Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Swyddog Craffu
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol Cofnodion: Nid oedd unrhyw ddatgeliadau o fuddiannau Personol a rhagfarnol. |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Dim. |
|
Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu
bod yn gofnod cywir Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r
adran graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod.
Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod
a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod
cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â
hwy o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Adroddiad Perfformiad Blynyddol Cynllunio 2021/2022 PDF 223 KB Gwahoddwyd: Y Cynghorydd David
Hopkins - Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad Ian Davies -
Rheolwr Datblygu, Cadwraeth a Dylunio Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd y Cynghorydd
David Hopkins a swyddogion yn
bresennol. Adroddwyd ar y canlynol: • Nid yw Adroddiadau
Blynyddol Cynllunio bellach yn ofynnol
gan Lywodraeth Cymru, fodd bynnag
mae'r cyngor yn parhau i
ddarparu hyn. Nid yw data ar
gyfer meincnodi perfformiad yn erbyn awdurdodau lleol eraill wedi
bod ar gael
ers y pandemig. • Bu cynnydd sylweddol yn nifer y ceisiadau
cynllunio a dderbyniwyd,
29% yn fwy nag yn 2020/21. • Ymdriniwyd â 97% o geisiadau o fewn amserlenni cytunedig. Y targed a osodwyd
gan Lywodraeth Cymru yw 80%. • Er gwaetha'r cynnydd
yn nifer y ceisiadau, nid yw'r incwm o ffïoedd
cynllunio wedi cadw i fyny.
O'i gymharu â 2018/2019, roedd 300 yn fwy
o geisiadau cynllunio ond roedd yr
incwm o ffïoedd cynllunio £300,000 yn llai oherwydd y math o geisiadau sy'n cael eu cyflwyno.
Mae ffïoedd ceisiadau yn cael eu
pennu gan Lywodraeth Cymru ac nid oes cynnydd
wedi'i nodi ar y pwynt hwn. • Roedd perfformiad apeliadau ychydig yn uwch, ac yn
uwch na
tharged blwyddyn flaenorol Llywodraeth Cymru. Lle cytunir
ar apeliadau, mae'n ymwneud â materion dylunio yn gyffredinol. • Crëwyd ôl-groniad o orfodi yn sgîl
y pandemig oherwydd nad oedd
swyddogion yn gallu mynd i
safleoedd mor hawdd. Cafodd swyddi
staff gwag effaith ar y tîm hefyd. • Mae ymchwiliad gorfodi yn broses dau gam. Ar gyfer y cam ymchwilio cychwynnol mae targed
o 84 ar gyfer y gwaith ymchwilio. Mae'r ail gyfnod yn ymwneud â chymryd
camau gweithredu priodol a allai
fod yn hysbysiad
gorfodi, yn benderfyniad, neu rhoi caniatâd cynllunio.
• Roedd nifer y cwynion
gorfodi yr ymchwiliwyd iddynt yn debyg i'r
flwyddyn flaenorol. Ymchwilir i bob cwyn, fodd bynnag,
dim ond 32% o'r ymchwiliadau a gwblhawyd o fewn y targed o 84 diwrnod, sef gostyngiad
o 51% yn y flwyddyn flaenorol. Mae camau gorfodi'n cael eu blaenoriaethu ar sail difrifoldeb y toriad. • Disgwylir i'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) gael ei ddiweddaru. Cesglir data ar gyfer y CDLl o fodeli cynhwysfawr a'r data gorau sydd ar gael gan bartneriaid ymgynghori i greu rhagolygon economaidd gyda'r nod o sicrhau'r lefel uchaf o gywirdeb â phosib. |
|
Adroddiad Cwynion Blynyddol 2021/22 PDF 254 KB Gwahoddwyd: Y Cynghorydd
Andrea Lewis - Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau Y Cynghorydd
Louise Gibbard - Aelod y Cabinet dros Gofal Gwasanaethau Sarah Lackenby - Pennaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd y
Cynghorydd Andrea Lewis, y Cynghorydd Louise Gibbard a swyddogion yn bresennol.
Trafodwyd y canlynol: • Oherwydd y pandemig, cafodd cwynion eu
hatal yn ystod 2020/21 ond yna, gwnaethon nhw gynyddu'n aruthrol wrth i ni ddod
allan o’r cyfnodau clo. Gwelodd yr Ombwdsmon gynnydd o 47% ar draws Cymru
gyfan. • Bu oedi wrth lansio'r system TG newydd
oherwydd blaenoriaethu taliadau i gefnogi preswylwyr a busnesau. Mae'r system
wedi'i chwblhau, mae hyfforddiant staff yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd a
bydd y system yn mynd yn fyw cyn gynted â phosib. • Cynyddodd cwynion corfforaethol cam un
(anffurfiol) 8% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Roedd hyn yn gyfanswm o
1,274 o gwynion, ac roedd cyfiawnhad dros 407 ohonynt. Roedd cynnydd o 16% yng
nghwynion cam dau. Roedd hwn yn gyfanswm o 154 o gwynion, yr oedd cyfiawnhad
dros 25 ohonynt. • Bu cynnydd sylweddol o 24% yn nifer y
ceisiadau corfforaethol am wasanaeth. Roedd cynnydd sylweddol hefyd o 38% yn y
sylwadau corfforaethol. Roedd cwynion a oedd yn ymwneud â'r Gymraeg yn gymharol
isel. • Roedd cynnydd o 11% yng nghwynion cam
un y Gwasanaethau i Oedolion ac o ran cam dau, roedd cynnydd o un gŵyn yn
unig o'i gymharu â ffigurau'r llynedd. Roedd cynnydd o 53% yn nifer y cwynion
yr oedd cyfiawnhad drostynt, ac roedd hyn yn bennaf oherwydd oedi wrth drefnu
asesiadau neu becynnau gofal oherwydd pwysau staff gan gynnwys darparwyr
allanol. Mae pwysau ar wasanaethau a phroblemau recriwtio yn y Gwasanaethau
Cymdeithasol i Oedolion wedi bod yn her ledled Cymru a'r DU. • Dangosodd y Gwasanaethau Plant a
Theuluoedd ostyngiad, bu gostyngiad o 19% yng nghwynion cam un a gostyngiad o 1
gŵyn yng nghwynion cam dau. • Roedd llythyr blynyddol yr Ombwdsmon yn
adrodd bod 71 o gwynion wedi’u derbyn, gostyngiad o 73 o'r flwyddyn flaenorol. • Caewyd 76 o gwynion yr Ombwdsmon yn
ystod 2021/22, o’r 76 hyn, derbyniodd 10 ohonynt ymyrraeth. O'r 10 a
dderbyniodd ymyrraeth, cafodd 6 eu datrys yn gynnar trwy drefniant gwirfoddol a
chafodd 4 eu cynnal. O'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, caewyd 67 o gwynion a
derbyniodd 9 ohonynt ymyrraeth, o'r 9 hyn, cafodd 5 eu datrys yn gynnar a
chafodd 4 eu cynnal. • Mae'r tîm cwynion yn cynnal
trafodaethau gyda Phennaeth Gwasanaeth a Phrif Swyddogion gan ystyried natur
cwynion ac unrhyw dueddiadau neu amlder er mwyn chwilio am welliannau posib. • Derbyniwyd 360 o ganmoliaethau
corfforaethol gyda 96 ar gyfer y Gwasanaethau i Oedolion a 100 ar gyfer y
Gwasanaethau Plant a Theuluoedd. • Ni adroddwyd am dueddiadau blwyddyn ar
ôl blwyddyn ond gellir sicrhau eu bod ar gael mewn adroddiadau yn y dyfodol. • Gall myfyrio ar ganmoliaethau fod yr un
mor ddefnyddiol â myfyrio ar gwynion i gymharu meysydd lle mae'r cyngor yn
gwneud yn dda. • Mae amserau ymateb i gwynion yn cael eu
hadrodd i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. • Mae cwynion am yr adrannau Cyfathrebu a
Chynnwys Cwsmeriaid wedi cynyddu. • Roedd 25 o'r 71 o gwynion a dderbyniwyd
gan yr Ombwdsmon yn ymwneud â chynllunio a Rheoli Adeiladu, ffyrdd a
thrafnidiaeth. |
|
Dogfennau ychwanegol:
|
|
Cofnodion: Nododd y panel y Cynllun Gwaith. Daeth y cyfarfod i ben am 10.40am. |
|
Llythyr at Aelod y Cabinet - Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad PDF 330 KB |
|
Llythyr at Aelod y Cabinet - Drawsnewid Gwasanaethau a Gofal Gwasanaethau PDF 329 KB |