Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Scrutiny 636292 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

·         Dim

2.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Rhaid i gwestiynau ymwneud â materion yn rhan agored agenda'r cyfarfod ac ymdrinnir â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

·         Dim

3.

Nodiadau ac Llythyr y Cynullydd pdf eicon PDF 120 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·         Cymeradwywyd

4.

Gweithio gyda Natur - Sesiwn Holi ac Ateb Aelod Statudol

·         Martyn Evans - Pennaeth Gweithrediadau De Orllewin Cymru                                 

Cofnodion:

Gofynnir i bob aelod statudol i ymateb i'r cwestiynau canlynol mewn trafodaeth bord gron:

 

  1. Ydych chi'n credu bod y cynllun lles yn adlewyrchu lle y penderfynodd y bwrdd yr oedd angen i'r bartneriaeth gymryd camau gweithredu?
  2. Ydych chi'n credu bod gan y cynllun amcanion sy'n mwyafu manteision gweithio mewn partneriaeth?
  3. Oes amcanion ar goll neu amcanion na ddylid eu cynnwys?
  4. A yw'r amcanion yn ddigon uchelgeisiol neu'n rhy uchelgeisiol o ran gwella lles pobl a lleoedd?
  5. Pa amserlenni a phrosesau y mae angen eu rhoi ar waith er mwyn adolygu camau gweithredu'n effeithiol?
  6. Ydych chi'n pryderu am eglurder pwy yn union y bydd disgwyl iddo gyflwyno'r camau gweithredu a fydd yn arwain at gyflawni amcan?
  7. A oes meysydd gwaith sydd wedi'u nodi lle na fyddai gweithredu ar y cyd yn fanteisiol yn eich tyb chi? Os felly, beth ydyn nhw?
  8. A oes unrhyw beth arall yr hoffech chi ei ychwanegu neu oes unrhyw faes gwaith yn y BGC a allai elwa o gyfraniad y tîm craffu yn eich tyb chi?

 

  • Mae'r cynnwys yn ddigonol i gyfeirio camau gweithredu. Mae'r diagram ysgogwyr yn nodi'r pedwar peth angenrheidiol i gyflawni lles drwy weithio gyda natur: rheoli'r amgylchedd, sicrhau bioamrywiaeth, lleihau ein hôl troed carbon a chynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth i fod yn sylfaen i gamau gweithredu, gan gynnwys ymwybyddiaeth gymunedol.  Rydym wedi ychwanegu pumed amcan ers hynny, 'Rhannu dros Abertawe', i fwyafu manteision. Rydym wedi cymryd hyn o ddifrif yn 'Gweithio gyda Natur' e.e. trwy drin tir cyhoeddus fel un sector cyhoeddus.
  • Mae BGC Abertawe wedi cyfiawnhau/codi proffil a statws Isadeiledd Gwyrdd gyda PABM, a rhaid i'r cyngor a Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) weithio mewn partneriaeth ar isadeiledd gwyrdd.
  • Gall yr amcanion a nodir yng Nghynllun Lles y BGC gael eu cyflwyno mewn partneriaeth yn unig. Nid yw o reidrwydd yn ofynnol i'r BGC fod yno, ac nid ydym wedi cynnwys unrhyw un o 'orchwylion pob dydd' ein sefydliadau priodol e.e. gwella ansawdd y dŵr - maent oll yn bethau sy'n ychwanegol at yr hyn rydym yn ei wneud ar wahân ond heb eu cyflawni hyd yn hyn.
  • Nid oes dim amcanion ar goll ar yr adeg hon. Mae'n ddigon i fynd i'r afael â'r rhai presennol os ydym i'w cyflwyno'n ystyrlon. Dylem yn ôl pob tebyg fod wedi dweud mwy am gynnwys y sector preifat yn fwy, economïau cylchol etc.
  • Mae angen gwell cyswllt ag adran adfywio a'r economi LlC ar y thema 'Gweithio gyda Natur'.
  • Mae'r BGC yn sicrhau bod gwaith yr holl gyrff cyhoeddus yn cyd-fynd â'i gilydd; mae strategaeth CNC ar gydnerthedd yn denu cyrff cyhoeddus eraill i ymuno ac ychwanegu gwerth.
  • Ni ellir cyflawni canlyniadau cymdeithasol ac economaidd os nad yw ecosystemau'n gydnerth - maent yn sail i bopeth.
  • Rhaid canolbwyntio ar gael momentwm ar gyfer Gweithio gyda Natur ond mae angen gwrando ar ein gilydd i weld beth mae pob un ohonom yn ei wneud.
  • Does dim ar goll ac mae'r Blynyddoedd Cynnar a'r gwaith ataliol yn galonogol iawn e.e. gall CNC gyfrannu at addysg - nid oed modd cyflawni canlyniadau ar unwaith, mae angen parhad ar gynaladwyedd.
  • Mae'r amcanion yn uchelgeisiol ac os cânt eu cyflawni, bydd y canlyniadau'n enfawr
  • Rydym yn gadarnhaol bod pobl yn pryderu am yr amgylchedd (coed Penllergaer) ond mae angen i'r cosbau fod yn llym - mae'r ddeddfwriaeth yn gadarn ac mae angen sicrhau y caiff pobl eu dal i gyfrif.
  • Mae angen cyfuno pwerau gorfodi'r cyngor a CNC.
  • Mae'r ysgogwyr yno i bawb eu cyflawni.
  • Mae arwyddocâd yr hyn rydym yn ceisio'i wneud yn golygu na ddaw llwyddiant dros nos - rhoddir enghraifft o wledydd Sgandinafaidd fel enghraifft dda. Fodd bynnag, mae angen i ni fynd i'r cyfeiriad iawn. Ceisiodd Grŵp Ymchwil y BGC lunio adolygiad monitro ond nid oedd y BGC yn credu ei fod yn briodol. Eir i'r afael â hyn yn yr adolygiad o lywodraethu'r BGC.
  • Fel BGC, rhaid i ni adrodd yn flynyddol i LlC am y camau cyflwyno a gymerwyd gennym.
  • Mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol a'r Tîm Craffu'n dwyn pobl i gyfrif.
  • Nid oes unrhyw feysydd lle nad yw gweithredu ar y cyd yn fuddiol ond mae perygl na fydd neb yn atebol.
  • Mae hyn (ydych chi'n deall y cyfrifoldebau?) yn un da iawn a gaiff ei anwybyddu'n aml. Rydym yn deall yr hyn y mae CNC yn ei wneud ar y prosiect 'Gweithio gyda Natur' ond mae'n llai clir ynghylch sut rydym yn cyfrannu at amcanion eraill - nid ni yw'r unig aelod statudol i gael anhawster gyda hyn am ei fod yn faes newydd i bob un ohonom. E.e. llifogydd cymunedol, canlyniadau iechyd, hamdden a mynediad a gynigir.
  • Nid yw arweinwyr yr amcanion wedi cwrdd yn rheolaidd cwrdd hyd yma i gymharu nodiadau, herio'i gilydd a gwirio cynnydd/sicrhau nad oes gorgyffwrdd, ychwanegu gwerth. Cydnabuom hyn mewn cyfarfod diweddar y BGC a byddwn yn dechrau gwneud hyn gan ein bod bellach wedi gwneud rhywfaint o'r gwaith.
  • Dim ond trwy gyfathrebu a datblygu'r perthnasoedd newydd hyn y gellir nodi'r cyfleoedd a'r cyfraniadau newydd hyn. E.e. ymladd tanau gwyllt 
  • Bydd ein ffocws o'r newydd ar lywodraethu yn sicrhau gwell cydweithio a chomisiynu/presenoldeb mewn grwpiau eraill. Byddwn yn gofyn i arweinwyr meysydd gwaith yn uniongyrchol i adrodd am eu gwaith yn lle adrodd drwy gydlynydd.
  • Mae angen cyfathrebu y tu allan i'r BGC. Nid yw proffil y BGC yn ddigon uchel - mae'n rhy ffurfiol ac nid yw'n cynnwys y cyhoedd at ddiben cyfranogaeth ystyrlon.
  • Dylid edrych ar economïau cylchol e.e. gwastraff a gynhyrchir nad oes diwedd iddo - mae Cymru'n lle poblogaidd ar gyfer troseddau gwastraff ond mae gennym dîm gwastraff cryf yng ngorllewin Cymru.

 

5.

Gweithio gyda Natur - Y Diweddaraf am y Cynllun Gweithredu gan yr Arweinydd Amcanion

·         Max Stokes - Uwch cynllunio Adnoddau Naturiol Swyddog

Cofnodion:

  • Mae CNC wedi cyfrannu at lawer o ddata amgylcheddol (yn enwedig ar gam yr Asesiad o Les), ymgynghoriad ac wedi cynnal gweithdai
  • Rydym am gael proffil o'r amgylchedd ar yr agenda
  • Mae isadeiledd gwyrdd yn hynod bwysig yn Abertawe, mewn amgylcheddau gwledig a threfol (cafwyd sgôr uchel ar eu cyfer mewn ymatebion yn yr ymgynghoriad ar yr asesiad)
  • Mae gwella gwybodaeth a dealltwriaeth yn ymdrech gydweithredol go iawn
  • Mae prosiect isadeiledd gwyrdd yr amryfal BGC sy'n cael ei gyflawni ar hyn o bryd yn fanteisiol i iechyd meddwl a chorfforol gydag isadeiledd gwyrdd
  • Os nad ydych yn byw o fewn 5 munud i le gwyrdd, mae'r tebygolrwydd o fynd iddo a gwneud defnydd ohono'n gostwng yn sylweddol
  • Ar hyn o bryd rydym yn creu offeryn i geisio nodi beth yw 'lle gwyrdd' da
  • Mentrau lle caiff coed eu plannu o ganlyniad i waith y BGC
  • Mae'r Cynllun Lles yn ddogfen strategol ar gyfer yr ardal gyfan, nid y BGC yn unig
  • Mae rhai ceisiadau am grant yn cael eu cymeradwyo o ganlyniad i'r BGC
  • Mae adnoddau ymwybyddiaeth o newid yn yr hinsawdd yn cael eu datblygu
  • Bydd datganiadau ardal yn gwella cyfleoedd a chamau gweithredu i bobl yn yr ardaloedd hynny sy'n cysylltu â'r gwasanaethau ecosystem
  • Disgwylir i 6 datganiad ardal ar gyfer Cymru, ynghyd ag un morol, gael eu cyhoeddi rhwng mis Rhagfyr 2019 a mis Ebrill 2020. Rydym yn ceisio cynnwys pobl yn awr er mwyn sicrhau bod y datganiadau'n gywir
  • Mae angen symleiddio a sicrhau synergedd; mae'n ymwneud â pherthnasoedd, a gallai'r tîm craffu  fonitro hyn

 

6.

Diweddariad ar Lywodraethu pdf eicon PDF 170 KB

·         Suzy Richards - Swyddog PolisÏau Cynaliadwyedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

  • Pwrpas y BGC yw gwella lles yn Abertawe drwy gyfrannu at y nodau cenedlaethol
  • 3 cham allweddol - asesiad Blwyddyn 1, Cynllun Lles Blwyddyn 2, Cyflwyno'n parhau ym Mlwyddyn 3. Mae'r BGC yn ymwneud â ffordd o weithio a blaenoriaethu
  • Penodwyd cadeirydd newydd ym mis Hydref 2018, Andrew Davies PABM
  • Ffordd gyfyngol o weithio e.e. gall agendâu fod yn ataliol
  • Yr hyn y mae'n gyfreithiol rwymol i'w cyflwyno yw'r Amcanion Lles Lleol a'r camau sy'n sail iddynt
  • Wedi'u rhannu'n amcanion tymor byr, canolig a hir
  • Mae perthnasoedd wedi gwella rhwng sefydliadau - daeth Gweithio gyda Natur yn uniongyrchol o ymgynghoriad a datblygwyd Dinasoedd Hawliau Dynol gan y BGC.
  • Dywedwyd bod cysylltiadau cyhoeddus yn 'wael' a bod angen ymdrin â hwy drwy'r adolygiad llywodraethu.
  • Nid oes cyllideb ar gyfer cyfathrebiadau
  • Mae angen dulliau ar waith i nodi'r gwerth ychwanegol - ei asesu dan gydweithio yn hytrach na chanlyniad

 

 

7.

Cynllun Gwaith 2018 - 2019. pdf eicon PDF 62 KB

Cofnodion:

·         Trafodwyd

 

Llythyr at Gadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau pdf eicon PDF 264 KB