Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Scrutiny 636292 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

·         Dim

 

2.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Cofnodion:

           Dim

3.

Cofnodion. pdf eicon PDF 108 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

           Cymeradwywyd

4.

Sesiwn Holi ac Ateb - Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol pdf eicon PDF 169 KB

·         Cyfle i ofyn cwestiynau i Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol  ynghylch Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

  • Roedd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol (CCD), Sophie Howe, yn bresennol yng nghyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i gymryd rhan yn y drafodaeth a'r sesiwn holi ac ateb.
  • Esboniodd y comisiynydd bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol wedi bod ar waith am ddwy flynedd a hanner
  • Mae'r gwaith wedi bod yn flaengar, yn gyffrous ac yn heriol
  • Dylai’r ddeddfwriaeth gynnwys nodau'r BGC yn gyntaf ac yna nodau'r cyrff cyhoeddus
  • Collwyd cyfle i ranbartholi'r gwaith ac mae angen i'r awdurdodau lleol ystyried a oes awydd i wneud hyn neu beidio
  • Nid yw'r holl Fargeinion Dinesig wedi'u cysylltu'n glir â'r Cynlluniau Lles
  • Mae'r dyletswyddau o dan y ddeddf yn ymwneud â newid sut rydym yn gwneud busnes yn y bôn
  • Bydd trin y gwaith hwn fel proses neu gydymffurfiad yn methu nod y ddeddfwriaeth
  • Cwestiynau ar gyfer y comisiynydd
  • Sut ydych chi'n teimlo y mae'r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus wedi bod yn perfformio ar draws Cymru ar y cyfan?
  • Mae'n anodd ymateb gyda thystiolaeth gan nad oes adroddiadau blynyddol wedi'u cyflwyno eto
  • Nid yw pob BGC yn gweithio cystal â phosib
  • Mae enghreifftiau o arfer da
  • Po fwyaf cynhwysol yw'r byrddau (e.e. y cadeirydd, adnoddau, cyfranogwyr) mwyaf effeithiol y maent mewn theori
  • Mae aelodau'n cymryd mwy o ran os ydynt yn rhan o bennu’r agenda
  • Sylweddolwyd bod rolau'n dechrau cael eu dirprwyo, ac nid yw hynny mor effeithiol
  • Mae sesiynau gweithdai yn well nag agendâu hir - weithiau gwahoddir pobl i adrodd straeon ac i rannu profiadau bywyd. Mae ymagweddau arloesol yn fwy llwyddiannus
  • Roedd yr awdurdodau lleol yn gallu darparu cefnogaeth megis cefnogaeth ar gyfer pwyllgorau, ond nid yw hyn yn golygu y dylid dominyddu'r BGC
  • Beth yw gwerth ychwanegol y BGC yn erbyn yr hyn y mae'r awdurdod lleol yn ei wneud eisoes, e.e. adran 6 Deddf yr Amgylchedd?
  • Mae pethau sydd y tu hwnt i allu sefydliadau unigol, e.e. collwyd cyfleoedd i gydweithio mewn perthynas ag iechyd, tlodi, llygredd aer
  • Rydym yn datblygu nifer o fframweithiau cenedlaethau'r dyfodol a fydd yn gweithredu fel ffordd o annog yr hyn y dylid ei ystyried wrth ddatblygu prosiectau
  • Sefydlwyd ymgyrch 'Y gallu i greu' gyda nifer o sefydliadau (Ymddiriedolaeth Natur, Chwaraeon Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru etc) gyda'r nod o annog arfer da
  • Mewn perthynas â'r amgylchedd, dylem fod yn cyfyngu ar dorri'r glaswellt ac yn tyfu blodau yn ei le, am ei fod yn arbed arian ac yn well ar gyfer yr amgylchedd
  • Nid oedd tai wedi'u cynnwys fel thema
  • Heb fod yn rhan o ddrafftio'r ddeddfwriaeth, nid oedd addysg yn rhan ychwaith, ond mae cymdeithasau tai yn awyddus i weithio gyda ni ac rydym yn edrych ar fframwaith penodol ar gyfer tai, cytuno bod tai yn hollbwysig
  • Dylai bod tai'n defnyddio technoleg newydd sy'n creu ynni, gan ddefnyddio busnesau lleol o fewn isadeiledd gwyrdd ac edrych am gael dim tlodi tanwydd
  • Mae angen i'r BGC bennu sut y mae am fesur cynnydd. Nid oes gan bob un ohonynt fesurau neu mae ganddynt rai nad ydynt yn effeithiol e.e. achosion plant yn cael eu hadolygu ar amser
  • Nid oes gan swyddfa Cenedlaethau'r Dyfodol unrhyw ddyletswydd i fonitro neu asesu nodau ac nid yw'r ddeddfwriaeth o gymorth yma, felly mae awydd i fonitro cynnydd gyda'r archwilydd cyffredinol
  • Mae enghreifftiau da o Ben-y-bont ar Ogwr mewn perthynas â phrosiectau profiad niweidiol yn ystod plentyndod (yr heddlu, y gwasanaethau cymdeithasol, addysg), ynni adnewyddadwy ar draws yr ystadau, ymgynghori â'r cyhoedd a'i gynnwys
  • Yn aml nid oes unrhyw ymyriadau o ran profiadau niweidiol yn ystod plentyndod nes bod y sefyllfa'n ddifrifol - mae angen ymyrryd yn gynharach ac mae angen mwy o gyllideb - mae 14% o bobl wedi profi 4 neu fwy o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod - mae'n rhaid i ni ymyrryd yn gynharach er mwyn lliniaru materion. Efallai fod angen ystyried cyfranogaeth athrawon a hyfforddwyr chwaraeon
  • Mae'r ddeddfwriaeth yn ymwneud â phroses ac mae'n cynyddu disgwyliadau heb adnoddau. Sut rydym ni'n ariannu'r galw? Bydd rhoi cynllun gweithredu ar waith yn hanfodol. Os yw'r cynllun gweithredu'n mynd o’i chwith, sut bydd modd ei unioni?
  • Daw'r pŵer o adolygiad barnwrol y cam gweithredu/penderfyniad a wneir e.e. adolygiad barnwrol yr M4 a brofwyd a chau ysgol, byddwn yn dechrau gweld y fframwaith cyfreithiol yn cael ei ddefnyddio mwy, mae angen penderfyniadau dewr arnom e.e. mae cael yr heddlu i ariannu prosiect economi gyda'r hwyr Abertawe'n golygu bod pawb yn elwa
  • Gall y CCD adolygu cyrff cyhoeddus a'r BGC - heb ei ddefnyddio eto ond gallant eu bygwth
  • Mae cynllunio'n faes blaenoriaeth nawr, ynghyd â cheisio cael polisi ac arweiniad yn unol â Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae Polisi Cynllunio Cymru bellach yn unol â Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol
  • Y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yw'r cam nesaf, mae pryderon mewn perthynas â systemau. Ar hyn o bryd maent yn gweithio'n agos gyda'r Arolygiaeth Gynllunio ac mae perthynas dda rhyngddynt
  • Fis diwethaf, defnyddiwyd Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol fel sail er mwyn gwrthod cais cynllunio am y tro cyntaf - mae pryderon parhaus ynghylch cyllideb er mwyn mynd i'r afael â hyn
  • Oes gennych chi unrhyw gyngor ar gyfer paneli craffu wrth ystyried y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus wrth fynd rhagddo?
  • Bydd gennym lawer mwy ar ôl derbyn adborth ar y fframwaith sydd ar ddod
  • Oes enghreifftiau o arfer da y gallwch eu rhannu â'r panel?
  • Rhestrwyd yr enghreifftiau uchod eisoes
  • Yn eich barn chi, beth yw'r heriau sy'n wynebu'r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a'r paneli craffu?
  • Fel yr uchod
  • Ydych chi'n meddwl bod diffyg cyllid ar gyfer gwaith y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn cael effaith negyddol ar eu perfformiad?
  • Roedd yr amcangyfrif o'r costau yn fecanyddol iawn, roedd yn canolbwyntio ar brosesau ac nid canlyniadau
  • Nid oedd unrhyw adnoddau ar gyfer y newid diwylliannol, mae swyddfa'r CCD wedi cyflwyno £650,000 ychwanegol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf er mwyn helpu gyda hyn
  • Dylid rhoi arian ar gyfer ymchwil ac i gefnogi arweinyddiaeth, ond mewn rhai amgylchiadau, nid ymgynghorwyd ag unrhyw benaethiaid ynghylch 'Dechrau Gorau Mewn Bywyd'
  • Dyma'r newid diwylliannol mwyaf o'i fath yng Nghymru a welwyd erioed o'r blaen
  • Y llynedd, craffwyd ar y gyllideb a darparwyd adborth - mae diffyg diffiniad o ran 'gwariant ataliol' ond mae'r diffiniad hwn wedi'i gytuno arno erbyn hyn
  • Mae symudiad wedi bod o wariant ar iechyd i wariant ar ALl ar gyfer ataliaeth ond mae materion gwleidyddol yma hefyd
  • Gofal cymdeithasol/datgarboneiddio/sgiliau/iechyd meddwl - rydym wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn pa adnoddau y mae wedi'u dyrannu i'r sector
  • Rhai pryderon mewn perthynas ag ysgolion, weithiau nid oes unrhyw rieni nac athrawon yn gwybod unrhyw beth am Ddeddf Cenedlaethau'r Dyfodol
  • Nid yw hyn yn achos unigol ond gall aelodau'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus newid hyn, gallant edrych ar sut maent yn cynyddu ymwybyddiaeth o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, mae angen i gyrff cyhoeddus gymryd yr holl gamau rhesymol er mwyn mynd i'r afael â hyn 
  • Os yw'r ffocws ar fiwrocratiaeth yna mae hynny'n anghywir - mae angen i'r ffocws fod ar ganlyniadau, mae rhai o'n mecanweithiau'n anghywir ond mae ein dyheadau'n wych. Mae angen i ni fynd i'r afael â biwrocratiaeth a chyflwyno
  • Mae angen sicrhau bod y BGC yn atebol, gallwn ddod a chefnogi ac ymyrryd os oes angen
  • Sut ydych chi'n teimlo y gall aelodau ward unigol gael effaith gadarnhaol ar eu cymunedau gan ystyried nodau'r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus?
  • Roedd CCD yn gynghorydd lleol am sawl blwyddyn, mae'r materion yn adlewyrchu rhwystredigaethau wardiau lleol e.e. gwasanaethau heb eu cysylltu
  • Gellir defnyddio Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol er mwyn cynllunio cymunedol a chan y Cynghorau Cymuned - ar hyn o bryd mae gan Lanelli brosiect diddorol sy'n ei ddefnyddio
  • Roedd gan Gasnewydd broffiliau ward, roedd hyn yn caniatáu eiriolaeth mewn wardiau am eu bod yn gallu nodi problemau
  • Yn aml mae'r cyfeiriad at nod Cymru Gydnerth yn cael ei gamddeall gyda chyfeiriad penodol at arweiniad gan yr Arolygiaeth Gynllunio
  • Dylai enw’r nod fod wedi bod yn wahanol, yn aml mae'r diffiniad statudol yn cael ei gamddehongli e.e. mae'r 'nod ffyniannus' yn aml yn cael ei gamddehongli fel bod cynnydd yng ngwerth ychwanegol gros. Rydym yn tynnu sylw at hyn pan fyddwn yn ei weld, ond mae'n anodd
  • Nid yw'r amgylchedd mor amlwg ag y dylai fod. Mae angen edrych ar 'sgiliau' yn gyffredinol mewn perthynas ag addysg a datblygu nodau gwyrdd etc
  • Trafod hyn â'r Arolygiaeth Gynllunio
  • Mewn perthynas ag adolygiad barnwrol, nid yw'r mwyafrif o bobl yn gallu ei fforddio. Unwaith y bydd y materion wedi'u hadolygu, cyhoeddir yr arweiniad a bydd awdurdodau lleol yn cael gwybod am y canlyniad

 

5.

Cynllun Gwaith 2017 - 2018. pdf eicon PDF 62 KB

Cofnodion:

·         Adolygwyd y cynllun gwaith

·         Bydd y cyfarfod nesaf yn edrych ar 'Weithio gyda Natur'

·         Mae eitem wedi'i diweddaru wedi'i hychwanegu at bob cyfarfod

 

Llythyr at Gadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus pdf eicon PDF 258 KB