Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Scrutiny - 637732 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau

2.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Cofnodion:

Dim

3.

Cylch gorchwyl. pdf eicon PDF 100 KB

Cofnodion:

Trafododd aelodau'r panel eu rôl a gweithio'n effeithiol.

Nodwyd bod angen anfon unrhyw adroddiadau/argymhellion gan y panel hwn mewn perthynas â swyddogaethau'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) neu drefniadau llywodraethu yn Weinidogion Cymru, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru er eu gwybodaeth. Mae hyn yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

4.

Cofnodion. pdf eicon PDF 79 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Cytunwyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Ebrill 2017 yn gofnod cywir.

5.

Llythyr y cynullydd ac ymateb o'r cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 42 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Trafododd y panel yr ymateb a ddarparwyd gan gadeirydd y BGC i'r llythyr dyddiedig 9 Mehefin ac roeddent am gael mwy o wybodaeth am gynlluniau pontio y cyfeiriwyd atynt mewn perthynas â Chymunedau'n Gyntaf.

6.

Briffio Swyddogion am yr Asesiad Lles pdf eicon PDF 258 KB

Steve King – Uwch-swyddog Ymchwil a Gwybodaeth

Cofnodion:

Aeth Steve King, Arweinydd y Tîm Gwybodaeth, Ymchwil a GIS, i friffio'r

panel am ganfyddiadau allweddol yr Asesiad Lles y cytunwyd arnynt gan

BGC Abertawe. Darparodd wybodaeth am sut cesglir yr wybodaeth, y canlyniadau a'r sgorau.

 

 

Pwyntiau allweddol a godwyd:

 

  • Mae'r Asesiad Lles yn ddogfen fyw a chaiff ei hadolygu, ei diweddaru a'i gwella dros amser

 

  • Mae'n anodd cymharu oherwydd dyma'r Asesiad Lles cyntaf, ond adolygir y sylfaen dystiolaeth yn flynyddol a gwneir asesiad newydd bob 5 mlynedd, yn unol â disgwyliadau Llywodraeth Cymru.
  • Mae rhai o'r sgorau yn seiliedig ar gyfartaleddau a all gael effaith ar

            ddadansoddiad manwl.

  • Prif bwrpas yr asesiad yw darparu sylfaen dystiolaeth i helpu'r BGC i ddatblygu Cynllun Lles ar gyfer Abertawe, gyda nifer bach o amcanion,

            a fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn ar gyfer dinasyddion.

            Trafodwyd y materion canlynol:

  • Ystyr y sgorau sy'n gysylltiedig â phob ysgogydd cychwynnol
  • Yr hyn y mae "da" yn ei olygu pan gyfeirir ato yn yr ysgogwyr, e.e. "gwaith da"
  • Cywirdeb y darlun y mae'r asesiad yn ei greu ynghylch lefel tlodi incwm yn Abertawe
  • Sut bydd yr asesiad yn arwain at gamau gweithredu mesuradwy

 

7.

Briffio Swyddogion am y Cynllun Lles

Chris Sivers – Cyfarwyddwr Pobl

Cofnodion:

Daeth Chris Sivers, Cyfarwyddwr - Pobl, i friffio'r panel am y Cynllun Lles.

Darparodd wybodaeth am sut mae'r cynllun yn cael ei ddatblygu, pwy sy'n rhan ohono a'r camau nesaf.

 

Rhoddodd beth cefndir i'r BGC a'r strwythur trefniadol gan ddarparu cyngor i'r BGC drwy amrywiaeth o ffrydiau gwaith, grwpiau cyflwyno ac is-grwpiau.

 

Pwyntiau allweddol a godwyd:

 

  • Mae disgwyliadau o weithio'n rhanbarthol yn fwy yn y dyfodol
  • Rhaid cyhoeddi'r cynllun erbyn mis Mai 2018 ar ôl yr ymgynghoriad cyhoeddus
  • Yr hyn sy'n allweddol yw gwreiddio gweithio mewn partneriaeth ym mhob sefydliad sy'n cymryd rhan fel ei fod yn dod yn rhan o'u busnes craidd

            Trafodwyd y materion canlynol:

  • Yr amserlen ar gyfer datblygu'r Cynllun Lles
  • Yr angen i'r ymgynghoriad cyhoeddus fod yn hygyrch ac yn ystyrlon
  • Yr angen i gam craffu, fel ymgynghorai statudol, gael ei gynnwys

            wrth ddatblygu'r Cynllun Lles, cyn ei gymeradwyo.

  • Yr angen am fframwaith perfformio clir er mwyn cefnogi cyflawni'r

            Cynllun Lles, a all gael ei graffu.

 

Cytunwyd anfon llythyr at gadeirydd y BGC gan fyfyrio ar ein trafodaeth a'n barn ar yr Asesiad a'r Cynllun Lles.

 

8.

Cynllun Gwaith 2017 - 2018. pdf eicon PDF 57 KB

Cofnodion:

Trafodwyd cynllun gwaith ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

Nodwyd y materion canlynol:

  • Y gellir gwneud newidiadau i'r cynllun gwaith wrth i'r panel ddatblygu
  • Cynigiodd Cherrie Bija i gynnal cyfarfod panel yn y dyfodol yn un o'r canolfannau i deuluoedd a gynhelir gan ei sefydliad hi, Ffydd mewn Teuluoedd.
  • Trefnwyd sesiwn wybodaeth ar Ddeddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol a rôl craffu ar gyfer aelodau'r panel ar 13 Medi (10.00-11.45am)

 

Cytunwyd ar y canlynol:

a) Byddai cyfarfod y panel ar 13 Rhagfyr yn mynd i'r afael â'r Cynllun Lles drafft a

b) Bod y cyfarfodydd ar 25 Hydref ac 14 Chwefror yn adolygu cynnydd a chyflawniadau dros y flwyddyn ddiwethaf o ran pedwar amcan y BGC, gan wahodd y swyddogion arweiniol perthnasol a noddwyr y prosiect i gwrdd â'r panel.

Daeth y cyfarfod i ben am 11.45pm.

 

Llythyr at Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus pdf eicon PDF 169 KB

Ymateb Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus pdf eicon PDF 382 KB