Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Committee Rooms 3A/3B - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Scrutiny 636292 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

·         Dim

2.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Cofnodion:

·         Cafwyd cwestiwn gan Mr Perrott ynghylch datgelu gwybodaeth sy'n berthnasol i ddyletswyddau statudol y BGC.

·         Anfonwyd y cwestiwn ymlaen at swyddog perthnasol.

 

3.

Cofnodion. pdf eicon PDF 112 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·         Cyfethol y Cyng. Peter Jones i'r panel am hyd yr Ymchwiliad i'r Amgylchedd Naturiol

·         Cymeradwywyd y cofnodion

·         Sicrhau yr anfonir adroddiad yr Ymchwiliad i Adeiladu Cymunedau Cynaliadwy at Suzy Richards - cafodd ei drafod yn y cyfarfod diwethaf

 

4.

Trefniadau Llywodraethu'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus pdf eicon PDF 174 KB

·         Rob Stewart – Cadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus

·         Clive Lloyd – Aelod Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad (Arweinydd y BGC Lead)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

  • Gofynnwyd i'r panel p'un a oedd unrhyw aelodau o'r bwrdd wedi gwrthod darparu gwybodaeth yn unol â Llawlyfr Partneriaeth BGC Abertawe - cafwyd cais mewn llythyr.
  • Mae dyletswyddau statudol ynghylch sefydlu aelodaeth.
  • Ymgymerwyd â gwaith sylweddol i gyrraedd y pwynt hwn, gan gynnwys datblygu'r cynllun lles a chreu is-grwpiau sydd ar gamau gwahanol.
  • Mae datblygiad y cynllun lles ei hun yn dangos y gall y bwrdd ddod i gytundebau'n anffurfiol a gweithio gyda'i gilydd - caiff penderfyniadau eu dadlau a'u datrys.
  • Mae siart risgiau a ddatblygwyd i fonitro unrhyw risgiau.
  • Sylweddolwyd bod llawer o'r risg gyda phartneriaid sy'n cyflwyno ac mae risg y BGC yn fwy cyfyngedig i enw da a llwyddiant.
  • Cafwyd presenoldeb da a llawer o ymrwymiad i'r BGC ar lefelau uwch.
  • Cafwyd rhai sylwadau ynghylch cyfranogaeth rhai partneriaid mewn BGC niferus gan eu bod yn gyfrifol am sawl ardal awdurdod lleol - gall hyn fod yn anghynaliadwy.
  • Mae llawer o waith da yn cael ei wneud o ran amgylcheddau gwyrdd a bioamrywiaeth.
  • Mae Abertawe wedi bod yn enghraifft dda o ddefnyddio camau gweithredu a monitro sy'n awgrymu cydnabyddiaeth cyfoedion.
  • Mae Abertawe'n darparu gefnogaeth arweiniol ond mae'n dechrau cael ei rhannu'n fwy, e.e. gwasanaeth tân yn ariannu Cydlynydd Ardal Leol.
  • Agenda ataliol yw hi felly mae llawer i'w wneud o hyd.
  • Diffyg ymrwymiad ariannol a phersonél i BGC.
  • Dinasyddion ddylai ddod gyntaf ac nid cyllidebau.
  • Rhaid osgoi gwaith sy'n cael ei wneud gan gonsortia rhanbarthol eraill.
  • Dim awgrym ar hyn o bryd o gyllidebau a rennir.

 

5.

Cynllun gwaith 2018/2019. pdf eicon PDF 54 KB

Cofnodion:

·         Mae amlder cyfarfodydd wedi lleihau o 6 chyfarfod i 4.

·         Bydd angen ail-lunio’r cynllun gwaith drafft nawr.

·         Canslwyd cyfarfod mis Awst.

·         Cynllun gwaith newydd i'w ddrafftio a'i gymeradwyo.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 261 KB

Ymateb gan Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 155 KB