Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Scrutiny 637732 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

·         Dim

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

·         Dim

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 325 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·         Cymeradwywyd

 

4.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

·         Rhaid i gwestiynau ymwneud â materion yn rhan agored agenda'r cyfarfod ac ymdrinnir â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

·         Dim

5.

Archifau pdf eicon PDF 299 KB

Cyfle i’r Panel drafod y Gwasanaeth Archifau

 

  • Tracey McNulty – Pennaeth y Gwasanaethau Diwylliannol

 

  • Kim Collis - Archifydd y Sir, Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg

 

  • Y Cyng. Robert Francis-Davies – Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth

 

Cofnodion:

·         Y Gwasanaeth Archifau yw un o'r unig wasanaethau sy'n dal i fod yn dilyn ymwahaniad Gorllewin Morgannwg

·         Mae'r gwasanaeth wedi'i leoli yng Nghanolfan Dinesig Abertawe ond mae cangen yng Nghastell-nedd

·         Mae cyd-bwyllgor archifau sy'n ymgynghorol ac mae'r ffocws ar y gwasanaeth ei hun sy'n fuddiol iawn

·         Mae'r gwasanaeth yn rhan o Wasanaethau Diwylliannol y cyngor

·         Cwrdd â gweithwyr Castell-nedd Port Talbot bob chwarter

·         Mae'r perthynas rhwng Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn gweithio'n dda iawn

·         Y gwasanaethau cyfreithiol sy'n rheoli'r cofnodion

·         Mae gan Lywodraeth Cymru ofynion mewn perthynas â safonau achrediad ar gyfer archifau

·         Mae'r archifau'n cynnal cofnodion Llys yr Ynadon ar ran Llywodraeth Ganolog

·         Cofnodion sefydliadau ac unigolion yw archifau - gallant fod yn bwysig o ran gweinyddiaeth neu ddiwylliant

·         Gwasanaeth hybrid yw'r archifau sy'n cyfuno pwysigrwydd cyfreithiol a diwylliannol

·         Defnyddir yn rheolaidd gan y cyhoedd at ddibenion anghydfodau mewn perthynas â ffiniau

·         Cofnodion o ffeithiau yw'r archifau, sy'n ddefnyddiol iawn mewn byd lle mae canfyddiadau o realiti'n gwrthdaro

·         Mae hanner cofnodion yr archifau wedi'u rhoi

·         Mae gwerth 2.5 filltir o silffoedd ar lawr isaf y Ganolfan Ddinesig

·         Mae rhai eitemau o werth ac mae un casgliad sydd wedi'i gydnabod gan UNESCO

·         Mae 95% yn llawn ond nid yw mewn sefyllfa i dderbyn casgliad mawr

·         Mae perthynas gwaith ymarferol ar waith â'r brifysgol

·         Nid oes modd digido'r cofnodion a chael gwared ar y dogfennau gwreiddiol - maent yn rhan o dreftadaeth pobl

·         Yr awdurdod lleol sy'n gyfrifol am y casgliad ar ran y gymdeithas gyfan

·         Mae'r amgylchedd storio'n hanfodol - mae'n rhaid i'r tymheredd a'r lleithder gael eu rheoli, gan ddiogelu yn erbyn llifogydd a thân. Mae pob un o'r rhain yn beryglon mawr

·         Mae gan y brifysgol yr un gofynion storio a safonau â ni

·         Dyma bymthegfed archif pwysicaf y DU - ar draws y DU mae'r ffigurau presenoldeb yn lleihau ac felly rydym wedi cynnal ein safle yn y DU am fod ein un ni hefyd wedi lleihau ar yr un raddfa. 

·         Mae pobl yn cael mynediad at wasanaethau ar-lein am fod yr wybodaeth sydd ar gael ar-lein yn cynyddu

·         Mae'r gwasanaeth yn canolbwyntio ar gwsmeriaid ac mae'r ymatebion yn rhai o fodlonrwydd uchel

·         Mae'r tîm hefyd yn cynnal sesiynau allgymorth mewn ysgolion, yn cynnig gwybodaeth ar gyfer cyfryngau cymdeithasol, digwyddiadau arbennig ac arddangosfeydd symudol

·         Mae'r rhain yn hynod lwyddiannus ac ysbrydoledig

·         Mae'r tîm hefyd yn cyhoeddi cyhoeddiadau, y mae'r un diweddaraf yn canolbwyntio ar ail-adeiladu Abertawe'n dilyn y rhyfel

·         Wedi anfon data at CIPFA ond nid yw'r cyngor bellach yn aelod o CIPFA oherwydd cyfyngiadau cyllideb

·         Os yw'n derbyn eitemau bach yn unig, dim ond 5 mlynedd o le sydd ar ôl yn llawr isaf y Ganolfan Ddinesig

·         Mae'r Ganolfan Ddinesig yn cael ei adolygu ar hyn o bryd ac mae'r Gwasanaethau Eiddo Corfforaethol yn ogystal â'r Gwasanaethau Diwylliannol yn edrych ar opsiynau'r archifau ar gyfer y dyfodol

·         Maent yn ystyried adleoli er mwyn creu gwasanaeth mwy cynaliadwy ond mae'n rhaid cael storfa go iawn - mae hyn yn hanfodol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol ac yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015

·         Mae angen cael amserlen go iawn a chynllunio er mwyn creu gwasanaeth archifau mwy cynaliadwy a chyhoeddus

·         Nid oes angen i'r gwasanaeth fod yng nghanol y ddinas o reidrwydd - ond mae'n rhaid iddo gael yr amodau storio cywir

·         Mae'n bosib mai adeilad wedi'i adeiladu'n bwrpasol yw'r unig opsiwn oherwydd y fanyleb adeiladu y mae ei hangen

·         Ar hyn o bryd nid oes prosiect penodol neu amserlen ddynodedig er mwyn mynd i'r afael â'r broblem archifo - oherwydd cyfyngiadau cyllideb

·         Mae angen cael cynllun go iawn os bydd y cyngor yn symud o'r Ganolfan Ddinesig

·         Mae awgrymiadau o ran rhoi prosiect ar waith er mwyn dechrau archwilio a gwneud cais am gyllideb allanol nawr

·         Mae angen i'r gwasanaeth archif a chefnogi fod yn yr un adeilad â'r dogfennau eu hunain

·         Dim cwmpas i reoli'r adnodd hanes teulu ar-lein yn llwyr oherwydd y gost a'r seilwaith sydd eu hangen i lwytho'r holl wybodaeth ar-lein i ddechrau

 

6.

Ffïoedd pdf eicon PDF 530 KB

Diweddariad ar ffioedd y cyngor

 

  • Chris Williams – Pennaeth y Gwasanaethau Masnachol

 

·         Y Cyng. Clive Lloyd – Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

  • Cadw'r cynnydd mewn ffioedd mor isel â phosib
  • Bob amser yn chwilio am ffyrdd posib o greu mwy o incwm
  • Mae gan y gwasanaethau cymdeithasol bolisi ar wahân a deddfwriaeth ar wahân sy'n rheoli eu ffïoedd
  • Mae pob adran yn gyfrifol am ei ffïoedd a'i thaliadau ei hun
  • Mae llawer o ddeddfwriaeth y mae angen ei hystyried pan fydd cyngor yn nodi ei ffïoedd
  • Trafodwyd ffïoedd cychod a bydd ymateb y llynedd y Panel yn cael ei anfon
  • Trafodwyd ffioedd angori'r marina - pwy sy'n meincnodi'r gost hon Ydy'r ffioedd hyn wedi newid y strwythur talu am nad oes unrhyw wybodaeth ar gael ar gyfer 15/16, 16/17 a 17/18. - Gofyn am wybodaeth mewn llythyr
  • Mae Abertawe'n dal i gynnig casgliad gwastraff gardd am ddim lle nad yw cynghorau eraill yn
  • Nid yw treth y cyngor yn ddigon i dalu am bopeth
  • Codi tâl yn fewnol – hyrwyddo dechrau deialog rhwng adrannau i ddatrys unrhyw faterion os ydynt yn codi
  • Symud tuag at wasanaethau talu'n ddigidol er mwyn lleihau costau trafod

 

7.

Gwahardd y Cyhoedd. pdf eicon PDF 235 KB

8.

Ffïoedd

Diweddariad ar ffioedd y cyngor

 

  • Chris Williams – Pennaeth y Gwasanaethau Masnachol

 

·         Y Cyng. Clive Lloyd – Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad

Cofnodion:

·       Trafodwyd yr eitemau eithriedig

 

9.

Cynllun Gwaith 2019/20 pdf eicon PDF 273 KB

Cofnodion:

·       Adroddiadau cwmpasu'r Adolygiad Comisiynu Posib i'w cyflwyno i'r panel

·       Mae'n bosib y bydd diweddariad arall ar gyfer Adolygiad Comisiynu wedi'i gwblhau mewn cyfarfod yn y dyfodol

 

Llythyr at Aelod y Cabinet - Trawsnewid Busnes a Pherfformiad pdf eicon PDF 332 KB

Llythyr at Aelod y Cabinet - Buddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth pdf eicon PDF 320 KB

Dogfennau ychwanegol:

Ymateb Aelod y Cabinet - Trawsnewid Busnes a Pherfformiad pdf eicon PDF 480 KB

Ymateb Aelod y Cabinet - Buddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth pdf eicon PDF 312 KB