Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Scrutiny 636292
Eitemau
Rhif |
Eitem |
1. |
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.
Cofnodion:
|
2. |
Cofnodion. PDF 119 KB
·
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod
cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.
Cofnodion:
|
3. |
Cwestiynau gan y Cyhoedd
·
Rhaid i gwestiynau ymwneud â materion yn rhan
agored agenda'r cyfarfod ac ymdrinnir â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.
Cofnodion:
|
4. |
Adroddiad Monitro Perfformiad Chwarter 1af 2018/19 PDF 150 KB
·
Richard Rowlands – Rheolwr
Perfformiad Corfforaethol
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
- Roedd y Rheolwr Perfformiad Corfforaethol yn
bresennol i gyflwyno Adroddiad Monitro Chwarter 1
- Mae'r rhan fwyaf o ddangosyddion wedi gwella
- Diogelu
- AS9 - nid yw'r asesiadau Trefniadau Diogelu
rhag Colli Rhyddid wedi cyrraedd y targed o hyd, ond rhagwelir gwelliant
gan fod tîm newydd ar waith
- CFS18 - mae cynnydd o 4% yn nifer y plant
sy'n derbyn gofal
- CFS19 - ceir gostyngiad bach yn nifer y plant
sydd ar y rhestr amddiffyn plant
- CFS20 - mae peth gwelliant o ran nifer y
plant y mae angen gofal a chefnogaeth arnynt
- Mae AS11 a CFS14 (ymysg eraill) yn dangos
gostyngiad yn swmp y gwaith
- Mae lefelau galw uchel yn parhau ond mae
gostyngiad yn swmp y gwaith - eir ar drywydd hyn gyda'r Pennaeth
Gwasanaeth
- Addysg a Sgiliau
- BBMA4 - bydd y rhan fwyaf o brentisiaethau'n
dechrau ar ddiwedd Chwarter 2 i gyd-fynd â dechrau'r flwyddyn academaidd
- POV07- disgwylir cyflawni nifer yr wythnosau
o hyfforddiant a chyflogaeth a grëwyd gan y Tu Hwnt i Frics a Morter erbyn
diwedd y flwyddyn, mae dyddiadau dechrau'n amrywio gyda phrosiectau
- Economi ac Isadeiledd
- WMT009B - nid oedd y gwastraff dinesig a
gasglwyd, a oedd yn cynnwys biowastraff i'w
gompostio, wedi cyrraedd y targed - oherwydd amrywiadau tymhorol ac
effaith y tywydd
- EC5 - nid oes data ar gyfer yr arwynebedd
llawr masnachol a grëwyd am ei fod yn DP newydd ond fe'i disgwylir mewn
chwarteri diweddarach
- Tlodi
- HBCT01a/b - mae cyflymder cyfartalog prosesu
hawliadau newydd a phresennol o fewn y targed o hyd ond mae'r amser a
gymerir yn cynyddu - rhaid mynd ar drywydd hyn gyda'r Pennaeth Gwasanaeth
- POV05 - mae sicrhau hawliadau budd-dal wedi
gostwng oherwydd nifer yr achosion sy'n cael eu gohirio/hoedi
- Trawsnewid a Chyngor y Dyfodol
- CHR002 - mae nifer y diwrnodau a gollwyd
oherwydd salwch yn cyrraedd y targed ond mae'r targed wedi cynyddu ers y
llynedd
- FINA6 - mae arbedion refeniw rhagweledig y gronfa gyffredinol yn dangos gwelliant
ers y llynedd ond mae problemau parhaus yn dal i fod
- Nid oes fawr ddim pwynt pennu targedau
estynnol os nad oes cynllun ar waith i'w cyflawni
- Mae'r 6ed amcan corfforaethol lles
yn mynd drwy'r broses gymeradwyo a disgwylir iddo fynd gerbron y cyngor ym
mis Hydref am benderfyniad terfynol
|
5. |
Adroddiad Adolygiad Cydraddoldeb 2017-18 PDF 111 KB
·
Councillor Mary Sherwood – Aelod y Cabinet - Cymunedau Gwell
·
Richard
Rowlands – Rheolwr Perfformiad
Corfforaethol
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
- Roedd y Rheolwr Perfformiad Corfforaethol ac
Aelod y Cabinet dros Gymunedau Gwell (Pobl) yn bresennol i gyflwyno
Adroddiad Adolygu Cydraddoldeb 17/18
- Bydd cynllun cyfredol ar waith tan 2020 ac
yna mae bwriad i greu un newydd
- Y nod yw symleiddio'r amcanion
- Ar hyn o bryd mae'r ymagwedd yn 'fylchog'
- Ystyrir creu nifer llai o nodau strategol â
llinyn cyson yn rhedeg drwyddynt
- Ar hyn o bryd mae argaeledd data gwaelodlin
yn wael
- Nid oes rhaid i staff ddarparu data ar
nodweddion gwarchodedig felly mae'n anodd i AD ei gasglu
- Mae grwpiau mwy amrywiol o lunwyr polisïau a phenderfynwyr yn arwain at well penderfyniadau
- Mae profiad bywyd ehangach a gwahanol yn
cyfrannu at hyn hefyd
- Cafwyd cynnydd ar yr amcanion, yn arbennig
penodi Cynghorwyr Hyrwyddo - gan obeithio am ymagwedd gyson
- Rhaid mynd i'r afael â stereoteipio rhywiau
- Cyfyngir bechgyn a merched gan y stereoteipio
hwn
- Ar hyn o bryd rydym yn ystyried datblygu
arweiniad i ysgolion
- Mae hyn hefyd yn cyfrannu at fylchau cyflog rhwng y rhywiau
- Mae fforymau gweithredol ar gael o hyd i'r
rhai â nodweddion gwarchodedig, e.e. y Grŵp Cyswllt Anabledd, ac
mae'r grwpiau hyn yn cyfrannu at gynllunio, mynediad i ymgynghoriadau etc.
- mae'n ffordd bwysig i'r cyngor glywed am unrhyw rwystrau
- Mae cyfle i gulhau amcanion a'i wneud yn
strategol
- Bydd sut mae pobl â nodweddion gwarchodedig
yn ymwneud â hyn yn helpu i lunio'r amcanion
- PJ - Adroddiad gwych, cynhwysfawr iawn, ond
nid oes niferoedd na data ac felly nid oes mesuriadau llwyddiant. Mae
angen y ffigurau arnom
- PHW – A oes rôl i wahaniaethu cadarnhaol er
mwyn cyrraedd y nod?
- MS - Rydyn ni'n ei alw'n weithredu cadarnhaol
- mae angen timau cymwys ag
amrywiaeth o brofiad, cefndiroedd a safbwyntiau. Rhaid i chi lenwi'r
bylchau drwy recriwtio'n gadarnhaol er mwyn gwneud y tîm yn fwy amrywiol
- PHW – Sut rydym ni'n hyfforddi rheolwyr fel
eu bod yn meddu ar y sgiliau perthnasol?
- RR - Mae rheolwyr yn ymgymryd â hyfforddiant
amrywiaeth ond mae cyfyngiad ariannol ar hyfforddiant rheoli cyffredinol
- JJ - Onid oes ffigur targed eto ar gyfer
cyflawniad?
- Mae gwaith i'w wneud o hyd i sefydlu'r
targedau
- Torrwyd yr hyfforddiant dros y blynyddoedd a
gallwch weld effaith hyn yn y pen draw
- Mae ansawdd yr hyfforddiant yn bwysig, mae
angen symleiddio'r adroddiad a bydd rhaid penderfynu ynghylch a fydd y
nodau'n benodol i wasanaeth neu'n rhai ar draws y cyngor
- Mae angen i'r 3ydd sector gael
mewnbwn; mae'n bwysig sut mae eraill yn ystyried ein hymagwedd at y
materion hyn
- Rydym wedi ymateb yn ddiweddar i CLlLC ond mae angen i ni wybod pa mor hawdd yw hi i
gael mynediad at y drws ffrynt (rhwystrau
corfforol/cymdeithasol/ieithyddol)
- Mae angen edrych ar y Cynllun Corfforaethol
a'r Cynllun Lles er mwyn gwreiddio cydraddoldeb
- Efallai bydd prosiectau penodol, er
enghraifft, ymgynghoriad sy'n fylchog ac yn
anghyson
- Bydd trafodaeth ar draws sefydliadau er mwyn
datblygu cynllun newydd, a bydd staff yn rhan o hyn
- PJ – (t75 Priffyrdd a Chludiant – Llwybrau
Mwy Diogel) beth mae ‘mwy diogel’ yn ei olygu? Dylai hyn gynnwys llygredd aer am ei fod
yn peri cryn bryder mawr o ran datblygiad corfforol pobl ifanc
- Mae hyn yn gysylltiedig â thlodi - nid yw bod
ar incwm isel yn nodwedd warchodedig, ond mae'r Cynllun Lles yn cyfeirio
at y mater hwn
- Mae darn o waith wedi'i wneud felly dylai
gwaith cydraddoldeb ystyried incwm isel a disgwyliad iechyd
- Bydd y Cynllun Cydraddoldeb newydd yn
cyfeirio at unrhyw flaenoriaeth gorfforaethol newydd a'r Cynllun Lles a
bydd hefyd yn cyfeirio at anghydraddoldeb iechyd a chyllid, e.e. byw mewn
ardaloedd trefol â llygredd aer
- Cafwyd gwelliant yng Nghwm Tawe isaf ond mae
llygredd ffyrdd yn dal yn broblem
|
6. |
Cynllun Gwaith 2018/19 PDF 66 KB
Cofnodion:
·
Efallai
bydd rhai cyfarfodydd yn hwy gan fod eitemau ychwanegol yn y cynllun gwaith yn
gyffredinol
·
Efallai
y daw eitemau ychwanegol i'r panel - adroddiadau Swyddfa Archwilio Cymru
·
Rhoddir
eitem yr Adolygiad Comisiynu ar yr amserlen wedi i Gadeirydd y Rhaglen Graffu
weld y trosolwg cyffredinol. Bydd CH yn rhoi cyngor ar yr hyn y dylai'r
adroddiad ganolbwyntio arno.
|
|
Llythyr at Aelod y Cabinet PDF 183 KB
|
|
Ymateb gan Aelod y Cabinet PDF 462 KB
|