Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Swyddog Craffu  01792 636292

Media

Eitemau
Rhif Eitem

36.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

Rachel Percival - (Eitem 6) - cysylltiad personol, gadawodd y cyfarfod cyn eitem 6 ac ailymunodd â'r cyfarfod ar gyfer eitem 7 ymlaen.

 

 

37.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Dim

 

 

38.

Cofnodion pdf eicon PDF 337 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

 

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

 

39.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd cwestiynau gan y cyhoedd.

 

 

40.

Cynigion y Gyllideb Ddrafft 2022/23 - 2025/26 pdf eicon PDF 792 KB

Gwahoddwyd:

Y Cynghorydd Rob Stewart - Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth

Ben Smith – Cyfarwyddwr Cyllid / Swyddog A151

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Rob Stewart, Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth a Ben Smith, y Cyfarwyddwr Cyllid a Swyddog Adran 151 yn bresennol i roi trosolwg o'r gyllideb ddrafft. Trafodwyd y canlynol:

·         Mae ymgynghoriadau ffurfiol ar y gyllideb wedi dechrau ac maent yn parhau.

·         Cytunwyd ar arian parod sylweddol ar gyfer 23/34 ond nid yw hyn yn talu'n llawn am unrhyw ddyfarniadau cyflog.

·         Bydd gwerth dros £75 miliwn mewn arian parod yn mynd i mewn i gyllidebau'r gyfarwyddiaeth dros y pedair blynedd nesaf, gyda mwy yn mynd i mewn i gronfeydd canolog ond effeithir o hyd ar y pŵer gwario termau go iawn.

·         Mae £15m wedi’i gyllidebu ar gyfer costau ynni i dalu am gostau cynyddol chwyddiant tymor byr. Cymerir hyn o'r Gronfa Adferiad Economaidd yn y tymor byr.

·         Mae angen £22.3 miliwn o arbedion ariannol oddi wrth wasanaethau ac mae angen bron £3 miliwn ychwanegol oddi wrth ysgolion, gan wneud arbedion o £25 miliwn mewn arbedion arian parod y mae eu hangen ar hyn o bryd ar y rhagdybiaethau cynllunio a wnaed.

·         Mae £168m yn y cronfeydd wrth gefn presennol gyda £40m o wariant wedi'i glustnodi ar gyfer y flwyddyn bresennol a £30m o wariant wedi'i glustnodi ar gyfer y flwyddyn i ddod.

·         Mae hyd at 68 o rolau cyfwerth ag amser llawn mewn perygl, gyda mesurau lliniaru parhaus i leihau'r nifer hwn.

·         Y cyngor sy’n gyfrifol am oblygiadau cost y dyfarniadau cyflog presennol ac a ragwelir ar gyfer staff ac athrawon llywodraeth leol.

·         Rhagwelir y bydd angen benthyca hyd at £50m yn y dyfodol. Caiff unrhyw fenthyca ei ohirio nes bod cyfraddau llog yn fwy deniadol.

·         Nid oes cynllun i dynnu arian pellach o'r Gronfa Yswiriant (£14m) eleni yn enwedig gan mai dim ond yn ddiweddar y cytunodd y Cabinet i ddefnyddio swm sylweddol yn y flwyddyn gyfredol. Mae swyddogion yn hyderus bod hyn yn cael ei ariannu'n dda ar hyn o bryd, yn seiliedig ar wybodaeth a chyngor perthnasol.

·         Mae tybiaeth bresennol o gynnydd o 5% yn Nhreth y Cyngor at ddibenion cynllunio ond nid oes penderfyniad eto a phenderfynir ar hyn dim ond pan fydd pob cost arall wedi’i ystyried.

·         Nid yw Ardoll yr Awdurdod Tân sydd wedi'i osod yn annibynnol yn hysbys eto. Mae'r arwyddion cynnar yn awgrymu y gallai'r ardoll godi o rhwng 8% ac 17%.

 

 

41.

Monitro cyllideb Ch2 2022/23 pdf eicon PDF 584 KB

Gwahoddwyd:

Y Cynghorydd Rob Stewart - Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth

Ben Smith – Cyfarwyddwr Cyllid / Swyddog A151

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Aeth y Cyng. Rob Stewart a Ben Smith drwy adroddiad monitro cyllideb Ch2 ar gyfer 22/23:

·         Mae adroddiad Monitro Chwarter 2 yn dangos darlun tebyg i Chwarter 1. 

·         Gofynnwyd i gyfarwyddwyr osgoi gorwario ac yn gyffredinol rhagwelir ychydig yn llai na £3 miliwn o orwario, fodd bynnag rhagwelir y bydd y cynnydd yng nghyflogau’r athrawon yn bwysau cost gwerth £3.4 miliwn, a ddaw o gronfeydd wrth gefn ysgolion, gan sicrhau bod y gyllideb yn gyffredinol yn gytbwys.

·         Mae tanwariant ar ariannu cyfalaf sy'n cael ei ddefnyddio i ychwanegu at y Gronfa Cyfartalu Cyfalaf.

·         Mae pwysau sy'n dod i'r amlwg yn yr adran tai a fydd yn effeithio ar gyllid y CRT.

 

 

42.

Adroddiad Monitro Perfformiad Ch2 2022/23 pdf eicon PDF 158 KB

Gwahoddwyd:

Y Cynghorydd David Hopkins - Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad

Richard Rowlands - Rheolwr Cyflwyno Strategol a Pherfformiad

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Richard Rowlands, Rheolwr Perfformiad Corfforaethol. Nodwyd y canlynol:

·         O'r 27 dangosydd cymaradwy yn yr adroddiad, roedd 14 yn dangos gwelliant neu berfformiad a oedd wedi'i gynnal. O'r 13 sy'n weddill, dangosodd 4 ddirywiad ond, o fewn 5% yn unig o'r canlyniad blaenorol, dangosodd 2 ostyngiad mewn perfformiad y gellir ei briodoli i effeithiau'r pandemig a dangosodd 7 ostyngiad mewn perfformiad nad oedd yn gysylltiedig â'r pandemig.

·         Roedd 6 dangosydd newydd yn ystod chwarter 2, yn bennaf o ganlyniad i gyflwyno fframwaith perfformiad newydd ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol gan Lywodraeth Cymru.

·         Erys perfformiad diogelu’n gryf, ond mae heriau hefyd yn parhau o ran gallu'r gweithlu, sy'n broblem ar draws y maes iechyd a gofal cymdeithasol.

·         Rhagwelir newid i ddulliau ataliol a lles gan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant nad ydynt wedi cael eu gwreiddio’n llawn eto gan fod buddsoddiad yn cael ei gyfeirio tuag at fyrddau iechyd. Er, mae'r cyngor wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn modelau ataliol.

·         Mae ffigyrau presenoldeb addysg wedi gostwng ond maent o fewn 5% i'r canlyniad blaenorol. Mae gwaith yn cael ei wneud gan y Pwyllgor Cyflawni Corfforaethol Addysg a Sgiliau i edrych ar y mater hwn.

·         Mae’r economi ac isadeiledd wedi gweld gwelliant o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd o ran nifer y prosiectau â chymalau budd cymdeithasol a’r Tu Hwnt i Frics a Morter yn eu contractau. Cafwyd peth gostyngiad yng nghanran y ceisiadau cynllunio y penderfynwyd arnynt o fewn 8 wythnos oherwydd swyddi gwag o fewn y tîm.

·         O ran mynd i'r afael â thlodi, mae'r amserau prosesu ar gyfer Treth y Cyngor a budd-daliadau tai wedi gostwng. Yn debyg i'r chwarter diwethaf, mae'r staff yn parhau i gael eu dargyfeirio i weinyddu grantiau Llywodraeth Cymru yn ogystal â cholli rhywfaint o staff.

·         Mae cynnydd mewn salwch staff oherwydd effaith y pandemig a phroblemau o ran oediadau i driniaethau iechyd,  a straen personol.

·         Mae gwaith yn mynd rhagddo i geisio datblygu dangosyddion newid yn yr hinsawdd a natur newydd a bwriedir eu cyflwyno yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn nesaf neu cyn gynted â phosib wedi hynny yn unol â’r gwaith sydd ei angen i’w diffinio a sicrhau bod modd casglu data ac adrodd amdano.

 

43.

Abertawe Gynaliadwy - Diweddariad pdf eicon PDF 339 KB

Gwahoddwyd:

Y Cynghorydd Andrea Lewis, Aelod y Cabinet dros Drawsnewid

Martin Nicholls - Prif Weithredwr

Sarah Lackenby – Pennaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol    

Marlyn Dickson – Rheolwr y Rhaglen Newid Strategol 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad hwn gan Martin Nicholls, Prif Weithredwr. Nodwyd y canlynol:

·         Craffwyd ar Abertawe Gynaliadwy yn y gorffennol, ac roedd yr adroddiad hwn yn cynnwys yr eitemau a oedd yn weddill.

·         Mae Abertawe gynaliadwy wedi darparu gwerth bron i £70 miliwn o arbedion ac mae wedi cyfrannu at ddiwygio'r gwasanaeth ac mae rhai o'r adolygiadau'n tynnu sylw at y ffaith bod y cyngor yn cynnig gwasanaethau cystadleuol gyda gwerth am arian.

·         Gwnaed nifer o ymholiadau am yr adroddiad o ran pa mor dda yr oedd y cynnydd a wnaed yn cyflawni’r canlyniadau a fwriadwyd. Caiff y rhain eu nodi mewn llythyr at Aelod y Cabinet ar gyfer ymateb.

 

44.

Llythyrau pdf eicon PDF 325 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw sylwadau yn y llythyr atodedig i Aelodau’r Cabinet.

 

 

45.

Cynllun Gwaith pdf eicon PDF 219 KB

Cofnodion:

Ni wnaed sylwadau ar y Cynllun Gwaith.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.56pm.

 

 

Llythyr at Aelod y Cabinet - Drawsnewid pdf eicon PDF 341 KB

Llythyr at Aelod y Cabinet - Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad pdf eicon PDF 346 KB

Llythyr at Aelod y Cabinet Economi, Cyllid a Strategaeth (yr Arweinydd) pdf eicon PDF 352 KB

Ymateb Aelod y Cabinet - Economi, Cyllid a Strategaeth (yr Arweinydd) pdf eicon PDF 159 KB

Ymateb Aelod y Cabinet - Drawsnewid Gwasanaethau pdf eicon PDF 237 KB

Ymateb Aelod y Cabinet - Buddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth pdf eicon PDF 139 KB