Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Scrutiny 637732 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

·         Dim

2.

Ethol Cynullydd Panel

·         Bethan Hopkins – Swyddog Craffu

Cofnodion:

·         Etholwyd y Cynghorydd Chris Holley fel Cynllunydd y Panel ar gyfer y flwyddyn i ddod - 2019/20

 

3.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

4.

Cofnodion pdf eicon PDF 182 KB

·         Cymeradwyo a llofnodifel cofnod cywirgofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·         Cymeradwywyd

 

5.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Cofnodion:

 

·         Dim

 

6.

Cylch gorchwyl. pdf eicon PDF 69 KB

Cofnodion:

  • Cymeradwywyd

 

7.

Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, Defnydd Llywodraeth Leol o Ddata - Ymateb a Chynllun Gweithredu pdf eicon PDF 148 KB

·         Clive Lloyd – Aelod y Cabinet - Trawsnewid Busnes a Pherfformiad (y Dirprwy Arweinydd)

·         Sarah Caulkin – Prif Swyddog Trawsnewid

·         Kim Collis - Swyddog Diogelu Data

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

  • Gall sicrhau cydymffurfiad â GDPR fod yn anodd ond mae'r tîm yn gwneud gwaith gwych
  • Mae rhannu data rhwng adrannau wedi bod yn her
  • Gall barnau cyfreithiol ar arweiniad fod yn wahanol, hyd yn oed rhwng cynghorau ond mae gwaith i'w wneud o hyd
  • Ni chaiff data ei rannu rhwng adrannau oni bai fod pobl yn rhoi caniatâd clir - mae'r adrannau yn gweithio ar hyn.
  • Caiff 'data' ei ddefnyddio i olygu rhifau a gwybodaeth
  • Ymagwedd gorfforaethol - ystyried rhoi cyfrif i bobl y gallant ei ddiweddaru
  • Gall cwsmeriaid gysylltu â'r cyngor i ddarganfod sut caiff eu gwybodaeth ei defnyddio
  • Mae'r adroddiadau'n casglu sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn sicrhau bod y cyngor yn canolbwyntio ar y materion sy'n pryderi bobl
  • Mae technoleg yn symud ymlaen a gellir defnyddio data anhysbys i ddatblygu aps i helpu gyda chynllunio a defnyddio'r gyllideb
  • Mae gan y cyngor berthynas dda â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth wrth geisio cymorth ac arweiniad. Darparwyd swm sylweddol o hyfforddiant
  • Mae hyfforddiant a datblygiad yn barhaus, ac mae gwersi'n cael eu dysgu'n gyson
  • Mae penderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn rhan o'r cynlluniau tymor hir a gallent ddarparu adroddiadau trawsbynciol yn y dyfodol
  • Bydd y Cynllun Gweithredu, sy'n ymateb i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, yn dod gerbron y panel yn y chwarter nesaf
  • Dylai defnyddio gwybodaeth yn effeithiol helpu i leihau seilos rhwng adrannau
  • Ymholiadau ynghylch tai a phriffyrdd yn rhannu gwybodaeth yn effeithiol
  • Ymholiad ynghylch diffiniadau a sut mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn rheoli eu gwybodaeth
  • Ymholiad ynghylch sut mae'r cyhoedd yn defnyddio gwefan y cyngor a sut yr eir ati i ymgynghori trwy'r wefan
  • Ymholiad ynghylch am sut y mae ystadegau cyfryngau cymdeithasol yn cael eu monitro
  • Gallai Swyddfa Archwilio Cymru wedi disgwyl gweld strategaeth data benodol ar wahân ar y wefan ond mae un Abertawe ymhlith strategaethau eraill
  • Ystyried creu un strategaeth gorfforaethol drosgynnol. Mae gan y cyngor gofnod o Fframwaith Rheoli Gwybodaeth yn barod.

 

8.

Adolygiad Diwedd Blwyddyn pdf eicon PDF 154 KB

Cofnodion:

  • Roedd y panel yn hapus â'r gwaith a gyflawnwyd y llynedd ac maent am ailadrodd nifer o'r un eitemau

 

9.

Cynllun Gwaith 2019-20 pdf eicon PDF 54 KB

Cofnodion:

  • Hoffai'r panel weld eitem sy'n canolbwyntio ar y swyddogaeth gynllunio'n gyffredinol - heb gynnwys ceisiadau neu'r pwyllgor

 

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 321 KB

Ymateb Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 282 KB