Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Scrutiny 636292
Eitemau
Rhif |
Eitem |
1. |
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.
Cofnodion:
|
2. |
Cwestiynau gan y Cyhoedd
·
Rhaid i gwestiynau ymwneud â materion yn rhan
agored agenda'r cyfarfod ac ymdrinnir â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.
Cofnodion:
|
3. |
Craffu ar y Gyllideb Flynyddol
·
Dolen i Bapurau’r Cabinet ar gyfer 14 Chwefror 2019, sy’n
cynnwys y cynigion cyllidebol (dylai’r papurau fod ar gael o 7 Chwefror 2019.)
·
Rob Stewart - Aelod y Cabinet - Economi a Strategaeth (yr Arweinydd)
·
Ben Smith - Pennaeth Gwasanaethau Ariannol a’r Ganolfan Wasanaeth
Cofnodion:
- Gorwariant disgwyliedig o £8 miliwn gyda
rhywfaint o welliant a ddisgwylir yn Chwarter 4
- Pwysau parhaus ym maes gofal cymdeithasol
- Nid yw Llywodraeth Leol yn cael ei hariannu'n
ddigon da - nid yw cyni wedi dod i ben
- Mae plant sy'n derbyn gofal yn dal i fod yn
faes sydd dan bwysau mewn termau ariannol
- Trafodaethau parhaus am gostau gofal rhwng y
bwrdd iechyd lleol a Chyngor Abertawe
- Wrth i gyllid Llywodraeth Ganolog gael ei
leihau, mae'r baich yn cael ei drosglwyddo i'r trethdalwr lleol
- Ansicrwydd ynghylch cyllid ar gyfer y
blynyddoedd nesaf
- Hoffem weld grantiau yn cael eu symud i'r
Grant Cynnal Refeniw
- Mae pob awdurdod arall yn yr un sefyllfa
- Y risg fwyaf yw'r gallu i gyflawni'r arbedion
yn gyflym ac yn ddigonol
- Mae codiad cyflog athrawon, pensiynau,
chwyddiant cyffredinol a'r cyflog byw yn fentrau heb eu hariannu'n ganolog
- Mae rhai o'r 161 o swyddi sydd mewn perygl
eisoes yn wag
- Mae'r gronfa wrth gefn ar y lefel isaf a
fyddai’n ddoeth
- Rhywfaint o arian cyfalaf ychwanegol gan
Lywodraeth Cymru
- Mae cael hyblygrwydd mewn grantiau refeniw
wedi bod o gymorth mawr
- Mae gostyngiad mewn costau ariannu cyfalaf
eleni yn sgîl adolygiad Darparu Lleiafswm
Refeniw
- Mae'r costau'n aros yr un peth dros gyfnod
oes - ond effeithir ar yr amseru - ad-daliadau is i ddechrau, yna'n
cynyddu, yna'n gorffen ynghynt
- Ni chaniateir eto ar gyfer incwm ar gynlluniau
adfywio'r ddinas - o ganlyniad cymerir yn ganiataol y ceir yr uchafswm o
gymhorthdal gan y sector cyhoeddus
- Cyfyngu dyled i 40 mlynedd yn hytrach na
chaniatáu iddi barhau'n ddiderfyn.
- Mae proses ar gyfer llenwi swyddi o fewn
gwasanaethau rheng flaen hanfodol
- Edrychir ar newidiadau ar gyfer salwch a sut
y caiff ei reoli
- Y Cyfrif Refeniw Tai - mae buddsoddiad
refeniw a chyfalaf yn cael ei gynnal gan lefelau rhent
- Mae angen cynnydd rhesymol yn lefelau rhent i
gynnal y stoc tai
- Mae agenda adeiladu a thrawsnewid ysgolion ar
gyfer y ddinas ac mae angen addasu'r swm i gyfrif am y grant ychwanegol o
£20m gan Lywodraeth Cymru
- Bydd cyfnod ymgynghori ar gyfer cynyddu Treth
y Cyngor ar gartrefi gwag a chartrefi gwyliau/ail gartrefi
- Trafodwyd ar drethi annomestig ynghylch:
HMO
|
4. |
Crynhoi Barn a Chyflwyno Argymhellion
·
Yna bydd Chris Holley, Cynullydd y
Panel Gwella Gwasanaethau a
Pherfformiad Cyllid, yn mynd i
gyfarfod y Cabinet ar 14 Chwefror i gyflwyno
barn gyfunol y paneli perfformiad craffu.
Cofnodion:
·
Trafododd
y panel gynnwys y llythyr yn seiliedig ar y drafodaeth o'r eitem flaenorol
·
Mae'r
pwyntiau gan bob panel fel a ganlyn:
Cyllideb
Datblygu ac Adfywio
- Mae risg yn
gysylltiedig â'r adolygiad llywodraethu - os nad yw'r adolygiad
llywodraethu'n ffafriol, gallai hyn gael effaith ar yr arian sydd i ddod i
Gyngor Abertawe i wrthbwyso'r hyn a wariwyd eisoes.
- Mae risg yn gysylltiedig â’r ffaith nad yw’r
achos busnes wedi'i gymeradwyo eto. Hyd nes i hyn gael ei wneud, ni all
unrhyw arian ddod i Gyngor Abertawe - golyga hyn bod yr arian sydd eisoes
wedi'i wario mewn perygl. Byddai hyn yn broblem sylweddol.
- Mae angen digon o gymorth busnes i gyflwyno
prosiectau adfywio - byddai eglurhad am sut mae top slicing
(sef cymryd canran o brosiectau a ariennir yn allanol i ariannu rolau
cefnogi busnes) yn ddefnyddiol.
Cyllideb
Gwasanaethau i Oedolion
- Cyflawnwyd 80% o'r arbedion arfaethedig yn y
flwyddyn ariannol hon. Mae'r targed arbedion ar gyfer y flwyddyn ariannol
nesaf felly yn ymddangos yn uchelgeisiol, yn enwedig gan fod llawer o'r
gwariant yn cael eu arwain gan alw.
- Gan ein bod ni wedi gorwario £1 filiwn eleni
o ganlyniad i 'wrthwynebiad gan y BILl i drafod
cyfraniadau cyfiawn ac addas tuag at becynnau gofal a nodwyd' roedd pryder
ymysg y panel y bydd hon yn broblem barhaus yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Roedd y panel yn teimlo bod angen datrys hyn cyn gynted â phosib os ydym
am lynu wrth y gyllideb ar gyfer 2019-20.
- Nid yw'n glir pryd bydd arbedion o bob un o'r
adolygiadau comisiynu gwasanaeth yn dechrau neu ba arbedion sy'n
berthnasol i ba adolygiad. Mae'r broses yn ymddangos yn eithaf aneglur o
safbwynt y panel a byddem yn croesawu dadansoddiad mwy manwl.
- Byddwn yn trafod y gyllideb eto ym mis Hydref
fel y gallwn ni fonitro canlyniadau'r arbedion effeithlonrwydd arfaethedig
yn fwy gofalus.
Cyllideb -
Addysg
- Roedd y panel yn falch o weld bod gan addysg
'flaenoriaeth gymharol' yn y gyllideb eto eleni.
- Roedd gan y panel bryderon am effaith cost y
cynnydd ym mhensiynau athrawon nad oedd Llywodraeth y DU yn talu amdano ar
hyn o bryd. Mae'r panel am sicrhau bod y Cabinet yn gwneud popeth posibl i
sicrhau nad yw ysgolion dan anfantais oherwydd y swm sylweddol hwn.
- Roedd aelodau’r panel yn falch o glywed y
bydd y gwasanaeth cerdd ysgolion yn derbyn cyllid ychwanegol eleni gan
Lywodraeth Cymru ac roeddent yn awyddus i bwysleisio mor bwysig oedd hi
fod disgyblion yn gallu cael mynediad at gerddoriaeth ac yn cael
ymddiddori ynddi.
- Roedd aelodau’r panel yn falch o glywed am
eglurder a thryloywder gwell arfaethedig y cyllid grant a ddosberthir trwy
ERW ond maent yn awyddus i fonitro'r gwelliannau hyn yn y dyfodol.
Cyllideb - Plant a Theuluoedd
- Nid oes pryderon gwirioneddol
o ran y gyllideb. Atebwyd y cwestiynau i gyd yn y cyfarfod.
- Er yn falch o weld
y gyllideb ar gyfer y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn cynyddu'r
flwyddyn nesaf, deallwn nad yw'n cynyddu mewn gwirionedd gan y bydd
cynnydd yn talu am gynnydd mewn costau cyflog a llety.
- Mae'r panel yn
cydnabod ei bod hi'n anodd rhagweld beth fydd yn digwydd yn ystod y
flwyddyn gan fod y gwasanaeth yn cael ei yrru gan alw.
- Bydd Panel y
Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn parhau i graffu ar y gwasanaeth yn y
dyfodol a gwneud awgrymiadau ac argymhellion ar gyfer gwella.
|
|
Llythyr at Aelod y Cabinet
|
|
Ymateb gan Aelod y Cabinet PDF 310 KB
|