Lleoliad: Remotely via Video
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. www.abertawe.gov.uk/DatgeluCysylltiadau Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg PDF 30 KB Gwahodd i fynychu Sarah Lackenby - Prif Swyddog Trawsnewid Louise Gibbard – Aelod y Cabinet, Cefnogi Cymunedau Robert Smith – Aelod y Cabinet, Gwella Addysg, Dysgu a Sgiliau Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cafodd y Panel yr
wybodaeth ddiweddaraf gan Sarah Lackenby, Prif Swyddog Trawsnewid, am gynnwys Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg.
Roedd y Cynghorydd Louise Gibbard, Aelod y Cabinet dros Gefnogi Cymunedau, a'r
Cynghorydd Robert Smith, Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau,
hefyd yn bresennol i gefnogi trafodaethau ac ateb cwestiynau. Roedd y trafodaethau'n canolbwyntio ar y canlynol:
Ystyriodd aelodau'r panel yr wybodaeth a
ddarparwyd, gan ofyn cwestiynau, a mynegi'u barn am yr wybodaeth a oedd ar
gael. Diolchodd y Cadeirydd iddynt am eu mewnbwn. |
|
Is-ddeddfau: Trosolwg PDF 697 KB Gwahodd i fynychu Craig Davies – Cyfreithiwr Cyswllt Cofnodion: Derbyniodd y Panel
drosolwg o'r Is-ddeddfau presennol a'r broses sy'n gysylltiedig â dirymu. Roedd
Craig Davies, Cyfreithiwr Cyswllt, yn bresennol i ateb cwestiynau. Roedd y trafodaethau'n
canolbwyntio ar y canlynol: ·
Ar hyn o bryd, mae gan yr Awdurdod Lleol 33 o Is-ddeddfau
gweithredol, sy'n bwriadu atal neu ostwng niwsans. Ni roddwyd unrhyw
Is-ddeddfau newydd ar waith ers 1999. ·
Esboniodd swyddogion fod y broses sy'n gysylltiedig â
gwneud Is-ddeddf yn gymhleth ac yn hir, gan gynnwys cyfnod ymgynghori ac
amserlenni penodol i gadw atynt. ·
Clywodd y Panel fod gan Lywodraeth Cymru gatalog o
Is-ddeddfau enghreifftiol, sy'n galluogi Awdurdodau Lleol i ddiweddaru
Is-ddeddfau cyfredol. ·
Nodwyd bod Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus (GDMACau) yn debyg i Is-ddeddf, er eu bod yn para am 3
blynedd yn unig. ·
Clywodd y Panel y byddai angen swyddogion hyfforddedig i
fonitro a gorfodi Is-ddeddfau ac unrhyw gosbau penodedig cysylltiedig. ·
Holodd yr aelodau ynghylch perthnasedd dirwyon o ran
gwerth ariannol cyfredol. ·
Mae dirymu yn broses fwy syml, ac mae dileu Is-ddeddfau
sydd wedi darfod yn fwy syml na'u creu. ·
Holodd y Panel ynghylch is-ddeddfau hanesyddol ac a yw'r
cyngor yn cynnal adolygiad o'r rhain, gyda'r bwriad o ddiweddaru neu ddirymu
Is-ddeddfau sydd wedi'u gwaredu. Esboniodd swyddogion fod rhai Is-ddeddfau
hanesyddol yn parhau i fod yn berthnasol ac yn gymwys, ond cytunwyd y gallai
adolygiad fod yn fanteisiol. ·
Cytunodd aelodau'r Panel y byddai'n fanteisiol adolygu'r
Is-ddeddfau presennol a bod angen cyfeirio'r pwnc hwn at y Prif Swyddog
Cyfreithiol. |
|
Cynllun Gwaith 2021-22 PDF 227 KB Cofnodion: Nododd y panel y cynllun gwaith. |
|