Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Scrutiny 636292 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

·         Dim

2.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

·         Rhaid i gwestiynau ymwneud â materion yn rhan agored agenda'r cyfarfod ac ymdrinnir â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

·         Dim

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 121 KB

·         Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·         Dim

4.

Sesiwn Holi ac Ateb Aelodau Statudol - Cyngor Abertawe pdf eicon PDF 102 KB

·         Y Cynghorydd Rob Stewart – Is-gadeirydd y BGC, Arweinydd Cyngor Abertawe

Cofnodion:

  • Daeth y Cyng. Clive Lloyd i gynrychioli Cyngor Abertawe yn ystod y Sesiwn Holi ac Ateb gydag Aelod Statudol
  • Bydd llywodraethu a gweithio mewn partneriaeth yn bwysig wrth symud ymlaen
  • Mae'r prosiect County Lines/Camddefnyddio Sylweddau yn esiampl wych o gydweithio o fewn y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC). Canlyniadau a gweithredoedd sylweddol gan yr holl bartneriaid sy'n cymryd rhan, cyd-leoli gwasanaethau
  • Mae'r cynllun yn arddangos lle mae'r bwrdd eisiau bod, mae angen aros yn hyblyg ac yn ymatebol
  • Mae'r amcanion yn nodi meysydd ffocws y gall partneriaid fod yn rhan ohonynt
  • Nid ydym yn rhagweld cyllidebau cyfun yn y dyfodol agos
  • Mae'r ddeddfwriaeth yn gofyn i ni ganolbwyntio ar amcanion penodol, ymgynghori'n helaeth, bod yn eang ac yn hyblyg
  • Yr amcanion yw'r hyn wnaeth pobl ddweud yr hoffent eu cael
  • Angen llunio adroddiad blynyddol, bydd gosod y strwythur llywodraethu cywir yn lleihau biwrocratiaeth
  • Bydd adolygiad llywodraethu yn helpu gydag eglurder strwythur
  • Pryderon nad oes unrhyw adnoddau ar waith er mwyn helpu i gyflawni yn erbyn gweithredoedd
  • Mân welliannau, bydd llwyddiant os bydd gwaith cydweithredol yn rhywbeth arferol
  • Ariennir prosiect Isadeiledd Gwyrdd Cyfoeth Naturiol Cymru o ganlyniad i waith y BGC
  • Mae gan y Comisiynwyr effaith a dylanwad ar gynghorau lleol os nad ydynt yn teimlo bod y BGC yn gweithredu fel y dylent
  • Mae rôl PABM yn llawer mwy cadarnhaol gyda rôl Cydlynydd Ardal Leol sydd wedi cael ei hariannu gan PABM ar waith yn Llansamlet

 

5.

Byw'n Dda, Heneiddio'n Dda y diweddaraf am y Cynllun Gweithredu gan yr Arweinydd Amcanion pdf eicon PDF 159 KB

·         Mark Child - Aelod y Cabinet - Gofal, Iechyd a Heneiddio’n Dda

·         Jane Whitmore - Rheolwr Partneriaeth a Chomisiynu

Cofnodion:

  • 6 maes allweddol ar gyfer cynllun gweithredu byw'n dda/heneiddio'n dda
  • Gwrando ar bobl o bob oed er mwyn bwydo'r cynllun
  • Roedd y 'Sgwrs Fawr' yn ymwneud â gwaith rhwng y cenedlaethau i blant 7+ oed ac yn cynnwys llawer o wasanaethau
  • Wedi gweithio'n agos gyda Datblygu ac Adfywio er mwyn bwydo Datblygiad Canol y Ddinas, gan gysylltu â Swyddogion Cynllunio er mwyn sicrhau bod barn y cyhoedd yn cael ei chlywed yn gyson
  • Gweithio ar dir gyffredin - diogelwch, unigrwydd, iechyd meddwl, mynediad at wasanaethau a thrafnidiaeth
  • Mae'r un themâu yn codi - nodwyd materion tebyg yn ystod gweithgaredd craffu blaenorol
  • Mae angen hysbysebu'r mater o bobl ifanc sydd â dementia yn fwy
  • Adwaenir Abertawe fel dinas sy'n llwyddo i fod yn ystyriol o ddementia gan y Comisiynydd Pobl Hŷn
  • Mae iechyd meddwl yn broblem fawr ac mae pobl ifanc eisiau mynediad at drafnidiaeth
  • Mae angen cynnwys y bobl gywir wrth roi adborth fel y gall sgyrsiau droi'n weithredoedd.
  • Ceisio cau'r cylch adborth gydag ymagwedd gydgynhyrchiol
  • Mae'r Sgwrs Fawr yn ddull adborth o safon ac mae'n cynnwys y bobl iawn
  • Mae'r rhwydwaith 50+ yn ehangu trwy'r Cydlynwyr Ardaloedd Lleol
  • Mae "Sporting Memories" yn brosiect ar gyfer pobl â dementia - bydd aelod cyfetholedig PABM yn trosglwyddo gwybodaeth i'r prif weithredwr ac yn cydweithio - y BGC ar waith
  • Gall y BGC fod yn ffordd o wneud cynnydd ar faterion tymor hir
  • Datblygwyd 'Gwneud i bob cyswllt gyfrif' gan y BGC - ymagwedd gyfannol e.e. gwiriadau tân a diogelwch yn y cartref

6.

Diweddariad ar Lywodraethu pdf eicon PDF 117 KB

·         Suzy Richards – Swyddog PolisÏau Cynaliadwyedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

  • Allbynnau sylweddol o ganlyniad i'r BGC - adroddir am hyn yn yr adroddiad blynyddol
  • Llywodraethu yw prif achos atebolrwydd, adnoddau, risg, cyllid a materion cyfrifoldeb, ac felly bydd yr adolygiad llywodraethu cyfredol yn mynd i'r afael â'r heriau hyn
  • Sefydlwyd grŵp llywio er mwyn archwilio arfer gorau, ac arbenigedd cyfreithiol a llywodraethu a dynnwyd o'r BGC sydd eisoes yn bodoli
  • Dylid cyfuno Llywodraethu a Chynlluniau Gweithredu
  • Bydd yr adolygiad llywodraethu yn llywio monitro llwyddiant ac adrodd amdano

 

7.

Cynllun Gwaith 2018 - 2019 pdf eicon PDF 62 KB

Cofnodion:

·         Trafodwyd

·         Bydd un o'r cyfarfodydd ar gyfer cynllun gwaith 2019/20 yn cael ei gynnal yn lleoliad Ffydd mewn Teuluoedd – a drefnir trwy'r aelod cyfetholedig Cherrie Bija

 

Ymateb gan Gadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus pdf eicon PDF 265 KB

Llythyr at Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol pdf eicon PDF 254 KB

Ymateb gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol pdf eicon PDF 95 KB