Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams

Cyswllt: Scrutiny Officer - 07980757686 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

25.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau

26.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau

27.

Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol pdf eicon PDF 378 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Cofnodion:

Ystyriodd y Panel gofnodion o gyfarfodydd blaenorol a chytunwyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Medi 2021 yn gofnod cywir o'r cyfarfod. 

28.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan aelodau'r cyhoedd

29.

Y diweddaraf ar Gynllun Teithio Canol y Ddinas pdf eicon PDF 106 KB

Mark Thomas –  Aelod y Cabinet Gwella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd

Mark Thomas - Arweinydd Grŵp Rheoli'r Rhwydwaith Traffig a Phriffyrdd

Matt Bowyer - Prif Beiriannydd Telemateg

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Panel adroddiad diweddaru, a oedd yn darparu gwybodaeth am statws yr astudiaeth, y gwaith a wnaed hyd yma a chynlluniau i ddatblygu'r astudiaeth wrth symud ymlaen. Roedd y trafodaethau'n canolbwyntio ar y pwyntiau canlynol:

 

  • Tynnodd swyddogion sylw at yr adroddiad blaengar hwn, a gynhyrchwyd ar y cyd ag Atkins, ar ôl ystyried isadeiledd priffyrdd, cerddwyr, beicwyr, a lefelau traffig cyfredol/rhagamcanol.  
  • Mae lefelau cyn COVID yng nghanol y ddinas yn dychwelyd, ond mae patrymau wedi newid yn ddramatig. Clywodd y Panel y bu newidiadau cyffredinol yn y patrymau traffig a'r defnydd o ganol y ddinas.
  • Esboniodd swyddogion fod sefyllfa bellach o geisio rhagweld lefelau traffig ar ôl y pandemig, gan ystyried datblygiadau prosiectau mawr.  
  • Dylid rhoi ystyriaeth i fannau isadeiledd gwefru, yn ogystal ag ystyriaethau amgylcheddol fel ansawdd aer.
  • Mae'r astudiaeth yn canolbwyntio'n bennaf ar ganol y ddinas, er ei bod yn edrych ar syniadau ar y cyrion, megis hybiau traffig, parcio a theithio a chludiant cyhoeddus.  
  • Bwriedir darparu ar gyfer holl anghenion defnyddwyr canol y ddinas yn y dyfodol.
  • Gwnaeth yr Aelodau sylwadau ar lawer o gynlluniau teithio blaenorol – gan holi am nifer o faterion sydd wedi dod i'r amlwg o'r blaen er ei bod yn ymddangos na fu unrhyw newid.
  • Mae swyddogion yn honni y bu gwelliant a buddsoddiad sylweddol mewn rhwydweithiau, gwelliannau i'r cyffyrdd a llwybrau dosbarthu; sydd wedi cael effaith fawr mewn rhai ardaloedd.
  • Holodd yr Aelodau am fwriad y cyngor i greu rhagor o lwybrau beicio ar draws Canol y Ddinas. Esboniodd y Cynghorydd Thomas fod y man storio beiciau diogel wedi'i adeiladu ar safle parcio a theithio Fabian Way, sy'n rhoi ystyriaeth i bobl sy'n beicio i mewn i'r ddinas. Mae nifer o lochesi beiciau wedi'u gosod yng Nghanol y Ddinas ei hun, fel y gall beiciau gael eu storio dan do, a dylai datblygiadau newydd yng nghanol y ddinas ystyried darpariaethau storio beiciau i annog gweithwyr ac ymwelwyr.
  • Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith bod anghenion canol y ddinas yn newid, ac mae technoleg newydd yn newid ffyrdd o deithio, felly bydd newidiadau cyson i'r cynllun teithio hwn.
  • Esboniodd swyddogion y bu newid cryf o ran ffocws, er bod nifer o fersiynau blaenorol, ond mae'r astudiaeth hon yn edrych ar y cyfleoedd datblygu sylweddol, sy’n creu galw am fynediad at y prosiectau hynny.
  • Hierarchaeth wahanol, bellach wedi'i llywio gan y dulliau teithio llesol fel beicio, cludiant cyhoeddus, car preifat. Ffocws cryf ar y gwahanol ddulliau o gael mynediad i ganol y ddinas.
  • Mae Cyngor Abertawe wedi ceisio lleihau'r ddibyniaeth ar geir preifat, gan ganolbwyntio ar wella cysylltedd yng nghanol y ddinas a'r cyffiniau.
  • Mae themâu Creu Lleoedd cryf yn rhedeg drwy gydol y cynllunio hwn, gyda'r bwriad o wneud ardaloedd yn well a lleihau'r angen i yrru os dymunir, gan wneud canol y ddinas yn fwy hygyrch. 
  • Mae gan Abertawe lif amlwg o bobl sy'n teithio o'r ardal leol i mewn i ac allan o'r dref.
  • Rhwydwaith ffyrdd cyfyngedig – mae angen gwneud y defnydd gorau o hyn wrth symud ymlaen.
  • Holodd yr Aelodau am y crynodeb amodau presennol, gan gyfeirio at fannau poblogaidd fel Dyfaty. Cadarnhaodd swyddogion y cynnydd sy'n cael ei wneud ar hyn.
  • Esboniodd swyddogion fod Dyfaty yn cael ei gydnabod fel amgylchedd sy'n elyniaethus i gerddwyr/beicwyr, a bod angen ceisio gwella llif cludiant cyhoeddus drwy'r gyffordd honno, gan roi sylw i ateb cyfannol/cysylltiadau ag ansawdd aer. 
  • Holodd yr Aelodau hefyd a fydd y ffordd newydd yn SA1 yn cael ei rheoli i ddiogelu preswylwyr sy'n byw yn yr ardal honno.
  • Esboniodd swyddogion y gwnaed cais am gyllid allanol, ond hyd yma roedd wedi bod yn aflwyddiannus. Mae'r cyngor bellach yn paratoi ac yn diwygio ceisiadau i sicrhau cyllid. Esboniwyd bod y camau cychwynnol i gaffael cyllid ar gyfer prynu tir wedi bod yn llwyddiannus; roedd angen cyllid pellach gan Lywodraeth Cymru i adeiladu'r ffordd.
  • Holodd yr Aelodau a fydd dyluniadau'n atal defnyddwyr rhag defnyddio'r ffordd honno fel 'llwybr llygod'.
  • Ffordd gyswllt SA1 – Mae Cyngor Abertawe'n gweld budd yma rhwng cysylltu SA1 a gwella dulliau teithio llesol sy'n cysylltu o'r Brifysgol. Bydd yn tynnu pwysau oddi ar gyffyrdd ar hyd coridor Fabian Way.
  • Safleoedd Parcio a Theithio – Gofynnodd yr Aelodau a yw'r cyngor wedi nodi safleoedd posib, yn enwedig o'r Gorllewin, e.e. y Mwmbwls? Esboniodd swyddogion nad oes safle penodol wedi'i nodi yn y Mwmbwls
  • Cododd yr Aelodau yr angen am ddarpariaeth Parcio a Theithio yng ngorllewin Abertawe i ddarparu ar gyfer llif traffig gwledig. Dyfynnodd yr Aelodau Kittle fel enghraifft; mae arolygon traffig yn dangos bod dros bum mil o symudiadau traffig drwy'r pentref bob dydd.
  • Mae'r disgrifiad 'Metro' yn cyfleu gwahanol ddisgrifiadau a dulliau trafnidiaeth. Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith bod y term metro yn cynnwys ystod o drafnidiaeth, gan integreiddio bysiau niferus a chyfnewidfeydd da rhwng pob dull.
  • Mae'r cyngor yn ystyried nifer o wahanol opsiynau, gan edrych ar brif linell Abertawe/Gorllewin Cymru, sut i wella amserau teithio, adolygiadau bws, a choridor bysus posib sy'n defnyddio hydrogen. 
  • Holodd y Panel am natur heriol y dopograffeg a'r ddaearyddiaeth ar draws Abertawe fel sail i rwydwaith beicio.
  • Dywedodd yr Aelodau nad yw beicwyr bob amser yn aros ar y llwybrau beicio.
  • Parcio a Theithio – mae angen gwneud y gwasanaeth yn fwy deniadol.
  • Dywedodd yr Aelodau y dylid trosglwyddo gwasanaethau bysus i reolaeth awdurdodau lleol.
  • Holodd yr Aelodau am yr amserlenni ar gyfer parcio ceir ger yr Arena ac o’i chwmpas, ac a fydd prisiau parcio yn yr Arena’n afresymol.
  • Ymweliadau ysbyty – Soniodd y Panel am yr angen i gysylltu'r ddau ysbyty (Treforys/Singleton) â'r cynllun teithio.
  • Nodwyd nad yw llawer o agweddau ar faterion trafnidiaeth o fewn rheolaeth y cyngor, megis bysiau, isadeiledd ffyrdd, tanwydd hydrogen, trenau a cheir. Tynnodd swyddogion sylw at y newid sylweddol a fu yn dilyn Trafnidiaeth Cymru yn cymryd rheolaeth eu hunain.
  • Mae angen systemau tocynnau integredig. Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwneud cynnydd ar hyn.
  • Mae heriau gyda theithiau hirach i ardaloedd gwledig pan nad oes llawer o deithwyr. Rhwydwaith o fysus bwydo’n bosib.
  • Mae cludiant cyhoeddus bellach o fewn cylch gwaith Llywodraeth Cymru, wedi'i sbarduno gan angen ac ystyriaethau amgylcheddol.

 

30.

Adroddiad Diweddaraf am y Prosiect pdf eicon PDF 105 KB

Robert Francis-Davies - Aelod y Cabinet - Buddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth

Phil Homes – Pennaeth Cynllunio ac Adfywio’r Ddinas

Huw Mowbray - Rheolwr Strategol Datblygu ac Adfywio Ffisegol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Huw Mowbray, Rheolwr Strategol Datblygu ac Adfywio Ffisegol, yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Panel am y prosiectau adfywio yn Abertawe.  Roedd Phil Holmes, Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas, hefyd yn bresennol ar gyfer yr eitem hon.  Nododd y Panel y newid mewn fformat adrodd, gan gynnwys crynodeb cryno o rai prosiectau.

 

Canolbwyntiodd y prif drafodaethau ar y canlynol:

 

Bae Copr – Cam 1

  • Materion sylweddol yn ymwneud â diffyg llabrwyr a deunyddiau, gan effeithio ar gamau olaf y prosiect.
  • Cadarnhaodd swyddogion fod achos o COVID wedi bod ar y safle’r wythnos diwethaf.
  • Gwesty – yn profi anawsterau ariannu ar hyn o bryd. Disgwylir i'r datblygwr penodedig gyflwyno cynnig diwygiedig yn fuan.
  • Mae trwydded Ambassador Theatre Group (ATG) bellach wedi'i chymeradwyo gan Bwyllgor Trwyddedu'r cyngor.
  • Rhaglennu ATG i ddechrau ym mis Mawrth, mae'r rhan fwyaf o'r tocynnau sydd ar werth bellach wedi'u gwerthu.
  • Cadarnhaodd swyddogion fod ATG yn dangos bod y dwysedd gwerthu yn Arena Abertawe ar y blaen i leoliadau tebyg eraill, gan ailadrodd eu rhagolygon cadarnhaol.
  • Holodd y Panel am faes parcio'r Arena – esboniodd swyddogion fod ochr y gogledd wedi'i chynllunio i godi traffig o'r gorllewin, a'r ochr arall i godi traffig sy'n dod o'r dwyrain.
  • Mynegodd yr Aelodau bryderon ynghylch y goleuadau LED a'u heffaith ar breswylwyr y Marina.
  • Cadarnhaodd swyddogion fod goleuadau LED wedi'u cynnwys yn y caniatâd cynllunio cychwynnol, a'u bod yn pylu'n sylweddol yng nghefn yr adeilad. Tynnodd swyddogion sylw hefyd at y system reoli sy'n caniatáu i oleuadau gael eu diffodd os oes angen.
  • Dyluniwyd y sgriniau gan artist ar y cyd â phreswylwyr.

 

 

71-71 Ffordd y Brenin

  • Mae'r ddwy ochr wedi cytuno ar ddogfennau contract Maent yn cael eu hanfon at y contractwr penodedig, Bouygues.  
  • Cynllunio – mae amodau cyn cychwyn wedi'u cyflawni.
  • Rhaglen adeiladu i ddechrau ar ddiwedd mis Tachwedd. 
  • Holodd yr Aelodau am newid manyleb y tendr gwreiddiol - cadarnhaodd swyddogion fod nifer o dendrau gwreiddiol yn gwneud awgrymiadau. Cafodd awgrymiadau synhwyrol newydd eu cynnwys yn y broses dendro newydd, sydd bellach yn cael eu datblygu gan y contractwr o fewn y gyllideb.

 

 Wind Street

  • Esboniodd swyddogion fod problemau wedi bod o ran gosod bolardiau ar ben uchaf Wind Street; nodwyd rhai gwasanaethau yn ystod y gwaith cloddio nad oeddent ar y cynlluniau gwreiddiol.
  • Mae gosodiadau'r croesfannau enfys yn datblygu.

 

Adfywio Abertawe

  • Rhoddwyd contract i Urban Splash.
  • Diddordeb cadarnhaol mewn safleoedd Dinesig gan weithredwyr hamdden, sy'n ymwneud â safleoedd cyfagos, sy'n cwmpasu 17 erw, gan gynnwys ardaloedd gwyrdd a meysydd parcio.
  • Cyfarfod wedi'i drefnu gyda'r tîm cynllunio/Urban Splash i drafod statws rhestredig posib CADW.

 

Mariner Street

  • Mae'r holl loriau preswyl bellach wedi'u cwblhau a'u trosglwyddo i'w hanheddu.
  • Mae gwaith sy'n weddill, gan gynnwys lloriau siopau llawr gwaelod, triniaeth ffenestri finyl, gwaith A278 a chwblhau cladin tŵr yn parhau.
  • Trefnwyd y bydd wedi’i gwblhau fwy neu lai erbyn 9 Tachwedd.    
  • Mae gwaith gosod unedau manwerthu wedi'i drefnu ar gyfer mis Rhagfyr.

 

 

Sgwâr y Castell

  • Adroddiad Cabinet FPR7 yn cael ei ddrafftio i geisio cyllid i gyflawni'r prosiect.
  • Cynhelir cyfarfodydd pellach gyda Phriffyrdd, Goleuo, Parciau a Glanhau, rheolwr canol y ddinas a digwyddiadau.
  • Gofynnir am wybodaeth gychwynnol am gostau ar sail y fanyleb ddylunio gyfredol.
  • Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ar swydd rheolwr y prosiect a'r cyllid grant posib, ar ôl deall bod hyn eisoes wedi'i sicrhau. Esboniodd swyddogion mai Cyngor Abertawe yw'r datblygwr, ar ôl iddynt benodi tîm proffesiynol.
  • Esboniodd swyddogion hefyd fod arian wedi'i glustnodi ar gyfer costau gwaith; nid yw’r costau cyfalaf wedi’u cymeradwyo hyd yma (bydd FPR7 yn ceisio cyllid cyfalaf i gyflawni'r cynllun).
  • Holodd yr Aelodau am y cyllid – gan egluro na fyddai'r sector preifat yn gwneud unrhyw gyfraniadau. 

 

Hwb Cymunedol

  • Materion yn ymwneud â lleoliad yr archifau i'w trafod â thimau’r archifau.
  • Holodd yr Aelodau am ddarpariaethau amgen ar gyfer yr archifau – eglurodd swyddogion eu bod yn islawr y ganolfan ddinesig ar hyn o bryd, ac mae cynigion i'w symud i adeilad hwb cymunedol newydd.
  • Cododd y Panel rai pryderon ynghylch addasrwydd y lleoliad arfaethedig hwn, ac maent yn ymwybodol y bydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu yn mynd i'r afael â'r mater hwn yn fanylach.
  • Gwnaed peth gwaith galluogi ar y safle, fel cael gwared ar asbestos, i baratoi'r safle ar gyfer contractwyr.

 

 

Pontynau

  • Mae'r dogfennau cyfreithiol yn cael eu drafftio a'u hadolygu ar hyn o bryd.
  • Awgrymwyd telerau ynghylch hawliau a mynediad ar gyfer y Copper Jack a'r clwb rhwyfo fel prif ddefnyddwyr arfaethedig y cyfleuster.
  • Ynghyd â hawliau mynediad, mae angen cytundeb mewn egwyddor i ganiatáu mynediad i gerbydau a pharcio ar delerau cymeradwyo tymor byr.

 

 

Gofynnodd yr Aelodau am y prosiect Skyline – Esboniodd swyddogion fod achos busnes diwygiedig wedi'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru ar gyfer trafodaethau ariannu. Mae Skyline wedi ymgysylltu â phenseiri ar y dyluniad, ar ôl newid dyluniad y bwyty i gael ardal ar gyfer hybiau bwyd lleol yn ei le. Eglurodd swyddogion mai Abertawe yw'r unig brosiect Skyline sy'n mynd rhagddo yn Ewrop ar hyn o bryd.

 

Holodd yr Aelodau am y sefyllfa ariannu ynglŷn â Distyllfa Penderyn. Esboniodd swyddogion fod y prosiect hwn yn datblygu ac mae trafodaethau â chronfa Dreftadaeth y Loteri’n parhau.  

 

31.

Cynllun Gwaith 2021-22 pdf eicon PDF 193 KB

Cofnodion:

Nododd y panel y cynllun gwaith.

 

32.

Llthyrau pdf eicon PDF 204 KB

Llythyr at Aelod y Cabinet - Gwella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd pdf eicon PDF 202 KB

Llythyr at Aelod y Cabinet - Buddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth pdf eicon PDF 278 KB

Ymateb Aelod y Cabinet - Gwella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd pdf eicon PDF 494 KB

Ymateb Aelod y Cabinet - Buddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth pdf eicon PDF 171 KB