Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Craffu 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Chris Holley gysylltiad personol ag eitem 6.

 

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Dim

3.

Cofnodion. pdf eicon PDF 490 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd y llythyrau a'r nodiadau gan y panel.

 

4.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Cofnodion:

Dim

5.

Craffu ar y Gyllideb Flynyddol

Dolen i Bapurau’r Cabinet ar gyfer 20 Chwefror 2020, sy’n cynnwys y cynigion cyllidebol (dylai’r papurau fod ar gael o 14 Chwefror 2020.)

·       Rob Stewart Aelod y Cabinet - Economi a Strategaeth (yr Arweinydd)

·       Ben Smith - Pennaeth Gwasanaethau Ariannol a’r Ganolfan Wasanaeth

Cofnodion:

Bu'r Panel yn craffu cyn penderfynu ar bapurau'r gyllideb flynyddol y mae disgwyl i’r Cabinet benderfynu arnynt ar 20 Chwefror.  Diolchodd y Panel i'r Cynghorydd Rob Stewart, Aelod y Cabinet dros yr Economi a Strategaeth (Arweinydd) a Jeff Dong am ddod i gyfarfod y Panel ac am ateb cwestiynau.

 

Bu'r panel yn ystyried y canlynol:

1.    Cynllun Ariannol Tymor Canolig

2.    Cyllideb Refeniw

3.    Cyllideb Gyfalaf

4.    Cyfrif Refeniw Tai a'r Gyllideb Gyfalaf

5.    Adborth gan baneli craffu eraill

6.

Crynhoi Barn a Chyflwyno Argymhellion

Yna bydd Chris Holley, Cynullydd y Panel Gwella Gwasanaethau a Pherfformiad Cyllid, yn mynd i gyfarfod y Cabinet ar 20 Chwefror i gyflwyno barn gyfunol y paneli perfformiad craffu.

Cofnodion:

Amlygwyd y pwyntiau canlynol i'w cynnwys yn llythyr y Cynullydd i'r Cabinet ar 20 Chwefror:

·         Rydym yn cydnabod bod y Cynllun Ariannol Tymor Canolig yn fater newidiol ac yn ddibynnol ar yr arian grant ychwanegol a roddir.  A oes modd cynnwys y naratif sy'n gysylltiedig â'r rhain yn yr adroddiad?

·         Hoffem eglurder pellach ar yr hyn a fyddai'n cael ei gynnwys yn y cynnig arbedion mewn perthynas â chynyddu ffïoedd parcio.

·         Gofynnom i chi am y llinell sy'n nodi'r gostyngiadau i'r Gwasanaeth Llyfrgelloedd a'r posibilrwydd o leihau oriau agor yn y tymor hwy.  Dywedoch wrthym am y bwriad hefyd o gyflwyno hybiau cymunedol ar draws ardaloedd yn Abertawe, a fydd yn cynnwys llyfrgelloedd a gwasanaethau eraill i greu siopau dan yr unto ar gyfer pobl leol.  Allwch chi ddweud rhagor wrthym am y rhain, gan gynnwys y lleoliadau a'r gwasanaethau maen nhw'n eu cynnwys a sut bydd hyn yn effeithio ar y ddarpariaeth llyfrgelloedd ar draws Abertawe?

·         Clywsom am yr ymdrechion mewn perthynas â ffïoedd a thaliadau'r cyngor i sicrhau ein bod yn ceisio adennill yr holl gostau lle y bo'n bosib.  Allwch chi ddweud wrthym pa mor hyderus ydych chi y bydd hyn yn cael ei wireddu?

·         Roeddem yn falch o glywed am y technolegau newydd sy'n cael eu cyflwyno a fydd yn darparu systemau TGCh a swyddfeydd cefn mwy effeithlon.

·         Gofynnom am newidiadau i'r system bresennol o gasglu cewynnau.  Roeddem yn falch o glywed y bydd Llywodraeth Cymru'n gwneud cynnig mewn perthynas â hyn a gwastraff clinigol arall a fydd yn arwain at wasanaeth gwell yn y pen draw.

·         Roeddem hefyd yn awyddus i glywed am y cynigon i ddatblygu ffyrdd mwy cost effeithlon o gasglu plastigion a'u gwaredu.

 

Cyllideb Refeniw

·         Er bod gennym eglurhad da am y gyllideb net, yn y dyfodol byddai'n fanteisiol cynnwys crynodeb o'r incwm gros disgwyliedig ym mhob darn o wybodaeth gorfforaethol am adrannau a roddir.

·         Yn y dyfodol, byddem yn gofyn bod rhestr termau'n cael ei chynnwys ym mhapurau'r gyllideb a fydd yn rhoi manylion yr acronymau a ddefnyddiwyd.

·         Croesawn greu adnodd i gydlynu a datblygu rhwymedigaethau argyfwng hinsawdd a'r amgylchedd naturiol (gan gynnwys rhwymedigaethau is-adran 6).

·         Gofynnom am y gost i'r awdurdod am ddisgyblion, gan gynnwys y rheini ag anghenion dysgu ychwanegol o'r tu allan i'r sir sy'n derbyn addysg yn Abertawe.  Roeddem am wybod pwy sy'n talu am y dysgwyr hynny, ai'r awdurdod lleol lle mae’r plentyn yn byw neu ni?

·         Rydym hefyd am godi'r mater o Dai Amlfeddiannaeth a'r cynigion i gynyddu'r ffi drwyddedu. Trafodom y diffyg incwm o ran treth y cyngor o dai amlfeddiannaeth a'r ffaith nad oes angen i berchnogion tai amlfeddiannaeth dalu ardrethi busnes.  Rydym yn derbyn incwm gan Lywodraeth Cymru sy'n seiliedig ar fformiwla Barnett sy'n cynnwys myfyrwyr ond roeddem am wybod beth fyddai effaith y gwasanaethau a ddefnyddir gan fyfyrwyr megis casglu sbwriel etc. ar ein cyllideb.  Allwch chi ddweud wrthym faint o gynnydd fydd i’r ffi drwyddedu, a beth yw'r diffyg ariannol i'r cyngor mewn perthynas â cholli treth y cyngor ac adrethi busnes.

 

Bydd y Panel yn gofyn am ymatebion i'r pwyntiau canlynol:

 

1.    Pa mor sicr ydych chi y bydd yr arbedion rhagweledig mewn perthynas â'r tri llwybr diogel i'r ysgol newydd yn cael eu cyflawni ac, os nad ydynt, beth fydd effaith hyn ar y gyllideb addysg gyffredinol?

2.    Allwch chi ddarparu copi i ni o'r ymgynghoriad ar gyfer adolygu cyfleoedd mewn canolfannau awyr agored?

3.    Allwch chi roi eglurhad ar y gofyniad benthyca cyffredinol, (i) faint y byddwn yn ei fenthyca?, (ii) beth fydd costau'r benthyca hwn a (iii) sut byddwn yn ariannu cost ychwanegol y benthyciad?

4.    Allwch chi roi eglurhad ar y costau o £200 mil ar gyfer ein cyfraniad at drefniadau'r Fargen Ddinesig?  Ar gyfer beth y mae'r arian hwn a thros ba gyfnod o amser caiff ei dalu?

5.    Hoffem eglurder pellach ar yr hyn a fyddai'n cael ei gynnwys yn y cynnig arbedion mewn perthynas â chynyddu ffïoedd parcio.

6.    Allwch chi ddweud rhagor wrthym am yr hybiau cymunedol gan gynnwys y lleoliadau a'r gwasanaethau y byddent yn eu cynnwys a sut bydd hyn yn effeithio ar y ddarpariaeth llyfrgelloedd ar draws Abertawe?

7.    Allwch chi ddweud wrthym pa mor hyderus ydych chi y bydd y costau llawn yn cael eu hadennill mewn perthynas â ffïoedd a thaliadau?

8.    Allwch chi roi crynodeb o'r incwm gros disgwyliedig wrth ochr ffigurau pob adran gorfforaethol ym mhapurau'r gyllideb yn y dyfodol?

9.    Allwch chi ddarparu rhestr termau ym mhapurau'r gyllideb yn y dyfodol su'n rhoi manylion yr acronymau a ddefnyddiwyd?

10. Allwch chi ddweud wrthym pwy sy'n talu am y disgyblion hynny yn ein hysgolion nad ydynt yn byw yn y sir h.y. ai'r awdurdod lleol lle mae’r plentyn yn byw neu ni?

11. Allwch chi ddweud wrthym beth fydd y cynnydd i’r ffi drwyddedu tai amlfeddiannaeth dros y flwyddyn nesaf a beth fydd y diffyg ariannol i gyllideb y cyngor mewn perthynas â cholli treth y cyngor ac ardrethi busnes ar gyfer tai amlfeddiannaeth a'r gwasanaethau a ddefnyddir gan fyfyrwyr?

 

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 343 KB