Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Scrutiny - 637732 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Mary Jones a'r Cynghorydd Jeff Jones gysylltiad personol am fod eu merch yn fydwraig yn Ysbyty Singleton ac roedd peth trafodaeth am fydwragedd a'u cyfranogaeth yn y Blynyddoedd Cynnar.

Ffurflenni a gwblhawyd.

2.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Rhaid i gwestiynau ymwneud â materion yn rhan agored agenda'r cyfarfod ac ymdrinnir â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Dim

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 109 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Cymeradwywyd

4.

Ffrwd Waith y Blynyddoedd Cynnar pdf eicon PDF 298 KB

Sian Bingham – Rheolwr y Blynyddoedd Cynnar a Chymorth i Deuluoedd

Chris Sivers – Cyfarwyddwr - Pobl

Cofnodion:

·         Daeth Sian Bingham a Gary Mahoney i gyflwyno Ffrwd Waith y Blynyddoedd Cynnar i'r panel

·         Mae 3 oed yn oedran cymhwyso ar gyfer cefnogaeth gynnar

·         Dyma gydweithrediad rhwng Bwrdd Dinas Iach a Thîm Marmot

·         Ymagwedd gyffredinol yw hon, gydag ymyriad wedi'i dargedu lle y bo'n briodol

·         Mae gan 'Dechrau Gorau Abertawe' dudalen Facebook a chyfrifon Twitter

·         Cyflwynwyd sesiynau ymwybyddiaeth o weithlu fel bod staff wedi'u diweddaru o ran nodau ac amcanion y prosiect hwn

·         Roedd digwyddiad '1,000 diwrnod cyntaf bywyd plentyn' yn llwyddiannus iawn

·         Cyhoeddwyd llyfrau sy'n edrych ar chwarae a bwyta'n iach

·         Cyhoeddwyd llyfrau gweithgareddau hefyd ar gyfer plant

·         Mae'r prosiectau wedi cael cysylltiad wyneb yn wyneb â thros 5,000 o bobl dros y flwyddyn ddiwethaf ac maent wedi bod yn rhan o ddigwyddiadau niferus sy'n edrych ar wahanol agweddau ar ofal plant

·         Mae'r plant wedi bod yn cymryd rhan mewn creu gemau

·         Mae'r llyfrgelloedd hefyd wedi bod yn cymryd rhan wrth hyrwyddo llyfrau magu plant a phrosiect y Blynyddoedd Cynnar yn gyffredinol

·         Llywiwyd strategaeth y Blynyddoedd Cynnar gan archwiliad angen

·         Nododd yr archwiliad y diffyg gwasanaethau ar gyfer pobl yn ystod beichiogrwydd ac ar gyfer plant hyd at 3 oed

·         Mae dau brosiect mawr wedi'u creu;

1. Tîm amlddisgyblaeth ac amlasiantaeth integredig yw Jig-so ar gyfer rhieni am y tro cyntaf dan 25 oed. Mae gan y prosiect ganlyniadau iechyd nodedig iawn sy'n gysylltiedig â rhoi'r gorau i smygu ac annog bwydo ar y fron

2. Ariannwyd Prosiect Peilot Gofal Sylfaenol Blynyddoedd Cynnar Penderi gan rwydwaith Meddygfa Penderi. Mae'n canolbwyntio ar sgiliau magu plant a rhagnodi cymdeithasol. Ei nod yw mynd i'r afael â materion ac mae'n edrych ar atal iechyd meddwl. Mae'r gefnogaeth yn ddwys iawn

·         Y cynllun ar gyfer y dyfodol yw cynyddu'r negeseuon presennol

·         Mae'r adran am adeiladu ar gydweithrediad '1,000 diwrnod cyntaf'

·         Bydd y camau nesaf yn cynnwys datblygu camau'r Cynllun Lles ar gyfer amcan 1: Dechrau Gorau

·         Roedd trafodaethau ynghylch prosiect Tîm am y Teulu mewn ysgolion sydd wedi ennill Gwobr Gwasanaeth Cyhoeddus y Guardian

·         Cytunodd y panel fod ymyrryd yn gynnar yn allweddol ar gyfer y gwaith hwn

·         Mae angen i'r llwybr craidd gael ei wella a'i gefnogi gan y gwaith hwn - hynny yw, bydwragedd, ymwelwyr iechyd ac ysgolion

·         Mae hyfforddiant rhaglen graidd ar gyfer ymwelwyr iechyd fel y gallant adnabod materion perthnasol yn haws

·         O ran strategaeth atal iechyd meddwl, mae'r panel yn teimlo y dylai uwch-reolwyr y bwrdd iechyd fod yn ei llywio

·         Mae pryder bod diffyg adnoddau o ran iechyd meddwl yn y BGC ar y cyfan

·         Roedd y panel yn falch iawn bod cymaint o lwyddiant yn y prosiect a gallai'r rhain gael eu hadeiladu arnynt

 

5.

Digwyddiad Swyddfa Archwilio Cymru - Trosolwg pdf eicon PDF 63 KB

·         Cyng Mary Jones

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·         Trafododd y Cynghorydd Mary Jones adroddiad trosolwg Swyddfa Archwilio Cymru

·         Mae Abertawe eisoes yn cynnwys ethos Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn ei swyddogaethau craffu

·         Mae Abertawe hefyd yn ymgymryd â gwaith craffu cyn penderfynu sylweddol

·         Disgwylir adborth o'r gynhadledd a fydd yn cael ei gyflwyno i'r panel

 

 

6.

Cynllun Gwaith 2017 - 2018. pdf eicon PDF 60 KB

Cofnodion:

·         Aethpwyd drwy'r cynllun gwaith. Cyfarfod olaf y flwyddyn ddinesig fydd y cyfarfod nesaf

 

Llythyr at Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus pdf eicon PDF 260 KB