Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Scrutiny 636292 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

  • Mae gan y Cynghorwyr Mary Jones a Jeff Jones ferch sy'n fydwraig yn Abertawe

 

2.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Cofnodion:

·         Dim

3.

Nodiadau a Llythyr y Cynullydd pdf eicon PDF 114 KB

·         Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·         Cymeradwywyd

 

4.

Sesiwn Holi ac Ateb Aelodau Statudol - Abertawe Bro Morgannwg Bwrdd Iechyd Prifysgol pdf eicon PDF 102 KB

·         Andrew Davies -  Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Cofnodion:

  • Diolchodd yr Athro Davies i'r panel am y gwahoddiad
  • Roedd y cynllun lles yn adlewyrchu sefyllfa'r BGC ar y pryd - y broses yn amodol iawn ar raddfa a deddfwriaeth. Efallai caiff pethau eu gwneud yn wahanol os yw pethau'n cael eu sefydlu yn awr.
  • Ni roddwyd digon o amser i sefydlu perthnasoedd â phartneriaid
  • Datblygwyd y BGC mewn ffordd gymhleth gyda nifer o sefydliadau'n ymdrin â BGC niferus (e.e. CNC)
  • Dylai'r adolygiad llywodraethu presennol symleiddio'r strwythur
  • Bwriadu uno a symleiddio'r gwaith
  • Gellir bod yn fwy uchelgeisiol wrth drafod y blynyddoedd cynnar.
  • Angen ystyried amserlenni ac a yw'r gwaith yn effeithlon. Angen edrych ar eglurder y fframwaith
  • Ystyried adolygu ffrydiau gwaith ac adolygu'r arweinyddiaeth os nad yw hyn yn effeithiol
  • Mae gwaith craffu'n codi proffil materion
  • Er mwyn gallu llywodraethu'n effeithiol mae angen craffu effeithiol sy'n arwain at wneud penderfyniadau gwell
  • Gallai strwythur newydd wella nodau strategol tymor hir a chyfrannu at newidiadau, ond mae'n ddyddiau cynnar o hyd
  • Nid oes unrhyw gynlluniau ar y gweill i gyflwyno pethau'n rhanbarthol
  • Mae atebolrwydd yn anodd gan nad yw'n hawdd craffu ar sefydliadau unigol
  • Mae gwneud penderfyniadau amlasiantaeth yn anodd
  • Yn ariannol, mae mewnbwn y BGC yn isafol, ond yn derbyn yr effaith ar amser swyddogion
  • Efallai y bydd cyfuno cyllidebau'n ateb ond dylid gwneud hyn ar ôl sefydlu perthnasoedd a phrosesau
  • Dylai unrhyw brosesau fod er lles gorau'r defnyddiwr gwasanaeth

 

5.

Ffrwd Waith y Blynyddoedd Cynnar - Y Diweddaraf am y Cynllun Gweithredu gan yr Arweinydd Amcanion

Rhoddir cyflwyniad PowerPoint yn ystod y cyfarfod

 

·         Alison Williams – Rheolwr Adnoddau Teuluoedd

·         Gary Mahoney – Swyddog Cynnydd y Blynyddoedd Cynnar

 

Cofnodion:

  • Trafododd y tîm y cyflwyniad
  • Mae swm ac ansawdd y gwaith a wneir yn y blynyddoedd cynnar yn dda iawn
  • Mae'r gwaith yn cynnwys yr adeg o feichiogrwydd tan ben-blwydd y plentyn yn ddwy oed
  • Cydweithredol gyda ffigurau uwch o'r Heddlu, maes iechyd etc
  • Mae peth ffocws ar lythrennedd corfforol hefyd, gyda phlant yn dweud eu bod am gael mwy o'r ddarpariaeth hon
  • Mae angen mwy o waith atal ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol
  • Mae buddsoddi yn y blynyddoedd cynnar yn fwyaf effeithiol
  • Mae mynd i Dechrau'n Deg yn gwella perfformiad plant - gan fesur y pellter a deithiwyd
  • Mae'r broses drosglwyddo i Dechrau'n Deg yn raddol ac wedi'i chefnogi gan staff, e.e. diwrnodau agored ac ymweliadau
  • Mae presenoldeb a threfn Dechrau'n Deg hefyd yn annog rhieni i ddechrau amserlen a pharatoi ar gyfer yr ysgol
  • Mae prosiectau'n gweithio gyda phobl â hanes o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, ac maent yn cydio yn y buddiolwyr iawn
  • Llawer yn cymryd rhan mewn digwyddiadau cymunedol e.e. Picnic Tedi Bêrs, Diwrnod Chwarae Cenedlaethol
  • Llawer yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol
  • 'Calonnau Hapus, Wynebau Hapus' - enghraifft dda o weithio ar y cyd a chael cyllidebau ar y cyd
  • Mae ymwelwyr iechyd hefyd yn cymryd rhan yn fwy aml mewn gwaith ataliol yn y blynyddoedd cynnar
  • Mae canlyniadau'r Raddfa Cyd-feddwl Parhaus a Lles Emosiynol yn dangos meysydd i'w targedu a chyfle i ddysgu
  • Mae buddsoddi yn y gweithlu'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol iawn
  • Mae gwaith ymyrryd yn gynnar yn dangos arbedion ariannol wrth symud ymlaen
  • Mae'r gwaith hwn yn bodloni'r 5 ffordd o weithio ac yn dangos gwaith ataliaeth go iawn
  • Mae lleoliad ffisegol gwasanaethau'n bwysig
  • Mae peth gwaith yn cael ei wneud ar iechyd meddwl amenedigol

 

6.

Diweddariad ar Lywodraethu

Rhoddir cyflwyniad PowerPoint yn ystod y cyfarfod

 

·         Suzy Richards – Swyddog PolisÏau Cynaliadwyedd

Cofnodion:

  • Byddwn yn gwybod mwy pan fydd y strwythur lywodraethu newydd yn cael ei chynnig yn y cyfarfod craidd nesaf
  • Am wneud Abertawe'n fwy atebol a thryloyw

 

7.

Cynllun Gwaith 2017 - 2018. pdf eicon PDF 62 KB

Cofnodion:

 

  • Trafodwyd

 

Llythyr at Gadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus pdf eicon PDF 511 KB

Ymateb gan Gadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus pdf eicon PDF 441 KB