Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Scrutiny 637732
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Dim |
|
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Dim |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Codwyd dwy eitem:
1.
Ymholiad
am ffïoedd angori ar gyfer Marina Abertawe. 2.
Costau
trydan a goleuadau stryd. Derbyniwyd y
cofnodion a'r llythyrau. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd · Rhaid i gwestiynau ymwneud â materion yn rhan agored agenda'r cyfarfod ac ymdrinnir â hwy o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Monitro cyllideb Ch2 2019/20 PDF 507 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd y Prif
Swyddog Cyllid yn bresennol yng nghyfarfod y panel i drafod adroddiad
Perfformiad Monitro Cyllideb Chwarter 1. Nodwyd y canlynol: ·
Wrth
i Raglen Gyflawni Abertawe Gynaliadwy barhau i ddatblygu cynlluniau cyflwyno'r
gwasanaethau sy'n cynnwys gofynion arbedion, mae'r gorwariant bosib yn parhau i
fod yn risg sylweddol ac mae angen mynd i'r afael â hwn ar draws y cyngor
cyfan. ·
Rhagwelir
gorwariant ar gyfer y flwyddyn hon felly bydd Cyfarwyddwyr yn ailddyblu eu
hymdrechion i leihau hwn. Ceir gorwariant yn y maes Addysg a'r Gwasanaethau
Cymdeithasol. Disgwylir i ddata perfformiad Chwarter 3 ddangos ein bod ni'n
mynd i'r afael â lleihau gorwariant ar draws y cyngor ·
Cyflawnwyd
80% o'r arbedion, felly mae angen dod o hyd i 20% sy'n cyfateb i oddeutu 4m. Os
nad yw'r arbedion presennol yn cyflawni'r 20% hyn bydd angen dod o hyd i liniariadau
eraill. Mae llawer o'r meysydd gorwariant yn dilyn sefyllfa alldro ar gyfer
2018/19 ac mae angen eu hystyried yn yr arbedion wrth symud ymlaen. ·
Mae'r
Tîm Rheoli Corfforaethol wedi atgyfnerthu'r trefniadau presennol ar gyfer
monitro'r gyllideb. ·
Clywodd
y panel fod cyfleoedd gwrthbwyso'n bodoli er mwyn gwella'r galw ar y gwasanaeth
a'r pwysau ariannol a nodwyd ar hyn o bryd. ·
Bydd
y Prif Swyddog Cyllid yn ceisio cydbwyso'r gyllideb yn gyffredinol, felly yn
dechnegol bydd cyllideb sy'n gyfreithlon gytbwys erbyn diwedd y flwyddyn. ·
Darpariaeth
y Gronfa Wrth Gefn ar gyfer 2019/20 yw 7.072 a rhoddwyd y posibilrwydd o'i
defnyddio. ·
Gofynnodd
y panel am hyder a gallu'r Gwasanaethau Cymdeithasol i fodloni'r gorwariant
sy'n ymwneud â lefelau ffioedd. Hefyd yr hyder a'r gallu i leihau gorwariant ym
maes addysg. Byddwn yn cysylltu â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol
a'r Cyfarwyddwr Addysg er mwyn iddynt egluro'r cwestiynau hyn. ·
Gofynnodd
y panel a oedd y cyngor yn cyrraedd pwynt lle nad yw'n gallu cymryd arian o'r
Gronfa wrth Gefn Yswiriant. Ydyn ni'n cyrraedd y pwynt cyfyngedig ar gyfer
cymryd arian o'r gronfa wrth gefn? Dywedodd y Prif Swyddog Cyllid fod gennym
ddigon o arian ar gyfer 90% (o'r holl sefyllfaoedd tebygol) a dyma lefel sy'n
cael ei hystyried yn ddoeth. ·
Codwyd
y mater o TAW a nodwyd nad oes sicrwydd o gael arian annisgwyl o ad-daliadau
TAW eleni. ·
Trafodwyd
y Gyllideb Gyfalaf a'r benthyciad gwerth £90 miliwn ar gyfer rhoi'r materion a
nodwyd yn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig ar waith gan gyfeirio'n benodol at y
Fargen Ddinesig a thrafodwyd y rhaglen Ysgolion Band B. Dywedodd y Prif Swyddog Cyllid y dylem ddisgwyl defnyddio llawer o'r £90 miliwn dros y misoedd nesaf er mwyn dechrau ar gynnydd gyda'r prosiectau hyn, fel y cytunodd y Cabinet yn ddiweddar. |
|
Datganiad Cyllideb Canol Tymor 2019/20 PDF 581 KB
Cofnodion: ·
Roedd
yr adroddiad yn manylu ar fuddsoddiadau a llifoedd arian yr awdurdod lleol, ei
fancio, ei drafodion yn y farchnad arian a'r farchnad gyfalaf; rheoli'r risgiau
sy'n gysylltiedig â'r gweithgareddau hyn yn effeithiol; a mynd ar drywydd y
perfformiad gorau posibl sy'n gyson â'r risgiau hynny. ·
Rhoddodd
yr adroddiad: o
Ddiweddariad
Economaidd - yn y DU ac ar draws y byd o
Adolygiad
o Ddatganiad Strategaeth Rheoli'r Trysorlys a'r Strategaeth Buddsoddi o
Adolygiad
o Bortffolio Buddsoddi 2019/20 o
Adolygiad
o'r Strategaeth Benthyca o
Adolygiad
o'r Strategaeth Dyled o
Adolygiad
o gydymffurfio â Therfynau'r Trysorlys a Therfynau Darbodus ·
Roedd
y cyngor wedi benthyca £90 miliwn cyn i Lywodraeth y DU gynyddu'r gost ad-dalu
50% heb unrhyw rybudd. Bydd y benthyciad hwn yn helpu i ariannu Abertawe
Ganolog - Cam 1. Mae amseru'r penderfyniad hwn wedi arbed swm mawr o gostau
ad-dalu i'r cyngor. ·
Bydd
angen benthyca £90 miliwn arall er mwyn ariannu'r Rhaglen Ysgolion Band B y
mae'r cyngor wedi'i hymrwymo iddi. · Trafodwyd gwariant cyfalaf masnachol hefyd a sut y mae rhai awdurdodau lleol yn prynu eiddo er mwyn ennill refeniw masnachol. Dywedodd y Prif Swyddog Cyllid y dylai Abertawe fenthyca'n gymesur ar gyfer pethau fel hyn a dylai fod ganddynt fwy nag un cymhelliad heblaw am gynyddu refeniw masnachol yn unig, megis bod yn rhan o'n datblygiad economaidd a'n strategaeth llunio lleoedd. |
|
Cofnodion: Cynhaliodd Swyddfa Archwilio Cymru adolygiad o
effeithiolrwydd yr Awdurdodau Cynlluniau Lleol yng Nghymru yn 2018/19. Roedd
Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas a'r Arweinydd Tîm Ardal ar gyfer Rheoli
Datblygiad yn bresennol yn y cyfarfod i drafod yr adroddiad. Daeth adroddiad
Swyddfa Archwilio Cymru i bedwar prif gasgliad, cyflwynwyd cynllun gweithredu
llawn i'r panel a nodwyd y pwyntiau a drafodwyd fel a ganlyn: 1.
Mae'r
Awdurdodau Cynlluniau'n ei chael hi'n heriol i gydbwyso galwadau cystadleuol
oherwydd cymhlethdodau'r system gynllunio Mae'r cyngor yn derbyn hyn. 2.
Mae
diffyg staff ac mae lleihau staff yn dinistrio cadernid yr awdurdodau cynllunio
yn raddol Mae'r Adran Gynllunio wedi gorfod torri'r siwt yn
ôl y brethyn, fel ymhob un o adrannau eraill y cyngor. 3.
Mae amseroldeb
ac ansawdd gwneud penderfyniadau'n amrywio'n helaeth ac mae'r perfformiad ar
reoli ceisiadau'n wan Nid yw'r cyngor yn cytuno â hyn oherwydd bod
perfformiad wedi gwella yn Abertawe ac mae'n gwneud yn dda yn erbyn
dangosyddion Llywodraeth Cymru (nodwyd nad oedd Swyddfa Archwilio Cymru yn
defnyddio dangosyddion Llywodraeth Cymru i asesu hyn) 4.
Mae
angen gwneud rhagor o waith i gyflawni agweddau lles Deddf Cynllunio (Cymru) a
Pholisi Cynllunio Cymru Mae Abertawe ar flaen y gad mewn perthynas â hyn oherwydd ein bod ni wedi
mabwysiadu'r Cynllun Datblygu Lleol yn ddiweddar felly caiff yr agweddau hyn eu
cynnwys ynddo. ·
Clywodd
y panel fod adroddiadau archwilio yn ymarferion defnyddiol a gallant gynorthwyo'r gwasanaethau trwy ganolbwyntio'n fanwl
ar agweddau penodol. Er nad oedd yr adroddiad hwn yn gwneud hynny, roedd yn
seiliedig ar nifer bach o ymgynghoriadau manwl â rhai awdurdodau a thrwy
holiaduron â'r mwyafrif o awdurdodau, gan gynnwys Abertawe. Gyda'r rhan fwyaf o
adroddiadau archwilio, roedd yr archwilwyr yn dychwelyd i'r awdurdodau i drafod
y canlyniadau cyn iddo gael ei gyhoeddi. Nid oedd hyn wedi digwydd gyda'r
archwiliad penodol hwn. · Cytunodd y panel nad oedd adroddiad yr archwiliad yn adlewyrchu cynllunio yn Abertawe ac nad yw'n dangos digon o wybodaeth dechnegol i wneud yr asesiad yn ddefnyddiol. Hoffai'r panel weld ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad maes o law. Bydd y swyddogion yn darparu hwn pan fydd ar gael. |
|
Adroddiad Perfformiad Blynyddol Cynllunio ar gyfer 2018/19 PDF 306 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd Pennaeth
Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas a'r Arweinydd Tîm Ardal ar gyfer Rheoli
Datblygiad yn bresennol yn y cyfarfod i drafod Adroddiad Perfformiad Blynyddol
Cynllunio 2018/19. Nodwyd y canlynol: ·
Mae
Adroddiad Perfformiad Blynyddol Cynllunio yn fecanwaith a ddefnyddir gan
Lywodraeth Cymru i fonitro perfformiad yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn erbyn
cyfres allweddol o ddangosyddion perfformiad cenedlaethol fel modd o ysgogi ei
agenda ar gyfer moderneiddio'r system gynllunio yng Nghymru. ·
Diolchodd
Aelod y Cabinet i Gynghorwyr y Pwyllgor Cynllunio am eu gwaith dros y flwyddyn
ddiwethaf. ·
Cytunodd
y panel y bydd y Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth yn
gymorth wrth arwain sut y mae cynllunio yn symud ymlaen yn y maes hwn a bydd yn
cefnogi penderfyniadau'r Pwyllgor Cynllunio. ·
Clywyd
bod Cynllunio'n gweithio'n agos gyda phartneriaid ac yn ymgynghori'n llawn.
Mae'r broses gynllunio bellach yn fwy syml ac yn cyflymu'r broses. ·
Mae
galw i mewn ar gyfer cynllunio'n anodd iawn. Bydd y Cyng. Holley ac Aelod y
Cabinet y Cyng. Thomas yn trafod hwn ymhellach. ·
Gwneir
llawer o waith ym meysydd lles ac amrywiaeth. ·
Mynegodd
y panel bryderon ynghylch Llywodraeth Cymru'n diystyru penderfyniadau lleol
mewn apeliadau... ac felly'n diystyru barn leol. ·
Trafodwyd
gallu'r Tîm Cadwraeth Natur i orfodi ynghylch materion a rheoliadau ecolegol.
Bydd y panel yn gofyn y canlynol i Aelod y Cabinet yn llythyr y Cynullydd,
'Beth sy'n cael ei wneud i sicrhau bod gallu i reoli cyfyngiadau ecolegol a
sicrhau eu bod yn cael eu dilyn'.
|
|
Cynllun Gwaith 2019/20 PDF 266 KB Cofnodion: Clywodd y panel y
trefnwyd dyddiad posib ar gyfer cyfarfod sef 26 Chwefror ar gyfer y gyllideb i
gwblhau craffu cyn penderfynu ar Gynigion Cyllidebol Abertawe Gynaliadwy - Yn
Addas i'r Dyfodol. |
|
Llythyr at Aelod y Cabinet - Economi a Strategaeth PDF 314 KB |
|
Llythyr at Aelod y Cabinet - Cyflwyno a Pherfformiad PDF 313 KB |
|