Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Scrutiny 636292 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

·         Dim

 

2.

Cofnodion. pdf eicon PDF 116 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·         Cymeradwywyd

 

3.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Cofnodion:

·         Dim

4.

Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru - Safonau Ansawdd Tai pdf eicon PDF 743 KB

·         Y Cynghorydd Andrea Lewis – Aelod y Cabinet dros Gartrefi ac Ynni

·         Mark Wade –  Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd

·         Lynda Grove – Rheolwr Gwella Gwasanaeth

 

Cofnodion:

  • Buddsoddiad cyfalaf gwerth £500m yn nhai cyngor rhwng 2002 a 2020
  • Sylwodd Swyddfa Archwilio Cymru ar ymagwedd gadarn y cyngor tuag at y gwaith
  • Mae mwy o waith yn cael ei wneud yn fewnol
  • Codi safonau ar gyfer tenantiaid y cyngor
  • Dilysodd Swyddfa Archwilio Cymru'r rhaglen waith
  • Mae Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) yn rhan annatod o'r strategaeth gyffredinol
  • Mae cynlluniau cadarn ar waith er mwyn bodloni safonau
  • Y terfyn amser ar gyfer bodloni'r safonau yw 31 Rhagfyr 2020
  • SATC yw'r meincnod cyfreithiol am dai cyngor
  • Gwariwyd £230m rhwng 2012 a 2018
  • Rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoleiddiol
  • 6 mesur technegol o elfennau SATC
  • Mae'r safonau yn perthyn i flaenoriaethau corfforaethol ac agendâu ehangach y cyngor ar iechyd, lles, tlodi a gwasanaethau cyhoeddus
  • Gweithio'n agos gyda gwasanaethau eraill megis Gwasanaethau Adeiladau Corfforaethol
  • Bob 5 mlynedd mae'r cyngor yn ymgymryd â dilysiant annibynnol o eiddo ac yn llunio adroddiadau ar gyflwr a pha waith y dylid ei gynllunio
  • Mae arolygwyr y cyngor yna'n blaenoriaethu'r gwaith
  • Mae timau eraill megis Gwasanaethau Adeiladau Corfforaethol yn rhoi adborth i'r tîm os ydynt yn gweld gwaith arall mae'n rhaid ymdrin ag ef
  • Defnyddio amserlenni cylch bywyd cydrannol safonol i gynllunio gwaith (e.e. toeau newydd)
  • Mae 'Methiannau Derbyniol' yn yr adroddiad yn cynrychioli eiddo sy’n dal i ddarparu rhaglenni neu denantiaid sydd wedi gwrthod gwaith
  • Mae rhai tenantiaid yn rhy sâl neu’n methu ymdopi â'r tarfu sylweddol felly gallant wrthod derbyn gwaith adnewyddu
  • Bydd rhaid i'r gwelliannau gael eu gwneud pan fydd yr eiddo'n wag
  • Yr her fwyaf yw ail-wneud gerddi
  • Bydd y gwaith yn cynnwys gosod canllawiau ar risiau, amddiffyn newidiadau yn lefelau waliau cynnal a lliniaru risgiau a pheryglon mewn gerddi’n gyffredinol
  • £118m i ddarparu SATC erbyn Rhagfyr 2020
  • Cynhelir diweddariad blynyddol i graffu
  • Cyflogwyd syrfëwr allanol i gynnal arolygon cyflwr tai annibynnol i'r cyngor er mwyn llywio rhaglenni atgyweirio'r dyfodol a dilysu gwaith SATC a wnaed hyd yn hyn
  • Mae materion amgylcheddol a gwyrdd yn bwysig mewn ardaloedd cymunedol
  • Mae'r Uned Paratoi Tai’n ymdrin ag eiddo gwag
  • Llongyfarchwyd y tîm ar y gwaith a gwblhawyd yn West Cross
  • Mae Swyddogion Tai yn y Swyddfeydd Tai Rhanbarthol yn gweithio gyda thenantiaid er mwyn eu hannog nhw i gynnal eu gerddi. Gwneir hyn yn anffurfiol ar y rhan fwyaf o achosion ond gall amodau eich tenantiaeth gael eu rhoi ar waith lle bo'n briodol.
  • Mae ymagwedd y cyngor at SATC yn gyffredinol yn cael ei hintegreiddio'n dda
  • Teimlai rhai pobl fod y gwelliant i'w cartrefi’n fuddiol - roedd arolwg mewnol y cyngor yn fwy manwl nag arolwg ffôn SAC ac roedd lefelau boddhad yn gyffredinol yn uwch
  • Datblygwyd Cynllun Gweithredu er mwyn ymdrin ag unrhyw argymhellion o fewn Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru
  • Treialu gwaith ôl-osod 'Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer'
  • Mae'r cyngor yn mynd uwchben SATC ond mae gan ganddo gyfyngiadau cyllidebol
  • Taliadau aflonyddwch i denantiaid gan gydnabod yr anghyfleustra mawr a natur ymwthiol y gwaith a diffyg cyfleusterau coginio ac ymolchi yn ystod yr amser hwnnw
  • Wedi ymgyrchu dros am fwy o gyllid ynghylch ynni solar
  • Adroddiad a chyflwyniad cynhwysfawr da
  • Mae'r gwelliant mwyaf yn iechyd y cyhoedd o ganlyniad i dai diogel
  • Mae'r panel yn gwerthfawrogi'r gwaith sydd wedi'i wneud ac yn llongyfarch y tîm

 

5.

Adroddiad Blynyddol Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru 2017/18 pdf eicon PDF 143 KB

·         Y Cynghorydd June Burtonshaw – Aelod y Cabinet dros Gymunedau GwellLleoedd

·         Tracey McNulty – Pennaeth y Gwasanaethau Diwylliannol

·         Karen Gibbins – Prif Lyfrgellydd Gwybodaeth a Dysgu

·         Bethan Lee - Prif Llyfrgellydd

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

  • Rydym yn parhau i berfformio'n dda o ran gwasanaethau llyfrgelloedd
  • Mae gan lyfrgelloedd cyhoeddus 12 o hawliau craidd ac 16 o ddangosyddion ansawdd
  • Bodlonwyd 11 o'r 12 o hawliau craidd
  • Dangosydd ansawdd 9 - wedi methu'r adnoddau darllen diweddaraf
  • Dangosydd ansawdd 10 - wedi methu adnoddau Cymraeg
  • Dangosydd ansawdd 3 - wedi methu lefelau staffio a chymwysterau
  • Mae rheolwyr cymwysedig wedi gadael y gwasanaeth sy'n lleihau cyfartaledd cymwysterau
  • Wedi trafod 4 astudiaeth achos ynghylch datblygu unigol

1.    Grŵp Crosio St Thomas

2.    Sêr Darllen ym Mrynhyfryd

3.    Siopa Ar-lein - Canolog

4.    Cefnogi Iechyd Meddwl - Clydach

  • Rydym yn ceisio gwella monitro er mwyn gwella canlyniadau
  • 5ed yng Nghymru ar gyfer presenoldeb yn nigwyddiadau llyfrgelloedd
  • 5ed yng Nghymru ar gyfer ymweliadau â llyfrgelloedd
  • 5ed yng Nghymru ar gyfer gwariant refeniw
  • 8fed yng Nghymru ar gyfer mynediad ar-lein
  • Cyfraddau boddhad cwsmeriaid da
  • Bodlonwyd targedau mannau gwasanaeth digonol o ganlyniad i ehangder helaeth llyfrgelloedd
  • Rydym wedi parhau i fynd i'r afael â phwyntiau methiant
  • Nid oes llyfrgelloedd teithiol ar ôl ond mae gwasanaeth dosbarthu cymunedol
  • Defnyddir staff asiantaeth i gyflenwi yn ystod cyfnodau o salwch ac ymdrin ag oedi yn y broses recriwtio
  • Ni fydd unrhyw newidiadau eraill i amserau'r gwasanaeth llyfrgelloedd yn y dyfodol agos
  • Borrow Box - pethau i'w lawrlwytho am ddim gan gynnwys llyfrau llafar, a rennir ar draws Cymru ac a ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru
  • Mae'n bwysig cynnal gwasanaethau llyfrgelloedd
  • Rydym yn hapus i weld llyfrgelloedd yn llwyddo

 

6.

Cynllun Gwaith 2018 - 2019. pdf eicon PDF 68 KB

Cofnodion:

·         Trafodwyd

 

Llythyr at Aelod y Cabinet (Safonau Ansawdd Tai) pdf eicon PDF 193 KB

Llythyr at Aelod y Cabinet (Adroddiad Blynyddol Safonau Llyfrgelloedd) pdf eicon PDF 199 KB