Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Scrutiny 637732 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Dim

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Dim

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 480 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Codwyd dwy eitem:

1.    Ymholiad am ffïoedd angori ar gyfer Marina Abertawe.

2.    Costau trydan a goleuadau stryd.

Derbyniwyd y cofnodion a'r llythyrau.

 

4.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

·         Rhaid i gwestiynau ymwneud â materion yn rhan agored agenda'r cyfarfod ac ymdrinnir â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

 

5.

Monitro cyllideb Ch2 2019/20 pdf eicon PDF 507 KB

  • Ben Smith - Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol a'r Ganolfan Gwasanaethau

 

  • Y Cynghorydd Rob Stewart - Aelod y Cabinet dros yr Economi a Strategaeth (Arweinydd)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Prif Swyddog Cyllid yn bresennol yng nghyfarfod y panel i drafod adroddiad Perfformiad Monitro Cyllideb Chwarter 1. Nodwyd y canlynol:

 

·         Wrth i Raglen Gyflawni Abertawe Gynaliadwy barhau i ddatblygu cynlluniau cyflwyno'r gwasanaethau sy'n cynnwys gofynion arbedion, mae'r gorwariant bosib yn parhau i fod yn risg sylweddol ac mae angen mynd i'r afael â hwn ar draws y cyngor cyfan.

·         Rhagwelir gorwariant ar gyfer y flwyddyn hon felly bydd Cyfarwyddwyr yn ailddyblu eu hymdrechion i leihau hwn. Ceir gorwariant yn y maes Addysg a'r Gwasanaethau Cymdeithasol. Disgwylir i ddata perfformiad Chwarter 3 ddangos ein bod ni'n mynd i'r afael â lleihau gorwariant ar draws y cyngor

·         Cyflawnwyd 80% o'r arbedion, felly mae angen dod o hyd i 20% sy'n cyfateb i oddeutu 4m. Os nad yw'r arbedion presennol yn cyflawni'r 20% hyn bydd angen dod o hyd i liniariadau eraill. Mae llawer o'r meysydd gorwariant yn dilyn sefyllfa alldro ar gyfer 2018/19 ac mae angen eu hystyried yn yr arbedion wrth symud ymlaen.

·         Mae'r Tîm Rheoli Corfforaethol wedi atgyfnerthu'r trefniadau presennol ar gyfer monitro'r gyllideb.

·         Clywodd y panel fod cyfleoedd gwrthbwyso'n bodoli er mwyn gwella'r galw ar y gwasanaeth a'r pwysau ariannol a nodwyd ar hyn o bryd.

·         Bydd y Prif Swyddog Cyllid yn ceisio cydbwyso'r gyllideb yn gyffredinol, felly yn dechnegol bydd cyllideb sy'n gyfreithlon gytbwys erbyn diwedd y flwyddyn.

·         Darpariaeth y Gronfa Wrth Gefn ar gyfer 2019/20 yw 7.072 a rhoddwyd y posibilrwydd o'i defnyddio.

·         Gofynnodd y panel am hyder a gallu'r Gwasanaethau Cymdeithasol i fodloni'r gorwariant sy'n ymwneud â lefelau ffioedd. Hefyd yr hyder a'r gallu i leihau gorwariant ym maes addysg. Byddwn yn cysylltu â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Cyfarwyddwr Addysg er mwyn iddynt egluro'r cwestiynau hyn.

·         Gofynnodd y panel a oedd y cyngor yn cyrraedd pwynt lle nad yw'n gallu cymryd arian o'r Gronfa wrth Gefn Yswiriant. Ydyn ni'n cyrraedd y pwynt cyfyngedig ar gyfer cymryd arian o'r gronfa wrth gefn? Dywedodd y Prif Swyddog Cyllid fod gennym ddigon o arian ar gyfer 90% (o'r holl sefyllfaoedd tebygol) a dyma lefel sy'n cael ei hystyried yn ddoeth.

·         Codwyd y mater o TAW a nodwyd nad oes sicrwydd o gael arian annisgwyl o ad-daliadau TAW eleni.

·         Trafodwyd y Gyllideb Gyfalaf a'r benthyciad gwerth £90 miliwn ar gyfer rhoi'r materion a nodwyd yn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig ar waith gan gyfeirio'n benodol at y Fargen Ddinesig a thrafodwyd y rhaglen Ysgolion Band B.

Dywedodd y Prif Swyddog Cyllid y dylem ddisgwyl defnyddio llawer o'r £90 miliwn dros y misoedd nesaf er mwyn dechrau ar gynnydd gyda'r prosiectau hyn, fel y cytunodd y Cabinet yn ddiweddar.

6.

Datganiad Cyllideb Canol Tymor 2019/20 pdf eicon PDF 581 KB

  • Ben Smith - Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol a'r Ganolfan Gwasanaethau

 

  • Y Cynghorydd Rob Stewart - Aelod y Cabinet dros yr Economi a Strategaeth (Arweinydd)

 

Cofnodion:

·         Roedd yr adroddiad yn manylu ar fuddsoddiadau a llifoedd arian yr awdurdod lleol, ei fancio, ei drafodion yn y farchnad arian a'r farchnad gyfalaf; rheoli'r risgiau sy'n gysylltiedig â'r gweithgareddau hyn yn effeithiol; a mynd ar drywydd y perfformiad gorau posibl sy'n gyson â'r risgiau hynny.

·         Rhoddodd yr adroddiad:

o   Ddiweddariad Economaidd -  yn y DU ac ar draws y byd

o   Adolygiad o Ddatganiad Strategaeth Rheoli'r Trysorlys a'r Strategaeth Buddsoddi

o   Adolygiad o Bortffolio Buddsoddi 2019/20

o   Adolygiad o'r Strategaeth Benthyca

o   Adolygiad o'r Strategaeth Dyled

o   Adolygiad o gydymffurfio â Therfynau'r Trysorlys a Therfynau Darbodus

·         Roedd y cyngor wedi benthyca £90 miliwn cyn i Lywodraeth y DU gynyddu'r gost ad-dalu 50% heb unrhyw rybudd. Bydd y benthyciad hwn yn helpu i ariannu Abertawe Ganolog - Cam 1. Mae amseru'r penderfyniad hwn wedi arbed swm mawr o gostau ad-dalu i'r cyngor.

·         Bydd angen benthyca £90 miliwn arall er mwyn ariannu'r Rhaglen Ysgolion Band B y mae'r cyngor wedi'i hymrwymo iddi.

·         Trafodwyd gwariant cyfalaf masnachol hefyd a sut y mae rhai awdurdodau lleol yn prynu eiddo er mwyn ennill refeniw masnachol. Dywedodd y Prif Swyddog Cyllid y dylai Abertawe fenthyca'n gymesur ar gyfer pethau fel hyn a dylai fod ganddynt fwy nag un cymhelliad heblaw am gynyddu refeniw masnachol yn unig, megis bod yn rhan o'n datblygiad economaidd a'n strategaeth llunio lleoedd.

7.

Adroddiad ac Ymateb Swyddfa Archwilio Cymru - Effeithiolrwydd awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru pdf eicon PDF 200 KB

  • Ryan Thomas - Rheolwr Datblygu, Cadwraeth a Dylunio
  • Y Cynghorydd David Hopkins – Aelod y Cabinet dros Gyflwyno

 

Cofnodion:

  Cynhaliodd Swyddfa Archwilio Cymru adolygiad o effeithiolrwydd yr Awdurdodau Cynlluniau Lleol yng Nghymru yn 2018/19. Roedd Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas a'r Arweinydd Tîm Ardal ar gyfer Rheoli Datblygiad yn bresennol yn y cyfarfod i drafod yr adroddiad.

 

Daeth adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru i bedwar prif gasgliad, cyflwynwyd cynllun gweithredu llawn i'r panel a nodwyd y pwyntiau a drafodwyd fel a ganlyn:

1.    Mae'r Awdurdodau Cynlluniau'n ei chael hi'n heriol i gydbwyso galwadau cystadleuol oherwydd cymhlethdodau'r system gynllunio

Mae'r cyngor yn derbyn hyn.

2.    Mae diffyg staff ac mae lleihau staff yn dinistrio cadernid yr awdurdodau cynllunio yn raddol

Mae'r Adran Gynllunio wedi gorfod torri'r siwt yn ôl y brethyn, fel ymhob un o adrannau eraill y cyngor.

3.    Mae amseroldeb ac ansawdd gwneud penderfyniadau'n amrywio'n helaeth ac mae'r perfformiad ar reoli ceisiadau'n wan

Nid yw'r cyngor yn cytuno â hyn oherwydd bod perfformiad wedi gwella yn Abertawe ac mae'n gwneud yn dda yn erbyn dangosyddion Llywodraeth Cymru (nodwyd nad oedd Swyddfa Archwilio Cymru yn defnyddio dangosyddion Llywodraeth Cymru i asesu hyn)

4.    Mae angen gwneud rhagor o waith i gyflawni agweddau lles Deddf Cynllunio (Cymru) a Pholisi Cynllunio Cymru

Mae Abertawe ar flaen y gad mewn perthynas â hyn oherwydd ein bod ni wedi mabwysiadu'r Cynllun Datblygu Lleol yn ddiweddar felly caiff yr agweddau hyn eu cynnwys ynddo.

·         Clywodd y panel fod adroddiadau archwilio yn ymarferion defnyddiol a gallant gynorthwyo'r gwasanaethau trwy ganolbwyntio'n fanwl ar agweddau penodol. Er nad oedd yr adroddiad hwn yn gwneud hynny, roedd yn seiliedig ar nifer bach o ymgynghoriadau manwl â rhai awdurdodau a thrwy holiaduron â'r mwyafrif o awdurdodau, gan gynnwys Abertawe. Gyda'r rhan fwyaf o adroddiadau archwilio, roedd yr archwilwyr yn dychwelyd i'r awdurdodau i drafod y canlyniadau cyn iddo gael ei gyhoeddi. Nid oedd hyn wedi digwydd gyda'r archwiliad penodol hwn.

·         Cytunodd y panel nad oedd adroddiad yr archwiliad yn adlewyrchu cynllunio yn Abertawe ac nad yw'n dangos digon o wybodaeth dechnegol i wneud yr asesiad yn ddefnyddiol. Hoffai'r panel weld ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad maes o law. Bydd y swyddogion yn darparu hwn pan fydd ar gael.

8.

Adroddiad Perfformiad Blynyddol Cynllunio ar gyfer 2018/19 pdf eicon PDF 306 KB

  • Ryan Thomas - Rheolwr Datblygu, Cadwraeth a Dylunio
  • Y Cynghorydd David Hopkins – Aelod y Cabinet dros Gyflwyno

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas a'r Arweinydd Tîm Ardal ar gyfer Rheoli Datblygiad yn bresennol yn y cyfarfod i drafod Adroddiad Perfformiad Blynyddol Cynllunio 2018/19. Nodwyd y canlynol:

 

·         Mae Adroddiad Perfformiad Blynyddol Cynllunio yn fecanwaith a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru i fonitro perfformiad yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn erbyn cyfres allweddol o ddangosyddion perfformiad cenedlaethol fel modd o ysgogi ei agenda ar gyfer moderneiddio'r system gynllunio yng Nghymru.

·         Diolchodd Aelod y Cabinet i Gynghorwyr y Pwyllgor Cynllunio am eu gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf.

·         Cytunodd y panel y bydd y Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth yn gymorth wrth arwain sut y mae cynllunio yn symud ymlaen yn y maes hwn a bydd yn cefnogi penderfyniadau'r Pwyllgor Cynllunio.

·         Clywyd bod Cynllunio'n gweithio'n agos gyda phartneriaid ac yn ymgynghori'n llawn. Mae'r broses gynllunio bellach yn fwy syml ac yn cyflymu'r broses.

·         Mae galw i mewn ar gyfer cynllunio'n anodd iawn. Bydd y Cyng. Holley ac Aelod y Cabinet y Cyng. Thomas yn trafod hwn ymhellach.

·         Gwneir llawer o waith ym meysydd lles ac amrywiaeth.

·         Mynegodd y panel bryderon ynghylch Llywodraeth Cymru'n diystyru penderfyniadau lleol mewn apeliadau... ac felly'n diystyru barn leol.

·         Trafodwyd gallu'r Tîm Cadwraeth Natur i orfodi ynghylch materion a rheoliadau ecolegol. Bydd y panel yn gofyn y canlynol i Aelod y Cabinet yn llythyr y Cynullydd, 'Beth sy'n cael ei wneud i sicrhau bod gallu i reoli cyfyngiadau ecolegol a sicrhau eu bod yn cael eu dilyn'.

 

 

9.

Cynllun Gwaith 2019/20 pdf eicon PDF 266 KB

Cofnodion:

Clywodd y panel y trefnwyd dyddiad posib ar gyfer cyfarfod sef 26 Chwefror ar gyfer y gyllideb i gwblhau craffu cyn penderfynu ar Gynigion Cyllidebol Abertawe Gynaliadwy - Yn Addas i'r Dyfodol.

Llythyr at Aelod y Cabinet - Economi a Strategaeth pdf eicon PDF 314 KB

Llythyr at Aelod y Cabinet - Cyflwyno a Pherfformiad pdf eicon PDF 313 KB

Ymateb Aelod y Cabinet - Economi a Strategaeth pdf eicon PDF 490 KB

Ymateb Aelod y Cabinet - Cyflwyno a Pherfformiad pdf eicon PDF 315 KB