Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Swyddog Craffu 01792 636292
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol Cofnodion: Nid oedd unrhyw ddatgeliadau o fuddiannau Personol a rhagfarnol. |
|
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Dim |
|
Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir. Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Gellir cyflwyno cwestiynau’n
ysgrifenedig i’r adran graffu craffu@abertawe.gov.uk tan
ganol dydd ar y diwrnod gwaith
cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth.
Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes
digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar
ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin
â hwy o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd cwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Datganiad Cyllideb Canol Blwyddyn 2022/23 (Llafar) Gwahoddwyd: Ben Smith – Cyfarwyddwr Cyllid /
Swyddog A151 Y Cynghorydd Rob Stewart - Aelod y Cabinet dros yr
Economi, Cyllid a Strategaeth Cofnodion: Roedd Ben Smith,
Cyfarwyddwr Cyllid a Swyddog Adran 151, yn bresennol i roi trosolwg o
Ddatganiad Cyllideb Canol Tymor 2022/23. Trafododd y canlynol: ·
Cyhoeddodd
Dadansoddiad Cyllidol Cymru eu hasesiad o symiau canlyniadol Barnett sy'n
dangos bod tua £600m ar gael ond mae'n debygol y bydd canran fawr o hyn yn mynd
tuag at leihau ardrethi busnes i fusnesau. ·
Bydd
y £600m yn cael ei gyflwyno dros ddwy flynedd, ond caiff y rhan fwyaf ei
gyflwyno yn 2023/24. ·
Y
meysydd gwariant mwyaf nesaf ar gyfer symiau canlyniadol Barnett, ar ôl
ardrethi busnes, yw'r gwasanaeth iechyd, ysgolion a gofal cymdeithasol. ·
Nid
oes unrhyw rwymedigaeth ar Lywodraeth Cymru i ddilyn y dyraniadau a awgrymir
gan symiau canlyniadol Barnett. Bydd y gyllideb ar 13 Rhagfyr a’r setliad
llywodraeth leol ar 14 Rhagfyr yn cadarnhau'r holl ddyraniadau. ·
Mae'n
bosib y bydd rhagolygon gwell yn y tymor byr ond mae'r tymor hwy yn dal i fod
yn anodd ei ragweld ond mae'n debygol o barhau i fod yn heriol iawn. ·
Gyda
byrddau'r GIG yn gweithredu mewn diffyg, a gan nad oes ganddynt gronfeydd wrth
gefn yn wahanol i lywodraeth leol, mae'n debygol y bydd cyfran sylweddol o'r
arian yma'n mynd i'r adran iechyd. Byddai unrhyw arian sy'n mynd i ofal
cymdeithasol yn cael effaith gynyddol o ran helpu i liniaru'r pwysau ar y
byrddau iechyd a'r gwasanaeth ambiwlans. ·
Mae
gwariant o gronfeydd arian parod wrth gefn yn y flwyddyn gyfredol (2022-2023)
yn debygol o fod tua £40m, sef tua £20m o’r Gronfa Adferiad Economaidd, £10m i
dalu am y dyfarniadau cyflog heb eu hariannu ac o bosib tua £10 miliwn o
gronfeydd wrth gefn ysgolion wedi'u clustnodi i dalu am eu dyfarniad cyflog. ·
Y
bwriad yw defnyddio hyd at £15m o'r Gronfa Adferiad Economaidd i'w wario ar
gostau ynni canolog er mwyn atal gwasanaethau unigol neu ysgolion unigol rhag
gwneud penderfyniadau sy'n ymwneud â staffio sydd wedi'u hysgogi gan gynnydd
mewn prisiau ynni yn unig. Mae hyn yn unol â chyhoeddiadau dangosol cynharach
gan Arweinydd a Swyddog A151 y cyngor. ·
Bydd
angen i gynghorwyr ystyried cydbwyso'r angen i godi treth y cyngor er mwyn
cynnal a diogelu gwasanaethau â materion fforddiadwyedd a chostau byw ar gyfer
preswylwyr a threthdalwyr. Byddai cyfnewidiadau clir yn y dewisiadau sydd i
ddod i'r cyngor ym mis Mawrth i osod cyllideb gytbwys yn gyfreithlon. |
|
Adroddiad Monitro Perfformiad Chwarter 1 2022/23 PDF 165 KB Gwahoddwyd: Richard Rowlands -
Rheolwr Cyflwyno Strategol a Pherfformiad Y Cynghorydd David
Hopkins - Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Richard Rowlands, Rheolwr Perfformiad Corfforaethol, yr
adroddiad. Nodwyd y materion canlynol:
|
|
Gwahoddwyd: Y Cynghorydd Cyril
Anderson - Aelod y Cabinet dros Gymunedau Gwasanaethau Chris Howell -
Pennaeth Rheoli Gwastraff a Pharciau Matthew Perkins -
Arweinydd Grŵp, Gwastraff Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd y Cynghorydd Cyril Anderson, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau
Cymunedol a Matthew Perkins, Arweinydd Grŵp Gwastraff yn bresennol i
gyflwyno'r sesiwn friffio hon. Nodwyd y materion canlynol:
|
|
Gwahoddwyd: Y Cynghorydd
Elliott King - Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant a Chydraddoldeb Lee
Wenham – Pennaeth Cyfathrebu
a Marchnata Rhian Millar – Cydlynydd Ymgynghori Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd
y Cynghorydd Elliot King, Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant a Chydraddoldeb, a
Rhian Millar, Cydlynydd Ymgynghori yn bresennol i drafod yr adroddiad hwn.
Nodwyd y canlynol: ·
Mae
Asesiadau Effaith Cydraddoldeb (AEC) wedi bod ar waith ers 2010, gyda Chyngor Abertawe'n eu rhoi ar waith ers 2012. ·
Y
llynedd cafodd y broses ei hadolygu'n fewnol lle newidiwyd AEC i ddull asesu
mwy integredig (AEI) sy'n dod â'r dyletswyddau gwahanol i un lle i sicrhau bod
y cyngor yn asesu'r effaith yn iawn ac yn gyffredinol fel rhan o un broses
gydlynol. ·
Mae
swyddogion yn cydnabod bod yna feysydd yr oedd Swyddfa Archwilio Cymru wedi
tynnu sylw atynt i'w gwella ond mae problemau tebyg ar draws awdurdodau eraill
yn enwedig o ran adnoddau. ·
Mae
canlyniadau adrodd a monitro yn nwylo'r swyddog sy'n gyfrifol am yr
adroddiad/polisi. ·
Ar
hyn o bryd mae pob adroddiad cyhoeddus yn destun broses sgrinio AEI, hyd yn oed
y rheini er gwybodaeth yn unig. Fodd bynnag mae hyn yn cael ei adolygu'n
fewnol. ·
Byddai'r
broses AEI yn elwa o ganllawiau cliriach ar draws y
sector cyhoeddus. ·
Mae'r
Strategaeth Cynnwys Cwsmeriaid yn destun ymgynghoriad cyhoeddus ar hyn o bryd.
Yna bydd Dangosyddion Perfformiad ar gyfer y strategaeth hon yn cael eu trafod
gyda'r bwriad o beidio â chanolbwyntio ar niferoedd ond monitro effaith a
myfyrio ar yr holl nodweddion gwarchodedig. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ni wnaed
unrhyw sylwadau yn y llythyrau atodedig i Aelodau’r
Cabinet. |
|
Cofnodion: Ni wnaed sylwadau ar y Cynllun Gwaith. |
|