Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Scrutiny - 637732 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

www.abertawe.gov.uk/DatgeliadauBuddiannau

Cofnodion:

Dim

2.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Cofnodion:

Dim

3.

Cofnodion. pdf eicon PDF 117 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Cymeradwywyd.

4.

Ffrwd Waith Cam-drin Domestig pdf eicon PDF 91 KB

·         Chris Sivers – CyfarwyddwrPobl

·         Jane Whitmore - Rheolwr Partneriaeth a Chomisiynu

·         Megan Stevens - Gweithwr Prosiect ‘Key 3’

Cofnodion:

Ffrwd Waith Cam-drin Domestig

 

·         Mae'r prosiect newydd a gyflwynwyd gan Megan Stevens yn ceisio creu llwybr clir ar gyfer atgyfeirio cleientiaid gyda materion cam-drin domestig, problemau iechyd meddwl a phrofiad o gam-drin sylweddau

·         Ar hyn o bryd, mae'r gefnogaeth ar chwâl - nod y prosiect hwn yw cael asiantaeth i gymryd yr awenau

·         Mae cynnwys a chadw cleientiaid yn anodd o ystyried natur brysur eu ffyrdd o fyw

·         Rhaid i'r gefnogaeth fod yn briodol a cheisio lleihau atgyfeiriadau o ganlyniad i hynny

·         Ceisio osgoi dyblygu a rhannu gwybodaeth rhwng asiantaethau'n effeithiol

·         Nid yw'n wasanaeth mandadol - rhaid bod awydd ar gleientiaid i gymryd rhan

·         Caiff y prosiect ei fonitro drwy adran ganlyniadau ar y ffurflen atgyfeirio

·         Edrych ar deilwra'r hyfforddiant 'Gofyn a Gweithredu' presennol i ganolbwyntio ar iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau hefyd

·         Mae'r prosiect yn cysylltu â sefydliadau'r trydydd sector i geisio sicrhau bod yr holl wasanaethau perthnasol yn cydweithio ac yn cyfathrebu fel nad ydym yn dyblygu gwaith a gwneud yr atgyfeiriad mwyaf effeithiol

·         Mae'r prosiect yn rhad o ran comisiynu yn y dyfodol. Mae Llywodraeth Cymru'n edrych ar y prosiect hwn am arfer da

 

5.

Ffrwd Waith Heneiddio'n Dda pdf eicon PDF 108 KB

·         Chris Sivers – CyfarwyddwrPobl

·         Jane Whitmore - Rheolwr Partneriaeth a Chomisiynu

·         Polly Gordon - Rheolwr Partneriaeth Camau Bywyd

Cofnodion:

Heneiddio'n Dda

 

·         Daeth y ffrwd waith i rym ym mis Gorffennaf 2016 wrth i'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus gael ei ddatblygu

·         'Byw'n Dda, Henieddio'n Dda' yw enw arfaethedig yr amcan newydd yn y Cynllun Lles, ond nid ymgynghorwyd ar y cynllun hwnnw eto na'i fabwysiadu'n ffurfiol.

·         Y nod yw gwella lles ar y cyd â chymunedau ac asiantaethau

·         Mae holl Bartneriaid y Gwasanaethau Cyhoeddus yn cael eu cydnabod fel bod yn ystyriol o ddementia

·         Gweithio gyda chynllunwyr a dylunwyr i wneud tai newydd yn addas i bobl hŷn

·         Mae Cydlynwyr Ardaloedd Lleol yn boblogaidd iawn

·         Ceir tystiolaeth fod ehangu rolau Cydlynwyr Ardaloedd Lleol i wardiau cyfagos wedi bod yn llwyddiannus

·         Mae'r gwasanaeth sy'n ystyriol o ddementia'n cefnogi pobl â dementia ond hefyd y rhai sy'n cynnig y gofal hefyd

·         Mae hyrwyddo digwyddiadau'n heriol ac mae'r adran yn edrych i gynyddu cyfranogiad gwirfoddolwyr

·         Dywedodd Cherrie Bija wrth y grŵp bod ei gwasanaeth yn cynnal clybiau cinio rhwng y cenedlaethau lle gall pobl o bob oedran ddod ynghyd a rhannu cyngor ar bethau fel defnyddio tabledi digidol

·         Mae cyfradd diffyg cyfranogiad mewn addysg, cyflogaeth a hyfforddiant gan bobl hŷn bedair gwaith yn uwch o'i chymharu â phobl ifanc 16 i 25 oed

 

 

6.

Cynllun Gwaith 2017 - 2018. pdf eicon PDF 61 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd y bydd y cyfarfod nesaf yn adolygu'r Cynllun Lles drafft.