Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Swyddog Craffu 01792 636292
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Nid oedd unrhyw ddatgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Dim. |
|
Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir. Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar
y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth.
Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes
digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar
ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin
â hwy o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Y diweddaraf am gynnydd defnydd y Llywodraeth Leol o'r Cynllun Gweithredu PDF 242 KB Gwahoddwyd: Y Cynghorydd Andrea Lewis - Aelod y Cabinet dros yr Drawsnewid Gwasanaethau Sarah Lackenby - Pennaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol Richard Rowlands - Rheolwr Cyflwyno Strategol a Pherfformiad Steve King - Arweinydd Tîm Gwybodaeth, Ymchwil a GIS Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Siaradodd y Cyng Andrea Lewis a Sarah Lackenby am y canlynol, · Deilliodd Cynllun Gweithredu Defnydd y Llywodraeth Leol o Ddata o astudiaeth Cymru Gyfan a gynhaliwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru i sut roedd cynghorau yn defnyddio data. Cyhoeddwyd yr adroddiad gwreiddiol ym mis Rhagfyr 2018. · Mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud ac ystyrir bod pob un o'r 11 argymhelliad penodol wedi'u cau. Cymeradwywyd strategaeth digidol newydd 2023-28 gan y Cabinet ym mis Ebrill 2023, sydd â nod penodol sy'n ymwneud â data a bydd y gwaith hwn yn rhan o’r rhaglen trawsnewid digidol dros y blynyddoedd nesaf. · Mae gwaith parhaus ar yr 11 argymhelliad yn cynnwys hyrwyddo a defnyddio'r Rhestr Tir ac Eiddo Lleol a Chenedlaethol a'r Gofrestr Asedau Gwybodaeth. Mae Cyfrif Abertawe ar gyfer cwsmeriaid hefyd wedi'i lansio a'i ddatblygu'n sylweddol. · Mae hyfforddiant gorfodol ar ddiogelu data a seiberddiogelwch ar gael ar-lein. Byddai hyfforddiant i Gynghorwyr hefyd o fudd iddynt. · Mae'r cyngor yn defnyddio fframwaith Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (CRhGBC) a phrotocolau ynghylch rhannu data gyda phartneriaid. · Bydd offer newydd yn Oracle Fusion yn cefnogi’r broses flynyddol o gynllunio’r gweithlu a bydd systemau sefydledig presennol yn parhau i weithio gyda gwasanaethau i adolygu, cymeradwyo a gwella safonau adrodd ar ddata. · Mae data personol yn cael ei ddiogelu o dan y Ddeddf Diogelu Data. Mae fframwaith CRhGBC yn nodi protocolau ar gyfer rhannu data at ddibenion penodol gyda chytundeb, neu ddata agored sy'n ddienw ac nad yw'n sensitif y gellir ei rannu heb gytundeb. |
|
Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg 2021/2022 PDF 222 KB Gwahoddwyd:
Y Cynghorydd Elliott King - Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant a Chydraddoldeb Y Cynghorydd
Robert Smith, Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau Lisa DeBenedictis – Swyddog Safonau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd y
Cynghorydd Elliot King, Y Cynghorydd Robert Smith a Lisa DeBenedictis yn
bresennol. Adroddwyd ar y canlynol: · Mae 163 o safonau’r Gymraeg y mae’n ofynnol i awdurdodau lleol gydymffurfio â nhw. · Mae datblygiadau diweddar yn cynnwys gweithredu Cwtsh - Ysgrifennu yn Gymraeg, man rhithwir i staff a gwreiddio'r Gymraeg yn llawn mewn Asesiadau Effaith Integredig. · Derbyniwyd chwe chwyn yn ymwneud â’r Gymraeg yn ystod y flwyddyn hon, fodd bynnag mae dwy yn ymwneud â gofynion iaith Gymraeg ar gyfer peiriannau parcio ceir ac un yn ymwneud ag arwydd stryd ar ffordd heb ei mabwysiadu nad yw o fewn cylch gorchwyl y cyngor i’w ddarparu. · Mae nifer y cwynion yn debyg ar gyfer Cyngor Castell-nedd Port Talbot. · Bu cynnydd sylweddol mewn galwadau Cymraeg ac mae gwaith yn parhau i ddatblygu ar y system gwynion newydd. · Drwy “Mwy Na Geiriau” mae’r cyngor wedi estyn ei gynnig i staff gofal cymdeithasol a thai ddysgu Cymraeg drwy'r gweithle. · O’r cyfanswm o 2,000,000 o ymweliadau â thudalennau Staffnet yn 2021-22, roedd dros 19,000 yn ymwneud â’r Gymraeg. · Cyflawnwyd 20% o'r gwaith cyfieithu gan ddarparwyr allanol yn ystod y cyfnod hwn oherwydd cynnydd yn y llwyth gwaith. · Mae gwaith wedi'i wneud gyda'r tîm cyfathrebu i amlygu newidiadau a gwelliannau i negeseuon 'allan o'r swyddfa'. · Gall y cyfryngau sylwi ar gamgymeriadau ar arwyddion ond canran fechan o arwyddion a gynhyrchir yw hyn. · Mae canran sgiliau Cymraeg y cyngor wedi codi o 6.8% yn y flwyddyn flaenorol i 10.2% · Mae gwybodaeth o'r Cyfrifiad diweddar yn dangos bod nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghastell-nedd Port Talbot ac Abertawe wedi gostwng, fodd bynnag mae màs critigol o siaradwyr Cymraeg yn Abertawe o hyd. |
|
Adolygiad Blynyddol PDF 260 KB Adolygiad o eitemau o fewn Cynllun Gwaith 2022-23 Cofnodion: Rhoddodd y Panel ystyriaeth i ddogfennau’r Adolygiad Blynyddol a nodwyd y
canlynol: ·
Efallai y bydd angen mwy o hyfforddiant yn enwedig
ynghylch deall y gyllideb. ·
Roedd Adroddiad Perfformiad Blynyddol Safonau
Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru wedi helpu i gynyddu gwybodaeth y Panel o ran ble
mae gwasanaethau llyfrgell yn ei chael hi’n anodd a lle gallai fod angen
buddsoddiad. ·
Mae'n bosib y bydd angen mwy o ddyfnder ar
Ddiweddariad Blynyddol Safonau Ansawdd Tai Cymru ac mae'n ddarn mawr o waith. ·
Bydd adroddiadau blynyddol a data’r flwyddyn nesaf
yn cael eu heffeithio’n llai gan y pandemig na
2021-22. ·
O ran Adroddiad Perfformiad Blynyddol Cynllunio,
byddai gan y Panel ddiddordeb mewn arbedion effeithlonrwydd, gweithrediadau a
chanfyddiad y cyhoedd yn ogystal ag ystadegau perfformiad. ·
Codwyd Oracle Fusion fel
mater i'w ystyried ond mae hyn eisoes wedi'i gyflwyno i Bwyllgor y Rhaglen
Graffu. ·
Yn ogystal roedd cais am gyfeirio gwybodaeth at
Gynghorwyr o ran defnyddio MiPermit nawr y bydd hwn
yn cael ei ddefnyddio ar gyfer hawlenni parcio. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Daeth y cyfarfod i ben am 10.38am. |
|
Llythyr at Aelod y Cabinet - Drawsnewid Gwasanaethau PDF 327 KB |
|
Llythyr at Aelod y Cabinet - Ddiwylliant a Chydraddoldeb / Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau PDF 342 KB |
|
Ymateb Aelod y Cabinet - Ddiwylliant a Chydraddoldeb / Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau PDF 151 KB |