Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Swyddog Craffu - 01792 636292 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cadarnhau Cynullydd

Cofnodion:

Cadarnhawyd y Cynghorydd Chris Holley fel Cynullydd y Panel Gwella Gwasanaethau a Chyllid ar gyfer 2023-24.

 

2.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

 

Nid oedd unrhyw ddatgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

 

3.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Dim.

 

 

 

 

4.

Cofnodion pdf eicon PDF 320 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

 

5.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd

6.

Atgyweirio Ffyrdd pdf eicon PDF 124 KB

Gwahoddwyd:

Cllr Andrew Stevens – Aleod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd

Stuart Davies – Pennaeth Priffyrdd a Chludiant

Bob Fenwick – Arweinydd Grŵp Cynnal a Chadw Priffyrdd

 

 

Cofnodion:

Rhoddodd Bob Fenwick a Stuart Davies drosolwg o drefniadau presennol ar gyfer atgyweirio ffyrdd. Roedd trafodaethau'n canolbwyntio ar y pwyntiau canlynol -

·       Mae gan Abertawe tua 1100 cilomedr o ffyrdd a tua 1600 cilomedr o lwybrau cerdded.

·       Yr ôl-groniad presennol a gyfrifwyd ar gyfer ffyrdd yw tua £70m ac er mwyn cynnal cyflwr sefydlog, byddai angen gwario £7-8 miliwn yn flynyddol.

·       Rydym yn ystyried ailenwi'r rhaglen PATCH oherwydd dryswch posib rhwng gwaith atgyweirio a chynnal a chadw rheolaidd a chynlluniedig.

·       Adroddir am tua 7000-8000 o dyllau yn y ffordd i'r cyngor bob blwyddyn.

·       Mae'r addewid tyllau yn y ffordd presennol yn mynd y tu hwnt i rwymedigaeth statudol ac yn canolbwyntio ar adroddiadau gan y cyhoedd.

·       Mae arwynebau wedi'i difrodi yn ystod y gaeaf oherwydd tymereddau ymylol sy'n gallu achosi difrod i'r haen uchaf. Mae rhaglen ychwanegol ar waith ar hyn o bryd i ymdrin â hyn.

·       Rheolir y rhaglen cynnal a chadw gynlluniedig gan system sgorio sy'n ystyried peirianneg, barn, cyflwr, damweiniau, amlder bysus, mynediad, agosatrwydd at ysgolion neu ysbytai, dosbarthiad y ffordd a nifer y cerbydau bob dydd. Crëwyd ôl-groniad oherwydd y difrod yn ystod y gaeaf. Mae tua thraean o'r ffyrdd yn Abertawe ar y rhestr hon.

·       Mae gwaith ataliol yn rhatach ac yn golygu bod ffyrdd presennol yn para am gyfnod hwy ac felly gall fod yn fwy effeithiol. Mae'n rhaid bod hwn yn gytbwys â galw'r cyhoedd am atgyweiriadau.

·       Mae perthnasoedd gyda chontractwyr yn parhau i fod yn gadarnhaol.

·       Mae heriau yn y dyfodol yn cynnwys newid yn yr hinsawdd a fydd yn golygu mwy o aeafau ymylol, allyriadau carbon o ddeunyddiau ailwynebu ffyrdd, pwysau cynyddol cerbydau trydan a difrod i ffyrdd o ganlyniad i fesurau tawelu traffig.

·       Mae gan ddeunyddiau atgyweirio tyllau yn y ffordd gyfradd lwyddiant o tua 96% o ran bod yn barhaol. 

·       Pryd caiff gwaith ei wneud, caiff pob swydd ei asesu'n unigol i benderfynu a oes angen cau ffyrdd, rheoli traffig, trefnu dargyfeiriadau etc.

·       Mae Llywodraeth Cymru'n ariannu dyraniadau i siroedd yn seiliedig ar raniad canrannol sefydlog.

·       Rhoddwyd clod i waith y timau atgyweirio ffyrdd gan fod rhannau eraill o'r wlad hefyd yn dioddef o ddirywiad yng nghyflwr ffyrdd.

 

7.

Llythyrau pdf eicon PDF 326 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd wybod i'r Panel am gyfuniad posib y Panel Craffu Gwella Gwasanaethau a Chyllid a'r Panel Craffu Datblygu ac Adfywio. Caiff hwn ei gyflwyno yn ystod cyfarfod nesaf Pwyllgor y Rhaglen Graffu ym mis Gorffennaf a dyma fydd cyfarfod olaf y Panel Craffu Gwella Gwasanaethau a Chyllid.

 

 

Llythyr at Aelod y Cabinet - Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd pdf eicon PDF 130 KB