Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams

Cyswllt: Scrutiny Officer - 07980757686 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

33.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

www.abertawe.gov.uk/DatgeluCysylltiadau

Cofnodion:

Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau

34.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ddatganiadau

35.

Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol pdf eicon PDF 407 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Cofnodion:

Ystyriodd y panel gofnodion o gyfarfodydd blaenorol a chytunwyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Tachwedd 2021 yn gofnod cywir o'r cyfarfod. 

36.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan aelodau'r cyhoedd

37.

Ardal Gwella Busnes Abertawe (BID) - Trosolwg pdf eicon PDF 408 KB

Gwahodd i fynychu:

Russell Greenslade – Prif Weithredwr, BID Abertawe

Cofnodion:

Derbyniodd y panel gyflwyniad trosolwg, a gyflwynwyd gan Russell Greenslade, Prif Weithredwr BID Abertawe. Roedd y trafodaethau'n canolbwyntio ar y pwyntiau canlynol:

  • Mae BID Abertawe’n un o Ranbarthau Gwella Busnes gwreiddiol y DU, a'r cyntaf yng Nghymru. Fe'i sefydlwyd ym mis Awst 2006, ar ôl cael mandad cadarnhaol drwy bleidlais o fusnesau/sefydliadau yn ardal ddynodedig y BID.
  • Mae BID Abertawe yn gweithredu o fewn yr 20% uchaf o Ranbarthau Gwella Busnes yn y DU yn seiliedig ar ei berfformiad a'i reolaeth. 
  • Holodd yr aelodau sut y caiff y perfformiad hwn ei fesur. Clywodd y panel fod hwn yn cael ei gyfrifo gan gorff annibynnol o randdeiliaid cenedlaethol.
  • Esboniwyd bod BID Abertawe yn gwmni sector preifat nid er elw, a chanddo ei Fwrdd Cyfarwyddwyr ei hun sy'n cynnwys cynrychiolwyr Preifat, Cyhoeddus a'r Trydydd Sector sy'n cyfrannu'n ariannol tuag at gwmni'r BID.
  • Tynnwyd sylw'r panel at y ffaith fod yr Awdurdod Lleol yn bartner strategol allweddol.
  • Gofynnodd yr aelodau a yw unrhyw fusnesau bellach wedi tynnu'n ôl neu wedi dewis peidio â chyfrannu at ardoll y BID. Clywodd y panel fod pob busnes yn cyfrannu, sy'n cyfateb i tua 813 o fewn ardal BID Abertawe.
  • Holodd yr aelodau am yr union ardal a gwmpesir gan BID Abertawe.
  • Clywodd yr aelodau fod llawer o siopau newydd sydd wedi agor yn fanwerthwyr annibynnol, sy'n dangos cynnydd yn nifer y bobl sy'n prynu dillad ddoe a chynnydd mewn manwerthu moesegol, gan gysylltu â'r farchnad myfyrwyr.
  • Mae masnachwyr cenedlaethol hefyd wedi agor yn ogystal â masnachwyr annibynnol, gan helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr.
  • Holodd yr aelodau a ellid cynnwys unrhyw ardaloedd eraill y tu allan i ardal ganolog y BID. Clywodd y panel fod y Mwmbwls, er enghraifft, wedi dechrau ystyried sefydlu  Rhanbarth Gwella Busnes ar wahân cyn y pandemig.
  • O safbwynt y BID, clywodd y panel fod y datblygiadau yng Nghanol y Ddinas wedi creu agwedd gadarnhaol newydd am yr ardal ac maent yn cael eu croesawu a'u cefnogi gan gymuned fusnes Canol y Ddinas.
  • Soniodd yr aelodau am waith blaenorol BID Abertawe a natur werthfawr y gwaith a wnaed. 
  • Gwnaeth y panel sylwadau ar yr heriau a wynebir gan ganol dinasoedd ledled y wlad.
  • Clywodd y panel fod BID Llundain wedi sôn am brosiectau adfywio Abertawe, mewn perthynas â chynnydd a chyflymder y prosiectau.
  • Tynnwyd sylw at y ffaith fod busnesau'n addasu i gynnydd yn nifer y bobl sy'n byw yng Nghanol y Ddinas, a bod angen hyrwyddo economi'r nos.
  • Holodd yr aelodau am effaith cau manwerthwyr mawr ar fasnach ganol y ddinas a sut y caiff y lle gwag hwn ei hyrwyddo.
  • Clywodd y panel mai Abertawe oedd y lle cyntaf yn y DU i osod mannau parcio clicio a chasglu dynodedig yng Nghanol y Ddinas.
  • Gwnaeth yr aelodau sylwadau cadarnhaol ar y syniad o roi arddangosfeydd mewn ffenestri siopau gwag, yn hytrach na gadael ffenestri siopau'n wag.
  • Cododd y panel ymholiadau ynghylch a oedd siop fwyd Marks & Spencer yn y Mwmbwls wedi cael effaith ar Ganol y Ddinas. Esboniwyd bod Marks & Spencer wedi disgwyl yr effaith hon ac wedi ystyried hyn wrth benderfynu eu cynnyrch a'u gweithrediadau.

 

38.

Datblygiadau Blaendraeth (Diweddariad Llafar)

 

Gwahodd i fynychu:

Cllr Robert Francis-Davies – Aelod y Cabinet - Buddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth

David Hopkins – Aelod y Cabinet - Cyflawni a Gweithrediadau (Y Ddirprwy Arweinydd)

Geoff Bacon – Pennaeth Gwasanaethau Eiddo

Cofnodion:

Clywodd y panel drosolwg cyfyngedig o'r sefyllfa bresennol, mewn perthynas â strategaeth bresennol Bae Abertawe. Cytunwyd bod y panel yn ysgrifennu at Aelod y Cabinet yn amlinellu meysydd diddordeb penodol, ac yna gellid cyflwyno ymateb i'r panel in camera os yw'n briodol.

 

 

39.

Adroddiad Diweddaraf am y Prosiect pdf eicon PDF 211 KB

Er gwybodaeth yn unig

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd y panel yr adroddiad, er gwybodaeth.

40.

Cynllun Gwaith pdf eicon PDF 126 KB

Cofnodion:

Nododd y panel y cynllun gwaith.

41.

Llythyrau pdf eicon PDF 278 KB

Dogfennau ychwanegol:

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 166 KB

Ymateb Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 414 KB