5. |
Datganiad Cyllideb Canol Blwyddyn 2020-21 PDF 911 KB
Ben Smith – Swyddog Adran 151 a’r Prif
Swyddog Cyllid
Rob Stewart – Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth (yr Arweinydd)
Cofnodion:
Eitem 5 ac 7
(yn gydamserol)
- Bydd y gofyniad ariannol cyfalaf yn cynyddu
cannoedd o filiynau o bunnoedd. Fe'i mesurir fel canran o'r gyllideb
refeniw.
- Ym mhob senario, mae swyddogion yn gweld
cyllidebau'n codi. Cyllidebau arian parod sy'n debygol o godi yn y sector
cyhoeddus. Er y bydd cydadweithio cymhleth.
- Byddai'r Prif Swyddog Cyllid wedi hoffi
dechrau benthyca’n allanol eisoes, ond oherwydd cyfyngiadau'r gyfraith a chôd ymarfer, ni allwn fenthyca cyn bod angen yr arian
arnom.
- Cyfraddau llog cymharol isel ar hyn o bryd.
- Mae perygl y bydd chwyddiant yn cynyddu, yn
ogystal â chyfraddau llog yn dilyn hyn; os cyflawnwyd gwaelod y gromlin,
byddwn am fenthyca'n allanol yn fuan a'i gadw ar gyfraddau da.
- Esboniodd swyddogion, er bod y rhain yn
ddogfennau technegol sych, os yw'r rhain yn anghywir, byddem yn prysur
redeg allan o adnoddau o ystyried ymrwymiadau ariannu hirdymor i'r
cyfalaf.
- Atodiad 4, eitem 6, gwariant cyfalaf y gronfa
gyffredinol – gofyniad cyffredinol o £115m erbyn
hyn - holodd y panel pam y mae gwahaniaeth mor enfawr yn yr amcangyfrif /
alldro gwreiddiol.
- Esboniodd swyddogion fod hyn o ganlyniad
uniongyrchol i adeiladu'r Arena, ac wedi'i sbarduno gan y gwariant ar yr
ysbyty maes. Mae'n dangos yn anochel faint o wariant cyfalaf sydd ar
droed.
|
6. |
Monitro cyllideb Ch3 - Diweddariad pellach gan y Prif Swyddog Cyllid PDF 433 KB
Cofnodion:
Roedd Ben Smith yn bresennol i gyflwyno'r eitem hon i'r panel. Nodwyd y
materion canlynol:
- Roedd Cyngor Abertawe'n
derbyn cyllid treth y cyngor o £2.6m, a chyllid
cynllun gostyngiadau treth y cyngor o £0.7m am y
flwyddyn.
- Yn Ch3
cyflwynodd y cyngor hawliad colli incwm i Lywodraeth Cymru, ac mae bellach
gennym ateb sy'n ein hysbysu o'r sefyllfa – cadarnhawyd £2.2m o golled incwm ar gyfer Ch3.
- Mae'r cyngor bellach wedi cyflwyno
hawliad colli incwm ar gyfer Chwarter 4 – cyflwynwyd pob hawliad arall yn
ystod y flwyddyn yn ôl-weithredol, ond mae £5m
yn ddangosol ar gyfer Ch4 - rydym yn dal i aros
i weld a ddyfernir y swm llawn neu beidio. Mae'n debygol y bydd swm
ychwanegol yn cael ei dderbyn ar ben yr hyn a dderbyniwyd eisoes – bydd yr
hawliad dangosol hwn wedyn yn setlo’n gynnar ym mis Mai.
- Cyhoeddodd y Gweinidog Llywodraeth
Leol a Thai symiau pellach gwerth cyfanswm o £50m
a ddyrannwyd ar sail cyfran deg pro-rata – rydym
yn rhagweld y byddwn yn derbyn £3.75m.
- Hefyd, cyhoeddwyd estyniad o £42.5m i'r gronfa caledi, gan gynnwys prydau ysgol am
ddim hyd at wyliau'r Pasg, efallai bydd ein cyfran tua £3m.
- Yn ogystal, yn gysylltiedig â'r
gyllideb gyfalaf, cyhoeddwyd cronfa gyfalaf ysgolion gwerth £50m, y bydd ein cyfran ni rhwng £3.6-£3.7m, y mae angen ei gwario yn ystod y flwyddyn.
- Mae'n debygol y bydd cyfran arall o
arian grant busnes – hyd at £15m o bosib, ar
gael cyn diwedd y flwyddyn - yn amodol ar gyhoeddiadau'r Prif Weinidog tua
chanol mis Mawrth. Ond caiff yr arian hwn ei neilltuo'n syth i fusnesau,
ni fydd mantais i'r cyngor.
- Estyniad o £206m
i'r gronfa galedi ar gyfer 6 mis cyntaf y flwyddyn nesaf. Ni fydd y cyngor
yn gwybod beth fydd cyfran Abertawe eto – ar sail ceisiadau - ond ceir £15m arall i'w rannu'n deg.
- Bydd canlyniadau Ch4
yn hysbys ar ddechrau mis Mai.
- Roedd y gyllideb yn cynnwys
tybiaethau ynghylch cyfanswm y cyllid allanol. Bydd Llywodraeth Cymru'n
trafod ei chyllideb ei hun yr wythnos hon.
- Cyhoeddwyd gwyliau rhyddhad ardrethi
busnes (amrywiad i gyhoeddiad Lloegr) gan Lywodraeth Cymru.
- Holodd y Panel a yw'r cyngor mewn
sefyllfa dda yn ariannol. Esboniodd
swyddogion ein bod, yn ystod mis Chwefror, wedi derbyn tridiau o
hysbysiadau, gyda phob un ohonynt dros £3m, a
bod y cyhoeddiadau parhaus ar gyllid yn gwella’n sefyllfa. Roedd y cyngor
hefyd wedi dechrau gyda thanwariant sylfaenol sylweddol, ac eithrio
effeithiau sy'n gysylltiedig â COVID, ar ddechrau'r flwyddyn.
- Mae'r cyngor wedi parhau i adennill y
rhan fwyaf o'r symiau yn ôl gan Lywodraeth Cymru; mae gweld cyflymder,
graddfa ac amlder y cyhoeddiadau wedi gwella'r sefyllfa'n sylweddol.
- Holodd y panel a allwn ddisgwyl
tanwariant arall erbyn diwedd y flwyddyn. Ymatebodd swyddogion drwy ddweud
er nad yw'n sicr, mae'n debygol y byddai'r cyngor mewn sefyllfa o
danwariant pwysig yn y pen draw.
- Yr aelodau fydd yn penderfynu i ble y
mae'r arian yn mynd – byddai angen i gronfeydd cyffredinol gynyddu
ychydig, efallai bydd y mwyafrif yn cael ei roi i'r cronfeydd wrth gefn a
glustnodwyd. Bu llawer o drafod ynghylch cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd
- bydd y Prif Swyddog Cyllid yn parhau i roi'r cyngor bod yn rhaid i
unrhyw benderfyniad a wneir roi sylw dyledus i benderfyniadau blaenorol a
wnaed a chanlyniadau tymor hwy yn y dyfodol - e.e. ariannu'r benthyca ar
raddfa fawr sydd i ddod.
- Mae rhagolygon ar gyfer cyllid y
sector cyhoeddus yn debygol o fod yn llwm.
- Trafododd y Panel Atodiad A, T37, gan dynnu £4m allan o
gronfeydd wrth gefn sydd wedi'u clustnodi - a ydym yn rhagweld nad oes
angen £4m mwyach? Cadarnhawyd hyn gan y swyddogion, roedd
y sefyllfa yn Ch3 yn ei gwneud yn ofynnol i
dynnu’r arian, ond erbyn hyn rydym yn sicr na fydd angen tynnu'r arian
hwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi dosbarthu symiau sylweddol i bob un o'r 22
awdurdod. Yn Ch1 cafwyd gorwariant rhagamcanol - digwyddodd hyn yn gyflym. Mae'n debygol
y bydd Ch4 yn ein rhoi mewn sefyllfa o
danwariant. Ni allwn ddyfalu'r swm, er rydym yn sicr y bydd yn swm
sylweddol iawn.
- Trafododd y Panel grynodeb o'r
Gyllideb Refeniw – cronfa wrth gefn o £5.9m nad
yw'n cael ei defnyddio ar hyn o bryd – o ystyried lefelau ariannu, pam nad
ydym yn tynnu arian allan o'r gronfa hon? Cadarnhaodd swyddogion yr
ysgrifennwyd yr adroddiad hwn yn ystod Ch3 a bod
y darlun hwn bellach wedi newid. Yn wir, efallai na fydd angen y cyfan
oherwydd y symiau sylweddol a gyhoeddwyd, yr ydym yn aros amdanynt o hyd.
- Taliadau Ariannu – nodwyd gostyngiad
o £36m i £28m. Holodd
y Panel a yw hyn o ganlyniad i Ddarparu Lleiafswm Refeniw (DLlR). Gyda'r benthyca ychwanegol hwn dros y
blynyddoedd nesaf, a fyddwn yn y pen draw yn cael taliadau ariannu cyfalaf
o oddeutu £40m?
- Esboniodd swyddogion ei bod yn anodd
gwybod beth fydd yr union ffigur. Roedd y CATC a
roddwyd i'r cyngor yn nodi miliynau o bunnoedd o gostau ychwanegol ar
gyfer cyllid cyfalaf, pan gytunodd y cyngor i fenthyca £180m yn ychwanegol (benthycwyd £90m
hyd yma); mae’r DLlR yn fuddiol ar hyn o bryd,
ond bydd costau DLlR uwch yn y tymor hwy.
- Canlyniad 50 mlynedd – y dybiaeth
orau ar y pryd - cyngor y swyddogion yw bod llawer o'r arbedion yn
dymherus, nid ydym wedi benthyca'r swm llawn eto, ar ryw adeg bydd y DLlR yn gwrthdroi.
- Tybiaethau ynghylch beth fydd o fudd
i'r cyngor dros y 7 mlynedd nesaf o ran y Fargen Ddinesig. Ar ôl Blwyddyn
7 bydd baich pellach ar yr ariannu cyfalaf. Roedd temtasiwn i dynnu arian
o'r gronfa cyfartalu cyfalaf, fodd bynnag mae Deddf Llesiant
Cenedlaethau'r Dyfodol yn mynnu bod digon o gyllid i ariannu cylch bywyd.
- Cronfa Cyfartalu Cyfalaf – mae'r
panel yn nodi bod symiau mawr yn mynd i mewn, a fydd hyn yn parhau? Cyngor
swyddogion yw, os oes tanwariant dros dro ar ariannu cyfalaf, y dylid ei
ychwanegu at y CCC. Rhagwelwyd y byddem yn cyrraedd y brig benthyca yn
2025/26, a gallai newidiadau i gyllid y fargen ddinesig ymestyn hynny i
2028-29. Ni allwn fod yn gwbl sicr.
- Ymrwymiad i ariannu cronfeydd
isadeiledd TGCh ysgolion yn llawn yng nghynigion
y gyllideb, ariennir y cyfan drwy'r Gronfa Cyfartalu Cyfalaf.
Cam gweithredu - angen gwybodaeth fanylach am y cynnydd
disgwyliedig mewn ad-daliadau oherwydd y cynnydd yn y gofynion benthyca.
|