Nodwyd y bydd y Cynllun Cyflawni newydd yn cael ei fabwysiadu / berchenogi a'i oruchwylio gan Gyd-bwyllgor Corfforaethol newydd De-orllewin Cymru. Bydd Cyfarwyddwyr Adfywio yn cadw golwg ar gynnydd a byddant yn gyfrifol am ddatblygu achosion busnes, sicrhau buddsoddiad a sicrhau darpariaeth ar ran y Cyd-bwyllgor.

 

Trafododd Phil Holmes, Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas, yr adroddiad yn fanwl gyda'r aelodau i sicrhau ymwybyddiaeth a dealltwriaeth, a gwahodd sylwadau. Amlygodd y canlynol:

 

·       Mae'r cyd-destun economaidd a pholisi wedi newid yn sylweddol yng Nghymru a'r DU ers 2013, yn enwedig yng ngoleuni Brexit ac effaith pandemig COVID-19 yn ogystal â'r ffocws datblygol ar fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, a bod y dirwedd ranbarthol hefyd wedi newid gyda dechreuad Cyd-bwyllgorau Corfforaethol a pharatoi Fframweithiau Economaidd Rhanbarthol newydd gan Lywodraeth Cymru, sy'n nodi gweledigaethau a blaenoriaethau lefel uchel ar gyfer pob rhanbarth yng Nghymru.

·       Mae Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol newydd De-orllewin Cymru, a ddatblygwyd ar y cyd rhwng y pedwar cyngor yn y rhanbarth ac mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, yn ymateb i'r amgylchiadau newidiol hynny gyda Chynllun sy'n addas ar gyfer y dyfodol.

·       Gyda chymorth ymgynghorwyr arbenigol, mae'r Cynllun yn seiliedig ar ymchwil helaeth ac ymgynghori ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, ac ystyried y cyd-destun polisi strategol ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol.

·       Mae'r Cynllun yn cyd-fynd â Fframwaith Economaidd Rhanbarthol (FfERh) newydd Llywodraeth Cymru ac mae'n darparu haen pellach o fanylion islaw'r FfERh, gan amlinellu'r amcanion a'r camau gweithredu a fydd yn cyflawni yn erbyn gweledigaeth lefel uchel y FfERh.

·       Mae'r Cynllun yn nodi 'map llwybr' uchelgeisiol ar gyfer datblygu economi'r rhanbarth dros y deng mlynedd nesaf, gan nodi blaenoriaethau ar gyfer ymyrryd a disgrifio sut y gall busnesau, llywodraeth, addysg, mudiadau gwirfoddol / cymunedol, mentrau cymdeithasol a phartneriaid eraill gydweithio i'w cyflwyno.

·       Bu cynnydd da ers 2013 gydag 20,000 o swyddi ychwanegol wedi'u creu yn y rhanbarth, gwella sgiliau, twf mewn busnes a gwell gweithgarwch economaidd sydd wedi helpu i gau'r bwlch cynhyrchiant gyda'r DU. Ond er gwaethaf enillion, mae heriau o hyd gyda chrynoadau o anfantais yn y rhanbarth, a phroblemau sy'n effeithio ar fuddsoddi i'r ardal, sy'n golygu bod y bwlch yn dal i fod yn sylweddol.

·       Fodd bynnag, mae'r Cynllun newydd yn canolbwyntio ar gryfderau ac asedau'r rhanbarth, a manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd gan ddefnyddio'r cryfder hwnnw, e.e., potensial ynni'r rhanbarth, cysylltiadau prifysgol-ddiwydiannol, hunaniaeth ddiwylliannol gref, asedau amgylcheddol a chynnig ansawdd bywyd. Nod y Cynllun yw adeiladu ar y cryfderau a'r cyfleoedd rhanbarthol unigryw hyn i ddatblygu economi de-orllewin Cymru sy'n fwy llewyrchus a chadarn.

·       Mae gan y Cynllun dri 'uchelgais' allweddol, wedi'u hategu gan dair Cenhadaeth ategol, a fydd yn llywio gweithgarwch dros y deng mlynedd nesaf:

Uchelgeisiau:

-        Cadarn a chynaliadwy

-        Mentrus ac uchelgeisiol

-        Cytbwys a chynhwysol

 

Cenadaethau:

 

-        Cenhadaeth 1: Sefydlu De-orllewin Cymru fel arweinydd y DU ym maes ynni adnewyddadwy a datblygu economi sero-net: Bwrw ymlaen â phrosiectau mawr y rhanbarth sy'n gysylltiedig ag ynni a gyrru'r manteision drwy'r rhanbarth (drwy ddatgarboneiddio diwydiannol, cyfleoedd cadwyn gyflenwi, arloesi sy'n gysylltiedig â phrifysgolion, etc).

-        Cenhadaeth 2: Adeiladu sylfaen fusnes gref, gadarn ac wedi'i gwreiddio: Deall a thyfu'r stoc fusnes, cefnogi entrepreneuriaeth gymdeithasol a masnachol eang, creu cadwyn gyflenwi gryfach a rhwydweithiau arloesi, gan wneud cymorth y sector cyhoeddus yn gynaliadwy; hybu mabwysiadu a lledaenu technoleg.

-        Cenhadaeth 3: Tyfu a chynnal y cynnig 'profiad': Cysylltu ansawdd amgylcheddol, ansawdd bywyd a chymeriad cymunedol i greu rhanbarth sy'n cadw ac yn denu talent a buddsoddiad, a hyrwyddo hyn yn gyson ac yn gadarn i'r byd y tu allan.

 

·       Mae'r Cynllun yn nodi rhai meysydd gweithredu allweddol cychwynnol i'w cyflawni yn erbyn yr uchelgeisiau a'r cenadaethau. Bydd y camau gweithredu hyn yn sail i ddogfen cynllun gweithredu 'byw' a fydd yn cael ei hadolygu'n rheolaidd gan bartneriaid rhanbarthol, a bydd yn esblygu i gynnwys cynigion buddsoddi newydd wrth iddynt ddod i'r amlwg. O fewn hyn, rhagwelir nifer o brosiectau lleol a rhanbarthol y bydd rhai ohonynt yn ymwneud â gwella isadeiledd strategol a rhai'n ymwneud â buddsoddiad mawr.

·       Disgwylid y byddai Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru yn cyfarfod ym mis Mawrth i gymeradwyo'r Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol.

 

Roedd y cwestiynau a'r drafodaeth yn canolbwyntio ar y canlynol:

 

·       Graddau'r ymgynghori a gynhaliwyd ac ymchwil i'r farchnad – nodwyd y rôl a chwaraeir gan ymgynghorwyr datblygu economaidd blaenllaw a'r defnydd o ddulliau ar-lein a oedd yn effeithiol ac yn hygyrch, gan ddefnyddio modelau gwybodaeth a rhagweld, setiau data etc.

·       Pwysigrwydd cysylltiadau trafnidiaeth rhanbarthol a gwaith sy'n mynd rhagddo i ddatblygu hyn – nodwyd y cynnydd a wnaed ar Brosiect Metro Bae Abertawe, a'r ystyriaeth barhaus a roddir i orsaf reilffordd Parcffordd Abertawe a'r manteision y gallai hyn eu cael i'r ardal. Clywodd Aelodau'r Panel y byddai Cam 1 y prosiect Metro yn cynnwys y rhwydwaith / llinellau presennol, gwaith uwchraddio etc., a byddai Cam 2 yn canolbwyntio ar linellau newydd, e.e., rheilffordd ysgafn.

·       Croesawodd aelodau'r panel y genhadaeth i ganolbwyntio ar ynni adnewyddadwy a datblygu economi sero-net. Nodwyd yr ystod eang o brosiectau ac asedau ynni presennol a rhai sy'n datblygu. Codwyd pwysigrwydd denu ymwelwyr i'r ardal, fel eco-dwristiaeth, hefyd a theimlwyd nad oedd hyn efallai’n cael ei bwysleisio digon mewn cynlluniau. Nodwyd bod Cenhadaeth 3 yn cydnabod pwysigrwydd natur a bioamrywiaeth yng nghynnig a phrofiad Abertawe ac yn cydnabod atyniad amgylchedd naturiol Abertawe i ymwelwyr, ar ffaith ei fod yn darparu cyfle ar gyfer prosiectau perthnasol i gefnogi hyn.

·       Dibyniaeth economi De-orllewin Cymru ar dwristiaeth, a'i chynaliadwyedd a'i chadernid. Roedd hefyd yr her o gydbwyso'r amgylchedd naturiol a datblygiad yn y rhanbarth, a all yn aml fod yn densiynau sy'n cystadlu â'i gilydd yn yr awydd am gynnydd economaidd.

·       Nododd y perfformiad o ran creu swyddi newydd yn y rhanbarth fod 322,000 o swyddi yn y rhanbarth erbyn 2019, sef cynnydd o 20,000 ar ffigur 2013. Cydnabuwyd bod hyn yn drawiadol a gofynnodd aelodau'r Panel am ddadansoddiad ystyrlon o'r 20,000 o swyddi hyn er mwyn deall o ble y daeth y twf, e.e., sectorau penodol. Cytunodd Pennaeth y Gwasanaeth i ddarparu ymateb ysgrifenedig.

·       Cysylltiadau rhwng y cynlluniau rhanbarthol a chenedlaethol, a sut mae'r Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol yn cystadlu â Chaerdydd / rhanbarthau cyfagos. Tynnwyd sylw'r Panel at y ffaith bod amseriad y cynllun rhanbarthol yn golygu ei fod yn gallu cyd-fynd â FfERh Llywodraeth Cymru.

·       A oes gan y rhanbarth fynediad at ffrydiau ariannu codi'r gwastad / adferiad y DU, e.e., arian yn benodol ar gyfer adfer ardaloedd arfordirol / glan môr, neu a oedd cyllid ar wahân ar gyfer Cymru. Nodwyd nad oedd y cynllun rhanbarthol yn cael ei arwain gan y cyllid sydd ar gael, sydd yn ei dro’n llunio prosiectau, ond yn hytrach yn cadarnhau’r hyn sydd ei angen yn yr ardal a sut y gall cyllid wedyn gyflawni hynny. Addawodd swyddogion y byddant yn egluro'r sefyllfa o ran mynediad at ffrydiau ariannu, a nodwyd bod y cyngor yn gweithio'n galed i sicrhau bod Abertawe a'r rhanbarth yn gallu cael gafael ar bob ceiniog sydd ar gael wrth i ni ddod allan o COVID a dechrau’r adferiad.

·       Rôl Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru wrth gyflawni'r cynllun, a monitro'r Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol. Nodwyd y bydd gwaith Dinas-ranbarth Bae Abertawe yn cael ei gynnwys yng ngwaith y Cydbwyllgor Corfforaethol fel un o'r meysydd gweithgarwch allweddol.

 

Diolchodd y Cynullydd i bawb am eu cyfraniad i'r drafodaeth.

47.

Adroddiad Diweddaraf am y Prosiect pdf eicon PDF 201 KB

Cllr Robert Francis-Davies – Aelod y Cabinet - Buddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth

Phil Homes – Pennaeth Cynllunio ac Adfywio’r Ddinas

Huw Mowbray - Rheolwr Strategol Datblygu ac Adfywio Ffisegol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad monitro rheolaidd diweddaraf ar y rhaglen / prosiectau adfywio i'r Panel, ar gyfer unrhyw sylwadau / safbwyntiau ar gynnydd a chyflawniadau. Rhoddodd Huw Mowbray, Rheolwr Strategol Datblygu ac Adfywio Ffisegol, ddiweddariadau perthnasol.

 

Bae Copr:

 

Nododd y Panel fod yr Arena wedi'i throsglwyddo'n llwyddiannus i ATG a bod y digwyddiadau cyntaf / prawf wedi'u cyflwyno ar 25 a 26 Chwefror. Aeth y cyfan yn dda a chafwyd adborth cadarnhaol. Mae rhai anawsterau o hyd o ran argaeledd a deunyddiau llafur ond maent yn cael eu datrys gyda'r contractwr i fynd i'r afael â materion adeiladu sy'n weddill. Er bod Brexit wedi cael effaith, nodwyd nad dyma'r unig reswm gan fod galwadau cystadleuol am lafur medrus gan brosiectau yn y rhanbarth ehangach e.e., gorsaf bŵer niwclear newydd ger Bryste. Clywodd aelodau'r panel nad oedd dyddiad penodol i'r adeiladwr fod oddi ar y safle gan ei bod yn bwysig bod yr holl waith yn cael ei gwblhau’n foddhaol.

 

Holodd aelodau'r panel a oedd y cyngor yn archwilio opsiynau o ran enwi'r Arena. Cadarnhawyd, yn unol â'r cytundeb prydlesu, fod gan ATG hawliau enwi, a bod hyn yn waith ar y gweill, ac y byddent yn trafod unrhyw gynigion â'r cyngor. 

Holodd y Panel am enwi rhai ystafelloedd cyfarfod yn yr Arena ar ôl cynghorwyr. Dywedodd yr Arweinydd ei fod yn croesawu awgrymiadau ynghylch enwi cyfleusterau ac asedau newydd.

 

Clywodd y Panel hefyd am y cynnydd gyda'r datblygiad gwesty disgwyliedig gerllaw'r Arena, gyda chyhoeddiadau posib i ddod yn ystod yr wythnosau nesaf. Pwysleisiwyd y byddai hwn yn ddatblygiad sector preifat na fyddai’n cael ei arwain gan y cyngor, ond roedd y cyngor yn monitro pethau'n agos ac yn gwneud popeth o fewn ei allu i hwyluso cynnydd. Dywedwyd wrth aelodau'r Panel ei fod yn debygol o fod yn ddatblygiad 6-8 llawr / 120 o welyau ynghyd ag ardaloedd masnachol, a byddai'r cyngor yn chwilio am adeilad 'trawiadol' sy'n gweddu i'r ardal gyfagos.

 

Gogledd Abertawe Ganolog:

 

Mae trafodaethau'n mynd rhagddynt, ar y cyd â'r partner datblygu Urban Splash, a chyda darpar denantiaid canolfannau swyddfa / elfennau masnachol.  Disgwylir i'r cynigion gael eu cyflwyno cyn bo hir, gyda dyluniad y cysyniad yn anelu at ddyddiad targed o fis Hydref 2022.

 

71 a 72 Ffordd y Brenin:

 

Mae adeiladwyr bellach ar y safle i ddatblygu'r swyddfa, gyda gwaith gosod seilbyst yn mynd rhagddo, ac mae'r prosiect ar y trywydd iawn i'w gwblhau ym mis Awst 2023. Gwnaed cytundeb gyda'r tenant cyntaf a fydd yn cael ei gyhoeddi maes o law. Rhagwelwyd y byddai'r swyddfa hyblyg yn cyflawni tua 600 o swyddi. O ran elfen Banc Barclays, mae angen opsiwn caffael arall i fodloni gofynion rhaglen ariannu ERDF, gan fod y cyngor yn awyddus i wneud cynnydd yn gyflym, nid yw'n rhywbeth ar gyfer yn ddiweddarach yn y prosiect.

 

Wind Street:

 

Mae'r gwaith wedi'i gwblhau yn ei hanfod, ac eithrio'r is-gontractwr bolardiau awto a fydd yn dychwelyd i'r safle ym mis Mawrth.  Mae trafodaeth yn parhau â masnachwyr ynglŷn â gweithredu’r mannau a’r seddau allanol.

 

Holodd aelodau'r Panel am y cynnydd o ran y Byrddau Dehongli arfaethedig sy’n seiliedig ar hanes Wind Street, a chytunwyd darparu ymateb ysgrifenedig ar y bwriad ei hun.

 

Datblygu a Pherygl o Lifogydd TAN15:

 

Nodwyd bod hwn yn fater i Gymru gyfan, ac mae'r cyngor wedi ymateb i Lywodraeth Cymru ar fwriadau o ran paratoi Asesiad Strategol o Ganlyniadau Llifogydd Strategol Cam 1 rhanbarthol, fel sy'n ofynnol gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn dwyn ynghyd y gwahanol bolisïau, cynlluniau a strategaethau sy'n berthnasol i drosolwg lefel uchel o berygl llifogydd, er mwyn dangos dull cydgysylltiedig sy'n cyd-fynd â gofynion Llywodraeth Cymru ac ymagwedd De-ddwyrain Cymru. Mae'r ffordd rydym yn mynd i'r afael â materion allweddol TAN15 yn destun trafodaeth barhaus, a'r prif faes ffocws yw rheoli perygl llifogydd i safleoedd datblygu strategol ar hyd afon Tawe (Canol y Ddinas, SA1, Glan yr Afon Tawe a Bro Abertawe). Roedd gan y Panel ddiddordeb mewn goblygiadau ariannol posib mynd i'r afael â TAN15.

 

Sgwâr y Castell:

 

Clywodd y Panel fod y prosiect hwn yn symud ymlaen yn dda, gyda gwaith dylunio wedi'i gwblhau a chais cynllunio i ddilyn. Cafwyd cadarnhad y byddai'r prosiect yn elwa o rywfaint o gyllid drwy Grant Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru. Bydd cerflunwaith y ddeilen yn cael ei symud, ac mae opsiynau'n cael eu trafod gyda'r artist gwreiddiol ar gyfer adleoli'r gwaith celf cyhoeddus hwn. Cynhaliwyd cyfarfodydd hefyd gyda CADW i sicrhau bod y prosiect yn mynd i'r afael ag unrhyw effeithiau treftadaeth a'i fod yn dderbyniol.

 

Gofynnodd y Panel am lanhau a chynnal a chadw'r Sgwâr yn y dyfodol, p'un a fyddai hyn yn gyfrifoldeb i'r cyngor neu'n mynd i ddwylo preifat. Eglurwyd y bydd y Sgwâr yn parhau i fod yn ased i'r cyngor ond gyda'r unedau masnachol sy'n gweithredu o fewn y Sgwâr, byddai elfen o gyfrifoldeb a rennir am lanhau / cynnal a chadw a fydd yn cael ei gwneud yn glir mewn cytundebau. Mae costau cynnal a chadw hefyd wedi'u cynnwys yng nghyllideb y prosiect.

 

Adfywio Abertawe:

 

Cytunwyd ar Gytundeb Partneriaeth Strategol gydag Urban Splash ac yn amodol ar gymeradwyaeth gyfreithiol, bydd yn cael ei lofnodi. Ar ôl ei lofnodi, bydd yn galluogi Urban Splash i fwrw ymlaen â'r cynlluniau, er bod pethau ar gam cynnar. Nodwyd y bydd enw'r prosiect yn cael ei newid yn fuan.  Byddai rhagor o wybodaeth am weithgarwch y prosiect yn cael ei rhoi i’r aelodau craffu maes o law.

 

Hwb Cymunedol:

 

Gwaith galluogi mewn argyfwng wedi'i gwblhau. Cam 2 ar fin dechrau.

 

Mewn perthynas ag adleoli ehangach o'r Ganolfan Ddinesig i ganolfannau canol y ddinas, mae rhai problemau ynghylch anghenion storio papur, ond mae opsiynau'n cael eu hystyried i leihau gofynion.

 

Theatr y Palace:

 

Disgwylir 80% o sicrwydd cost yn fuan lle gellir cynnal adolygiad pellach ar sefyllfa fwy pendant. Yn y cyfamser, mae opsiynau Peirianneg Gwerth yn cael eu hadolygu, heb beryglu treftadaeth, ansawdd cynnyrch terfynol a'r gallu i'w gosod.

 

Prosiect Skyline:

 

Hysbyswyd y Panel fod trafodaethau cadarnhaol yn parhau, gyda materion caffael tir i'w cwblhau. Rhagwelwyd y byddai adroddiad i'r Cabinet ynghylch y prosiect yn dilyn etholiadau'r cyngor. Nodwyd pe bai'r prosiect yn cael ei gymeradwyo, mai hwn fyddai'r cynllun Skyline cyntaf yn Ewrop, y tu allan i Seland Newydd, sy'n cynnwys gondola ceir cebl, a byddai'r prosiect cyfan yn darparu cynnig hamdden newydd o bwys i Abertawe.

 

Bro Tawe:

 

Mae gwaith yn mynd rhagddo. Nodwyd bod y safle arfaethedig cychwynnol ym Mro Tawe yn dal i fod yn opsiwn ffafriol ar gyfer adleoli'r safle Parcio a Theithio.

 

Ailbwrpasu;

 

Darparwyd gwybodaeth am y cynnydd o ran gwaith a chynlluniau gwella amrywiol.

 

Diolchodd y Cynullydd i'r Swyddog am ei adroddiad.

 

48.

Effaith Brexit ar y Rhaglen Datblygu Gwledig a'r Diweddaraf ar Gyllid (ar ôl 2023) pdf eicon PDF 233 KB

Er gwybodaeth yn unig.

Cofnodion:

Darparwyd adroddiad i'r Panel er gwybodaeth, yn dilyn cais gan y Panel am yr wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa bresennol.  Rhagwelir y bydd y pwnc hwn yn cael ei drafod eto yn y dyfodol wrth aros am ragor o wybodaeth / eglurder ynghylch cyllid yn y dyfodol.

49.

Llythyrau pdf eicon PDF 166 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparwyd gohebiaeth ag Aelodau'r Cabinet ar gyfer unrhyw sylwadau / arsylwadau a oedd yn ymwneud â thrafodaeth y cyfarfod diwethaf ar Ddatblygiadau Blaendraeth.

 

Cyfeiriodd y Cynullydd at gais y Panel am ddiweddariad ar farchnata safleoedd blaendraeth, ac yn arbennig unrhyw ddiweddariad ynghylch y diddordeb a ddangosir yn safle'r Ganolfan Ddinesig. Roedd rhywfaint o bryder ynghylch yr ymateb byr a ddarparwyd. Eir ar drywydd hyn.

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth fod Strategaeth Bae Abertawe’n cael ei diwygio i ddiweddaru dogfen bresennol 2008, y bydd y Panel yn gallu’i thrafod maes o law.

 

50.

Adolygiad o'r Cynllun Gwaith Blynyddol pdf eicon PDF 249 KB

Cofnodion:

Gan mai hwn oedd cyfarfod olaf y Panel o'r flwyddyn ddinesig a thymor y cyngor, diolchodd y Cynullydd i holl aelodau'r Panel am eu gwaith, ac i'r rheini sydd wedi cefnogi'r gwaith hwn. Gwahoddwyd aelodau'r panel i fyfyrio ar y ffordd y mae'r Panel wedi gweithio dros y flwyddyn ddiwethaf a'u profiad, ac unrhyw sylwadau a all lywio arfer yn y dyfodol, gan ystyried, er enghraifft:

 

·       A yw pethau wedi gweithio'n dda o fewn y Panel dros y flwyddyn ddiwethaf?

·       Ydy gwaith y panel wedi canolbwyntio ar y pethau cywir?

·       Beth, os o gwbl, y gellid ei wneud yn well?

·       Beth rydym wedi'i ddysgu a fydd yn ein helpu i wella a datblygu gwaith craffu yn y dyfodol?

 

Codwyd y canlynol:

·       Pwysigrwydd craffu’n benodol ar ddatblygu ac adfywio a ddylai barhau ar ôl etholiadau'r cyngor

·       Mae hwn yn faes enfawr i gadw golwg arno, ac nid yw'r Panel wedi gallu trafod popeth, e.e., prosiectau llai, ond amser ac adnoddau sy'n gyfrifol am hynny. Mae rhai pethau wedi cymryd llawer o amser y Panel fel datblygiad Bae Copr / yr Arena.

·       Byddai'r Panel yn croesawu'r gallu i gyfarfod yn amlach.

·       Mae'r Panel wedi'i gadeirio'n dda iawn ac wedi gweithio'n dda o ran monitro a herio perfformiad.

·       Mae llawer o gynghorwyr wedi ymwneud â’r Panel ac mae pob un ohonynt wedi ymgysylltu'n dda, gyda phob cyfle i ofyn cwestiynau a chyfrannu.

·       Mae'r Panel wedi'i gefnogi'n dda gan swyddogion perthnasol, sydd wedi darparu'r wybodaeth a'r cyngor angenrheidiol.

·       Rhaid i'r Panel fod yn fodlon bob amser ei fod yn dylanwadu ar faterion ac yn  gwneud gwahaniaeth drwy ei waith, gan ei fod yn dwyn Aelodau'r Cabinet i gyfrif ac yn herio perfformiad. Dylai'r Panel gadw llygad barcud ar ymateb y Cabinet / Aelodau'r Cabinet i'r broses graffu.

·       Mae'r Panel wedi helpu i sefydlu trefniadau ar gyfer monitro prosiectau'r rhaglen adfywio’n rheolaidd, nad oeddent yn bodoli o’r blaen ar gyfer craffu, sydd wedi datblygu dros amser.

 

Nodwyd bod rhai pynciau datblygu ac adfywio penodol wedi'u nodi yn y cynllun gwaith na fu'n bosib eu hystyried yn yr amser a oedd ar gael, ac y gall fod yn briodol bwrw ymlaen â nhw mewn cynllun gwaith yn y dyfodol. Bydd parhau y Panel Craffu Perfformiad Datblygu ac Adfywio, neu drefniant amgen fel arall, yn fater i Gynghorwyr ym mlwyddyn newydd y cyngor, yn dilyn etholiadau'r cyngor ym mis Mai.