Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Scrutiny - 637732
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Dim |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Rhaid i gwestiynau ymwneud â materion yn rhan agored agenda'r cyfarfod ac ymdrinnir â hwy o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Dim |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Cymeradwywyd |
|
Y diweddaraf am y Cynllun Lles a'r Camau Nesaf PDF 148 KB · Suzy Richards – Swyddog PolisÏau Cynaliadwyedd · Penny Grufydd - Swyddog PolisÏau Cynaliadwyedd Cofnodion: · Daeth Suzy Richards a Penny Gruffydd i gyfarwyddo'r panel ar y Cynllun Lles a'r camau nesaf · Mae'r cynllun yn strategaeth drosgynnol a defnyddir cynlluniau gweithredu er mwyn ei gyflawni · Caiff rhai themâu (megis y Blynyddoedd Cynnar) eisoes eu gweithredu a chyflwynwyd cynlluniau a gweithredoedd · Mae rhai themâu'n newydd felly mae angen eu datblygu (megis Cymunedau Cryfach) · Cyflawnir cynlluniau gweithredu erbyn yr haf · Mae angen i'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus fonitro'r gwahaniaeth a wneir · Efallai mai 'mesur cynnydd' yw'r ffordd orau i olrhain perfformiad oherwydd ni cheir dangosyddion perfformiad i'w defnyddio · Ceir amcanion tymor byr, tymor canolig a thymor hir ar gyfer pob cam · Rhoddir terfyn amser 3-4 mlynedd i'r prosiectau hyn o ran eu gweithredu a'u cyflawni · Mae Cynulliad Cymru'n annog symud i ffwrdd o'r dangosyddion perfformiad safonol. Hoffai weld ffyrdd ansoddol o adrodd ar ganlyniadau megis buddsoddiadau, ymrwymiad i gynlluniau a straeon llwyddiant · Bydd grŵp craidd y BGC yn olrhain y cynllun ac yn hwyluso integreiddio · Bydd grŵp cynllunio BGC a grŵp partneriaeth BGC yn cyflwyno adolygiad a chaiff arweinwyr eu neilltuo i weithredoedd penodol · Bydd gan bob partner sy'n rhan o hyn gynulleidfa darged ac mae pob llwyddiant bach yn cyfrannu at gynnydd cyffredinol · Mae Llywodraeth Cymru, swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol a Swyddfa Archwilio Cymru'n ystyried ffyrdd eraill o werthuso · Yr ymagwedd 'newid mwyaf arwyddocaol' yw edrych ar weithredoedd a dysgu ohonynt · Gofynnwyd i bob sefydliad partner ddefnyddio'i systemau cynnwys ei hun i gael adborth a rhoi mewnbwn yn ystod proses ymgynghori ar y Cynllun Lles · Mae thema 'yr economi' yn codi trwy gydol y cynllun ac mae wedi'i mewnosod yn y gweithredoedd · Mae gan y Fargen Ddinesig strwythur llywodraethu penodol felly caiff ei chefnogi, ond nid yw'n ymddangos fel amcan annibynnol yn y cynllun · Caiff llwyddiant ei fesur yn y tymor hir ac ni welir hyn yn syth · Gall cynlluniau tymor hir fod yn anodd eu mesur oherwydd ni cheir yr effaith fwriadol erbyn terfyn yr amser · Mae BGC yn gweithio trwy waith partneriaeth o ewyllys da, ac mae perygl y byddai gorfodi sefydliadau i fonitro dangosyddion perfformiad yn golygu y byddant yn llai awyddus i gymryd rhan · Ceir pethau sy'n hawdd eu cyflawni yn y cynllun gweithredu (e.e. creu tîm i fynd i'r afael â mater penodol) felly ceir gweithredoedd go iawn yn y broses · Roedd y panel yn pryderu y byddai'n anodd mesur llwyddiant heb ddangosyddion perfformiad · Caiff perfformiad cydweithredol ei fesur hefyd gan Swyddfa Archwilio Cymru felly ceir monitro perfformiad anuniongyrchol yn y modd hwn · Ceir hefyd gyfle i fesur cynnydd pan gynhelir yr asesiad lles nesaf · Mae rhai o'r amcanion yn cyfeirio'n ôl at y Cynllun Un Abertawe, ond cafodd rhai eraill megis Cymunedau Cryfach a Gweithio gyda Natur eu nodi gan randdeiliaid felly maent yn newydd · Hoffai'r panel gwrdd â'r swyddogion perthnasol eto mewn 6 mis ar ôl cyhoeddi'r cynllun gweithredu i'w adolygu |
|
Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol a Chraffu - Arweiniad PDF 111 KB · Cyng Mary Jones Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: · Darllenodd y panel adroddiad ar rwymedigaethau ac arweiniad i'r panel a nodwyd yn yr adroddiad gan y Ganolfan Craffu Cyhoeddus ar ran Llywodraeth Cymru · Roedd hefyd yn cynnwys nodyn atgoffa am y Pum Ffordd o Weithio a'r Egwyddor Datblygu Cynaliadwy |
|
Adolygiad Diwedd Blwyddyn PDF 127 KB Cyng Mary Jones Cofnodion: · Myfyriodd y panel ar yr hyn maent wedi ei gyflawni'r flwyddyn hon a'r hyn aeth yn dda · Y flwyddyn nesaf bydd amserlen fwy penodol yn canolbwyntio ar gyfarfodydd gydag aelodau a sefydliadau craidd sydd wedi dechrau cyflawni gwaith yn dilyn yr amcanion · Bydd hefyd sesiwn gychwynnol a fydd yn canolbwyntio ar drefniadau llywodraethu'r bwrdd |
|
Cynllun Gwaith 2017 - 2018. PDF 48 KB Trafod a chymeradwyo’r Cynllun Gwaith ar gyfer 2018-2019 Cofnodion: · Cynllun wedi'i gymeradwyo · Angen trefnu sesiwn ym mis Awst/Medi er mwyn adolygu'r cynlluniau gweithredu |