Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Scrutiny 637732 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

·         Dim

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

·         Dim

3.

Cofnodion. pdf eicon PDF 111 KB

Cymeradwyo a llofnodifel cofnod cywirgofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·         Cymeradwywyd

 

4.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Cofnodion:

·         Dim

5.

Monitro Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2018/19 pdf eicon PDF 208 KB

·         Richard Rowlands – Rheolwr Perfformiad Corfforaethol

·         Clive Lloyd – Aelod y Cabinet - Trawsnewid Busnes a Pherfformiad (y Dirprwy Arweinydd)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Diogelu

  • Roedd gan y panel gwestiynau am rai o'r mesurau o fewn 'Diogelu' a byddant  yn cyfeirio'r rhain i'r paneli perthnasol i'w harchwilio (AS8, Mesur 18, AS13)
  • Dywedodd y panel fod yr amser y mae'n ei gymryd i wybodaeth gyrraedd y panel yn annerbyniol ond mae'n gysylltiedig â chylch adrodd y cyngor.
  • Mae'n dda bod y perfformiad presennol yn cael ei gynnal o ystyried y toriadau cyllidebol
  • CFS18 - cynnydd o 6% mewn Plant sy'n Derbyn Gofal o gymharu ag 17/18 ond mae'r tuedd yn lleihau
  • Diogel 8b - Hapus bod aelodau etholedig wedi bod yn ymgymryd â hyfforddiant diogelu

 

Addysg a Sgiliau

 

  • Cyflawnwyd y rhan fwyaf o dargedau neu roeddent o fewn 5% o gael eu cyflawni
  • EDCP18D – cynnydd o 12% yn nifer y bobl ifanc NEET o'i gymharu ag 17/18 Dangosodd carfan blwyddyn 11 fod gan 3.9% o'r garfan broffil asesu bod yn agored i niwed uchel iawn - mae angen mynegi'r ganran ar draws blwyddyn 11 i gyd, nid y bobl ifanc NEET yn unig
  • EDCP18D – Cyfeirir at bobl ifanc NEET hysbys. Ymholiad gan y panel am bobl ifanc NEET anhysbys
  • BBMA4 – Cwestiynau ynghylch pam mae'r targed ar gyfer prentisiaethau a hyfforddwyr yn un mor uchel gyda chyllideb sydd dan bwysau
  • EDCP27/39 – Y ddau wedi methu'r targed
  • EDU016a/b – Y ddau wedi methu'r targedau o drwch blewyn o ganlyniad i salwch
  • EDCP40/41 – Cafodd absenoldeb effaith ar brydau ysgol am ddim

 

Economi ac Isadeiledd

  • Roedd 86% o ddangosyddion perfformiad (DP) wedi cyrraedd eu targed gyda 57% yn gwella
  • EEF002 – Cyrhaeddwyd y targed ond mae'n 53% yn is na 17/18
  • ESD1 – Yr isaf ers cofnodion ond mae oedi gyda'r cynlluniau mawr
  • WMT009B – Cyrhaeddwyd y targed ond mae'n is o ganlyniad i newidiadau i gasgliadau pren a haf sych gan olygu llai o wastraff gardd

 

Trechu Tlodi

  • Cyrhaeddwyd 62% o dargedau ond dangosodd 67% ddirywiad mewn perfformiad
  • Cyflawnodd y rhan fwyaf eu dangosyddion perfformiad
  • HBCT01a/1b/2a/2b - y rhan fwyaf yn gostwng o ganlyniad i lai o staff a chyflwyno Credyd Cynhwysol. Mae lleihau niferoedd staff wedi achosi problem yn uniongyrchol, colli profiad ac adnoddau
  • POV10/11 - Nid yw'r dangosyddion perfformiad newydd yn gweithio i'w potensial llawn ond dylent wella

 

Trawsnewid a Chyngor y Dyfodol

  • CHR002 - Heb ddod i wraidd y broblem. Problemau parhaus gyda salwch staff, lleihau'r gyllideb, llai o staff yn golygu pwysau cynyddol ar y timoedd sydd ar ôl
  • FINA6 - Brwydr barhaus i gydbwyso'r gyllideb
  • Byddwn yn gwahodd y Dirprwy Brif Weithredwr i drafod rhai materion

 

Dangosyddion Cenedlaethol

  • Cyflawnodd 61% eu targedau ac roedd 52% wedi gwella o'i gymharu ag 17/18
  • PAM20/21/22 - Pob un wedi methu eu targedau o ganlyniad i bwysau cyllidebol
  • PAM029 - Methwyd o ganlyniad i anghenion cymhleth plant
  • Yr adrannau osododd eu targedau eu hunain ond mae'r Uned Cyflwyno Strategol yn adolygu ac yn herio'r rhain cyn adolygu a herio/cymeradwyo gan y TRhC
  • Nid yw newid dangosyddion (cenedlaethol) yn flynyddol (gan Lywodraeth Cymru/CLlLC) yn caniatáu casglu data a dadansoddi tueddiadau
  • Byddwn yn gofyn i rai Penaethiaid Gwasanaeth ddod i gyfarfodydd yn y dyfodol

 

6.

Monitro Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf - Chwarter 1af 2019/20 pdf eicon PDF 204 KB

·         Ben Smith - Pennaeth Gwasanaethau Ariannol a’r Ganolfan Wasanaeth

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

  • Cymeradwywyd yr argymhellion gan y Cabinet i Gyfarwyddwyr i ddod â chynigion i ailgydbwyso'r gyllideb ac atal gwario lle bynnag y bo'n bosib
  • Mae rhan fwyaf o gynigion cyllidebol ar waith ond ar gyfeiliorn yn ariannol ar y cyfan
  • Cefnogir y gyllideb â grantiau argyfwng untro Llywodraeth Cymru
  • Nid oes gan unrhyw swyddog yr hawl i orwario
  • Nid yw'r gyllideb sylfaenol yn gallu fforddio pwysau newydd
  • Ceir cyllideb sylfaenol gwerth £3.45m ar gyfer treuliau annisgwyl ond fe'i dyblwyd eleni fel digwyddiad untro gan ddefnyddio'r gronfa wrth gefn - nid yw'r broses yn gallu parhau
  • Yn gyfreithiol mae'r gyllideb wedi'i chydbwyso ar gyfer y flwyddyn ond mae'n dibynnu ar dynnu arian o'r gronfa wrth gefn a defnyddio'r arian ar gyfer treuliau annisgwyl etc
  • Bydd y blynyddoedd i ddod yn anoddach byth
  • Tanwariant ar gyfalaf
  • Fe'i cydbwyswyd o ganlyniad i dynnu arian o'r gronfa wrth gefn a'r gronfa treuliau annisgwyl
  • Mae cyflymdra a swm arbedion yn dal yn her
  • Ymholiad ynghylch pam y mae'r bil trydan mor uchel
  • Mae'n ddoeth cael Cronfa wrth gefn Cyfartalu Cyfalaf o hyd - bydd angen y cyfan yn y dyfodol er mwyn ariannu gwariant cyfalaf a gynllunnir ac yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015

 

 

7.

Alldro Ariannol Refeniw 2018/19 pdf eicon PDF 188 KB

·         Ben Smith - Pennaeth Gwasanaethau Ariannol a’r Ganolfan Wasanaeth

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·         Mae'n ddoeth cael Cronfa wrth gefn Cyfartalu Cyfalaf o hyd - bydd angen y cyfan yn y dyfodol ac yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015

·         Mae'r Gronfa wrth gefn Cyfartalu Cyfalafu yn lleihau'r risg o fforddio rhaglen gyfalaf y dyfodol

·         Mae angen mwy o hyblygrwydd benthyca o ran refeniw ar gyfer ariannu benthyciadau'r rhaglen gyfalaf

·         Mae'r amgylchedd yn parhau i ddioddef hyd yn oed gydag amcanion amgylcheddol a rhwymedigaethau cyfreithiol

 

 

8.

Alldro Refeniw 2017/18 - Cyfrif Refeniw Tai (CRT) pdf eicon PDF 106 KB

·         Ben Smith - Pennaeth Gwasanaethau Ariannol a’r Ganolfan Wasanaeth

Cofnodion:

·         Dim materion i'w hadrodd

 

9.

Alldro cyfalaf ac ariannu 2018/19 pdf eicon PDF 142 KB

·         Ben Smith - Pennaeth Gwasanaethau Ariannol a’r Ganolfan Wasanaeth

 

Cofnodion:

·         Eisiau eglurhad dros t127 C1/C2/C3. Â beth y mae'r rhain yn ymwneud? Am ofyn mewn llythyr

 

10.

Cynllun Gwaith 2019/20 pdf eicon PDF 273 KB

Cofnodion:

·         Archifau a Ffïoedd yn y cyfarfod nesaf

 

Llythyr at Aelod y Cabinet - Trawsnewid Busnes a Pherfformiad pdf eicon PDF 329 KB

Llythyr at Aelod y Cabinet - Economi a Strategaeth pdf eicon PDF 388 KB

Ymateb Aelod y Cabinet - Trawsnewid Busnes a Pherfformiad pdf eicon PDF 388 KB

Ymateb Aelod y Cabinet - Economi a Strategaeth pdf eicon PDF 305 KB

Ymateb Aelod y Cabinet - Economi a Strategaeth (2) pdf eicon PDF 309 KB