Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Swyddog Craffu
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Nid oedd unrhyw ddatgeliadau o fuddiannau Personol a rhagfarnol. |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Dim |
|
Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir. Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau
ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn
cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n
berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn
cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd cwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Adroddiad Monitro'r Gyllideb C1 - 2022/23 PDF 570 KB Gwahoddwyd: Ben Smith – Cyfarwyddwr Cyllid / Swyddog A151 Y
Cynghorydd Rob Stewart - Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth Cofnodion: Gwahoddodd y Panel yr Arweinydd a Ben Smith, Cyfarwyddwr Cyllid a’r Swyddog
Adran 151, i roi trosolwg o Adroddiad Monitro'r Gyllideb Chwarter 1. Trafodwyd
y problemau canlynol: ·
Cyflwynwyd
pedwar argymhelliad i'r Cabinet ar 29 Medi ac roedd y Cabinet wedi'u cefnogi.
Un o'r rhain oedd rhoi cyfarwyddyd i'r holl Gyfarwyddwyr leihau gwariant gan
ystyried yr anawsterau parhaus yn ystod y flwyddyn. ·
Y
rhagolwg presennol yw gorwariant o £3 miliwn felly bydd y diffyg hwn yn dod o
gronfeydd wrth gefn. ·
Ar
hyn o bryd mae dwy gyfarwyddiaeth yn gorwario, mae dwy yn tanwario ac mae un
wedi bod heb ennill na cholli. Mae hyn cyn y dyfarniad cyflog felly unwaith y
caiff hwn ei ystyried mae'n debygol y bydd y 5 cyfarwyddiaeth yn gorwario
oherwydd diffyg arian mewn cyllid sylfaenol ar gyfer y dyfarniad cyflog. ·
Penderfynwyd
ar y gyllideb ar y rhagdybiaeth o ddyfarniad cyflog o 3%. Bydd y dyfarniad go
iawn, sy'n cael ei drafod ar hyn o bryd tua £12m yn fwy na'r swm a gyllidebwyd. ·
Bydd
costau ynni cynyddol yn effeithio ar bawb ac maent yn cael eu monitro'n agos. ·
Dywedwyd
wrth yr holl swyddogion cyfrifol nad oeddent yn gallu gorwario neu na fyddent
yn cydymffurfio â'r Rheolau Gweithdrefnau Ariannol. ·
Ar
hyn o bryd mae'r gyllideb a'r sefyllfa alldro rhagweledig
yn disgwyl i £26 miliwn ddod o'r cronfeydd wrth gefn. Nid yw hyn yn sefyllfa
gynaliadwy. Bydd eleni'n gytbwys oherwydd yr arian sy'n dod o'r gronfa wrth
gefn ond mae hyn yn golygu ansicrwydd ar gyfer y blynyddoedd i ddod. ·
Bydd
pob cyngor arall yn profi pwysau ariannol tebyg. Hefyd, codwyd a thrafodwyd y materion canlynol:
|
|
Adroddiad Monitro Perfformiad Blynyddol 2021/2022 PDF 418 KB Gwahoddwyd: Richard Rowlands - Rheolwr Cyflwyno Strategol a
Pherfformiad Y Cynghorydd David Hopkins - Aelod y Cabinet dros
Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Gwahoddodd y Panel y Cyng. David Hopkins, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau
Corfforaethol a Pherfformiad a Richard Rowlands, Rheolwr Perfformiad
Corfforaethol i roi trosolwg o'r Adroddiad Monitro Perfformiad Blynyddol.
Trafodwyd y problemau canlynol:
|
|
Cynllun Gwaith 2022/23 PDF 212 KB Cofnodion: Ni wnaed sylwadau ar y Cynllun Gwaith Daeth y cyfarfod i ben am 11.09am Cadeirydd |
|
Llythyr at Aelod y Cabinet PDF 323 KB Dogfennau ychwanegol: |