Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams

Cyswllt: Scrutiny Officer - 07980757686 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

27.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

28.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

 

29.

Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol pdf eicon PDF 324 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Cofnodion:

Cytunwyd bod cofnodion cyfarfod y Panel Craffu Perfformiad Gwella Gwasanaethau a Chyllid, a gynhaliwyd ar 20 Medi 2021, yn gofnod cywir.

30.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

31.

Adroddiad Monitro Perfformiad Chwarter 1 2021/2022 pdf eicon PDF 300 KB

Gwahodd i fynychu

Andrew Stevens – Aelod y Cabinet - Trawsnewid Busnes a Pherfformiad

Richard Rowlands – Rheolwr Cyflwyno a Pherfformiad Strategol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Panel ddiweddariad gan Richard Rowlands, Rheolwr Cyflwyno a Pherfformiad Strategol, ynghylch Adroddiad Monitro Perfformiad Chwarter 1 2021/22. Roedd Adam Hill, Dirprwy Brif Weithredwr/Cyfarwyddwr Adnoddau, hefyd yn bresennol i gynorthwyo'r trafodaethau.

</AI4>

<AI5>

 

Roedd y trafodaethau'n canolbwyntio ar:

 

  • Mae paragraff 2 yr adroddiad yn tynnu sylw at effaith COVID ar adrodd. 
  • Yn gyffredinol, mae 81% o ddangosyddion wedi gwella neu aros yr un fath.
  • Amharwyd ar adrodd am berfformiad yn erbyn y flaenoriaeth diogelu y chwarter hwn. Mae hyn yn bennaf o ganlyniad i'r awdurdod lleol yn rhoi System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru ar waith ac ar yr un pryd, Lywodraeth Cymru (LlC) yn diweddaru ei fframwaith perfformiad drwy gyflwyno metrigau perfformiad newydd. Mae swyddogion yn rhagweld yr adroddir yn gywir am y gyfres newydd o ddangosyddion yn Ch2.
  • Mae effaith COVID, a'r galwadau cysylltiedig, yn parhau i fod yn uchel, yn enwedig ym maes gofal cymdeithasol i oedolion. O ran oedolion, mae'r galwadau ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol yn uchel iawn. Mae ysbytai'n ei chael hi'n anodd ateb y galw presennol, dal i fyny ar ôl-groniadau, rheoli cyfyngiadau COVID o ran y niferoedd y gellir eu derbyn a rheoli nifer y staff sy'n gorfod hunanynysu.
  • Holodd yr Aelodau ynghylch y dangosyddion a pham eu bod wedi gwella mewn amgylchiadau o'r fath, gan ofyn sut y dewisir dangosyddion. Esboniodd swyddogion mai diben y dangosyddion yw mesur blaenoriaethau o fewn y cynllun corfforaethol, a'u bod yn cael eu dewis yn benodol at y diben hwnnw. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno fframwaith ehangach ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol ac o ganlyniad, mae dangosyddion wedi newid.
  • Cododd yr Aelodau bryderon ynghylch mwy o alwadau gan Lywodraeth Cymru ar reoli perfformiad. Cadarnhaodd swyddogion y bydd y trefniadau newydd hyn yn cael eu cynnwys yn y llwyth gwaith presennol, gyda'r nod o gyfyngu ar faich gofynion newydd.
  • Addysg a Sgiliau – nid yw data presenoldeb cyhoeddedig ar gael o hyd o ganlyniad i'r pandemig.
  • Nid yw mesuryddion cyrhaeddiad ar draws yr awdurdod ar gyfer y Cyfnod Sylfaen, CA2 a CA3 bellach yn cael eu casglu gan Lywodraeth Cymru.
  • Yn y grwpiau oedran CA4 a Safon Uwch, yr ysgolion eu hunain sydd wedi penderfynu ar y graddau a ddyfarnwyd; cafwyd llai o apeliadau na'r disgwyl.
  • Mae presenoldeb yn parhau i fod yn is ledled Cymru oherwydd COVID.
  • Yr Economi ac Isadeiledd – mae'r trosolwg (T27-29) yn nodi adroddiad cynnydd manwl ar ddatblygiadau, ynghyd â gwaith a wnaed i gefnogi adferiad economaidd a gwelliannau tai.
  • Mae dangosyddion statig gan na fydd data ar gael tan Ch2.
  • Trechu Tlodi – mae'r rhan fwyaf o ddata'n dangos gwella tueddiadau, ac eithrio dau ddangosydd ('Faint o fudd-daliadau lles a godwyd drwy sicrhau hawliau a hawliadau gan y Tîm Hawliau Lles' a 'Nifer cyfartalog y diwrnodau y mae pob teulu digartref â phlant yn eu treulio mewn llety Gwely a Brecwast').
  • Adroddwyd ein bod yn anterth y pandemig yn Ch1 20/21 ac felly cafwyd llai o gyflwyniadau digartrefedd teuluol oherwydd ataliwyd troadau allan. Cafodd hyn effaith uniongyrchol ar ddata'r cyngor.
  • Holodd yr Aelodau am ddefnyddio'r term 'trechu tlodi' fel term cyffredinol, gan awgrymu y dylid adolygu'r disgrifiad hwn yn y dyfodol.
  • Tynnodd yr Aelodau sylw at y ffaith, oherwydd newidiadau mynych i'r system fudd-daliadau, nad yw'r tueddiadau mewn data'n darparu cymhariaeth tebyg at ei debyg, er eu bod yn cydnabod fod data blaenorol yn hanfodol. Esboniodd swyddogion hefyd y bydd y naratif sy'n cyd-fynd â'r adroddiad yn helpu i egluro tueddiadau a chanlyniadau.
  • Holodd yr Aelodau sut y caiff tlodi ei fesur a'r diffiniad safonol. Aeth swyddogion ati i ddarparu'r diffiniad hwn, yn seiliedig ar amryfal ffynonellau a metrigau (a dderbyniwyd bellach gyda diolch).
  • Trawsnewid Cyngor y Dyfodol – mae un dangosydd wedi gostwng (nifer y ffurflenni a gwblhawyd ar-lein ar gyfer prosesau cwbl awtomataidd).
  • Holodd yr Aelodau pam nad oedd mwy o bobl yn defnyddio gwasanaethau ar-lein, o ystyried bod llawer o bobl wedi addasu i weithio o bell.
  • Esboniodd swyddogion fod y gostyngiad yn y dangosydd hwn yn ganlyniad i nifer uchel iawn o bobl y llynedd. Mae'r ffigur eleni'n parhau'n uchel, er ei fod wedi gostwng ers y llynedd a'r nifer anarferol o uchel.
  • 'Nifer yr achosion o dorri data sydd wedi arwain at gyflwyno hysbysiad gorfodi neu gosb ariannol gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth' (SCG) – pob canlyniad yn sero. Soniodd yr Aelodau fod hyn yn ystadegyn trawiadol. 

 

32.

Trosolwg: Deall Adrodd Ariannol (Cronfeydd wrth gefn)

Gwahodd i fynychu

Ben Smith – Swyddog Adran 151 a’r Prif Swyddog Cyllid

Cofnodion:

·     Cafodd y Panel esboniad trosolwg am Gronfeydd Refeniw wrth Gefn, a oedd yn  tynnu sylw at brif agweddau a nodweddion adrodd.

·     Holodd yr Aelodau a fyddai arian o waredu, er enghraifft eiddo, yn cael ei gyfyngu o fewn y gyllideb gyfalaf neu'n cael ei symud i gronfeydd wrth gefn. Esboniodd swyddogion y byddai'n arwain at dderbynneb cyfalaf ar waredu, gan arwain at dderbyniadau cyfalaf heb eu defnyddio ac felly byddai cronfeydd wrth gefn sydd wedi'u clustnodi tan hynny'n berthnasol i ariannu cyfalaf yn y dyfodol.

·     Cronfa Cyfartalu Cyfalaf – (CCC) – nid yw arian yn cael ei wario'n llawn ar brosiectau cyfalaf ar hyn o bryd. Dywedodd yr Aelodau fod y CCC yn fawr; sut mae'n cael ei ariannu cystal ar hyn o bryd? Esboniodd swyddogion fod cyllid CCC yn deillio o arbedion ar ariannu cyfalaf y ddyled, sy'n eitem refeniw ei hun. Esboniwyd y bu arbedion sylweddol ar elfennau ariannu cyfalaf dros y blynyddoedd diwethaf oherwydd gohirio allanoli'r ddyled. Disgwylir diweddariad mawr i'r cyngor ym mis Tachwedd ar strategaeth rheoli'r trysorlys.

 

33.

Adolygiad o Gronfeydd wrth gefn pdf eicon PDF 1 MB

Gwahodd i fynychu:

Ben Smith – Swyddog Adran 151 a’r Prif Swyddog Cyllid

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Panel yr adroddiad ynghylch y Cronfeydd Refeniw wrth Gefn, a gyflwynwyd gan Ben Smith, y Prif Swyddog Cyllid.

 

Roedd y trafodaethau'n canolbwyntio ar:

 

·     Tabl 3.11 – adolygu'r cronfeydd wrth gefn cyfredol a glustnodwyd: holodd yr aelodau faint o arian sydd ar gael yn rhwydd i ddefnyddio cronfeydd wrth gefn a gefnogir gan arian parod fel dros £50M. Roedd Aelodau'n cydnabod bod rhai yn ymrwymiadau hirdymor ac roedd ganddynt gyfyngiadau ar wariant hyd yn oed lle'r oeddent yn cael eu cefnogi gan arian parod.

·     Cadarnhaodd swyddogion fod hyn yn gywir, ac y disgwylir y caiff llawer ei wario (h.y. tynnu o gronfeydd wrth gefn) ar gronfeydd brys, ysgolion a chronfeydd adfer yn arbennig.

·     Adroddwyd, yn dilyn canlyniad alldro hynod ffafriol 2020/21, fod cronfa newydd wedi'i chreu o'r enw'r Gronfa Adfer; Neilltuwyd £20m i helpu'r adferiad economaidd o COVID-19.

·     Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith y bydd gan Gyngor Dinas Abertawe gronfeydd wrth gefn uwch na llawer o awdurdodau eraill yng Nghymru. Roedd gan ysgolion, yn arbennig, gyfanswm o gronfeydd wrth gefn uwch nag unrhyw awdurdod arall yng Nghymru.

·     Cydnabu'r Aelodau nad yw'r cynnydd gan Lywodraeth Cymru yn hysbys hyd yma.

·     Cytunodd y Panel mai hwn oedd y ffigur uchaf yr adroddwyd amdano erioed yng Nghyngor Dinas Abertawe.

·     Amlinellodd swyddogion y rhagolygon ansicr sydd o'n blaenau, a'r angen i gadw cronfeydd wrth gefn i ddiogelu sefyllfa'r awdurdod, yn amodol ar ffigurau setliad.

 

 

Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu presenoldeb a'u mewnbwn yn y cyfarfod.

 

34.

Llythyr pdf eicon PDF 324 KB

Dogfennau ychwanegol:

35.

Cynllun Gwaith 2021-22 pdf eicon PDF 227 KB

Cofnodion:

Nododd y panel y cynllun gwaith 

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 524 KB