Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Brij Madahar, Scrutiny Officer - Tel (01792) 637257
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: Y Cynghorydd Mary Jones – mae fy merch yn fydwraig sy’n gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe Y Cynghorydd Jeff Jones - mae fy merch yn fydwraig sy’n gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe Martyn Waygood – mae fy merch yn nyrs sy’n gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe; ymddiriedolwr elusen 'Ospreys in Community' |
|
Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau. Cofnodion: Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau. |
|
Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir. Cofnodion: Cytunwyd bod cofnodion cyfarfod Panel Craffu Perfformiad y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf 2020, yn gofnodion cywir. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Rhaid i gwestiynau ymwneud â materion yn rhan agored agenda'r cyfarfod ac ymdrinnir â hwy o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Amcan Lles y BGC Y Diweddaraf am Gynnydd: Blynyddoedd Cynnar. PDF 329 KB a) Adroddiad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (Partner Arweiniol y BGC) Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r panel yn trafod y Blynyddoedd Cynnar, sef un o bedwar amcan lles y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Derbyniodd y panel adroddiad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, sef partner arweiniol y BGC ar gyfer yr amcan hwn. Roedd yr adroddiad yn rhoi'r diweddaraf i'r panel am y gweithgareddau a'r cynnydd yn erbyn nifer o gamau 'allweddol' i gyflwyno gwelliannau a'r gwahaniaeth a wnaed. Clywodd y panel gan amrywiaeth o bobl, gan gynnwys Dr. Keith Reid, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, arweinydd strategol newydd yr amcan lles hwn, Siân Harrop-Griffiths (Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe), Nina Williams (Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru), Claire Fauvel (Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru) a Gary Mahoney (Swyddog Dilyniant y Blynyddoedd Cynnar, Cyngor Abertawe). Roedd y drafodaeth yn canolbwyntio ar: · Arweinyddiaeth ar yr amcan hwn ac ymdrechion pawb sy'n ymwneud â hyn i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i blant · Gwerthuso cynllun Peilot Gofal Sylfaenol y Blynyddoedd Cynnar yng nghlwstwr Penderi. · Gwerthuso taith prosiect Jig-So. · Gweithio i archwilio a mapio system y blynyddoedd cynnar fel bod dealltwriaeth well o'r gwasanaethau sy'n bodoli ac i wella cyd-drefniant ac integreiddiad. · Enghreifftiau o'r gwaith a wnaed ac effaith Rhaglen Dechrau'n Deg, Prosiect Jig-So a chynllun peilot y Blynyddoedd Cynnar, o ran gwella iechyd, arferion, perthnasoedd a datblygu sgiliau a gwytnwch. · Posibilrwydd cyflwyno/datblygu ymagweddau ar draws Abertawe, o ystyried yr arbedion costau a'r buddion · Her adnoddau prin · Problem ynghylch y sylw a roddir i Dechrau'n Deg · Y gwaith a wnaed i wella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o effaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. · Gwelliannau cynlluniedig ar gyfer gofal iechyd meddwl amenedigol. ·
Pwysigrwydd
ymyrryd yn gynnar i helpu plant a theuluoedd ag anghenion a rôl hanfodol
bydwreigiaeth fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer nodi cefnogaeth ac
atgyfeiriadau i’r gwasanaethau priodol. · Y gwahaniaeth a wneir o ganlyniad i'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. · Yr angen am gerrig milltir/dangosyddion clir sy'n dangos y gwelliannau tymor byr a thymor hir. Ystyriodd aelodau'r panel yr wybodaeth a ddarparwyd, gan ofyn cwestiynau, a mynegi'u barn am y cynnydd. Diolchodd y Cadeirydd iddynt am eu mewnbwn. CYTUNWYD y byddai'r Panel yn ysgrifennu at Gadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus gyda'i farn am gynnydd cyflwyno'r camau mewn perthynas ag amcan y Blynyddoedd Cynnar, a'r canlyniadau. |
|
Amcan Lles y BGC Y Diweddaraf am Gynnydd: Byw'n Dda, Heneiddio'n Dda. PDF 324 KB a) Adroddiad gan Gyngor Abertawe (Partner Arweiniol y BGC) Cofnodion: Bu'r panel yn trafod Byw'n dda, Heneiddio'n dda, sef un o bedwar amcan lles y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Derbyniodd y panel adroddiad gan Gyngor Abertawe, sef partner arweiniol y BGC ar gyfer yr amcan hwn. Roedd yr adroddiad a ddarparwyd i'r panel yn ei alluogi i ddeall y cynnydd a wnaed hyd yn hyn o ran yr amcan Byw'n dda, Heneiddio'n dda a'r camau allweddol, yn ogystal â'r blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol. Clywodd y panel gan y Cynghorydd Clive Lloyd, Cadeirydd BGC Abertawe, y
Cynghorydd Mark Child, Aelod y Cabinet dros Ofal, Iechyd a Heneiddio'n Dda, a
chadeirydd y Grŵp Cyflwyno Amcanion, Adam Hill, Swyddog Arweiniol
Strategol a'r swyddogion arweiniol gweithredol, Jane Whitmore a Julie Gosney. Roedd y drafodaeth yn canolbwyntio ar y canlynol: · Y gwaith ar
gynnwys dinasyddion a chyfranogiad drwy ddulliau megis y Sgwrs Fawr, Fforwm
Byw'n Dda, Heneiddio'n Dda (fersiwn wedi'i diwygio o Fforwm 50+) a chyfleoedd
eraill rhwng y cenedlaethau. · Mae prosiect
adrodd straeon digidol parhaus 'Digital Friendly Generations' wedi bod yn
llwyddiannus wrth ddod â phobl hŷn ac ifanc at ei gilydd yn Abertawe. · Ymagwedd y
Cydlynwyr Ardaloedd Lleol. · Y tair ymagwedd
thematig allweddol ar gyfer y dyfodol – cyflawni’r amcan lles a sicrhau
ymrwymiad i’r bartneriaeth, gyda chamau gweithredu wedi'u cynllunio ar gyfer y
flwyddyn sydd i ddod: Dinas i Bawb;
Teithio Llesol; a Llythrennedd Iach/Heneiddio'n Iach. · Rôl grwpiau
cymunedol eraill, gan gynnwys eglwysi, ynghyd â’r gymuned ehangach mewn
ymdrechion i ymgysylltu â phobl. · Y gwaith a wnaed
yn y trydydd sector, gyda CGGA fel y corff ymbarél, sy'n arbed costau ar gyfer
y partneriaid statudol. · Pryder ynghylch effaith llygredd aer ar ein gallu i fyw'n dda a heneiddio'n dda. Ystyriodd aelodau'r panel yr wybodaeth a ddarparwyd, gan ofyn cwestiynau, a mynegi'u barn am y cynnydd. Diolchodd y Cadeirydd iddynt am eu mewnbwn. CYTUNWYD bod y panel yn ysgrifennu at Gadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus gyda'i farn am gynnydd o ran cyflwyno'r camau gweithredu mewn perthynas â phob amcan, a'r canlyniadau. |
|
Cyfarfod y Panel 4 Gorffennaf
2019: a) Llythyr at/oddi wrth Gadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Cofnodion: Derbyniodd y panel yr ohebiaeth a anfonwyd gan y panel at Gadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a'r ymateb a dderbyniwyd yn dilyn cyfarfod y panel a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf 2019. |
|
C ynllun Gwaith 2019/20. PDF 108 KB Cofnodion: Nodwyd cynllun gwaith y panel ar gyfer y flwyddyn ddinesig hon. Dyma'r eitemau ar gyfer cyfarfod nesaf y panel, ym mis Ebrill 2020: · Y diweddaraf am gynnydd Amcanion Lles y BGC: Cymunedau Cryfach · Y diweddaraf am gynnydd Amcanion Lles y BGC: Gweithio gyda Natur · Adolygiad Blynyddol o'r Cynllun Gwaith |
|
Llythyr at Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus PDF 274 KB |