Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Scrutiny - 637732
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Mary Jones a'r Cynghorydd Jeff Jones
gysylltiad personol am fod eu merch yn fydwraig yn Ysbyty Singleton ac roedd
peth trafodaeth am fydwragedd a'u cyfranogaeth yn y Blynyddoedd Cynnar. Ffurflenni a gwblhawyd. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Rhaid i gwestiynau ymwneud â materion yn rhan agored agenda'r cyfarfod ac ymdrinnir â hwy o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Dim |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Cymeradwywyd |
|
Ffrwd Waith y Blynyddoedd Cynnar PDF 298 KB Sian Bingham – Rheolwr y Blynyddoedd Cynnar a Chymorth i Deuluoedd Chris Sivers – Cyfarwyddwr - Pobl Cofnodion: · Daeth Sian Bingham a Gary Mahoney i gyflwyno Ffrwd Waith y Blynyddoedd Cynnar i'r panel · Mae 3 oed yn oedran cymhwyso ar gyfer cefnogaeth gynnar · Dyma gydweithrediad rhwng Bwrdd Dinas Iach a Thîm Marmot · Ymagwedd gyffredinol yw hon, gydag ymyriad wedi'i dargedu lle y bo'n briodol · Mae gan 'Dechrau Gorau Abertawe' dudalen Facebook a chyfrifon Twitter · Cyflwynwyd sesiynau ymwybyddiaeth o weithlu fel bod staff wedi'u diweddaru o ran nodau ac amcanion y prosiect hwn · Roedd digwyddiad '1,000 diwrnod cyntaf bywyd plentyn' yn llwyddiannus iawn · Cyhoeddwyd llyfrau sy'n edrych ar chwarae a bwyta'n iach · Cyhoeddwyd llyfrau gweithgareddau hefyd ar gyfer plant · Mae'r prosiectau wedi cael cysylltiad wyneb yn wyneb â thros 5,000 o bobl dros y flwyddyn ddiwethaf ac maent wedi bod yn rhan o ddigwyddiadau niferus sy'n edrych ar wahanol agweddau ar ofal plant · Mae'r plant wedi bod yn cymryd rhan mewn creu gemau · Mae'r llyfrgelloedd hefyd wedi bod yn cymryd rhan wrth hyrwyddo llyfrau magu plant a phrosiect y Blynyddoedd Cynnar yn gyffredinol · Llywiwyd strategaeth y Blynyddoedd Cynnar gan archwiliad angen · Nododd yr archwiliad y diffyg gwasanaethau ar gyfer pobl yn ystod beichiogrwydd ac ar gyfer plant hyd at 3 oed · Mae dau brosiect mawr wedi'u creu; 1. Tîm amlddisgyblaeth ac amlasiantaeth integredig yw Jig-so ar gyfer rhieni am y tro cyntaf dan 25 oed. Mae gan y prosiect ganlyniadau iechyd nodedig iawn sy'n gysylltiedig â rhoi'r gorau i smygu ac annog bwydo ar y fron 2. Ariannwyd Prosiect Peilot Gofal Sylfaenol Blynyddoedd Cynnar Penderi gan rwydwaith Meddygfa Penderi. Mae'n canolbwyntio ar sgiliau magu plant a rhagnodi cymdeithasol. Ei nod yw mynd i'r afael â materion ac mae'n edrych ar atal iechyd meddwl. Mae'r gefnogaeth yn ddwys iawn · Y cynllun ar gyfer y dyfodol yw cynyddu'r negeseuon presennol · Mae'r adran am adeiladu ar gydweithrediad '1,000 diwrnod cyntaf' · Bydd y camau nesaf yn cynnwys datblygu camau'r Cynllun Lles ar gyfer amcan 1: Dechrau Gorau · Roedd trafodaethau ynghylch prosiect Tîm am y Teulu mewn ysgolion sydd wedi ennill Gwobr Gwasanaeth Cyhoeddus y Guardian · Cytunodd y panel fod ymyrryd yn gynnar yn allweddol ar gyfer y gwaith hwn · Mae angen i'r llwybr craidd gael ei wella a'i gefnogi gan y gwaith hwn - hynny yw, bydwragedd, ymwelwyr iechyd ac ysgolion · Mae hyfforddiant rhaglen graidd ar gyfer ymwelwyr iechyd fel y gallant adnabod materion perthnasol yn haws · O ran strategaeth atal iechyd meddwl, mae'r panel yn teimlo y dylai uwch-reolwyr y bwrdd iechyd fod yn ei llywio · Mae pryder bod diffyg adnoddau o ran iechyd meddwl yn y BGC ar y cyfan · Roedd y panel yn falch iawn bod cymaint o lwyddiant yn y prosiect a gallai'r rhain gael eu hadeiladu arnynt |
|
Digwyddiad Swyddfa Archwilio Cymru - Trosolwg PDF 63 KB · Cyng Mary Jones Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: · Trafododd y Cynghorydd Mary Jones adroddiad trosolwg Swyddfa Archwilio Cymru · Mae Abertawe eisoes yn cynnwys ethos Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn ei swyddogaethau craffu · Mae Abertawe hefyd yn ymgymryd â gwaith craffu cyn penderfynu sylweddol · Disgwylir adborth o'r gynhadledd a fydd yn cael ei gyflwyno i'r panel |
|
Cynllun Gwaith 2017 - 2018. PDF 60 KB Cofnodion: · Aethpwyd drwy'r cynllun gwaith. Cyfarfod olaf y flwyddyn ddinesig fydd y cyfarfod nesaf |
|
Llythyr at Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus PDF 260 KB |