Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Swyddog Craffu 01792 363292
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir
Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: Datganodd y Cynghorwyr Chris Holley, Dai Jenkins a Jeff Jones gysylltiad personol â Chofnod Rhif 50. |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Dim. |
|
Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir. Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar
y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth.
Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes
digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar
ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin
â hwy o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd cwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Craffu cyn Penderfynu ar Adroddiadau'r Cabinet: Y Gyllideb Flynyddol Cofnodion: Roedd yr Arweinydd a Ben Smith, Y Cyfarwyddwr Cyllid a'r
Swyddog Adran 151 yn bresennol. Trafodwyd y canlynol: Cyffredinol • Mae'r
cyngor yn wynebu pwysau costau o £60m gyda gwariant net o £35m yn cael ei
ychwanegu at y gyllideb sy'n cynnwys £31m o Gyllid Allanol Cyfun Llywodraeth
Cymru a £4m o godiadau Treth y Cyngor amcangyfrifedig. Mae hyn yn golygu bod
angen arbedion o £25m. • Er bod £35m
yn fuddsoddiad sylweddol, rhaid ei weld yng nghyd-destun prisiau ynni uchel a
chwyddiant. • Mae cronfa
o £15m wedi'i hailgyfeirio o'r Gronfa Adferiad Economaidd i dalu costau ynni i
gefnogi darparwyr gwasanaethau, er enghraifft ysgolion a darparwyr gofal. • Mae'r
rhagolygon tymor hir yn parhau i fod yn heriol gydag effeithiau gwirioneddol i
bawb. • Mae'r
gyllideb yn rhagweld cynnydd o 4.95% yn nhreth y cyngor i'w ystyried gan y
Cabinet a'r cyngor maes o law, ond gyda chyngor i ystyried amrywiaeth o
gynnydd. • Mae
hysbysiad wedi dod i law y bydd cynnydd cyfartalog cyffredinol o 16.5% i ardoll
yr awdurdod tân. Er ein bod yn aros am hysbysiad terfynol o addasiad y Grant
Cynnal Refeniw, ni ddisgwylir unrhyw newidiadau sylweddol. Mae hyn yn cyfateb i
gynnydd o 2% yn nhreth y cyngor. • Mae 61 o
swyddi cyfwerth ag amser llawn mewn llywodraeth leol yn dal i fod mewn perygl
ond amcangyfrifir bod 40%/50% o'r rhain yn cynnwys swyddi gwag ac ymddeoliad
cynnar/diswyddiadau gwirfoddol. Ceisir osgoi ymddiswyddiadau gorfodol lle bo
modd. • Disgwylir i
gostau parcio yng nghanol y ddinas gynyddu tra bydd ap dinasyddion yn lleihau'r
gost i breswylwyr gyda chynlluniau i gyflwyno gostyngiad sy'n cael ei gymhwyso
ar y mesurydd i'w rhoi ar waith eleni. • Mae'r
gyllideb yn cynnig cynnydd yn rhenti Marchnad Abertawe gan greu arbediad o
£50,000. Mae hyn yn adlewyrchu pwysau chwyddiant, wedi'i gydbwyso â chymorth
ychwanegol i fasnachwyr y farchnad y maent yn wynebu amodau masnachu anodd. Addysg • O ran
ysgolion, mae'n parhau i fod yn wir y bydd angen arbedion sylweddol a pharhaus mewn perthynas â blaengynlluniau ariannol y
cyngor. Nid yw’n bosib eithrio cyllidebau ysgolion yn llawn rhag toriadau
gwirioneddol tymor hwy. Mae hyn wedi'i drafod yn y Fforwm Cyllideb Ysgolion. • Mae
dyfarniadau cyflog i athrawon eleni a'r flwyddyn nesaf, ynghyd â dyfarniad
cyflog llywodraeth leol ar gyfer y flwyddyn nesaf yn dal i wynebu pwysau costau
anhysbys. • Mae ffïoedd
rheoli plâu yn cynnwys cynnydd arfaethedig o 15% a allai roi pwysau ychwanegol
ar ysgolion a chontractau, fodd bynnag mae’r ffi yn gyson â chodiadau eraill am
daliadau a phwysau ar y gwasanaeth ac mae angen adnoddau ychwanegol er mwyn
sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau. Gwasanaethau Cymdeithasol • Bydd y
cyflog byw gwirioneddol dan bwysau oherwydd rhwymedigaethau cyfreithiol ar bob
cyflogwr a disgwyliadau cyflog byw gwirioneddol gan ddarparwyr gofal
cymdeithasol i gyflawni dyheadau Llywodraeth Cymru ohonom fel cyllidwr gofal. • Er bod y
Gwasanaethau Cymdeithasol yn derbyn y cynnydd cymesur mwyaf o 8%, mae angen
buddsoddiad tymor hwy pellach a newid strwythurol sylweddol o ran gofal
cymdeithasol. • Mae
recriwtio yn parhau i fod yn her o fewn Gwasanaethau Cymdeithasol. Cronfeydd wrth Gefn • Mae'r
cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd a'r rhai cyffredinol yn ddigonol o ystyried
yr argyfwng costau byw, ond efallai y bydd angen cynyddu'r cronfeydd wrth gefn
cyffredinol sydd heb eu newid i fod yn gymharol ac yn gymesur â'r gyllideb
refeniw gyffredinol sydd wedi tyfu'n sylweddol dros y blynyddoedd. • Amcangyfrifir
y bydd £60m yn cael ei ddefnyddio o'r cronfeydd arian parod wrth gefn yn ystod
y flwyddyn ariannol hon a'r flwyddyn ariannol nesaf gan adael tua £100m yn
weddill. Mae hwn yn cael ei ddefnyddio i sefydlogi'r pwysau cyllidebol a
wynebir gan y cyngor. Y Gyllideb a'r Rhaglen Gyfalaf • Mae'r
gyllideb yn nodi rhaglen gyfalaf y gronfa gyffredinol gwerth £400m. • Mae cyngor
swyddogion yn awgrymu y bydd digon o fenthyca a chronfeydd arian parod wrth
gefn yn ariannu'r rhaglen yn y tymor byr ac nid oes angen unrhyw ofyniad
benthyca digymorth mewnol yn y gyllideb sylfaenol ar gyfer yr ychydig
flynyddoedd nesaf. • Mae'n bosib
y bydd angen i'r Cabinet a'r cyngor ystyried benthyca pellach os caiff
cynlluniau cyfalaf pellach eu hychwanegu. • Mae
rhagdybiaeth o fewn y gyllideb y gall fod angen benthyca hyd at £50m. Bydd y
penderfyniad hwn yn ymwneud ag arian cyfatebol gydag, er enghraifft, cynigion
Codi'r Gwastad a phwysau chwyddiant. • Mae un cais Codi'r Gwastad wedi bod yn llwyddiannus a bydd dau gais aflwyddiannus yn cael eu hailgyflwyno. Bydd yn ofynnol i'r Cabinet a'r cyngor gydbwyso'r dewis fforddiadwyedd rhwng arian cyfatebol cyfalaf, pwysau refeniw a buddion i'r economi. |
|
Crynhoi Barn a Chyflwyno Argymhellion Cofnodion: • Trafododd Aelodau’r Panel eu hadborth i’r Cabinet yn seiliedig ar eu trafodaethau a fydd yn cael sylw mewn llythyr at yr Arweinydd a’i gyflwyno i’r Cabinet gan y Cadeirydd ar 16 Chwefror 2023. |
|
Cofnodion: Daeth y cyfarfod i ben am 11.30am. |
|
Llythyr at Aelod y Cabinet Economi, Cyllid a Strategaeth (yr Arweinydd) PDF 111 KB |