Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Swyddog Craffu 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatgeliadau o fuddiannau Personol a rhagfarnol.

2.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Dim

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 327 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

4.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni chafwyd cwestiynau gan y cyhoedd.

 

5.

Rôl y Panel Perfformiad pdf eicon PDF 252 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darllenodd a nododd y Panel yr adroddiad a oedd yn amlinellu rôl y Panel Craffu Perfformiad.

 

6.

Trosolwg: Deall Adrodd Ariannol

Ben Smith – Cyfarwyddwr Cyllid / Swyddog A151

 

Cofnodion:

Gwahoddodd y Panel Ben Smith, y Cyfarwyddwr Cyllid a Swyddog Adran 151 i roi trosolwg o'r adrodd ariannol. Rhoddodd gyflwyniad PowerPoint yn ymdrin â'r materion canlynol:

 

·       Rôl Craffu a'r cwestiynau y byddai disgwyl i Craffu eu gofyn

·       Rhagdybiaethau galw i mewn craffu a chonfensiwn hanesyddol

·       Mathau o adrodd gan gynnwys datganiad o gyfrifon, adroddiadau statudol ac adroddiadau gwybodaeth reoli

·       Amserlen adrodd, gan gynnwys

­   cyn y gyllideb, y gyllideb flynyddol

­   cyllideb flynyddol gan gynnwys cynllun ariannol tymor canolig, y gyllideb refeniw a chyfalaf, y gronfa dai a phennu treth y cyngor

­   adrodd yn ystod y flwyddyn ac amserlen fonitro gan gynnwys chwarteri 1, 2 a 3

­   adrodd ar ddiwedd y flwyddyn gan gynnwys adroddiadau alldro a datganiad o gyfrifon

 

Hefyd, codwyd a thrafodwyd y materion canlynol:

 

·       Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyllid wrth y Panel fod yr adran gyllid dan bwysau mawr ar hyn o bryd. Maen nhw'n canolbwyntio ar fusnes craidd sy'n gallu amharu ar feysydd eraill, sy'n cael ei adlewyrchu yn hwyrder peth adrodd. Dywedodd y Panel fod y straen sydd ar staff yn peri pryder a gofynnodd beth y gellir ei wneud i wella hyn. Dywedodd y Cyfarwyddwr wrth i bobl adael am swyddi eraill neu drwy salwch ei bod hi'n gynyddol anodd recriwtio staff cymwys i'r swyddi gwag hynny ac mae hyn yn bryder i Abertawe ac awdurdodau lleol eraill ar draws y DU ac nid yng Nghymru'n unig.

·       Soniwyd am effeithiau cynyddol costau ynni ar y cyngor ac ysgolion. Clywodd y Panel fod hyn wedi'i fonitro'n agos ond ar hyn o bryd nid yw'n cael ei adrodd yn ffurfiol i'r Cabinet ond bod y sefyllfa a wynebir y flwyddyn nesaf yn ofnadwy a bydd yn sylweddol ar draws ein ystad ac ar gyfer ysgolion. Nid yw'r sefyllfa gyllidebol net yn hysbys eto gan ein bod ni, ynghyd ag awdurdodau lleol eraill, yn aros am ganlyniad cyhoeddiad cyllidol llywodraeth y DU sydd ar fin digwydd, a fydd yn helpu i egluro'r sefyllfa gyllidebol i gynghorau. Codwyd pryder hefyd am effaith y cynnydd mewn costau ynni a chyfraddau llog ar lefel benthyca'r cyngor yn y dyfodol, roedd hyn yn cynnwys yr effeithiau ar y rhaglen gyfalaf.

 

7.

Trosolwg: Deall Monitro Perfformiad

Cofnodion:

Gwahoddodd y Panel Richard Rowlands, y Rheolwr Perfformiad Corfforaethol, i gyflwyno trosolwg o fonitro perfformiad yng Nghyngor Abertawe. Rhoddodd gyflwyniad PowerPoint i'r Panel a oedd yn cwmpasu:

 

·       Y Fframwaith Rheoli Perfformiad yn Abertawe

·       Cyd-destun deddfwriaethol a sut mae'n cael ei lywodraethu drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 a Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

·       Sut mae popeth yn gweithio

·       Sut mae sicrwydd yn cael ei ddarparu'n fewnol ac yn allanol

·       Adolygu adroddiadau Monitro Perfformiad

 

Codwyd a thrafodwyd y materion canlynol:

 

·       Gofynnodd y Panel os oedd system genedlaethol wedi'i gosod gan Lywodraeth Cymru yn bodoli o hyd gyda thargedau safonedig, ac a ydy'r rhain yn cael eu defnyddio i fesur yn erbyn awdurdodau lleol eraill yng Nghymru. Clywodd y Panel mai'r unig beth sy'n gyson ar hyn o bryd yw'r cyd-destun deddfwriaethol y mae awdurdodau lleol yn gweithio ynddo, mae hyn yn ymwneud â'r amcanion lles a'r camau a gymerwn i'w cyflawni. Mae'n rhaid i ni asesu ein hunain ynghylch pa mor dda rydym ni'n gwneud hynny. Un o'r ffyrdd rydym ni’n gwneud y dyfarniad hwnnw yw drwy ddefnyddio ein hadroddiadau monitro perfformiad. Ar un adeg, roedd fframwaith monitro perfformiad cenedlaethol yn bodoli yng Nghymru, felly roedd cyfres o ddangosyddion perfformiad cenedlaethol yr oedd yn rhaid i bob cyngor yng Nghymru adrodd arnynt ac roeddem yn gallu cymharu ein hunain ag awdurdodau lleol eraill, ond ar hyn o bryd nid oes fframwaith cenedlaethol. Er bod mesurau o fewn gwahanol feysydd gwasanaeth, er enghraifft, mae gan y gwasanaethau cymdeithasol fframwaith cenedlaethol sydd bellach ar sail gwasanaeth fesul gwasanaeth. Mae Uned Ddata Cymru yn edrych ar y mater hwn ar hyn o bryd oherwydd o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau Cymru 2021 mae canllawiau yn cyfeirio awdurdodau lleol i wneud cymariaethau â'i gilydd. Ni fydd y fframwaith a fydd yn cael ei ddatblygu yn cael ei adrodd yn gyhoeddus ond yn cael ei ddefnyddio gan awdurdodau lleol i fonitro ac i'w ddefnyddio fel rhan o'u hadroddiadau hunanasesu.

·       Gofynnodd y Panel sut y bydd ein hadroddiadau'n cael eu harchwilio. O ran yr adroddiadau, fel yr adroddiad lles blynyddol a'r hunanasesiad blynyddol, clywodd y Panel nad ydynt yn cael eu harchwilio gan Archwilio Cymru fel dan y trefniadau blaenorol. Yr unig ofyniad o dan y ddeddfwriaeth newydd yw bod yn rhaid i Archwilio Cymru adolygu'r trefniadau rydym wedi'u rhoi ar waith i lunio'r adroddiadau. Maen nhw wedi adolygu'r trefniadau yn Abertawe ac rydym wedi derbyn adroddiad boddhaol, bydd hwn yn cael ei gynnwys mewn llythyr a fydd yn cael ei anfon at yr awdurdod lleol yn y dyfodol agos. Yn ychwanegol at hynny, mae adroddiadau monitro chwarterol yn mynd drwy'r Cabinet ac yna'n cael eu trafod yn y Panel craffu hwn. Mae'r adolygiad blynyddol o berfformiad yn bodloni'r ddwy ddyletswydd sydd gennym bellach o dan y ddau ddarn yma o ddeddfwriaeth a bydd hwn hefyd yn dod i'r Panel hwn yn ogystal â chael ei ystyried gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

 

8.

Cynllun Gwaith 2022/23 pdf eicon PDF 210 KB

Cofnodion:

Mae Adroddiad Monitro Perfformiad Chwarter 1 ar gyfer 2022/23 wedi ei symud o gyfarfod mis Hydref i gyfarfod mis Tachwedd ers cyhoeddi'r agenda.

Cytunodd y Panel ar y Rhaglen Waith ar gyfer y flwyddyn ddinesig 2022/2023.

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.05am